Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 3 Rhagfyr 2020.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.
Materion yn codi.
Cododd y Cynghorydd Gladys Healey bryderon pellach ynghylch diffyg monitro plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Dywedodd yr Uwch Reolwr: Plant a’r Gweithlu bod hyn yn parhau i fod yn fater byw yng Nghymru ac yn parhau i fod yn bryder sylweddol i’r Comisiynydd Plant. Cefnogodd yr aelodau yr awgrym i anfon llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor a Chadeirydd y Pwyllgor Addysg a Phobl Ifanc at y Gweinidog perthnasol yn Llywodraeth Cymru ac anfon copi at y Comisiynydd Plant.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie i gymeradwyo’r cofnodion ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNIAD:
I gymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir ac i’r Cadeirydd eu llofnodi.
|
|
Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 82 KB I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Flaenraglen Waith bresennol i’w hystyried. Cyfeiriodd at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a chyfarfodydd yn y dyfodol ac estynnodd wahoddiad i’r aelodau godi unrhyw eitem i’w hystyried i’w cynnwys yn y blaenraglen waith.
Gan gyfeirio at yr adroddiad olrhain camau gweithredu a oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, dywedodd Yr Hwylusydd nad oedd unrhyw gamau gweithredu i’w cwblhau o’r cyfarfodydd blaenorol.
Awgrymodd y Cynghorydd Carol Ellis y dylid rhoi diweddariad ar y broses frechu. Dywedodd y Cadeirydd bod neges e-bost wedi’i dosbarthu gan y Prif Weithredwr gyda’r strategaeth frechu yn atodiad, a oedd yn cynnwys llawer o wybodaeth. Dylid cyfeirio cwestiynau allweddol am y broses frechu at y Prif Weithredwr drwy e-bost.
Gofynnodd y Cynghorydd Cindy Hinds i’r Pwyllgor ystyried adroddiad ar anabledd a gwahaniaethu. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r Cynghorydd Polisi Strategol oedd y swyddog a oedd yn arwain y maes gwaith hwn am ei fod yn fater corfforol. Byddai ymholiadau pellach yn cael eu gwneud i ganfod sut y gellid ymateb i’r cais hwn.
PENDERFYNIAD:
(a) I nodi’r Blaenraglen Waith;
(b) Y byddai’r Hwylusydd, mewn cydweithrediad â Chadeirydd y Pwyllgor yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Blaenraglen Waith rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi;
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed yn cwblhau’r camau gweithredu i’w cwblhau.
|
|
Cynllun y Cyngor 2020/21 PDF 93 KB Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda ffocws penodol ar bortffolio'r Pwyllgor. Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chrynodeb byr o’r Cynllun.
Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Perfformiad Strategol roi amlinelliad o’r cynllun drafft a’r broses ar gyfer ei ddatblygu ymhellach Dywedodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol wrth y Pwyllgor bod nifer o elfennau yn y cynllun wedi’u diwygio. Dywedodd bod yr amcanion Llesiant wedi’u hymgorffori yn y cynllun a bod gwaith pellach wedi’i wneud yn datblygu’r themâu. O ran monitro’r Cynllun, ychwanegodd mai’r nod oedd gallu arddangos effaith fel awdurdod o safbwynt strategol. Dywedodd y byddai’n croesawu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau i’w cynnwys, a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforol ym mis Chwefror cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth/Ebrill. Byddai gwaith ar Ran 2 y Cynllun yn dechrau maes o law i ddatblygu tasgau, cerrig milltir, mesurau a risgiau. Dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig o ystyried yr amgylchiadau presennol.
Croesawodd y Cynghorydd David Mackie gynnwys y maes blaenoriaeth: Llesiant Personol a Chymunedol a oedd yn gynhwysfawr ac wedi’i gyflwyno’n dda yn ei farn ef. Gofynnodd am wybodaeth bellach ar y canlynol, fel yr amlinellwyd ar dudalen 25 y Cynllun:
· Y gwasanaeth Well Fed yn y cartref · Gwasanaeth prydau bwyd Ysbyty yn y Cartref · Gwasanaeth prydau symudol
Tynnodd y Cynghorydd Mackie sylw at ddyblygiad ar dudalen 27 (archwilio cyfleoedd i ddatblygu hwb i bobl ifanc ddigartref) sy’n ymddangos mewn dwy adran. Gan gyfeirio at dudalen 28, gofynnodd a ddylai’r pedwerydd pwynt bwled (cefnogi ein tenantiaid i gael mynediad at dechnoleg a chynyddu cymunedau digidol) fod yn yr adran cymunedau digidol. Ar dudalen 30, cyfeiriodd at yr adran Economi Gylchol ac, yn benodol, y pedwerydd pwynt bwled a oedd angen eglurhad pellach, yn ei farn ef.
Dywedodd y Prif Swyddog y gellir cael gwybodaeth bellach fanwl ar yr uchod gan y Rheolwr Budd-daliadau, sef y swyddog sy’n arwain y maes gwaith hwn.
Esboniodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol y broses ar gyfer adolygu cynnydd y cynllun ar ôl ei fabwysiadu, a dywedodd y byddai adroddiad perfformiad yn cael ei gyflwyno ar y Cynllun cyfan i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda’r meysydd perthnasol wedi’u hamlygu ar gyfer pob pwyllgor penodol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth gynharach ar fonitro addysgu gartref ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y Cynllun. Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healy â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd y dylid cynnwys y maes hwn yn y Cynllun. Awgrymodd y Prif Swyddog y gellir cynnwys y mater o addysgu gartref yn adran Addysg a Sgiliau y cynllun. Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis bod hyn yn ddyhead ac awgrymodd y gellir ei gynnwys o dan tlodi plant mewn cysylltiad â chael mynediad at dechnoleg, cyfarpar a llyfrau ar gyfer addysgu gartref.
Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol bod parhau i adolygu addysgu gartref yn bwysig. Esboniodd y gwahaniaeth rhwng plant a oedd yn ... view the full Cofnodion text for item 26. |
|
Gofalwyr Ifanc – Contract Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (GOGDdC) PDF 144 KB Craffu’r perfformiad a’r canlyniadau a ddarperir i Ofalwyr Ifanc drwy gontract newydd a model gwasanaeth ar gyfer GOGDdC. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at safon wych yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a darparodd wybodaeth gefndir. Estynnodd wahoddiad i’r Swyddog Cynllunio a Datblygu a Phrif Swyddog Gweithredol NEWCIS i gyflwyno’r adroddiad.
Dywedodd y Swyddog Cynllunio a Datblygu bod y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi cyflwyno newidiadau arwyddocaol a chadarnhaol i ofalwyr sy’n oedolion a phobl ifanc sy’n ofalwyr ac nad ydynt yn derbyn tâl, a oedd wedi arwain at gyfle i adolygu’r contract gwasanaeth Gofalwyr Ifanc, a ddaeth i ben ym mis Mawrth y llynedd. Roedd pedwar gofalwr ifanc wedi bod yn rhan o’r broses dendro, drwy gefnogi swyddogion fel partneriaid cyfartal. Roedd hyn yn cynnwys siapio’r gwasanaeth, dewis cwestiynau a chyfweld darpar ddarparwyr gwasanaeth a oedd wedi arwain at ddyfarnu’r contract i NEWCIS.
Wrth gyfeirio at y Cerdyn Adnabod newydd ar gyfer Gofalwyr Ifanc, dywedodd y byddai’r cerdyn newydd yn adeiladu ar seiliau’r cerdyn A2A a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Sir y Fflint. Ychwanegodd fod Sir y Fflint wedi penderfynu mabwysiadu dull rhanbarthol ar gyfer datblygu Cerdyn Adnabod cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Ifanc, gan weithio gyda Chynghorau Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd cynllun cyfathrebu yn cael ei ddatblygu ar y cyd gyda phartneriaid, gan gynnwys lansio’r cerdyn newydd a’r posibilrwydd o gynnwys sêr proffil uchel, a oedd yn cael ei gynllunio ar gyfer 16 Mawrth 2021 i ddynodi diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc.
Mynegodd Prif Weithredwr NEWCIS ei balchder yn dilyn ennill y contract ym mis Gorffennaf y llynedd. Er nad oedd cyfyngiadau Covid 19 wedi’u cynnwys wrth lunio’r tendr, nid oedd wedi atal cynnydd, ac roedd hyn wedi annog mwy o arloesedd wrth gyflenwi gwasanaethau drwy gyfarfodydd rhithwir oherwydd y cyfyngiadau ar gyfleoedd cyfarfodydd wyneb yn wyneb. Wrth edrych i’r dyfodol, roedd disgwyl y byddai cymysgedd o gysylltiadau rhithwir ac mewn person. Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn brysur iawn ac roedd gweithio gyda gofalwyr ifanc wedi bod yn brofiad positif iawn i staff NEWCIS, ond roedd yn cydnabod hefyd y bu rhai achosion anodd. Cyfeiriodd at y cynnydd sylweddol yn nifer y cyfranogwyr yn y grwpiau o dan 18 oed a 18-25 oed. Wrth edrych i’r dyfodol, roedd yn hyderus y byddai NEWCIS yn parhau i ddarparu gwasanaeth da a chyfeiriodd at gysylltiadau rhanbarthol da gyda Credu a oedd yn darparu gwasanaethu gofalwyr ifanc i ardaloedd awdurdodau lleol eraill a chyfeiriodd at Wrecsam a Sir Ddinbych fel esiamplau. Roedd yn bleser arbennig gan y Prif Swyddog Gweithredol gyhoeddi bod gofalwr ifanc wedi’i gyflogi gan NEWCIS ym mis Rhagfyr a bod cyllid ar gael i gefnogi gofalwr ifanc i ddechrau ei fusnes ei hun. Disgrifiodd frwdfrydedd y bobl ifanc, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig presennol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at adran 1.11 yr adroddiad a oedd yn datgan bod 201 o atgyfeiriadau newydd wedi’u derbyn rhwng Gorffennaf a Medi 2020. Esboniodd y Prif Swyddog Gweithredol mai’r cyhoeddusrwydd mewn partneriaeth â’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn bennaf gyfrifol am hyn ac yn sgil ... view the full Cofnodion text for item 27. |
|
Diweddariad Marleyfield House PDF 97 KB Derbyn adroddiad ar gynnydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion adroddiad a oedd yn disgrifio’r cynnydd. Dywedodd bod y prosiect 32 gwely i ehangu T? Marleyfield ym Mwcle yn mynd rhagddo yn awr, gan gynyddu’r capasiti mewnol o 90 i 112. Dechreuodd y gwaith ym mis Ebrill 2020 ac roedd y cynnydd wedi bod yn sylweddol a’r dyddiad cwblhau oedd 21 Mai 2021, gyda’r dyddiad agor yn ystod ail wythnos Mehefin 2021. Byddai’r preswylwyr yn symud i mewn fesul cam.
Dywedodd yr Uwch Reolwr bod cyllid cyfalaf ar gael i adnewyddu’r T? Marleyfield gwreiddiol ac roedd gwaith yn cael ei wneud i du allan a thu mewn i'r adeilad er mwyn diweddaru ei ymddangosiad. Estynnodd wahoddiad i’r Pwyllgor ymweld â’r eiddo cyn iddo gael ei agor, yn unol â chanllawiau Covid-19 a dywedodd y gellir cydlynu’r ymweliad hwn drwy’r Cadeirydd a Hwylusydd y Pwyllgor yn agosach at yr amser. Esboniodd y byddai’r model cymorth yn cynnwys 16 lleoliad i ryddhau, er mwyn asesu ac adfer, “cyfleuster camu i lawr” ac 16 o leoliadau ychwanegol tymor hwy, a chynnal rhywfaint o hyblygrwydd o ran y lleoliadau er mwyn cyflawni anghenion gwasanaeth. Ychwanegodd y byddai’r hyn a ddysgwyd wrth agor T? Treffynnon yn sail i’r gwaith o asesu ac adfer lleoliadau. Derbyniwyd cefnogaeth dda gan BCUHB a sicrhawyd cyllid ar gyfer uwch ymarferydd nyrsio yn ogystal â chefnogaeth gan nyrsys ardal, a byddai meddyg ymgynghorol yn gyfrifol am oruchwylio’r gwelyau.
Croesawodd y Cynghorydd Carol Ellis y diweddariad, a dywedodd ei bod yn falch iawn o’r cynnydd a gyflawnwyd a’i bod yn edrych ymlaen at agoriad y cyfleuster ym Mwcle. Diolchodd i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Gwasanaeth a’r holl staff perthnasol a hefyd i arweinydd blaenorol y Cyngor am symud y fenter hon yn ei blaen ar ran trigolion Bwcle a Sir y Fflint.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan Carole Ellis a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd David Wisinger.
PENDERFYNIAD:
(a) Mae’r Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Ehangu T? Marleyfield fel blaenoriaeth strategol i’r Gwasanaethau Cymdeithasol;
(b) Mae’r Pwyllgor yn nodi gweithgareddau allweddol y prosiect ar ddod, gan gynnwys datblygu a chyflwyno’r model gweithredol gyda’r Bwrdd Iechyd.
|
|
Plas yr Ywen (Gofal Ychwanegol Treffynnon) PDF 107 KB Derbyn adroddiad ar gynnydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig a’r Arweinydd Oedolion yr adroddiad i roi gwybodaeth am gynnydd cyfleuster gofal ychwanegol newydd gwerth £8.5 miliwn yn Nhreffynnon. Er y dylai’r cyfleuster fod wedi agor ym mis Mawrth 2020, dywedodd bod y rheoliadau tân wedi newid cyn ei agor a bod hyn wedi golygu gwneud gwaith pellach er mwyn cyflawni’r rheoliadau newydd. Hefyd, roedd Covid-19 wedi creu heriau ychwanegol, ac roedd hyn wedi golygu mwy o amser i gwblhau’r datblygiad. Bydd y cyfleuster yn cynnig 55 o randai moethus gyda nifer ohonynt yn cael eu clustnodi ar gyfer pobl â Dementia. Ychwanegodd bod datrysiad digidol clyfar newydd yn cael ei ddefnyddio yng nghynllun Plas yr Ywen (Hwb Byw Appello), a oedd yn cynnwys nodweddion fel larwm argyfwng digidol, galwadau llais a fideo, hysbysiadau, mynediad drws fideo, cydnawsedd teleofal a chysylltedd cartref clyfar. Y buddiannau i’r staff oedd cofnodion galwadau a hanes 7 niwrnod, rheoli dyfeisiau larwm gwddf, rhybuddion a hysbysiadau oes batris.
Dywedodd yr Uwch Reolwr, er bod y lleoedd yn llawn fis Mawrth y llynedd, nid oedd angen lle mwyach ar rai o’r bobl y dyrannwyd lle ar eu cyfer, am resymau amrywiol. Darparodd sicrwydd bod 45 o geisiadau ac y byddai pobl yn symud i mewn cyn gynted ag y byddai’n ymarferol. Y nod oedd dilyn traean angen lefel uchel, traean lefel canolig a thraean nad oes angen cymorth arnynt eto. Roedd y staff a oedd wedi’u recriwtio wedi’u dosbarthu i feysydd gwaith arall i ddarparu gofal, e.e. T? Treffynnon. Byddai’r dyddiad agor yn cael ei adolygu ym mis Chwefror, gyda’r bwriad o agor yng nghanol mis Mawrth, yn amodol ar y mesurau cyfyngiadau symud.
Croesawodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol y sylwadau cadarnhaol gan yr Aelodau. Cyfeiriodd at Gynllun y Cyngor a sut yr oedd y ddarpariaeth yn cael ei chynyddu er mwyn gwneud yn si?r bod Sir y Fflint yn ddarparwr arweiniol yn y Sir a dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn dangos ymrwymiad i ehangu’r ddarpariaeth fewnol ymhellach yn y dyfodol. Croesawodd y Cadeirydd y sylwadau gan y Prif Swyddog a dywedodd ei bod yn gobeithio y byddai’r Cyngor yn parhau i adeiladu cyfleusterau gofal ychwanegol yn y dyfodol, ac awgrymodd nad oedd ardaloedd fel Penyffordd, Brychdwn ac ardaloedd eraill yn derbyn darpariaeth yn y cyfnod presennol.
Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan David Wisinger a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNIAD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnydd Cynllun Gofal Ychwanegol Plas yr Ywen a’r amserlen weithredol.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.
|