Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod remote
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem | |||
---|---|---|---|---|
Newid Yn Nhrefn Y Rhaglen Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y byddai newid yn nhrefn y rhaglen ac y byddai eitem 11 – Cydnabyddiaeth o Wasanaeth Susie Lunt, ac eitem 10 – Gwobrau Gwasanaethau Cymdeithasol, yn cael eu dwyn ymlaen. |
||||
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
||||
Cydnabyddiaeth o wasanaeth gan Susie Lunt I gydnabod gwasanaeth Susie Lunt i Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y teyrngedau i gydnabod gwaith Susie Lunt, Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion. Rhoddodd wybodaeth gefndir a siaradodd am ei rhinweddau proffesiynol a phersonol, ei gallu, a'i hymroddiad i’r gwasanaeth. Cyfeiriodd at ei llwyddiannau niferus ar ran portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor a chyfeiriodd at enghreifftiau o’r gwasanaethau niferus a oedd yn uchel eu parch yn lleol ac mewn awdurdodau/sefydliadau eraill o ganlyniad uniongyrchol i’w gwaith.
Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i Susie Lunt a soniodd am ei gyrfa hir yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd, meddai, yn enghraifft wych o'r hyn y gellid ei gyflawni trwy waith caled ac ymrwymiad. Soniodd y Cadeirydd am ei pharodrwydd i helpu a datrys yr holl faterion a ddaeth i'w sylw a'i phryder gwirioneddol a'i gofal am eraill. Dymunodd ymddeoliad hir ac iach iddi.
Rhoddodd y Cynghorwyr Christine Jones, Paul Cunningham, David Mackie, a Gladys Healey deyrngedau personol i Susie Lunt hefyd a dywedodd y byddai colled fawr ar ôl ei chyfraniad gwerthfawr. Diolchodd yr aelodau iddi a dymunwyd ymddeoliad hapus iddi.
Diolchodd Susie Lunt i'r Aelodau am eu sylwadau a'u dymuniadau gorau. |
||||
Gwobrau Gofal Cymdeithasol Prosiect ‘Lleisiau Clwyd Voices of the Future’ Cyngor Sir y Fflint
Dyma brosiect rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn Sir y Fflint a Theatr Clwyd sydd yn cynnig cyfle i blant diamddiffyn a’u brodyr a chwiorydd i dreulio amser yn Theatr Clwyd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Yn ystod y sesiynau hyn, gall teuluoedd gael seibiant o’u rôl gofalu gan wybod bod eu plant yn ddiogel, yn rhoi cynnig ar weithgareddau ac yn cael hwyl.
Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu Gyda’n Gilydd Gogledd Cymru, partneriaeth sydd yn cynnwys adrannau gofal cymdeithasol y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Nod y prosiect yw cydgynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ag anableddau dysgu a’u rhieni a’u gofalwyr. Mae 68 prosiect wedi cael eu sefydlu i gefnogi Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru 2018 i 2023 ac mae mwy na 125 ‘rôl’ wedi cael eu creu ar gyfer dinasyddion a gofalwyr, gan adeiladu ar eu cryfderau unigol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ddau gyflwyniad fideo byr ar y prosiectau canlynol:
Prosiect ‘Lleisiau Clwyd Voices of the Future’ Cyngor Sir y Fflint Mae’r prosiect rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol Plant yn Sir y Fflint a Theatr Clwyd yn cynnig cyfle i blant diamddiffyn a’u brodyr a chwiorydd dreulio amser yn Theatr Clwyd ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol. Yn ystod y sesiynau hyn, gall teuluoedd gael seibiant o’u rôl gofalu gan wybod bod eu plant yn ddiogel, yn rhoi cynnig ar weithgareddau ac yn cael hwyl.
Rhaglen Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd, partneriaeth sydd yn cynnwys adrannau gofal cymdeithasol y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nod y prosiect yw cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ag anableddau dysgu a'u rhieni a'u gofalwyr. Mae 68 prosiect wedi cael eu sefydlu i gefnogi Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru 2018 i 2023 ac mae mwy na 125 ‘rôl’ wedi cael eu creu ar gyfer dinasyddion a gofalwyr, gan adeiladu ar eu cryfderau unigol.
Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Prif Swyddog, yr Uwch Reolwr -Gwasanaethau Plant, a'r Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd, Dilyniant ac Adferiad, ar lwyddiant diweddar y prosiectau uchod a gyrhaeddodd y rhestr fer ac a gafodd eu canmol yn fawr yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol i gydnabod y gwaith cenedlaethol a gyflawnwyd. Gofynnodd y Cadeirydd i ddiolchiadau’r Pwyllgor gael eu trosglwyddo i bawb a fu’n ymwneud â’r prosiectau.
