Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor mai Gr?p y Democratiaid Rhyddfrydol a fydd yn cadeirio’r Pwyllgor hwn. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor mai’r Cynghorydd Hilary McGuill yw Cadeirydd y Pwyllgor am y flwyddyn ddinesig hon.
Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor fod o’r Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol. Gan fod y Cynghorydd Hilary McGuill wedi ei phenodi i’r swydd hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor nodi hyn.
PENDERFYNWYD:
Bod y pwyllgor yn cadarnhau penodiad y Cynghorydd Hilary McGuill fel Cadeirydd y Pwyllgor.
(O’r pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill weddill y cyfarfod)
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd David Wisinger y Cynghorydd Gladys Healy fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn.
Enwebodd y Cynghorydd Veronica Gay y Cynghorydd Dave Mackie fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Pwyllgor am ddangos ffydd ynddi unwaith eto.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Dim.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Mawrth 2019.
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2019.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 61: cyfeiriodd y Cadeirydd at gau Windmill ym Mwcle a gofynnodd os oedd trefniadau amgen wedi’u trefnu ar gyfer yr unigolion a’u teuluoedd a oedd yn cael eu heffeithio. Fe eglurodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion, fod dau weithiwr cymdeithasol wedi’u penodi i edrych ar y trefniadau ar gyfer yr unigolion a arferai fynychu Windmill, ac roedd pawb wedi cael cefnogaeth gofal dydd arall, a bu’r adborth yn gadarnhaol.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr PDF 96 KB Pwrpas: Ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwyr ar gyfer Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol 2018/19 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer 2018/19. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd mai pwrpas Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol oedd nodi’r daith tuag at welliant a gwerthuso perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth ddarparu gwasanaethau i bobl sydd yn hybu eu lles ac yn eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
Atodwyd yr adroddiad i Adroddiad Blynyddol drafft y Gwasanaeth Cymdeithasol 2018/19, gyda’r bwriad o roi darlun gonest o wasanaethau yn Sir y Fflint i’r cyhoedd, y rheoleiddiwr a budd-ddeiliaid ehangach, a dangos dealltwriaeth glir o’r cryfderau a’r heriau a wynebir. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r adroddiad yn ffurfio rhan bwysig o werthusiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint. Roedd y gwerthusiad hefyd yn hysbysu asesiad Swyddfa Archwilio Cymru o Gyngor Sir y Fflint fel rhan o’r adroddiad gwella blynyddol.
Eglurodd y Prif Swyddog y paratowyd yr Adroddiad Blynyddol yn dilyn adolygiad trylwyr o berfformiad presennol gan Uwch Dîm Rheoli Gwasanaethau Cymdeithasol, Rheolwr Gwasanaeth a Swyddogion Perfformiad. Roedd y blaenoriaethau gwella o fewn yr adroddiad yn alinio â'r blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Busnes y Portffolio, Cynllun Gwella’r Cyngor a chynlluniau effeithlonrwydd cysylltiedig. Fe soniodd y Prif Swyddog am y blaenoriaethau gwella a nodwyd ar gyfer 2019/20, fel y manylir arnynt yn yr adroddiad.
Diolchodd y Cynghorydd David Healey i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ac am adroddiad cynhwysfawr. Fe soniodd am yr argyfwng ym maes gofal iechyd parhaus mewn rhai ardaloedd o’r Deyrnas Unedig a’r risg i ddarpariaeth gwasanaethau gofal yn y sector preifat oherwydd diffyg cyllid. Gofynnodd a oedd yr Awdurdod hefyd mewn perygl a pha gefnogaeth oedd yn cael ei ddarparu i gynorthwyo pobl i aros yn annibynnol a pharhau i fyw yn eu cartrefi ac yn benodol, cleifion oedd yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty. Fe awgrymodd y dylid edrych ar y meini prawf i fod yn gymwys am ofal yn y cartref i alluogi rhagor o bobl i dderbyn cefnogaeth gan ddarparwyr gofal er mwyn gwneud addasiadau i’w cartrefi. Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Healey am ei sylwadau cadarnhaol ac wrth ymateb i’w gwestiynau dywedodd fod y risg i wasanaethau gofal sy’n cael eu darparu yn y sector ehangach oherwydd diffyg cyllid yn real i’r Awdurdod ac yn genedlaethol. Fe soniodd am yr achos diweddar o lobïo gan y Prif Weithredwr a’r Aelodau i Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o gyllid ar gyfer gwasanaethau allweddol i awdurdodau lleol gan ddweud nad oedd y cyllid presennol yn gynaliadwy.
Wrth grynhoi, rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd yngl?n â darpariaeth gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir y Fflint. Ymatebodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion i gwestiwn gan y Cynghorydd Healey yngl?n â chefnogaeth i helpu pobl aros yn annibynnol a pharhau i fyw gartref a chyfeiriodd at ail-alluogi pan fydd pobl yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ailgylchu cymhorthion a chyfarpar i gynorthwyo ag annibyniaeth, a grantiau cyfleusterau i'r anabl.
Dywedodd y Cadeirydd ei bod ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Estyniad Marleyfield House PDF 102 KB Pwrpas: Darparu aelodau gydag adroddiad cynnydd o ran yr estyniad i Ofal Cartref Marleyfield House. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad ag estyniad Cartref Gofal Marleyfield House, Bwcle. Cyflwynodd Michael Jones a Gareth Stapley-Jones, Swyddogion Cynllunio a Datblygu, Gwasanaethau Cymdeithasol i’r cyfarfod.
Rhoddodd yr Uwch-reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion wybodaeth gefndirol a dywedodd y byddai datblygu Marleyfield House yn cynyddu capasiti o 32 gwely ychwanegol a darparu llety i gefnogi 64 o bobl. Yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb cychwynnol, rhoddwyd cymeradwyaeth i gysylltu â chwmni adeiladu er mwyn bwrw ymlaen â’r prosiect. Cynigiwyd dyluniad diwygiedig, modern ac arloesol oedd yn gwneud y mwyaf o dopograffi’r tirwedd gan ddarparu llety pwrpasol; effeithlon ar gyfer ystod o wasanaethau a fyddai’n cael eu darparu. Mae’r cynlluniau yn galluogi rhagor o ymarferoldeb gweithrediadau, cysylltiadau agosach gyda chyfleusterau presennol, ac adferiad wedi’i gefnogi ar gyfer preswylwyr tymor byr a lles ar gyfer preswylwyr hir dymor. Sicrhawyd buddsoddiad ar gyfer y datblygiad trwy Grant Cyfalaf fel rhan o Gronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru gyda buddsoddiad ychwanegol o Raglen Cyfalaf y Cyngor. Roedd cais yn cael ei gyflwyno i’r Rhaglen Tai Arloesol i gael rhagor o gefnogaeth ar gyfer y prosiect hefyd.
Cyflwynodd y Swyddogion Cynllunio a Datblygu argraff arlunydd o’r estyniad, gan egluro’r cynlluniau a’r gosodiad.
Siaradodd Aelodau i gefnogi’r prosiect a’r dull arloesol o gefnogi unigolion mewn lleoliadau preswyl. Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd Swyddogion i’r cwestiynau a ofynnwyd yngl?n â lefelau staffio, dalgylchoedd, darpariaeth ar gyfer pobl gyda dementia, a chyfleusterau gofal dydd a seibiant.
Gofynnodd y Cynghorydd David Healey pam fod paneli solar heb gael eu cynnwys yn y dyluniad. Cytunwyd y byddent yn gofyn am ragor o wybodaeth am ddefnydd posibl paneli solar gan Gomisiwn Dylunio Cymru.
Mynegodd y Cadeirydd bryderon na fyddai’r trefniadau parcio arfaethedig yn ddigonol a gofynnodd a oedd modd cynyddu’r ddarpariaeth heb gyfaddawdu ar ofynion cynllunio. Roedd y Swyddogion yn cydnabod y pwyntiau a wnaed, gan egluro fod nifer o staff wedi mynegi eu bod yn dymuno beicio i’r gwaith a fyddai’n lleihau nifer y meysydd parcio oedd eu hangen ymhellach.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Estyniad Marleyfield House fel blaenoriaeth strategol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am y Trydydd Sector PDF 103 KB Pwrpas: Arolwg blynyddol o’r gweithgareddau gofal cymdeithasol yr ymgymerir â hwy gan y trydydd sector yn Sir Y Fflint Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am adolygiad blynyddol o weithgarwch gofal cymdeithasol a gynhaliwyd gan y Trydydd Sector yn Sir y Fflint. Siaradodd am y trydydd sector/sector gwirfoddol oedd yn ffynnu sydd yn darparu cefnogaeth a gwasanaethau amhrisiadwy i breswylwyr Sir y Fflint a’r berthynas waith da rhwng yr Awdurdod a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint. Yn yr adroddiad cafwyd trosolwg o’r ystod o wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghyd â manylion am y gwasanaethau diweddar a gynhaliwyd i adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd trwy’r trydydd sector i sicrhau eu bod yn parhau i fodloni anghenion pobl yn Sir y Fflint. Cafwyd manylion yn yr adroddiad hefyd ynghylch y dull a gymerwyd i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd a chafwyd diweddariad am gyfleoedd dydd a gwaith anableddau dysgu a’r cynlluniau ar gyfer comisiynu gwasanaethau gofalwyr yn 2019/20.
Fe eglurodd yr Uwch-reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod Sir y Fflint wedi meithrin perthynas waith cryf gyda phartneriaid trydydd sector ac wedi parhau i fuddsoddi yn y sector drwy gomisiynu lle y bo’n briodol, i gyflwyno gwasanaethau yn y gymuned gan eu bod yn aml yn y sefyllfa orau i ymgysylltu a chefnogi unigolion a’u gofalwyr. Fe soniodd am y prif ystyriaethau fel y manylir yn yr adroddiad yngl?n a gwaith Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, Gwasanaethau Gofalwyr, Gwasanaethau Anableddau, Eiriolaeth Oedolion, Eiriolaeth Plant, Partneriaeth Strategol Gweithredu dros Blant, Un Pwynt Mynediad ac Iechyd Meddwl.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cafwyd rhagor o fanylion am Un Pwynt Mynediad.
Fe soniodd y Cynghorydd Veronica Gay am Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-Ddwyrain Cymru (GOGDdC). Eglurodd yr Uwch-reolwr, Diogelu a Chomisiynu fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint wedi cyflwyno ystod o wasanaethau cefnogaeth ar gyfer gofalwyr mewnol a’r rhai a gomisiynwyd trwy sefydliadau trydydd sector allanol. Fe soniodd am y gwaith hynod o werthfawr oedd yn cael ei ddarparu gan GOGDdC i gefnogi gofalwyr, unigolion a theuluoedd, a dywedodd fod GOGDdC yn gweithio mewn perthynas agos gyda’r Awdurdod i gyflwyno rhai o’r prif wasanaethau sydd eu hangen o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.
Siaradodd y Cynghorydd Martin White i gefnogi'r gwaith gwerthfawr oedd yn cael ei ddarparu gan ofal cymdeithasol y trydydd sector ar gyfer y boblogaeth leol ac awgrymodd bod y Cadeirydd yn anfon llythyr diolch i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint ar ran y Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cefnogi gweithgareddau gofal cymdeithasol sy’n cael eu darparu yn y trydydd sector yn Sir y Fflint; a
(b) Diolch i Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint am ei rôl.
|
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor.
Cofnodion: Rhoddodd y Cynghorydd Mike Lowe adborth am ei ymweliad gyda'r Cynghorydd Andy Dunbobbin i ganolfan Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru ym Mhenarlâg. Dywedodd fod safon uchel y gwasanaeth a’r gweithdrefnau trylwyr i sicrhau glanweithdra yr offer sy’n cael ei ddarparu i unigolion wedi creu argraff arno. Dywedodd fod Rheolwr y Ganolfan wedi eu tywys o amgylch yr adeilad a rhoi cyflwyniad iddynt a fu’n ddiddorol iawn.
Diolchodd y Cynghorydd Christine Jones i’r Cynghorydd Lowe am ei sylwadau cadarnhaol a dywedodd ei bod wedi gwahodd Rheolwr Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru i roi cyflwyniad i’r Gwasanaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.
Fe soniodd y Cynghorydd Mike Allport am ei ymweliad i Gartref Gofal Croes Atti a dywedodd fod yr ymweliad wedi bod yn gadarnhaol ac nad oedd ganddo bryderon i’w mynegi. Dywedodd ei fod wedi cael croeso cynnes ac roedd staff yn frwdfrydig a chynorthwyol. Roedd wedi siarad gyda phreswylwyr/defnyddwyr unigol a oedd yn fodlon gyda’r gofal a gwasanaethau a ddarparwyd.
Rhoddodd y Cadeirydd adborth am ei hymweliad i Gartref Gofal Llys Gwenffrwd. Dywedodd fod preswylwyr yn hapus ac yn fodlon gyda’r gwasanaethau ac fe soniodd am y gwelliannu i’r fynedfa y tu allan i’r adeilad a oedd yn ardderchog. Dywedodd ei bod wedi cael gwahoddiad gan Llys Gwenffrwd i fynychu eu Ffair Haf ar 22 Mehefin.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai adroddiad ar Argyfwng Gofal Iechyd Parhaus yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod nesaf a fyddai’n cael ei gynnal ar 18 Gorffennaf. Dywedodd y byddai dolen i’r ymgynghoriad ar Ofal Iechyd Parhaus yn cael ei anfon i’r Pwyllgor cyn hynny.
Cyfeiriodd y Swyddog at yr eitem am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y GIG a oedd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf a dywedodd fod y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) wedi awgrymu y gallai’r Pwyllgor wahodd Ysbyty Iarlles Caer i fynychu’r cyfarfod. Cytunodd y Pwyllgor i hyn. Gofynnwyd i’r aelodau anfon cwestiynau i Hwylusydd Cymdeithasol ac Iechyd BIPBC ac Ysbyty Iarlles Caer cyn y cyfarfod.
Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Christine Jones fe gytunwyd bod cyflwyniad gan Reolwr Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei gynnwys ar Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo.
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod Ysbyty Iarlles Caer yn cael ei wahodd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Gorffennaf 2019.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol ac nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 2.30pm a daeth i ben am 4.10pm)
|