Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Cynigion Cam 2 Cyllideb 2019/20 PDF 81 KB Pwrpas: Ystyried cynigion cam 2 y gyllideb ar gyfer y Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2019/20 Cofnodion: Cyn cyflwyno’r adroddiad, rhoddodd y Cadeirydd sylw ar fanylder yr adroddiad a gofynnodd a fyddai unrhyw wybodaeth ychwanegol yn cael ei dosbarthu yn y cyfarfod. Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod y datganiadau dull a’r datganiadau gwytnwch sy’n cefnogi pwysau cyllidebol 2019/20 a chynigion effeithlonrwydd wedi’u cynhyrchu fel dogfennau cefndir a bod copïau ar gael ar gais. Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod y cynigion effeithlonrwydd a nodwyd yn yr adroddiad yn fychan ac yn risg bychan neu ddim risg o gwbl.
Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad i roi gwybod am y pwysau ariannol ac effeithlonrwydd a nodwyd ar gyfer y portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer cyllideb 2019/20. Rhoddodd wybod bod gweithdai Aelodau wedi’u cynnal ar 13 a 23 Gorffennaf ac 18 Medi, 2018 lle darparwyd gwybodaeth ar y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf yng nghyd-destun y sefyllfa genedlaethol gyffredinol. Cynhaliwyd gweithdy ychwanegol yn benodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar 10 Hydref 2018 a roddodd gyfle i Aelodau ddeall y cyllidebau portffolio mewn rhagor o fanylder ac ystyried lefelau risg a gwytnwch bob maes gwasanaeth.
Rhoddodd y Prif Swyddog a’r Uwch Reolwr – Diogelu a Chomisiynu esboniad manwl ynghylch pwysau a buddsoddiadau portffolio, ynghyd ag effeithlonrwydd cynllunio busnes portffolio a’r rhai sy’n deillio o bolisi Llywodraeth Cymru (LlC), fel y nodwyd yn yr adroddiad. Pwysleisiodd y Prif Swyddog yr angen i barhau i ddarparu gwasanaethau gofal fforddiadwy ac o ansawdd i breswylwyr yn Sir y Fflint.
Rhoddodd y Cynghorydd David Healey sylw ar y pwysau ariannol o leoliadau y tu allan i’r sir a gofynnodd a yw’r Bwrdd Iechyd yn gwneud unrhyw gyfraniad ariannol os yw’r lleoliad o ganlyniad i anghenion iechyd yr unigolyn. Esboniodd y Prif Swyddog bod cyfraniadau ariannol yn cael eu gwneud gan y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Gwasanaeth Addysg os yw’n briodol. Roedd angen i’r Bwrdd Iechyd gyfrannu swm teg i sicrhau nad oedd y Cyngor yn cael ei adael gydag unrhyw faich ariannol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y cyfanswm a ddangoswyd ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir, esboniodd y Prif Swyddog bod y cyfanswm a ddangoswyd yn cynnwys y pwysau ariannol ar y portffolio addysg ar gyfer elfen addysgol y lleoliadau y tu allan i’r sir.
Diolchodd y Cynghorydd Kevin Hughes i’r swyddogion yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd wedi parhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol. Rhoddodd sylw ar bwysau ariannol y lleoliadau tu allan i’r sir a gofynnodd a oedd dewisiadau i gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi’u harchwilio er mwyn lleihau’r pwysau. Diolchodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Hughes am ei sylwadau a bydd yn eu pasio ymlaen i'r holl swyddogion yn dilyn y cyfarfod. Dywedodd bod potensial ar gyfer gwaith pellach ar y cyd gyda Wrecsam a Chynghorau eraill Gogledd Cymru ond bod gwaith ar y gweill drwy’r Uwch Reolwr – Plant a Gweithlu i gynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol cyfredol gyda’r sgiliau angenrheidiol i ehangu eu busnes yn Sir y Fflint.
Mewn ymateb i ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |