Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Llys Raddington, Earl Street, Flint CH6 5ER
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 4 Hydref 2018.
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2018.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Model Dilyniant - Anableddau Dysgu PDF 102 KB Pwrpas: Derbyn adroddiad ar y Model Dilyniant Anableddau Dysgu. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig Oedolion / Blynyddoedd Cynnar yr adroddiad yn amlygu’r gwaith sy’n cael ei wneud drwy’r Model Dilyniant i gefnogi pobl gydag anableddau i fod yn fwy annibynnol ac i ddibynnu llai ar wasanaethau cymorth y mae'n rhaid talu amdanynt.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod y Model Dilyniant yn seiliedig ar asesiadau cryfder sy’n gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer annibyniaeth, gan helpu defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol. Nod y model yw gwneud y mwyaf o annibyniaeth a gwneud gofal yn fforddiadwy drwy ddibynnu llai ar ofal tymor hir. Mae gweithwyr wedi'u hyfforddi ar bob lefel, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol a’r gweithlu uniongyrchol yn datblygu cynllun, a’r unigolyn yn cymryd camau bychain tuag at annibyniaeth. Dywedodd yr Uwch Reolwr fod yr Awdurdod wedi gweithio mewn partneriaeth gyda tri dyn ifanc a’u teuluoedd er mwyn datblygu model o fyw â chymorth gyda’r nod o gynyddu annibyniaeth, risg positif gyda diwylliant galluogi, gan ddefnyddio technoleg gynorthwyol a chymorth wedi’i deilwra’n bersonol. Ar hyn o bryd mae'r tri dyn ifanc yn byw bywydau amrywiol, annibynnol a diddorol.
Rhoddodd yr Uwch-Reolwr ddiweddariad i ni ar y sefyllfa gyfredol a dywedodd fod 44 unigolyn wedi eu cefnogi gan ddefnyddio’r Model Dilyniant. Roedd y defnydd o'r Model yn cael ei ymestyn ar draws y Gwasanaethau Anableddau Corfforol a Dysgu a'r nod yw y byddai'r holl staff cymorth yn cael eu hyfforddi ac y byddai'n dod yn ddull arferol o arfer.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Uwch-Reolwr am ei diweddariad a gwahoddodd yr Aelodau i ofyn cwestiynau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill yngl?n â defnydd parhaol technoleg gynorthwyol i gefnogi unigolion, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod y trefniadau cymorth electronig yn dal yn eu lle i sicrhau bod yr unigolion yn gallu cyflawni gweithgareddau dyddiol yn eu cartref yn effeithiol i gynnal eu lles a'u diogelwch.
Mynegodd y Cynghorydd Gladys Healey bryder ar yr angen am gydweddoldeb cymdeithasol lle roedd nifer o bobl yn byw gyda’i gilydd. Eglurodd yr Uwch-Reolwr bod y Model Dilyniant yn gweithredu mewn amgylchedd wedi ei gyd-gynhyrchu sy’n llwyr gynhwysol, gyda’r unigolion a’u teuluoedd yn rheoli cynlluniau yn llwyr. Soniodd am y gwaith paratoi cynhwysol oedd wedi ei wneud gan weithwyr cymdeithasol yngl?n a lleoliadau a’r dyletswydd gofal oedd wedi bod yn ei le drwy gydol y cytundeb.
PENDERFYNWYD
(a) Bod y Pwyllgor yn cydnabod manteision system gymorth sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac yn defnyddio cymorth galluogi tymor byr lle bo'n briodol;
(b) Bod cymorth yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau gallu ymateb i newid mewn anghenion a dyheadau; a
(c) Bod y Pwyllgor yn cefnogi ymestyn y Model Dilyniant yn seiliedig ar yr egwyddor bod gwasanaethau yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda phobl gydag anableddau dysgu a’u rheini / gofalwyr er mwyn sicrhau bod cyfrifoldeb dros gyflawni’r deilliannau gorau posib yn cael eu rhannu. |
|
Diogelu - Oedolion a Phlant PDF 149 KB Pwrpas: Darparu Aelodau â gwybodaeth ystadegol yngl?n â Diogelu – Oedolion a Phlant Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ystadegol a gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad am gyd ddarpariaeth Diogelu Plant ac Oedolion o fewn ffiniau’r Sir. Dywedodd bod yr adroddiad hefyd yn amlygu’r amrywiaeth o waith a wneir gan yr Uned Ddiogelu, a gweithgarwch yr Uned. Roedd yr adroddiad yn crynhoi gwersi allweddol o adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.
Soniodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a gwahoddodd Reolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu i ddarparu trosolwg o'r gwaith sy’n ymwneud â chyfrifoldebau’r Uned Ddiogelu o safbwynt amddiffyn plant, diogelu oedolion, oedolion sydd mewn perygl, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Dan Ofal.
Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu hadroddiad ar y cyd.
Soniodd y Cynghorydd Kevin Hughes am y materion o ddiogelwch ar-lein, cam-drin ar y cyfryngau cymdeithasol, a dibyniaeth ar hapchwarae ar-lein, a gofynnodd pa beth oedd yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r problemau hyn a sut gallai dioddefwyr ddod o hyd i wybodaeth a chyngor. Llongyfarchodd y Cynghorydd Hughes yr Uned Ddiogelu ar eu gwaith ardderchog. Dywedodd na allai weld unrhyw gyfeiriad at ddiogelwch ar-lein yn yr adroddiad, a fyddai yn ei farn ef yn cwympo o dan diogelu. Gan gyfeirio at yr adroddiad ar Arolygiadau Dynladdiad a’r cyfeiriad at alwad 999 distaw, gofynnodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn iddynt gyhoeddi'r ffaith os oedd galwad 999 yn ddistaw, mae’n debygol na fyddai unrhyw ymateb i argyfwng.
Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu bod diogelwch ar-lein yn faes o fewn cylch gwaith yr uned ddiogelu a bod gwaith yn y maes hwn yn mynd rhagddo. Roedd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu yn cydnabod nad oedd diogelwch ar-lein yn cael ei drafod yn yr adroddiad, fod bynnag dywedodd bod yr uned yn ymwybodol iawn o ddiogelwch ar-lein a dywedodd y byddai unrhyw bryderon am ddiogelwch plant yn cael eu hystyried o fewn cynlluniau amddiffyn plant a chynlluniau llys. Cyfeiriodd hefyd at y Panel Pobl sydd ar Goll, wedi’u Camfanteisio arnynt ac wedi’u Masnachu (Missing Exploited Trafficked (MET)), sy'n banel ar y cyd â Wrecsam ac yn ymdrin â phopeth sy’n ymwneud ag achosion o gamfanteisio. Byddai hyn yn cynnwys pryderon am weithgarwch ar-lein.
Croesawodd y Cynghorydd Hilary McGuill y dull amlasiantaeth o rannu gwybodaeth. Canmolodd y gwaith ymyrraeth gynnar a’r gefnogaeth cam-drin domestig, ac awgrymodd y dylai ysgolion gael gwybod cyn y diwrnod ysgol os yw digwyddiadau wedi digwydd, ble bo hynny’n bosib. Awgrymodd y Cynghorydd McGuill y gallai ap i adrodd am fwlio ar ddyfeisiadau symudol fod yn arf defnyddiol.
Roedd Rheolwr Gwasanaeth Diogelu a Chomisiynu yn cytuno â sylwadau y Cynghorydd McGuill. Gan gyfeirio at fwlio, dywedodd er mai yn y maes addysg yr oedd hyn yn bodoli fwyaf, roedd hefyd yn gyfrifoldeb ar bawb.
Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi anfon cyfres o negeseuon e-bost yngl?n â pherson di-gartref yn cysgu ger ysgol feithrin ac nad oedd ... view the full Cofnodion text for item 34. |
|
Pwrpas: Ystyried canlyniadau'r arolwg o blant sy’n derbyn gofal Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau adroddiad i ystyried canfyddiadau a safbwyntiau plant dan ofal yn yr arolwg 'Your Life: Your Care’. Dywedodd bod yr holl blant dan ofal yn Sir y Fflint wedi eu holi i gymryd rhan mewn arolwg am eu lles yn ystod Chwefror – Mawrth 2018. Datblygwyd yr arolwg ‘Your Life: Your Care’ gan Coram Voice a Phrifysgol Bryste fel rhan o’r rhaglen Bright Spots. Roedd yr arolwg yn holi plant mewn gofal am eu bywydau, yn seiliedig ar y pethau oedd yn bwysig iddynt. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau y byddai'r awdurdod lleol yn defnyddio'r canfyddiadau allweddol i hysbysu datblygiad gwasanaethau a threfniadau cefnogi i blant mewn gofal.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau wybodaeth gefndirol ac eglurodd mai prif amcanion yr arolwg oedd nodi lle roedd yn ymddangos bod plant yn ffynnu, lle gellid gwella pethau, darparu dadansoddiad o brofiadau a lles plant yn seiliedig ar dystiolaeth, a hysbysu gwelliannau gwasanaeth. Cyhoeddodd yr arolwg dair dogfen yn atodol i’r adroddiad. Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau ar y canfyddiadau allweddol a meysydd datblygu yn deillio o’r arolwg, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd y byddai gwaith yn cael ei wneud drwy'r ymgynghoriad a'r fforwm ymgysylltu ar gyfer plant dan ofal a’u gofalwyr maeth i ddatblygu cynllun gweithredu wedi ei hysbysu i ddysgu, ac i ymestyn arferion da lle bo’n briodol, yn ogystal â gwella cefnogaeth mewn meysydd sydd i'w datblygu.
Soniodd y Cynghorydd Hilary McGuill ar yr ystadegyn oedd yn nodi nad yw 82% o blant (rhwng 8 ac 11 oed) yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn y broses gwneud penderfyniadau am eu bywydau, a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud er mwyn mynd i'r afael â hyn. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Adnoddau bod y wybodaeth yma wedi ei adrodd yn ôl i weithwyr cymdeithasol ac y byddai'n adborth i’r gwasanaeth Adolygu Annibynnol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi canfyddiadau a safbwyntiau plant dan ofal o adroddiad llawn ‘You Life, Your Care’ Sir y Fflint; a
(b) Cymeradwyo datblygiad cynllun gweithredu ar y cyd â phlant dan ofal, sy’n nodi ymateb yr awdurdod lleol i’r argymhellion allweddol a nodir yn adroddiad llawn Bright Spots. |
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor
Cofnodion: Nid oedd unrhyw adroddiadau ar ymweliadau rota. |
|
Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol er mwyn ei hystyried. Dywedodd y cynhaliwyd cyfarfod nesaf y Pwyllgor ddydd Iau, 13 Rhagfyr, er mwyn ystyried yr eitemau canlynol:
· Monitro Canol Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19 · Diweddariad ar adnoddau Gofal Ychwanegol Fflint a Threffynnon
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Healey at yr eitem ar Gyrhaeddiad Addysgol Plant Dan Ofal oedd wedi ei drefnu i’w ystyried gan y Pwyllgor ym mis Mai 2019 ac awgrymodd y gellid ystyried hyn yng Nghyd Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd er mwyn osgoi dyblygu gwaith. Ceisiwyd barn y Pwyllgor a chytunwyd cynnal cyfarfod ar y cyd â'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, y dyddiad i’w drefnu.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill am ddiweddariad ar wneud penderfyniadau gyda phobl ifanc yn dilyn canfyddiadau’r adroddiad Bright Spots.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|