Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorydd Mackie - Eitem 5 Paragraff 2.2 - Ymddiriedolwr o Glwb ar ôl Ysgol. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 8 Mehefin 2023.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2023, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu PDF 82 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y nodwyd yn yr adroddiad, gan ychwanegu dwy eitem ychwanegol - diweddariad ar yr Adroddiad Archwilio Cymru ar Gartrefi Gofal Pobl H?n - Comisiynu Cartref Gofal yng Ngogledd Cymru ac Adfywio’r Fframwaith Gofal Cartref. Fe atgoffodd Aelodau bod sesiwn hyfforddiant ar Rianta Corfforaethol yn cael ei chynnal y diwrnod canlynol ar Zoom a fyddai’n cael ei recordio. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Gladys Healey, rhoddodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu sicrwydd y byddai’r sesiwn ar Rianta Corfforaethol y diwrnod canlynol yn fanwl iawn ac y byddai’n nodi beth oedd Rhianta Corfforaethol ynghyd â beth oedd cyfrifoldebau’r Aelodau etholedig, ac wedi i’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol gael ei hadolygu, byddai gweithdai wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal i gyd-fynd â’r hyfforddiant.
Awgrymodd y Cynghorydd Marion Bateman y dylai rhai o’r bobl ifanc gyfarfod y Cynghorwyr fel y gwnaethant rai blynyddoedd yn ôl. Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Plant a’r Gweithlu y byddai pobl ifanc yn helpu i ddylunio’r gweithdai ac y byddent hefyd yn eu mynychu pan maent yn cael eu cynnal yn yr Hydref.
Gofynnodd yr Is-Gadeirydd fod dyddiad yn cael ei drefnu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oherwydd bod y bwrdd newydd wedi cael ei sefydlu rai misoedd yn ôl.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau. |
|
Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant 2022 – 26 - Diweddariad Blynyddol PDF 151 KB Darparu trosolwg o Adroddiad a Chynllun Gweithredu’r Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (2022-2026), gan amlygu blaenoriaethau a cherrig milltir. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd gyd-destun ehangach yr adroddiad ar sut yr oeddent yn bodloni’r ddyletswydd statudol ar gyfer yr awdurdod lleol o dan y Ddeddf Gofal Plant (2006). Eglurodd bod eu ffocws bob amser ar ddwy elfen allweddol yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant, sef:-
· Darparu gofal plant digonol, cynaliadwy a hyblyg, sy’n ymateb i anghenion rhieni. · Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy’n berthnasol i ofal plant i rieni a’r rhai sydd â chyfrifoldeb rhianta neu’n gofalu am blentyn.
Amlygodd y pwyntiau allweddol yn yr adroddiad gan roi cyd-destun ehangach o fewn y gwasanaeth a gyda phartneriaid allweddol eraill.
Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Is-Gadeirydd yngl?n â chodau post a mynediad i ofal plant, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd eu bod yn gweithio’n galed i sicrhau nad oedd hynny’n digwydd ond eu bod yn cael eu dylanwadu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn rhaid iddynt ddilyn arweiniad y Llywodraeth. Dywedodd eu bod yn cael nifer benodol o blant y gallent eu derbyn ac os nad oeddent yn cyrraedd y nifer hon roeddent yn gallu cyflwyno ymhellach.
Gofynnodd yr Is-Gadeirydd hefyd a oedd darpariaeth neu gyfleusterau crèche ar gael i blant bach allu cymysgu gyda phlant mewnfudwyr tra bod eu rhieni yn cael gwersi Saesneg. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd bod cyfleusterau yn Nh? Calon a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnal gofal plant ochr yn ochr â rhaglenni rhianta ond byddai’n gwirio ynghylch darpariaeth crèche; nid oedd ychwaith yn ymwybodol o unrhyw alw mewn perthynas â phlant bach yn cymysgu gyda phlant mewnfudwyr ond byddai’n ymchwilio i’r mater.
Wrth ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie am gyfranogiad gwahanol y sefydliadau penderfynwyd, oherwydd eu cymhlethdod, y byddai’n well aros tan y gweithdy i egluro hyn iddynt. Wrth ymateb i’r cwestiwn arall a gododd am y defnydd o’r gair ‘tarfwr’ ym mharagraff 1.12, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd ei fod mewn perthynas â’r gwahaniaethau rhwng Cyfle Cynnar a’r Cynnig Gofal Plant, yn enwedig o amgylch y ffioedd. Eglurodd fod Sir y Fflint wedi gwneud yn si?r bod y ‘tarfwr’ yn gadarnhaol ac wedi treialu cyfradd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyfrannu i’r Rhaglen Cyfle Cynnar a dywedodd ei bod yn awr wedi cynyddu’n genedlaethol i gyd-fynd â’r Cynnig Gofal Plant fel bod y ddwy raglen yn awr yn talu’r un gyfradd. Ychwanegodd fod Dechrau’n Deg hefyd wedi newid i gyd-fynd â’r un gyfradd.
Derbyniodd yr Is-Gadeirydd y cynnig i gynnal gweithdy a gofynnodd am gael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a chytunodd yr Aelodau.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd unrhyw hyfforddiant ar gyfer Gwarchodwyr Plant i helpu i gyfathrebu gyda rhieni a phlant nad ydynt yn siarad Saesneg. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd y byddai’n anfon copi o gwricwlwm y Gwarchodwyr Plant ati er mwyn iddi gael gweld beth oedd yn ei gynnwys. Nododd hefyd, o dan ddeddfwriaeth, bod ... view the full Cofnodion text for item 14. |
|
Perfformiad Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2022-2 PDF 130 KB Adolygu’r lefelau cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau a lefelau perfformiad fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn crynhoi perfformiad y meysydd perthnasol i Ofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2022-23 ar ddiwedd blwyddyn / Chwarter 4. Er bod rhai o’r meysydd yn yr adroddiad y tu allan i Wasanaethau Cymdeithasol, roedd tebygrwydd o 80% felly roedd yn credu ei bod yn bwysig i edrych ar is-flaenoriaeth cyffredinol Cynllun y Cyngor sy’n fwyaf perthnasol i’r portffolio hwn. Roedd yn falch o allu adrodd ar lefel dda o gynnydd ar weithgareddau ar draws y meysydd fel yr amlinellwyd ym mhwynt 1.04 yr adroddiad a dywedodd ei fod wedi siarad â Vicky Clarke o Gymunedau a Thai cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â’r gweithgarwch coch a ddengys ym mhwynt 1.05 yr adroddiad, gan gynghori’r Aelodau ei bod yn fodlon darparu unrhyw feysydd sicrwydd iddynt mewn perthynas â hyn. Fe aeth ymlaen i roi trosolwg o’r meysydd eraill sydd wedi’u rhestru isod a oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor hwn:-
· Byw’n Annibynnol · Diogelu · Darpariaeth Uniongyrchol i Gefnogi Pobl yn Agosach i’w Cartrefi 2022/23
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill yngl?n â nifer o ddarparwyr Meicro-Ofalwyr o’i gymharu â nifer y defnyddwyr gwasanaeth, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y ffigyrau yn yr adroddiad yn gywir oherwydd bod Meicro-Ofalwyr yn darparu gofal i fwy nag un person. Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion bod tîm o bobl wedi cydlynu rhaglen dreigl ar gyfer recriwtio Micro-Ofalwyr a thrwy glywed gan eraill o amgylch y sector gofal i annog pobl i gymryd rhan.
Ymatebodd yr Uwch-Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion i gwestiynau a godwyd gan y Cynghorydd Mackie ac fe eglurodd bod y Llwybr Gofal Dementia Cymru Gyfan yn rhan o lwybr ehangach a oedd yn cael ei ddatblygu gan Sir y Fflint a’r Bwrdd Iechyd mewn perthynas â rhyddhau o’r ysbyty. Roedd rhan o hyn yn galluogi pobl a oedd wedi cael diagnosis o Ddementia i gael gwasanaeth tebyg lle bynnag yr oeddent yn byw yng Nghymru drwy gydol eu siwrnai a byddai’r gefnogaeth a’r cyngor yn addasu wrth i’w hanghenion newid. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y Bwrdd Iechyd â rôl arweiniol o amgylch y Strategaeth Dementia ac y byddent fel yr awgrymwyd, gyda chefnogaeth yr Aelodau, yn gwahodd cydweithwyr y Bwrdd Iechyd i gyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd yr Is-Gadeirydd i gael cynnwys hyn ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey nad oedd yn briodol i Iechyd Meddwl fod o dan ymbarél Dementia a Defnyddwyr Cyffuriau oherwydd bod gwahanol feini prawf ar gyfer iechyd meddwl ac ni ddylai cleifion fod ar yr un wardiau mewn ysbytai. Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod hwn yn bwynt teg a bod lle i wella mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl a bod Sir y Fflint yn gweithio’n galed iawn i gynnal gwasanaeth iechyd meddwl awdurdod lleol cryf. Dywedodd eu bod yn parhau i fod â thimau yn y gymuned mewn cyfuniad gyda’r ... view the full Cofnodion text for item 15. |
|
Tair Ffordd a Phrosiect Adleoli Growing Places (Datblygiad Maes Gwern) I roi diweddariad i’r aelodau am gynnydd datblygiad Maes Gwern yn Yr Wyddgrug Cofnodion: Ystyriwyd bod yr eitem hon wedi’i heithrio yn rhinwedd Paragraff(au) 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cynigiwyd gwahardd y wasg a’r cyhoedd gan y Cynghorydd Dave Mackie, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Gladys Healey.
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion drosolwg o’r cynnydd ar ddatblygiad Maes Gwern. Cyfeiriwyd at y cyfleusterau presennol yn Nhri Ffordd, Bretton (gwasanaeth dydd sy’n darparu gweithgareddau mewn amgylchedd garddwriaethol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu) a Growing Places yn Shotton (sy’n darparu gwasanaeth tebyg ar gyfer oedolion gydag anghenion iechyd meddwl) ac fe nodwyd nad oeddent yn gallu ehangu ar gyfer datblygu gwasanaethau. Cyflwynodd y Swyddog Contractau a Chydymffurfio Cefnogi Pobl wybodaeth gefndir i’r goblygiadau ariannol.
Yn dilyn y cyflwyniadau, ymatebodd y swyddogion i gwestiynau gan yr Aelodau.
Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Tina Claydon.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar ddatblygiad Maes Gwern ar gyfer adeiladu’r datblygiad newydd ar yr amod bod y grant gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |