Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Gorffennaf 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar dudalen 9 roedd y Cynghorydd Mackie wedi gwneud y newid canlynol i’r cofnodion. Dywedodd y Cynghorydd Mackie bod yr adroddiad hwn a’r ddyletswydd economaidd cymdeithasol yn ei gwneud yn glir, wrth wneud penderfyniadau strategol, mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus ystyried yr effaith sydd ganddynt ar bobl gyda nodweddion a ddiogelir y teimlodd y byddent yn ei wneud pryn bynnag.
Yn ddarostyngedig i’r newid, cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021 eu cymeradwyo, fel y cynigiwyd gan y Cynghorydd Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Wisinger.
Roedd y Cynghorydd Gladys Healey wedi newid y gwall yn ei chyfenw ar dudalen 9, 10 ac 11 a hefyd gofynnodd i Gladys gael ei gynnwys i osgoi dryswch gyda’i g?r.
Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman i’w henw cristnogol gael ei gynnwys yn ei henw i osgoi dryswch gyda’i g?r.
Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl wedi cadarnhau y byddai’r swydd Swyddog Monitro GIP yn cael ei hysbysebu o fewn yr ychydig ddyddiau nesaf a godwyd gan y Cadeirydd.
Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2021, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Mackie ac eiliwyd gan y Cynghorydd Jean Davies.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol. Dywedodd y byddai yna gyfarfod Arbennig ar 30 Medi am 11.00am i ystyried y Gyllideb am y flwyddyn i ddod ac ei bod yn bosibl y byddai Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn yn cael ei ychwanegu at y cyfarfod ar 9 Rhagfyr gyda phosibilrwydd bod rhai o’r eitemau yn cael eu symud i gyfarfod mis Ionawr.
Mewn ymateb i’r cwestiwn, cododd y Cadeirydd fater yngl?n â thrafod effaith ariannol Covid ar y gyllideb, awgrymodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod diweddariad ar lafar byr yn gallu cael ei roi yng nghyfarfod y Gyllideb ar 30 Medi ond nodwyd na fyddai’n adroddiad llawn. Byddai trafodaeth wedi ei rhaglennu yn cael ei chynnal yn hwyrach yn y flwyddyn y cytunodd y Cadeirydd arno ond pwysleisiodd yr angen i fod yn ymwybodol o effaith Covid ar y Sector Preifat.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Marion Bateman, rhannodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyda’r Pwyllgor yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu o gyfarfod cynt y diwrnod hwnnw gyda’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Llywodraeth Cymru (LlC). Dywedodd y byddai yna ganlyniad i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i’r cyllid y cytunwyd arno yn y Senedd gyda’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Dywedodd mae’n bosibl na fyddai’r sefyllfa’n glir erbyn 30 Medi gan fod gan Lywodraeth Cymru hyblygrwydd a byddai’n cymryd amser i benderfynu sut yr oedd yn cael ei ddyrannu o fewn Cymru.
Cyfeiriodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd at adroddiad olrhain camau a hysbysodd Aelodau bod ymateb camau yn weddill gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Llywodraeth Cymru yn faterion oedd yn weddill. Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymuned ac Addysg y cysylltwyd â’r ddau a derbyniwyd ymateb eu bod yn gweithio ar y mater gan Lywodraeth Cymru y byddant yn ymateb. Byddai’r Pwyllgor yn derbyn diweddariad unwaith y derbyniwyd ymatebion.
Dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod y rhan fwyaf o’r materion a drafodwyd gyda’r Swyddog Cyswllt dros yr haf drwy’r Gr?p Lleisiau Uchel Pobl Ifanc yn faterion yr oedd Plant yn teimlo oedd yn bwysig a rhannwyd fel mater o drefn rhwng Gweithwyr Cymdeithasol presennol a newydd fel rhan o drosglwyddiadau. Eglurodd y byddai adborth yn cael ei roi yn y Fforwm Gwasanaethau Plant nesaf.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Cunningham at y daith o amgylch canol trefi a awgrymodd Marion Bateman yn y cyfarfod diwethaf a gofynnodd a oedd unrhyw beth wedi’i wneud. Roedd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol a’r Amgylchedd wedi cadarnhau ei bod wedi cysylltu a’r Ymgynghorydd Polisi Strategol a byddai ymweliadau safle yn cael eu trefnu pan fyddai’r sefyllfa’n gwella.
Hefyd gofynnodd y Cynghorydd Cunnigham a oedd yn bosibl cymryd i ystyriaeth torri’r gwrychoedd ar hyd y llwybr troed o gylchfan yr A55 ym Mrychdyn i’r gylchfan ger y maes awyr gan y byddai pobl mewn cadeiriau olwyn yn ei chael hi’n anodd ... view the full Cofnodion text for item 28. |
|
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) - Gwiriad Sicrwydd PDF 108 KB Pwrpas: I nodi cynnwys y llythyr Perfformiad Blynyddol, asesiad AGC o berfformiad yr awdurdod yn ystod 2020/21 a Chynllun Adolygu Perfformiad AGC ar gyfer 2020/21. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ganfyddiadau’r adroddiad ar Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn reoleiddiwr annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Gofal a Gofal Plant yng Nghymru. Roedd y Gwiriadau Sicrwydd wedi eu cynnal yn rhithiol rhwng 19 a 23 Ebrill 2021. Roedd prif drywyddau ymchwilio AGC yn canolbwyntio ar bedair egwyddor Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, sef:
· Pobl - Llais a Rheolaeth · Atal · Lles · Partneriaeth ac Integreiddio
Ychwanegodd yr Uwch Reolwr - Plant a Gweithlu ei bod yn her cael wyth Arolygwr yn dod i mewn yn ystod Pandemig a’i fod yn gobeithio y gallai’r Pwyllgor weld o’r Cynllun Gweithredu eu bod wedi gwrando ar beth yr oedd yr arolygwyr wedi’i ddweud a gweithredu ar eu sylwadau i wella, dysgu ac adlewyrchu ar beth oedd angen ei wneud. Dywedodd fod y camau a nodwyd i gyd yn wyrdd ac eithrio Recriwtio Gweithlu a oedd yn oren oherwydd cyflenwad annigonol o Weithwyr Cymdeithasol cymwys profiadol o fewn Gwasanaethau Plant.
Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cadeirydd yn ymwneud â mater diogelu, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu bod hyn yn ymwneud ag un achos a sicrhaodd y Pwyllgor fod plant yn cael eu cadw’n ddiogel yn ystod y pandemig.
Ychwanegodd eu bod wedi edrych ar eu systemau a symud capasiti staff fel eu bod yn gallu cadw uwchben yr atgyfeiriadau a gwneud penderfyniadau byw a chofnodi sefyllfaoedd. Yn ogystal, roedd hyfforddwr a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru wedi’i gadarnhau ac roeddent yn cydymffurfio â’u prosesau ond yn gwneud awgrymiadau mewn rhai ardaloedd a weithredwyd. Hefyd, eglurodd nad oedd nawr yn bosibl aildrefnu cyfarfod os nad oedd asiant yn gallu mynychu a bod yn rhaid iddynt anfon adroddiad. Fodd bynnag, os oedd yn bosibl osgoi hyn a bod yn gorfod ei ohirio yna roedd angen ei gymeradwyo gan Reolwr Gwasanaeth.
Roedd y Cadeirydd ac Aelodau eraill yn awgrymu y dylai’r Pwyllgor anfon llythyr at holl staff yn eu llongyfarch am eu gwaith. Soniodd y Cynghorydd Marion Bateman am y gwaith anhygoel yr oedd Swyddogion Chwarae ac Aura Sports wedi ei wneud ynghyd â Theatr Clwyd ac awgrymodd y dylid eu gwahodd i un o gyfarfodydd eu Pwyllgor. Roedd y Cadeirydd, gyda chytundeb y Pwyllgor, yn awgrymu y dylid anfon llythyr diolch at Theatr Clwyd.
Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) i’r Pwyllgor am eu sylwadau y byddai’n eu trosglwyddo i staff a chroesawodd y cynnig i Theatr Clwyd fynychu cyfarfod yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cynghorydd Cunningham a oedd Coed Duon yn parhau i gael ei ddefnyddio fel cyfleuster cam-i-lawr. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd yn cael ei ddefnyddio mwyach gan fod yna lai o alw ar ôl blwyddyn ond roedd yn gam cadarnhaol i’w ddefnyddio yn fuan yn y pandemig.
Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yn diolch i’r Pwyllgor am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Ychwanegodd y Cynghorydd Cunningham bod y cydbwysedd gwleidyddol ar y Pwyllgor yn eithriadol ac eisiau gwneud beth sydd orau i Sir y Fflint.
Cynigiwyd argymhellion yn yr ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Diweddariad cynnydd ar Llys Yr Iarll a Glan y Morfa PDF 103 KB Pwrpas: I Derbyn adroddiad am Llys Yr Iarll a Glan y Morfa – cefnogi annibyniaeth i bobl sydd ag anabledd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl wedi cyflwyno’r adroddiad a rhoi gwybodaeth i Aelodau yn ymwneud a dwy fenter tai newydd a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Wales and West Housing Association, Strategaeth Dai’r Cyngor a’r Tîm Tai ac Asedau:
· Llys Yr Iarll, Y Fflint
·
Glan y Morfa, Cei
Connah Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am Glan y Morfa, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl nad oedd unrhyw broblem i symud pobl ymlaen ar hyn o bryd gan ei fod ond wedi bod yn agored am ychydig fisoedd ond roedd yn ymwybodol bod yna brinder o stoc dai Hysbysodd y Pwyllgor fod un o’i swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Tai ac yn eistedd ar y Panel Tai Arbenigol a phan fyddai’r Tîm Tai a Chymdeithasau Tai eraill yn nodi bod yna eiddo yn wag drwy’r gwasanaeth Un Llwybr Mynediad at Dai (SARTH), roedd yn ei archwilio ar gyfer addasrwydd.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl wrth y Cynghorydd Gladys Healey bod Glan y Morfa wedi’i addasu’n llwyr ac yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan bobl mewn cadeiriau olwyn ac nid oedd unrhyw derfyn amser o ran faint oedd pobl yn aros yno ond dywedodd y byddai’n fisoedd yn hytrach nag unrhyw beth yn hirach gan mai pobl oedd yn aros am gartrefi hirdymor
Cynigiwyd argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Gladys Healey ac eiliwyd gan y Cynghorydd Lowe.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod cynnwys yr adroddiad a’r partneriaethau cadarnhaol a ffurfiwyd wedi arwain at fwy o gyfleoedd tai i bobl ag anableddau yn cael ei nodi; a
(b) Bod y deilliannau lles i bobl anabl a’r gostyngiad yn y galw am wasanaethau cymdeithasol yn cael ei nodi. |
|
Pwrpas: Darparu adroddiad blynyddol ar Ganmoliaeth, Sylwadau a Chwynion a dderbyniwyd gan y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad yr Adroddiad Blynyddol Statudol ar Gwynion a Chanmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol oedd yn cynnwys cwynion a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2020 a Mawrth 2021. Dywedodd yn debyg i’r flwyddyn flaenorol, roedd 93 o gwynion a 721 canmoliaeth wedi eu derbyn, oedd bron yn ddwbl y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd y Cadeirydd fod nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd wedi bod yn eithriadol a bod yr adroddiad yn un o’r gorau yr oedd wedi’i ddarllen, a chytunodd y Pwyllgor.
Yna gofynnodd y Cadeirydd pam bod y canmoliaethau bron wedi dyblu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol o fewn y Tîm Plant i Oedolion Gwasanaethau Plant. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Anabledd ac Iechyd Meddwl nad oedd y cwynion wedi eu cyfeirio at y Gwasanaeth ond sut oedd y rhieni yn teimlo adeg y sefyllfa. Roedd rhieni wedi ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod clo oherwydd llai o gapasiti ac mewn rhai achosion cau cyfleusterau ac yn ei chael hi’n anodd bod gartref gyda phlant gydag ymddygiad heriol.
Roedd yr Arweinydd Tîm - Perfformiad wedi cytuno i anfon crynodeb o’r canmoliaethau i’r Pwyllgor.
Roedd y Cynghorydd Gladys Healey yn canmol staff am y ffordd yr oeddent yn cynnal eu hunain gyda’u cleientiaid gan nad oedd unrhyw gwynion am barch o fewn gofal cymdeithasol oedolion. Ychwanegodd y dylai tâl ac amodau i Weithwyr Gofal wella i leddfu’r broblem gyda phrinder staff.
Mewn ymateb i’r Cynghorydd Gladys Healey, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu nad oedd unrhyw dystiolaeth o amgylch y gwyn am gyfathrebu gwael o fewn Gwasanaethau Plant ac yn dilyn ymchwiliad canfuwyd ei fod oherwydd y ffaith fod plentyn wedi gorglywed sgwrs oedolyn yn y cartref.
Roedd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eisiau diolch i’r tîm am ymateb o fewn amserlen Gwasanaethau Oedolion a Phlant o ystyried yr amgylchiadau yn ystod y flwyddyn.
Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
Bod effeithiolrwydd gweithdrefn gwynion a’r gwersi a ddysgwyd i wella darpariaeth gwasanaeth yn cael ei nodi. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |