Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Rhagfyr 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2023, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Pwrpas: Derbyn diweddariad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dangosodd Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ei werthfawrogiad i’r Aelodau am y gwahoddiad a’r cyfle i rannu rhai o ddatblygiadau’r Bwrdd Iechyd a’u bod nhw’n croesawu gohebiaeth unrhyw adeg. Eglurodd y gofynnwyd iddo gamu i mewn 11 mis yn ôl fel Cadeirydd Dros Dro ynghyd â thri aelod annibynnol a Phrif Weithredwr dros dro gan fod y Llywodraeth yn rhoi BIPBC yn ei gyfanrwydd mewn mesurau arbennig yn dilyn problemau o ran llywodraethu, perfformiad rhai gwasanaethau a phroblemau gyda’r Bwrdd a’u perthnasau a’u rhyngweithiad. Dywedodd eu bod nhw r?an mewn sefyllfa fwy sefydlog am fod ganddyn nhw Brif Weithredwr parhaol a gyda chyflenwad lawn o aelodau annibynnol erbyn mis Mawrth. Cynghorodd yr Aelodau y byddan nhw’n cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled y rhanbarth dros y misoedd nesaf er mwyn ymgysylltu â chymunedau, grwpiau’r trydydd sector a’r cyhoedd i ddeall eu anghenion a’u pryderon. Cytunodd bod y Gwasanaeth Iechyd yn gorfod newid gan fod y model oedd ganddyn nhw ar y funud ddim yn gynaliadwy ac roedd wedi cael ei sefydlu i ddelio gyda’r pwysau o’r lefel uchaf ar wasanaethau. Pwysleisiodd bod angen rhoi mwy o egni ac adnoddau yn y gofal sylfaenol cymunedol. Gorffennodd drwy ddweud bod yr 11 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn ond ei fod yn teimlo’n gymharol hyderus a bod cyfleoedd anferthol iddyn nhw allu gwneud pethau da gyda’r rhaglen iechyd yng Ngogledd Cymru.
Cyflwynodd Prif Weithredwr BIPBC ei hun gan ddweud ei fod yn bleser ac yn her anferthol ymuno â’r Bwrdd Iechyd yng Ngogledd Cymru ac y gallai weld potensial enfawr yng Ngogledd Cymru ar gyfer partneriaethau rhagorol i ddarparu gwasanaethau gwych yn y rhanbarth.
Cynghorodd y Cyfarwyddwr Cymunedol Iechyd Integredig (Dwyrain) yr Aelodau ei bod wedi gweithio gyda BIPBC am flwyddyn a’i bod yn falch o hynny. Dywedodd mai eu llwyddiannau a’u cryfderau oedd y cydweithio gydag Awdurdodau Lleol gan fod ganddyn nhw yr un weledigaeth, strategaethau a nodau. Pwysleisiodd bod ddim ots gan gleifion o le daw eu gofal neu sut y gweithredir eu gofal, yr oll sy’n bwysig ganddyn nhw yw ei fod yn wasanaeth ddi-dor.
Wrth ymateb i gwestiwn a gafodd ei ofyn gan y Cynghorydd Healey, dywedodd Cadeirydd BIPBC y byddai’r cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn cael ei gynnal ar 20 Ionawr yn Ninbych ac y bydden nhw’n ymweld ag ardaloedd yr holl 6 awdurdod lleol rhwng r?an a’r haf ac y bydden nhw’n rhoi gwybodaeth bellach iddyn nhw pan fyddai gwybodaeth ar gael.
Holodd y Cynghorydd Healey ymhellach yngl?n â’r hyn a oedd yn digwydd gyda gofal sylfaenol oherwydd gorfod cau’r rhan fwyaf o ysbytai cymunedol a gofynnodd pam fod Meddygon Teulu yn anfon cleifion i’r Uned Achosion Brys yn hytrach na’r adran berthnasol? Gofynnodd hefyd pam na allai cleifion iechyd meddwl weld perthnasau ar y ward a pham fod rhaid iddyn nhw gwrdd â nhw mewn ardaloedd eraill yn lle h.y. yn y caffi yn Ysbyty Maelor Wrecsam?
Ymatebodd Prif Weithredwr BIPBC drwy ddiolch iddi am ei chwestiynau ac eglurodd fod pethau wedi ... view the full Cofnodion text for item 39. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Waith bresennol a’r Ôl-rhain Camau Gweithredu fel y nodir yn yr adroddiad i’w ystyried a chroesawyd unrhyw gwestiynau gan yr Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd McGuill am y rhestr gofynion cyllideb Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi cael ei ryddhau mis Mehefin diwethaf i gael ei ddosbarthu ymysg yr Aelodau fel eu bod nhw’n dod i fyny gyda syniadau cyn y cyfarfod cyllideb i geisio lleihau’r gyllideb heb orfod lleihau’r gwasanaethau. Cynghorodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y gofynion ar gyfer y gyllideb wedi newid yn sylweddol ers mis Mehefin diwethaf a bod yr adroddiad gan y Swyddog A151 yn cyflwyno’r sefyllfa ddiweddaraf. Eglurodd bod Gwasanaethau Cymdeithasol angen dod o hyd i arbedion ar gyfer y flwyddyn i ddod ac y byddai cynigion yn cael eu hegluro yn y gweithdai yr wythnos nesaf a fyddai’n rhoi amser i Aelodau wneud cynigion ychwanegol i’r cyfarfod arbennig ar 9 Chwefror. Ychwanegodd bod y gyllideb manwl yn cael ei rhannu’n rheolaidd ac yn parhau i gael ei rannu.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr ail eitem ar yr Ôl-rhain Camau Gweithredu yngl?n â gwybodaeth ar wasanaethau statudol ac anstatudol ac fe gadarnhaodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r adroddiad sy’n cynnwys y wybodaeth yn cael ei ddarparu yn y cyfarfod ar 9 Chwefror.
Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’r cyfarfod ar 24 Mehefin 2024 yn trafod cais a wnaed gan y Cynghorydd Mackie yngl?n â’r sefyllfa gyda Chartrefi Gofal.
Cynghorodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n ail-ofyn i Brif Weithredwr BIPBC am ddyddiad ar bryd y byddan nhw’n derbyn ymateb i’r cwestiynau a gyflwynwyd.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Hilary McGuill.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r
Rhaglen Gwaith;
(b) Rhoi awdurdod
i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y
Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith rhwng cyfarfodydd, yn
ôl yr angen; ac (c) Y byddai’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni’r camau gweithredu heb eu cwblhau. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol. |