Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 31 Ionawr 2019. Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2019.
Materion yn Codi
Cofnod rhif 51: Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru – eglurodd y Cynghorydd Bateman bod ei chwestiwn yn holi am amseroedd aros ar ôl brysbennu mewn Adrannau Damwain ac Argyfwng ac a oedd cleifion yn cael eu dosbarthu yn ôl eu cyflyrau tra’n aros ar ôl brysbennu.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd. |
|
Swyddogaeth a phroses Oedi wrth Drosglwyddo Gofal o leoliad ysbyty PDF 92 KB Pwrpas: Diweddaru aelodau mewn cysylltiad â pherfformiad Sir y Fflint o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar rôl a swyddogaeth y broses Oedi Wrth Drosglwyddo Gofal, strwythur gwaith cymdeithasol yn yr ysbyty a’i gydweithrediad â chydweithwyr Iechyd. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn digwydd pan fo claf yn barod i gael ei ryddhau o’r ysbyty i leoliad arall tu hwnt i’r dyddiad y cytunwyd gan y clinigydd arweiniol.
Roedd yr adroddiad yn nodi amrywiaeth o weithgareddau i leihau oedi o ran rhyddhau o’r ysbyty a oedd yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y gwasanaeth. Er bod cynnydd bychan wedi bod yn niferoedd oedi wrth drosglwyddo gofal ers y llynedd ar gyfer pobl dros 75 mlwydd oed, roedd perfformiad Sir y Fflint yn dda ar draws cynghorau Gogledd Cymru. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod dadansoddiad o gategorïau oedi wrth drosglwyddo gofal ar gael ar gais.
Darparodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fanylion am y cyfrifiad misol yn cynnwys casglu data gan dri ysbyty aciwt lleol a fyddai’n cynnwys data o Ysbyty Iarlles Caer o fis Ebrill. Roedd y cynnydd bychan i ffigyrau oedi wrth drosglwyddo gofal eleni o ganlyniad i’r nifer cynyddol o atgyfeiriadau a’r materion cymhleth cysylltiedig.
Cyflwynwyd yr Aelodau i'r Rheolwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Cyswllt Cyntaf ac Ardal Leol (Janet Bellis) a eglurodd fod y mwyafrif a oedd yn mynd i’r ysbyty bellach yn oedrannus gyda llawer iawn o gyflyrau iechyd a rhwydwaith cymorth teulu a oedd yn lleihau. Roedd y timau Gwaith Cymdeithasol ar draws y tri ysbyty yn cael eu cylchdroi yn ôl galw uchel, fodd bynnag roedd y tri ysbyty yn aml ar rybudd coch. Roedd y protocol rhyddhau o’r ysbyty yn cynnwys dull amlasiantaeth i gwrdd â disgwyliadau pobl i aros gartref am gyn hired â phosib.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y codau oedi wrth drosglwyddo gofal a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad a gofynnodd am ddadansoddiad o’r rhesymau dros y 44 achos o oedi wrth drosglwyddo unigolion yn ystod y flwyddyn bresennol. Esboniodd y Swyddogion, ymhlith yr holl godau oedi wrth drosglwyddo gofal, bod y mwyafrif yn ymwneud â’r rheiny yng nghategori 2, ‘trefniadau gofal yn y gymuned’, er enghraifft, problemau yn ymwneud â thai neu ofal yn y cartref, trefniadau lleoliadau gofal preswyl ac ati. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y Pwyllgor wedi derbyn diweddariad ar addasiadau Grant Cyfleusterau i’r Anabl ers peth amser. Dywedodd y Swyddogion fod lleoliadau ‘camu i lawr’ yn cael eu darparu pan fo oedi wrth drosglwyddo wedi digwydd achos bod unigolyn yn aros am addasiadau o’r fath.
Canmolodd y Cynghorydd Mackie wybodaeth y swyddogion ar y mater. Dywedodd bod y ffigyrau a adroddwyd gan Ystadegau Cymru yn dangos bod y rhan fwyaf o achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yn ymwneud â phroblemau y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac y dylid tynnu sylw at ymagwedd ragweithiol y Cyngor. Awgrymodd y dylid cynnwys eitem ar weithgareddau a oedd o gymorth i gadw unigolion o’r ysbyty ar y rhaglen yn y dyfodol.
Mewn ymateb i bryderon gan y Cynghorydd McGuill am heriau rhyddhau o’r ysbyty drwy’r ... view the full Cofnodion text for item 58. |
|
Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2018/19 PDF 124 KB Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2018/19. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad yn darparu crynodeb o’r sefyllfa yn ystod Chwarter 3 2018/19 o ran blaenoriaeth Cynllun y Cyngor, ‘Cyngor Cefnogol’, a oedd berthnasol i’r Pwyllgor.
Roedd hwn yn adroddiad cadarnhaol gydag 92% o’r gweithgareddau yn gwneud cynnydd da ac 85% yn debygol o gyflawni’r canlyniad a ddymunwyd. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol neu’n fân risgiau. O ran y canran o blant dan ofal gydag asesiad iechyd amserol, er gwaethaf ystod o gamau gweithredu, roedd yr heriau’n parhau a byddent yn cael eu codi eto yn ystod cyfarfod buan gyda phartneriaid Iechyd.
Ar yr un mater, siaradodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu am bwysigrwydd y gwaith a wnaed gan Julie Sproston, y Nyrs Plant Dan Ofal, a dderbyniodd ganmoliaeth am ei chyflwyniad diweddar ar ei rôl gan y Fforwm Gwasanaethau Plant.
Roedd yr unig risg fawr yn ymwneud ag ateb y galw am argaeledd gwlâu gofal mewn cartrefi nyrsio a phreswyl, lle’r oedd swyddogion yn ymchwilio i ddatrysiadau arloesol yn cynnwys modelau cydweithredol, fodd bynnag roedd heriau recriwtio a chadw staff mewn darpariaeth gofal yn parhau i fod yn broblem hirdymor.
Darparodd yr Uwch Reolwr, Diogelu a Chomisiynu wybodaeth am y risg i atgyfeiriadau diogelu oedolion a oedd wedi cael eu huwchraddio i wyrdd yn dilyn ailstrwythuro’r gwasanaeth ac adolygiad gan yr Adain Archwilio Mewnol. Dywedodd y byddai diweddariad Chwarter 4 yn adlewyrchu'r gwelliannau a gyflawnwyd a chawsant eu croesawu yn ystod ymweliad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Holodd y Cynghorydd Mackie am gywirdeb data ‘cyfnod gwirioneddol’ a ‘blwyddyn i’r dyddiad gwirioneddol’ ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Cytunodd yr Uwch Reolwr i atgyfeirio hyn at y Tîm Perfformiad, gan ychwanegu efallai bod rhai wedi’u heffeithio gan y prif weithgareddau a gynhaliwyd yn ystod y chwarter olaf.
Yn unol â’r cais gan y Cynghorydd McGuill, darparodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, drosolwg o’r prosiect asiantaeth ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru a oedd yn anelu i ddarparu dull hysbys Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod i blismona cymunedol. Ers cwblhau’r hyfforddiant, roedd lleihad bychan wedi bod o ran atgyfeiriadau CID i'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd yr Uwch Reolwr i ddosbarthu dolen i glip fideo lle'r oedd Swyddogion yr Heddlu yn disgrifio effaith yr hyfforddiant.
PENDERFYNWYD:
Bod adroddiad monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor 2018/19 yn cael ei nodi. |
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorwyr White a Dunbobbin adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliad â’r gwasanaeth dydd arbenigol yn yr Hen Fragdy yn Shotton ac roeddent wedi’u plesio’n arw gan ymroddiad y staff. Cymerodd y ddau’r cyfle i dynnu sylw at yr angen am wirfoddolwyr.
Cytunodd y Cynghorydd Bateman i fynd gyda'r Cynghorydd McGuill ar ei hymweliad â Llys Gwenffrwd, tra bod y Cadeirydd yn bwriadu ymweld â Marleyfield a’r ganolfan gofal dydd.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r diweddariad. |
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Pwrpas: Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, dywedodd yr Hwylusydd y byddai adroddiad ar gadw pobl o’r ysbyty ac adref am gyfnod hirach yn cael ei drefnu ar gyfer mis Hydref, fel y ceisiwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Gofynnodd yr Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu fod eitem ar ofalwyr ifanc yn ei rhoi ar raglen mis Hydref gyda Barnardo's yn bresennol.
Yn dilyn trafodaeth gynharach, gofynnodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad presennol yr elfen ofal cymdeithasol o Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl. Dywedodd yr Hwylusydd fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn cael ei hysbysu fel rhan o’i gylch gwaith a byddai modd trefnu cyfarfod ar y cyd oes byddai angen. Awgrymodd y Prif Swyddog y dylid cynnwys diweddariad yn adroddiad perfformiad Chwarter 4 er mwyn galluogi’r Pwyllgor i benderfynu a oedd angen cyfarfod ar y cyd. Cytunodd yr Aelodau ar hyn.
Adroddodd y Swyddogion ar gau’r Windmill ym Mwcle ar ddiwedd mis Ebrill, a oedd yn darparu cymorth yn ystod y dydd i bobl h?n. Roedd gweithwyr cymdeithasol yn ymgysylltu â’r unigolion a oedd wedi’u heffeithio a’u teuluoedd er mwyn ymchwilio i opsiynau eraill a chadw ffrindiau gyda'i gilydd lle bo hynny’n bosibl.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny; a
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol. |