Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2018.
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2018.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.
|
|
Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru: Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru Pwrpas: Derbyn cyflwyniad gan Carol Williams, y Dirprwy Brif Swyddog a Linda Harper, Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint.
Cofnodion: Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Carol Williams, Dirprwy Brif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymuned, a Linda Harper, Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint, i’r cyfarfod. Fe’i gwahoddodd hwy i roi cyflwyniad ar y Cyngor Iechyd Cymuned:Gwella gwasanaethau iechyd i bobl yng Ngogledd Cymru. Pwyntiau allweddol y cyflwyniad oedd:
· Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru · beth mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn ei wneud · sut mae’r Cyngor Iechyd Cymuned yn gweithio · enghreifftiau Sir y Fflint o waith y Cyngor Iechyd Cymuned · pwyntiau allweddol y Cyngor Iechyd Cymuned
Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog a Chadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint am eu cyflwyniad a gwahoddodd Aelodau i godi cwestiynau.
Aeth y Dirprwy Brif Swyddog ati i godi ymwybyddiaeth yngl?n â’r ymgyrch am sganiau MRi ar gyfer y prostad a dywedodd fod nifer o gleifion wedi gorfod ariannu sganiau eu hunain.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned wedi gwneud sylwadau a bod costau nawr yn cael eu had-dalu i bobl.Dywedodd fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn parhau i gefnogi teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ward Tawel Fan. Fe wnaeth y Dirprwy Brif Swyddog sylw ar yr angen i dâl a gaiff ei godi am barcio ceir mewn ysbytai i fod yn rhesymol ac am bwysigrwydd cadw canol trefi yn fywiog.Yn dilyn awgrym gan Gadeirydd y Pwyllgor cytunwyd fod llythyr yn cael ei anfon i Aelodau Cynulliad yng Ngogledd Cymru cyn i’r e-ddeiseb gael ei hystyried gan Lywodraeth Cymru ar 13 Chwefror yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd i sicrhau nad yw sganio am gancr y prostad yn destun loteri côd post yng Nghymru. Fe wnaeth y Cynghorydd David Healey sylw ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yn Sir y Fflint a dywedodd ei bod yn anodd ffurfio barn.Teimlai un ai fod yna fwy o ymwybyddiaeth neu fod yna gynnydd mawr yn y galw am wasanaethau iechyd meddwl. Gofynnodd sut mae'r ddarpariaeth o ran iechyd meddwl yn Sir y Fflint yn cymharu â gwasanaethau iechyd meddwl a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol eraill gan fod rhestrau aros iechyd meddwl ar gyfer gwasanaethau wyneb i wyneb yn bryder.Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Healey at Parabl a dywedodd ei bod yn ymddangos fod yna amheuaeth a fyddai’r sefydliad hwn yn parhau. Cyfeiriodd y Dirprwy Brif Swyddog at y cyfarfod tîm iechyd meddwl ar y cyd a oedd wedi ei gynnal rhwng Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a dywedodd fod Parabl yn sefydliad trydydd sector a oedd yn cynnig therapïau siarad i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.Roedd yn cydnabod fod yna restr aros hir i rai gwasanaethau iechyd meddwl a dywedodd fod hyn yn broblem barhaus.Dywedodd fod Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, yn dilyn trafodaethau rhwng Cadeirydd y Bwrdd Iechyd a'r Cyngor Iechyd Cymuned, wedi cytuno i ddarparu mwy o wybodaeth yn ymwneud â’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl o fewn BIPBC. Cyfeiriodd Cadeirydd Pwyllgor Lleol Sir y Fflint at y mesurau arbennig a osodwyd ar y Bwrdd Iechyd a dywedodd fod iechyd ... view the full Cofnodion text for item 51. |
|
Strategaeth Rhianta Sir y Fflint PDF 291 KB Pwrpas: I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Rhianta Sir y Fflint, Fframwaith a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd, cyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithle, yr adroddiad i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am Fframwaith Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a’r gwaith a wneir i ddarparu cefnogaeth rhianta o ansawdd a sy’n gyson ar draws Sir y Fflint gan gymryd i ystyriaeth y cynigion ariannu yn y dyfodol o ran hyblygrwydd cyllid a’r canlyniadau gofynnol. Cyflwynodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, y Blynyddoedd Cynnar a Chefnogi Teuluoedd, a gwahoddodd hi i gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth wybodaeth gefndir ac eglurodd fod dwy Strategaeth Rianta wedi eu cyhoeddi yn Sir y Fflint ers 2007 gyda Strategaeth Rhianta Sir y Fflint wedi ei lansio yn 2018 (wedi ei atodi i’r adroddiad).Mae’r Fframwaith Rhianta yn rhoi manylion yngl?n â chynaliadwyedd a datblygiadau pellach rhaglenni rhianta ac mae’n ffurfio rhan o strategaeth ehangach ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal yn Sir y Fflint. Goruchwyliwyd y gwaith gan y Gr?p Strategol aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y gwaith yn Sir y Fflint ochr yn ochr â Rhianta yng Nghymru, canllawiau ar ymgysylltu a chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Roedd llwyddiant y Strategaethau a'r Fframwaith mewn galluogi cefnogaeth rhianta o ansawdd da o ganlyniad i alinio'r polisi gyda gweithredu yn lleol, cyllid pwrpasol, rôl cydlynydd rhianta pwrpasol, trosolwg strategol drwy’r gr?p aml asiantaeth Rhianta yn Sir y Fflint a’r cydweithio rhwng nifer o wasanaethau i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth rhianta o ansawdd.
Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth am y prif ystyriaethau, fel nodwyd yn yr adroddiad, yn ymwneud â'r Strategaeth Rhianta, cyd-destun polisi.
Manteisiodd y Rheolwr Gwasanaeth ar y cyfle i ddarllen llythyr o gefnogaeth gan yr Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Bangor, i'r gwaith ar Fframwaith a Strategaeth Rhianta Sir y Fflint a gwaith y gr?p strategol aml asiantaeth, y rôl cydlynydd a’r canlyniadau. Hefyd mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ei llongyfarchiadau a’i gwerthfawrogiad i'r Rheolwr Gwasanaeth am y gwaith caled a'r canlyniadau cadarnhaol a gyflawnwyd.
Ceisiodd y Cynghorydd Gladys Healey gael sicrwydd fod cefnogaeth mewn lle i gynorthwyo teuluoedd aml ddiwylliannol ac y ceisir cymorth gan sefydliadau eraill i helpu gyda’r dasg hon.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth y gallai iaith fod yn rhwystr a bod cefnogaeth yn cael ei ddarparu i oresgyn hyn. Rhoddodd yr Ymarferydd Rhianta Arweiniol sicrwydd fod yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol yn ystyriaeth allweddol o fewn y Gwasanaeth a chyfeiriodd at yr adnoddau a’r cymorth a ddarparwyd mewn ieithoedd eraill. Hefyd fe wnaeth y Rheolwr Gwasanaeth sylw ar yr angen i ddarparu cefnogaeth aml ddiwylliannol i fynd i’r afael â materion diogelu.
Gofynnodd y Cynghorydd Kevin Hughes pa gymorth oedd ar gael i neiniau a theidiau oedd â chyfrifoldeb fel prif ofalwyr dros eu hwyrion a'u hwyresau.Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth tra nad oedd yna unrhyw raglen benodol ar gyfer neiniau a theidiau roedd pwysigrwydd eu rôl yn cael ei gydnabod ac roeddent yn cael eu croesawu a'u hannog i ymgysylltu gyda'r Gwasanaeth i sefydlu cysylltiadau ... view the full Cofnodion text for item 52. |
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor
Cofnodion: Nid oedd unrhyw adroddiad ar ymweliadau rota. Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymdeithasol ac Iechyd y byddai rhestr newydd o ymweliadau rota yn cael eu dosbarthu i Aelodau yn y dyfodol agos.
|
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Cymdeithasol ac Iechyd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol i’w hystyried. Dywedodd fod yr eitem ar Ofal Dydd Anableddau Dysgu a’r Model Cyflawni Amgen Cyfleoedd Gwaith wedi ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2018, ac i osgoi dyblygu llwyth gwaith roedd wedi ei dynnu oddi ar y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Dywedodd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor yn cael ei gynnal ddydd Iau, 28 Mawrth 2019, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:
· Monitro Cynllun y Cyngor Q3 · Y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd estyniad Marleyfield House · Oedi wrth drosglwyddo gofal/Un Pwynt Mynediad
Bydd sesiwn fer yn cael ei chynnal ar gychwyn y cyfarfod i ystyried fformat Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Eglurodd yr Uwch Reolwr, Plant a'r Gweithle, ei fod, yn dilyn trafodaeth mewn cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor, wedi cwrdd â chynrychiolwyr o Barnardo’s a Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru. Awgrymodd fod cynrychiolwyr o’r ddau sefydliad yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod adnabod gofalwyr ifanc.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Gwahodd cynrychiolwyr o Barnardo’s a Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru i fynychu cyfarfod yn y dyfodol i drafod adnabod gofalwyr ifanc.
|
|
Aelodau o'r Wasg a'r Cyhoedd yn y Cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 am a daeth i ben am 11.35 am)
|