Canmolodd y Cynghorydd Paul Cunningham gyflawniadau'r timau Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd, meddai, yn arwain y ffordd yng ngwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Manteisiodd ar y cyfle i dynnu sylw at lwyddiant y prosiect ‘Double Click’ a gofynnodd a ellid rhoi cyflwyniad ar waith ‘Double Click’ i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai hyn yn cael ei gynnwys yn y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Soniodd y Cynghorydd David Mackie am waith a rhan Theatr Clwyd â'r gymuned a oedd yn rhagorol yn ôl ef. |
||||
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 9 Mehefin 2022.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2022. Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd David Mackie ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Rob Davies.
Materion sy'n codi Yn dilyn cwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhawyd y byddai cyfarfod nesaf y Gr?p Strategaeth Ddigidol yn cael ei gynnal ar 22 Awst ac y byddai diweddariad ar y mater a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ynghylch cofnodion digidol gofal tymor byr yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf ym mis Medi.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
||||
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL AC OLRHAIN CAMAU GWEITHREDU PDF 82 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Dywedodd fod y Cadeirydd wedi anfon e-bost at holl Aelodau'r Pwyllgor i ofyn a oedd ganddynt unrhyw eitemau i'w hystyried ar y Rhaglen. Cytunwyd pan fyddai eitemau wedi dod i law, y byddai'r Hwylusydd Gofal Cymdeithasol a'r Amgylchedd yn cysylltu â'r Cadeirydd a'r Uwch Swyddogion yn ystod egwyl mis Awst i ddiweddaru'r Rhaglen a chyflwyno fersiwn ddiwygiedig i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Medi.
Yn ystod y drafodaeth cynigiwyd ychwanegu’r eitemau a ganlyn at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol:-
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymunedau ac Addysg adroddiad i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod cylch gorchwyl presennol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ynghlwm fel Atodiad 1 i’r adroddiad a bod y newidiadau arfaethedig i'r cylch gorchwyl i'w gweld yn Atodiad 2.
Dywedodd yr Hwylusydd fod y cylch gorchwyl yn cael ei gyflwyno i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn ystod mis Gorffennaf. Yn dilyn hyn byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd i roi adborth gan bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Byddai cylch gorchwyl y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedyn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir i'w gymeradwyo a'i fabwysiadu o fewn y Cyfansoddiad. Tynnodd yr Hwylusydd sylw at baragraff 1.04 yn yr adroddiad.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r diwygiadau arfaethedig i’w gylch gorchwyl fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad. |
||||
CYNLLUN Y CYNGOR 2021-22 PERFFORMIAD DIWEDD BLWYDDYN (GCACI) PDF 107 KB Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn adlewyrchu perfformiad yn chwarter olaf Cynllun y Cyngor 2021/22.
Roedd adroddiad sefyllfa derfynol ar gyfer Cynllun y Cyngor 2021/22 yn dangos bod 73% o weithgareddau’n gwneud cynnydd da, a bod 74% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 73% o'r dangosyddion perfformiad wedi bodloni neu ragori ar eu targedau, roedd 9% yn cael eu monitro'n agos ac nid oedd 18% yn bodloni’r targed ar hyn o bryd. Nid oedd unrhyw ddangosyddion perfformiad (DP) yn dangos statws COG coch ar gyfer perfformiad presennol yn erbyn targed, sy'n berthnasol i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Gan gyfeirio at dudalennau 48 a 49 yr adroddiad, llongyfarchodd y Cynghorydd David Mackie y Prif Swyddog a'i dîm ar ragori ar y targedau cenedlaethol. Gwnaeth sylw hefyd ynghylch cyflawni’r targed ar gyfer Mesurau Diogelu (tudalen 54 yr adroddiad).
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r lefelau cynnydd a hyder wrth gyflawni blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2021/22;
(b) Cefnogi perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor 2021/22; a
(c) Bod y Pwyllgor wedi cael sicrwydd drwy’r eglurhad a roddwyd ar gyfer y meysydd hynny sy’n tangyflawni. |
||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu’r adroddiad. Darparodd wybodaeth gefndir ac eglurodd fod adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gwneud pum argymhelliad (fel yr amlinellwyd ym mharagraff 1.10 yr adroddiad). Gan ymateb i'r adroddiad, gofynnwyd i bob un o Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a'r Bwrdd Iechyd baratoi ymateb rheoli cyfunol y cytunwyd arno yn manylu ar sut y byddent yn gweithio ar y cyd i fynd i'r afael â phob un o'r argymhellion. Gofynnodd Archwilio Cymru i’r ymateb cyfunol hwn gael ei gyflwyno erbyn 31 Ionawr 2022. Roedd Ymateb y Rheolwyr a gyflwynwyd ynghlwm fel Atodiad 3 i'r adroddiad.
Gan ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cadeirydd ynghylch cymhlethdod y trefniadau cyllid ar gyfer cartrefi gofal, dywedodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod taflen wedi'i chynhyrchu a'i bod ar gael ar wefan yr Awdurdod a oedd yn egluro'n glir y cyfraniad y mae unigolion yn ei wneud at gost eu gofal cartref neu breswyl.
Dywedodd y Cynghorydd David Mackie ei fod yn teimlo bod angen craffu ar ddarpariaeth cartrefi gofal ar draws Gogledd Cymru yn ogystal ag yn lleol.
Cynigiodd y Cynghorydd Gladys Healey gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mel Buckley.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r argymhellion yn adroddiad Archwilio Cymru ar Gomisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl H?n gan Gynghorau Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
(b) Cytuno ar y camau gweithredu yn Ymateb y Rheolwyr i fynd i'r afael â'r argymhellion hyn; a
(c) Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariadau rheolaidd ar weithrediad y camau gweithredu yn y dyfodol. |
||||
ADRODDIAD AR SEFYDLOGRWYDD Y FARCHNAD GOGLEDD CYMRU PDF 141 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun.
Tynnodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu sylw at y wybodaeth a ddarparwyd yn adrannau 1.05 ac 1.06 yr adroddiad.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am adroddiad manwl a llawn gwybodaeth a dywedodd ei fod o safon uchel iawn a gofynnodd i ddiolchiadau’r Pwyllgor gael eu trosglwyddo i Emma Murphy, Dawn Holt a Marianne Lewis a oedd wedi cyd-gynhyrchu’r adroddiad.
Soniodd y Cadeirydd am y nifer uchel o leoliadau y tu allan i'r sir yn Sir y Fflint fel y cyfeiriwyd ato ar dudalen 232 yr adroddiad. Soniodd y Prif Swyddog am faint y boblogaeth yn Sir y Fflint a'r pwysau ychwanegol o ganlyniad i fod yn sir ar y ffin. Cyfeiriodd hefyd at yr heriau a allai godi oherwydd diwylliannau ac ymddygiadau. Rhoddodd sicrwydd nad oedd cyfanswm y Plant sy’n Derbyn Gofal mor uchel ag awdurdodau eraill yng Nghymru oherwydd y gwasanaethau ataliol da sydd ar waith yn Sir y Fflint.
Gwnaeth y Cynghorydd Dave Mackie sylw ar y pwysau ariannol a wynebir gan rai darparwyr cartrefi gofal yn Sir y Fflint.
Cynigiodd y Cynghorydd David Mackie yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru 2022. |
||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL PDF 98 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a rhoddodd wybodaeth gefndir a chyd-destun. Pwrpas yr adroddiad oedd nodi’r siwrnai at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o ran darparu gwasanaethau i bobl a oedd yn hyrwyddo eu lles ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau personol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at wasanaeth Mockingbird, a gwasanaeth awtistiaeth integredig rhanbarthol. Gwahoddodd y Prif Swyddog y Swyddog Cynllunio a Datblygu – Tîm Partneriaeth, Datblygu a Pherfformiad i roi trosolwg o Adroddiad Blynyddol drafft Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22 a oedd ynghlwm â’r adroddiad.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd cymorth ar gael i ddarparu gwybodaeth a chymorth i unigolion a oedd yn dymuno bod yn Ofalwr-Micro. Eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod y Swyddog Cynllunio a Datblygu ar gyfer Gofal-Micro yn datblygu rôl Gofal-Micro ymhellach gyda'r dyhead ei fod yn dod yn wasanaeth wedi'i gomisiynu yn ogystal ag un a ddarperir trwy daliad uniongyrchol. Soniodd hefyd am ffiniau deddfwriaethol a’u heffaith ar y model busnes, monitro Gofalwyr-Micro yn y dyfodol a datblygiadau parhaus i gefnogi gofalwyr-micro sydd wedi’u sefydlu.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft y Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/22, sy'n cynnwys prif ddatblygiadau’r flwyddyn ddiwethaf a'r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf. |
||||
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |