Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Margaret Parry-Jones 01352 702427 E-bost: margaret.parry-jones@siryfflint.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: I roi gwybod i’r Pwyllgor pwy yw’r Cadeirydd sydd wedi’i enwebu am weddill blwyddyn y Cyngor, yn dilyn cyfarfod y Cyngor Sir ar 4 Rhagfyr 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Nodi penodiad y Cynghorydd Sam Swash yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey yn Is-gadeirydd ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 5 Medi 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion (eitem rhif 5 ar y rhaglen) y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 5 Medi 2024 i’w cymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac y byddai’r Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Waith gyfredol (eitem rhif 6 ar y rhaglen) i’w hystyried, a oedd yn cynnwys diweddariad ar gamau gweithredu oedd i’w cwblhau.
Cytunwyd i symud yr adroddiad ar Ailgomisiynu Gwasanaethau Gofalwyr i gyfarfod mis Chwefror, ac ymweld â’r Ganolfan GOGDdC newydd yn yr Wyddgrug cyn y cyfarfod hwnnw.
Dywedwyd wrth yr Aelodau bod ymweliad Climbie yn y broses o gael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr / Chwefror.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Waith;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Waith rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu oedd i’w cwblhau. |
|
Cyllideb 2024/25 - Cam 2 Pwrpas: Adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau ariannol dan gylch gwaith y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad (eitem rhif 7 ar y rhaglen) i’r Aelodau adolygu a rhoi sylwadau ar bwysau costau dan gylch gwaith y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n adolygu ac yn rhoi sylwadau ar bwysau costau portffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol; a
(b) Bod y Pwyllgor wedi ei sicrhau bod y pwysau costau yn ofyniad hanfodol ar gyfer cyllideb 2025/26, ac nad oedd unrhyw bosibilrwydd o gael gwared â hwy / eu gohirio i gynorthwyo gyda mynd i’r afael â’r her gyllidebol. |
|
Pwrpas: Cyflwyno canfyddiadau ac ymateb y cyngor i adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r trefniadau i gefnogi llif effeithiol o ysbytai yn rhanbarth Gogledd Cymru y manylir arnynt yn “Gofal Brys ac Argyfwng: Llif Allan o’r Ysbyty – Rhanbarth Gogledd Cymru”. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth Pobl H?n adroddiad (eitem rhif 8 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu unrhyw argymhellion.
Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i rannu cynlluniau gweithredu yn unol â chais y Cynghorydd Copple, ac y darperid adroddiad diweddaru arall ym mis Gorffennaf 2025.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n ystyried adroddiad Archwilio Cymru a’r mesurau a roddwyd ar waith yn rhanbarthol ac yn lleol i weithredu’r argymhellion a wnaed; a
(b) Bod yr Aelodau’n nodi y rhoddwyd yr wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y cynnydd a wnaed wrth weithredu’r argymhellion. |
|
Fframwaith Cefnogaeth: Dull Cynaliadwy o ran Gofal Cymdeithasol i Oedolion Pwrpas: Cynnig a thrafod newidiadau i’r asesiad ariannol a ffioedd Gwasanaethau Gofal yn y Cartref a Gofal Preswyl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad (eitem rhif 9 ar y rhaglen) i’r Aelodau gefnogi newidiadau i’r asesiadau ariannol a threfniadau codi tâl ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cartref a Gofal Preswyl.
Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Owen, cytunodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu i ddarparu dolen i wefan Dewis Cymru i’r Aelodau, lle gellir cael rhestr gynhwysfawr o wasanaethau, sefydliadau a digwyddiadau sy’n cefnogi unigolion yn eu cymuned.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n cefnogi’r camau a gymerir i ddatblygu’r Fframwaith Cefnogaeth fel rhan o ystod o brosiectau trawsnewidiol y byddai eu hangen er mwyn datblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy; a
(b) Bod yr Aelodau’n cymeradwyo’r camau gweithredu cysylltiedig sydd eu hangen i ymateb i bwysau galw a chynnal y pwysau sydd ar gyllideb gofal cartref a phreswyl.
|
|
Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl Pwrpas: Darparu aelodau gyda’r wybodaeth sydd ei hangen o ran y gwaith wedi’i wneud yn y Tîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad (eitem rhif 10 ar y rhaglen) i ddarparu gwybodaeth i’r Aelodau yngl?n â’r gwaith a wnaed yn Nhîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith a wneir gan Dîm Asesiadau Ariannol a Chodi Tâl wrth ddarparu gwasanaethau i breswylwyr Sir y Fflint. |
|
Dyfodol y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig Pwrpas: Ystyried cynnig i ddod â phartneriaeth y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Integredig gyda BIPBC (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i ben. Byddai hyn yn golygu tynnu Gweithwyr Cymdeithasol o dri o dimau’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a’u lleoli ochr yn ochr â’r Tîm Llesiant ac Adfer o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu ragarweiniad i’r adroddiad, a chyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth y Gwasanaethau Anabledd yr adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen) i’r Aelodau ystyried cynnig i roi’r gorau i bartneriaeth Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol integredig â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n derbyn y cynnig yn yr adroddiad; a
(b) Bod yr Aelodau’n penderfynu ar y broses i gael cefnogaeth wleidyddol i’r cynnig. |
|
Pwrpas: Rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflwyno’r cynllun gweithredu dilynol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol), Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu, ac Uwch Reolwr Plant adroddiad (eitem rhif 12 ar y rhaglen) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth roi’r cynllun gweithredu dilynol ar waith.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n cydnabod ac yn cefnogi’r cynnydd a wnaed wrth roi’r cynllun gweithredu ar waith. |
|
Canolbwynt Diogelu Plant a Theuluoedd Pwrpas: Derbyn adroddiad yn amlinellu’r cryfderau a’r heriau gyda’r Canolbwynt Diogelu newydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant adroddiad (eitem rhif 13 ar y rhaglen) yn amlinellu cryfderau a heriau’r Canolbwynt Diogelu newydd.
PENDERFYNWYD:
Bod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn nodi canlyniad yr adroddiad ac yn cefnogi’r Cynllun Gweithredu sy’n deillio ohono. |
|
Prosiect Maethu Mockingbird Pwrpas: Diweddariad ar y cynnydd o ran gweithredu model gofal Mockingbird. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Plant adroddiad (eitem rhif 14 ar y rhaglen) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth weithredu model gofal Mockingbird, a chytunodd i ddarparu dadansoddiad o ganlyniadau i’r Aelodau yn cymharu lleoliadau Mockingbird.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Aelodau’n adolygu cynnydd gweithredu model Mockingbird yn Sir y Fflint a’u bod wedi nodi’r cyflawniadau cysylltiedig, yn cynnwys sicrhau sefydlogrwydd lleoliad ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; a
(b) Bod yr Aelodau’n cefnogi prisio’r effaith a realeiddiad buddion yn fanwl pan fydd y rhaglen wedi cyrraedd ei gweithrediad llawn yn 2025. |
|
Gwasanaethau Cymdeithasol Adroddiad Datblygu’r Gweithlu Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r gwaith a gyflawnodd Tîm Datblygu Gweithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys manylion yngl?n â gweithgareddau recriwtio. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad (eitem rhif 15 ar y rhaglen) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith a wnaed gan Dîm Datblygu Gweithlu’r Gwasanaethau Cymdeithasol dros y 12 mis diwethaf, yn cynnwys manylion yn ymwneud â gweithgarwch recriwtio yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD:
Bod yr Aelodau’n cydnabod ac yn cefnogi’r gwaith a wneir i gefnogi gweithlu gofal cymdeithasol drwy gyfleoedd dysgu a datblygu. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |