Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

45.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd Debbie Owen - Gwirfoddolwr yn Nanny Biscuit.

46.

Cofnodion pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 19 Ionawr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023, fel y’u cynigiwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey a’u heilio gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y cofnodion fel cofnod cywir.

47.

Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ac Olrhain Camau Gweithredu pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ystyried Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybod i’r Pwyllgor am y cynnydd yn erbyn camau gweithredu o gyfarfodydd blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol gyfredol ac mewn ymateb i’r Cadeirydd, cytunodd i weld a ellir cynnal yr ymweliad uwch i Wasanaethau Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru fore dydd Iau 20 Ebrill cyn y cyfarfod yn y prynhawn.   Bu iddi hefyd gadarnhau bod y ddwy eitem Olrhain Camau Gweithredu wedi’u cwblhau a bellach wedi’u cau.

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod y llythyr yn cael ei anfon at Gadeirydd Dros Dro newydd Bwrdd Betsi Cadwaladr.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.

48.

Nanny Biscuit

Pwrpas:        Cael cyflwyniad ar waith y sefydliad cymunedol lleol sy’n rhoi ystod eang o gefnogaeth i bobl ddiamddiffyn. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd James Hunt gyflwyniad ar ei gefndir a’r gwaith o sefydlu Nanny Biscuit.   Ar ôl gadael yr ysgol, fe ddaeth yn Beiriannydd Nwy cyn ymuno â’r Fyddin yn 2010 ond yn anffodus, oherwydd anaf a gafodd wrth wasanaethu yn Affganistan, roedd yn rhaid iddo adael.   Yn dioddef yn feddyliol ac yn gorfforol, roedd eisiau helpu pobl yn hytrach na chael pobl yn ei helpu ef ac felly sefydlodd Nanny Biscuit yn 2018 - wedi’i enwi ar ôl ei nain a fu farw yn 2017 gan ei bod yn arfer rhoi bisgedi iddo.  Bu iddo sylweddoli mai ei angerdd oedd helpu’r Gymuned pan ddarparodd ginio Nadolig ac adloniant i’r rhai a oedd yn dioddef o unigrwydd ac  arwahanrwydd.   Wedyn ceisiodd gymorth i gael mwy o wybodaeth i ddatblygu syniadau eraill yr oedd ganddo, fel therapïau cyfannol am ddim.   Gyda’i gefndir fel peiriannydd nwy, roedd wedi bwriadu gwneud rhywbeth tebyg i DIY SOS ond gan y byddai hynny wedi bod yn gostus, bu iddo droi ei gwmni plymio a gwresogi CAF Gas yn Fenter Gymdeithasol yn 2020 er mwyn defnyddio ei elw ac asedau i helpu’r unigolion mwyaf diamddiffyn yn y Gymuned yn hytrach na chwilio am grantiau.   Oherwydd y pandemig, roedd yn rhaid oedi hwn am y tro a phenderfynodd canolbwyntio ar Nanny Biscuit.   Dangosodd fideo i’r Aelodau o’r hyn a wnaethant yn ystod y pandemig, a oedd yn cynnwys danfon parseli bwyd, darparu cyngerdd awyr agored i Gartref Gofal, darparu cynllun cyfeillion i roi cefnogaeth emosiynol i bobl a oedd yn teimlo’n ynysig ac, ar y cyd â MoneySuperMarket, bu iddynt ddanfon dros 44,000 o brydau bwyd.

 

            Yn ystod yr ail gyfnod clo, bu iddo sefydlu digwyddiad blynyddol o saith niwrnod o weithgareddau a heriau o amgylch Cymru o’r enw Wythnos Wych yng Nghymru er mwyn cael Cymunedau i weithio gyda’i gilydd.

 

Erbyn hyn roedd tri phantri bwyd yng Nghei Connah, Shotton a Sandycroft a oedd yn cael eu rhedeg gan gr?p o wirfoddolwyr.   Cafodd yr arian a godwyd o werthu 10 eitem o fwyd am £3, a roddwyd gan FairShare, ei ddefnyddio ynghyd â rhoddion i brynu prif eitemau bwyd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Mackie am effaith cau’r safle yn Shotton oherwydd y diffyg cyllid gan y Cyngor ar gyfer talu costau rhent.  Mewn ymateb, dywedodd James y byddai’n broblem fawr ar hyn o bryd gan nad oeddent yn gallu talu’r gost oherwydd y cynnydd ym mhris bwyd.   Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd maint yr adeilad yr oedd ei angen arnynt a dywedodd James wrth yr Aelodau fod pobl nid yn unig yn dod i mewn am fwyd; ond eu bod yn dod ar gyfer yr ochr gymdeithasol hefyd ac i gael paned o de a sgwrs a oedd wedi bod o fudd mawr i’r pantrïoedd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Mackie a’r Cynghorydd Gladys Healey fod James yn cysylltu â nhw’n uniongyrchol fel y gallant rannu syniadau ag ef, gan fod y ddau ohonynt yn rhedeg canolfannau galw heibio dros ychydig o ddyddiau’r wythnos yn eu hardaloedd i leihau unigrwydd.  ...  view the full Cofnodion text for item 48.

49.

Amaethu Myfyrwyr Therapi Galwedigaethol a Gwaith Cymdeithasol (Ehangu ein Gweithwyr) pdf icon PDF 90 KB

Pwrpas:        Cael adroddiad ar ddatblygiad Gweithwyr Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol yn y gweithlu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu yr adroddiad drwy nodi bod gofal cymdeithasol yn dod yn fwy heriol gan fod pobl yn awr yn cyflwyno ag anghenion iechyd a gofal cymdeithasol mwy cymhleth a beichus.   Pwysleisiodd fod gan y Gwasanaethau Cymdeithasol weithlu cadarn a sefydlog a oedd yn allweddol i ddarparu arfer o ansawdd uchel, effeithiol a chyson i’r rheiny a oedd ei angen ac roedd buddsoddi mewn datblygiad o fewn y gweithlu yn helpu i wneud i weithwyr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a oedd yn cynyddu cymhelliant ac yn gwella’r synnwyr o foddhad yn y swydd.   Eglurodd bod y gwasanaeth yn derbyn grant gan Gofal Cymdeithasol Cymru bob blwyddyn o’r enw Grant Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru a oedd wedi cael ei adolygu’n ddiweddar ac wedi cynyddu’r Cynnig Gwaith Cymdeithasol i Awdurdodau Lleol.

 

Bu i’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) longyfarch y Rheolwr Datblygu’r Gweithlu a’r tîm am y ffordd greadigol a wnaethant ddatblygu’r gweithlu yn llwyddiannus o fewn y portffolio, gan nodi nad oedd unrhyw swyddi gwag ar gyfer Therapyddion Galwedigaethol na Gweithwyr Cymdeithasol i Oedolion ar hyn o bryd a’u bod mwy neu lai wedi’u staffio’n llawn ar gyfer gweithwyr Gofal Plant Preswyl.   Fodd bynnag, roedd problemau a wyddir amdanynt o fewn Gwaith Cymdeithasol Plant yr oedd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) a’r tîm yn gweithio drwyddynt.

 

Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Mackie, dywedodd yr Uwch Reolwr Oedolion eu bod wedi cymryd rhai mentrau gydag Ysgolion Uwchradd lleol o fewn eu Cyrsiau Iechyd a Gofal Cymdeithasol a gynhaliwyd yn lleol ac wedi rhoi sgyrsiau ar sut beth yw bod yn Weithiwr Cymdeithasol a oedd wedi ysbrydoli nifer o fyfyrwyr i fynd ag ef ymhellach.   Yn ogystal, roeddent yn mynd i Brifysgol Glyndwr yn rheolaidd i hyrwyddo’r rôl.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey os oedd pobl yn cael eu recriwtio o leiafrifoedd gwahanol fel bod Gweithwyr Cymdeithasol yn gallu deall y gwahanol ddiwylliannau.   Mewn ymateb, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu fod Timau Gwaith Cymdeithasol ar draws Sir y Fflint yn cynrychioli amrywiaeth Sir y Fflint a bod ganddynt nifer o bobl o wahanol gefndiroedd ethnig a chymunedau Dwyrain Ewrop ac yr un mor bwysig, Gweithwyr Cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Wren os oedd ymgeiswyr mwy aeddfed gyda sgiliau bywyd perthnasol yn cael eu heithrio o’r Cynllun Hyfforddiant Therapi Galwedigaethol, o ystyried y cymwysterau a restrir yn 1.06 o’r adroddiad.   Mewn ymateb eglurodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu, fel cwrs gradd, roedd y broses ymgeisio yn cael ei rheoli gan y Brifysgol ond roedd cymorth hefyd yn cael ei gynnig i unigolion i ymgymryd â chwrs mynediad fel y gallant wedyn fynd ymlaen i gael mynediad at y cwrs gradd.  Bu iddi hefyd gadarnhau nad oedd unrhyw wahaniaethu yn y broses ymgeisio a bod Sir y Fflint yn ariannu’r Cwrs Sylfaen yn ogystal â’r ddwy flynedd ychwanegol.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Wren.

 

PENDERFYNWYD:  ...  view the full Cofnodion text for item 49.

50.

Sut i ddod yn Feicro-Ofalwr pdf icon PDF 110 KB

Pwrpas:        Codi ymwybyddiaeth o fenter Meicro-Ofal.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu gefndir i’r adroddiad gan nodi, yn dilyn cwblhau’r prosiect peilot yn llwyddiannus - a ariannwyd trwy’r Economi Sylfaenol, Cadwyn Clwyd a Sir y Fflint i gefnogi mentrau bach neu fasnachwyr unigol i ddarparu gofal personol uniongyrchol a gwasanaeth lles ehangach yn Sir y Fflint - cafwyd cyllid ychwanegol trwy Gronfa Her yr Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru i alluogi datblygu Meicro-Ofal yn wasanaethau sefydledig y gellid eu cynnig.

 

Rhoddodd amlinelliad cryno o’r camau amrywiol ar sut i ddod yn Feicro-Ofalwr cyn cyflwyno’r Meicro-Ofalwr cyntaf a gomisiynwyd - Nat Swift i rannu ei brofiad o fod yn Feicro-Ofalwr.   Eglurodd mai ei ffrind oedd wedi awgrymu ei fod yn dod yn Feicro-Ofalwr wrth ei helpu i ofalu am ei dad.   Ar ôl cysylltu â Sir y Fflint, dechreuodd weithio fel Meicro-Ofalwr yn 2022 a gofynnwyd iddo a hoffai ddilyn y llwybr a Gomisiynwyd, gan nodi fod y mwyafrif o’i waith yn Sir y Fflint.   Roedd ganddo tri chleient yn Wrecsam a oedd wedi’u comisiynu’n breifat a heb gael eu rhoi iddo drwy Gyngor Wrecsam yn wahanol i gleientiaid Sir y Fflint a oedd yn gyfuniad o gleientiaid preifat, cleientiaid a gomisiynwyd gan Sir y Fflint a chleientiaid taliadau uniongyrchol.   Y gwahaniaeth rhwng Meicro-Ofalwr a gweithiwr Asiantaeth Gofal oedd yr amrywiaeth o gefnogaeth a allai Meicro-Ofalwr ei roi drwy gymryd mwy o ran ym mywydau’r cleientiaid a’u bod yn gallu darparu ystod ehangach o wasanaethau, o ofal emosiynol a chorfforol i ofal domestig a chlercyddol.

 

Pan ofynnwyd gan y Cadeirydd am yr atgyfeiriadau, dywedodd wrth yr Aelodau ei fod un ai’n cael ei gomisiynu gan Sir y Fflint, yn derbyn argymhellion drwy GOGDdC neu fod pobl yn cysylltu ag ef ar ôl gwneud chwiliadau ar y rhyngrwyd ond roedd yn derbyn fwyfwy o argymhellion drwy atgyfeiriadau gan Feicro-Ofalwyr eraill.

 

            Mewn ymateb i ymholiad y Cynghorydd Gladys Healey o ran diogelu, dywedodd fod yn rhaid i’r holl Feicro-Ofalwyr fynd drwy broses recriwtio a datblygu busnes a’i fod hefyd yn derbyn gwybodaeth a chefnogaeth fel aelod o NACAS (Cymdeithas Genedlaethol Gweithwyr Gofal a Chymorth).   Rhoddodd Sir y Fflint a Wrecsam gyngor a chymorth hefyd ar bolisïau, gweithdrefnau a chanllawiau yr oedd wedi teilwra ei fusnes ei hun ohonynt.   Yn nhermau diogelu, dywedodd fel Meicro-Ofalwr a gomisiynwyd, roedd yn rhaid iddo gael yswiriant indemniad proffesiynol ac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a oedd yn cael ei ariannu gan Sir y Fflint am hyd at chwe blynedd wrth i’w fusnes ddatblygu.   Yn ogystal, roedd y broses hyfforddiant yn cynnwys agweddau amrywiol, e.e. gweithio ar eich pen eich hun, asesiadau risg, codi a symud yn gorfforol, hylendid bwyd ac ati, a oedd yn bwydo i mewn i bolisïau a oedd gan bob Meicro-Ofalwr.  Roedd gan Sir y Fflint Raglen ar gyfer Monitro Ansawdd hefyd lle’r oedd yn cael ei asesu yn barhaus.  Roedd yn cadw cofnod dyddiol o ddigwyddiadau ar gyfer pob cleient hefyd.

 

            Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu wrth yr Aelodau am ymgyrch ‘Indeed’ ym mis Ionawr ac ymgysylltiad gyda GOGDdC drwy eu  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ofal preswyl plant pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ofal preswyl plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) gefndir i’r adroddiad drwy gyfeirio yn ôl at drafodaeth a gafwyd y llynedd ar strategaeth o’r enw ‘Gofal yn Nes at y Cartref’ sy’n nodi eu huchelgais i ddatblygu pump Cartref Gofal Preswyl mewnol i Blant o ansawdd uchel er mwyn cefnogi Plant sydd angen gofal preswyl lleol.   Bu iddo gyflwyno’r Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig a roddodd fwy o fanylion fel y nodir yn yr adroddiad ar y cartrefi a restrir isod:-

 

·                T? Nyth – Cartref cofrestredig gyda therapi aml systemig i gefnogi’r gwaith o aduno teuluoedd

·                Y Dderwen – Cartref cofrestredig sy’n darparu sefydlogrwydd lleoliad hirdymor

·                Mesen Fach – fflat mewn argyfwng sy’n cynnig lleoliadau byrdymor mewn achosion brys

·                Cartrefi Gr?p Bach sy’n cefnogi 1 neu 2 o blant mewn lleoliadau pwrpasol yn y gymuned

 

Bu iddo gadarnhau eu bod ar amser i agor ar y dyddiadau a nodir yn yr adroddiad a’u bod wedi bod yn llwyddiannus o ran recriwtio staff.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd Owen os byddai grwpiau o frodyr a chwiorydd yn cael eu cymysgu gyda phlant eraill yn T? Nyth ac mewn ymateb dywedodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig bod cael y broses baru yn iawn yn allweddol i lwyddiant, p’un ai ei fod yn gymysgedd gyda gr?p o frodyr a chwiorydd neu gyda phlant unigol.   Bydda’r effaith yn sylweddol ar bob un o’r pedwar plentyn os byddai’r broses baru yn anghywir.   Fodd bynnag, rhai o’r pwyntiau dysgu a gododd oedd ei fod yn well pe na bai’r pedwar plentyn yn symud i mewn ar yr un pryd a dylid gweithio gyda nhw mewn gwahanol leoliadau.   Yn ddelfrydol dylai’r plentyn cyntaf symud i mewn i ddechrau’r rhaglen 12 wythnos wedyn y tri phlentyn arall bob pedair wythnos, ac erbyn hynny bydd y plentyn cyntaf yn trosglwyddo yn ôl i amgylchedd ei gartref.

 

Mewn ymateb i’r Cynghorydd Mackie, dywedodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig eu bod wedi’u cyfyngu i nifer y plant y gallant eu cefnogi ond ei fod yn bwysig eu bod yn hyfforddi ac yn cefnogi’r staff cywir gan mai nhw a fyddai’n gwneud newidiadau sylweddol i’r plant.   Ychwanegodd yr Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu) mewn perthynas â lleoliadau y tu allan i’r sir sydd eisoes yn y system, byddant yn dod i ben yn raddol dros y tair blynedd nesaf gan y byddai’n dal angen cefnogi’r plant.   Nid oedd y costau mewnol o reidrwydd yn rhatach gan ei fod ar gyfartaledd yn costio £500,000 i redeg cartref 4 ystafell wely oherwydd costau cyffredinol staff, yswiriant a bwyd ac ati.   Y pwyntiau cadarnhaol oedd bod y gwasanaeth yn gallu rheoli ansawdd y gofal wrth baratoi pobl ifanc ar gyfer bod yn oedolion.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’i eilio gan y Cynghorydd Debbie Owen

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd i ddatblygu’r gofal preswyl mewnol fel rhan o’r strategaeth Gofal yn Nes at y Cartref.

52.

Gwasanaethau Darparwyr Sir y Fflint - Materion Rheoleiddio, Effeithiolrwydd y Gwasanaeth a Datblygiad pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar rôl yr unigolyn cyfrifol a pherfformiad y gwasanaethau rheoledig mewnol yn ystod y 12 mis diwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig gyflwyno’r adroddiad fel rhan o’i rôl fel Unigolyn Cyfrifol ar gyfer Sir y Fflint ac egluro mai ei swydd oedd sicrhau ansawdd y gofal a ddarperir i wasanaethau, i fodloni’r canllawiau statudol fel y nodir yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA).   Mae’n rhaid i bob maes gwasanaeth ddarparu ei ddatganiad o ddiben ei hun ac maent yn cael eu harolygu a’u monitro yn flynyddol gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Y gwasanaethau a gafodd eu cynnwys oedd:-

 

·           Cartrefi Gofal Preswyl i Bobl H?n – Marleyfield House, Llys Gwenffrwd a Croes Atti

·           Tai Gofal Ychwanegol – Llys Eleanor, Llys Jasmine, Llys Raddington, Plar Yr Ywen

·           Cefnogaeth Gymunedol i Bobl H?n – ardaloedd Treffynnon, Glannau Dyfrdwy a’r Wyddgrug

·           Seibiant byrdymor i bobl ag anableddau dysgu – Hafod a Woodlee

·           Byw â Chymorth – 17 cartref ar draws Sir y Fflint

·           Gwasanaethau Plant T? Nyth, Park Avenue a’r Cartrefi Gr?p bach

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd, cadarnhaodd y Rheolwr Cofrestredig Adnoddau a Gwasanaethau Rheoledig bod cyfarfodydd preswylwyr a thenantiaid wedi’u cynnal ond mewn arolygiad diweddar gofynnodd bod Rheolwyr yn cynyddu presenoldeb er mwyn cael mynediad at groestoriad ehangach o bobl, gan fod yr un 5-6 o bobl yn mynychu bob amser.   Bellach roedd staff arlwyo wedi’u cynnwys o ganlyniad i’r gwaith yr oeddent wedi’i wneud i wella’r ansawdd.   Bu iddo gadarnhau bod y cynnydd cyfartalog o £80 yr wythnos i’r costau gwasanaeth yn gywir oherwydd y cynnydd mewn costau byw a’i fod yn cael trafodaethau gyda Clwyd Alyn a Wales & West ac wedi gofyn i’r cyfraddau gael eu lleihau wrth i’r argyfwng costau byw newid.   Dywedodd eu bod wedi ymgynghori gyda’r holl denantiaid cyn y cynnydd a bod y Tîm Asesiad Ariannol wedi bod i weld y tenantiaid i wneud yn si?r eu bod yn derbyn y cymorth ariannol cywir.  Ychwanegodd bod cost rhandy un ystafell wely safonol wedi cynyddu o £240 i £320 yr wythnos ac y byddai’n costio ychydig yn fwy am randy 2 ystafell wely pan gwestiynwyd ymhellach gan y Cynghorydd Wren.

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Dave Mackie a’i eilio gan y Cynghorydd Mel Buckley.

 

          PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi gofynion rôl yr Unigolyn Cyfrifol.

53.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.