Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Yn y Cyfarfod Blynyddol, penderfynodd y Cyngor y dylai’r gr?p Annibynnol enwebu Cadeirydd y pwyllgor. Gofynnir i’r Pwyllgor benodi Cadeirydd a enwebwyd.
Cofnodion: Dywedodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd y cadarnhawyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir y dylai Cadeirydd y Pwyllgor ddod o’r Gr?p Annibynnol. Gan y penodwyd y Cynghorydd Carol Ellis i’r rôl hon gan y Gr?p, gofynnwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo'r penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Cadarnhau’r Cynghorydd Carol Ellis fel Cadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Penodi Is-Gadeirydd Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.
Cofnodion: Enwebodd y Cynghorydd Cindy Hinds y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Gladys Healey fel Is-gadeirydd y Pwyllgor.
|
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas:I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.
|
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 29 Mawrth 2018.
Cofnodion: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2018.
Cywirdeb
Tudalen 7, eitem 54: Dywedodd y Cynghorydd Marion Bateman bod ei hymweliad â Chroes Atti wedi bod yn un cadarnhaol a gofynnodd i hynny gael ei gofnodi yn y cofnodion. PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a’u llofnodi gan y Cadeirydd.
|
|
Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Y Trydydd Sector PDF 101 KB Adolygiad blynyddol o’r gweithgaredd gofal cymdeithasol a wnaed gan y trydydd sector yn Sir y Fflint Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad am adolygiad blynyddol o weithgarwch gofal cymdeithasol a gynhaliwyd gan y Trydydd Sector yn Sir y Fflint. Dywedodd bod yr adroddiad yn manylu ar waith diweddar a gynhaliwyd i adolygu gwasanaethau a gomisiynwyd drwy’r Trydydd Sector ac yn darparu trosolwg o’r ystod eang o wasanaethau a gefnogir gan y Cyngor. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ar y dull gwaith a ddefnyddir i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd ac arloesol gan gynnwys y gwasanaeth anabledd a fyddai’n cael ei gaffael dros y misoedd nesaf a’r gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau dysgu.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at brif ystyriaethau’r adroddiad a dywedodd bod gan Sir y Fflint sector gwirfoddol / trydydd sector ffyniannus sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau i breswylwyr Sir y Fflint. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi gweld datblygiad pellach mewn gwasanaethau i sicrhau bod dyletswyddau o fewn y Ddeddf yn cael eu cyflawni.
Dywedodd y Prif Swyddog bod Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint yn sefydliad ymbarél a oedd yn cefnogi dros 1200 o grwpiau gwirfoddol a chymunedol yn Sir y Fflint a’i fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth o bartneriaethau lleol a rhanbarthol. Fe gyflwynodd Ann Woods, Prif Swyddog FLVC, a’i gwahodd i roi trosolwg o’r gefnogaeth a ddarperir i’r Cyngor gan FLVC i brosiectau a datblygiadau.
Dywedodd MrsWoods bod FLVC yn parhau i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr Statudol a’r Trydydd Sector i hyrwyddo, cefnogi a datblygu dulliau gweithio aml-asiantaeth i ddarparu Gwasanaeth Cyhoeddus. Dosbarthodd bapur a oedd yn darparu rhai enghreifftiau o’r mentrau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr oedd y Cyngor ac FLVC yn cydweithio arnynt.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Cindy Hinds, dywedodd MrsWoods mai rôl yr Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol oedd cysylltu â'r gymuned leol a chysylltu unigolion â gwasanaethau.
Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill a fyddai modd cyfeirio pobl at wasanaethau’n electronig trwy ap sy’n gysylltiedig â gwefan Sir y Fflint. Cytunodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) bod hyn yn rhywbeth i’w ystyried. Dywedodd y Prif Swyddog (FLVC) bod gwefannau’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a DEWIS yn ddwy fenter gyfeirio ddefnyddiol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at baragraff 1.10 yr adroddiad yn ymwneud â bwriad y Cyngor i sefydlu proses o gyd-gynhyrchu ar gyfer datblygu gwasanaeth a gofynnodd a fyddai newid i broses dendro yn arwain at golli gwasanaethau. Esboniodd y Rheolwr Comisiynu na fyddai unrhyw wasanaethau’n cael eu colli, ond, mae’n bosibl y byddai newid yn y ffordd y darperir gwasanaethau anabledd.
Rhoddodd y Cynghorydd Hughes sylwadau hefyd am gyllid ar gyfer gwasanaethau gofalwyr a gofynnodd a oedd unrhyw sicrwydd y byddai’r cyllid a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau. Er na allai roi sicrwydd hirdymor yngl?n â chyllid, dyweodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd unrhyw ostyngiadau pellach yn yr arfaeth i gyllid gan yr Awdurdod. Cadarnhaodd yr Uwch-Reolwr Diogelu a Chomisiynu y byddai cyllid gan BIPBC yn parhau am 18 mis arall.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Kevin Hughes at ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion PDF 132 KB Ystyried yr Adroddiad Blynyddol ar weithdrefn Canmoliaeth a Chwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol 2017/18 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar yr Adroddiad Blynyddol ar Weithdrefn Gwynion a Chanmoliaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Rhoddodd wybodaeth gefndirol a hysbysodd bod canran y cwynion gan oedolion am y gwasanaethau a dderbyniwyd wedi gostwng ers y flwyddyn flaenorol er bod nifer yr atgyfeiriadau wedi cynyddu. Esboniodd y Prif Swyddog bod yr holl gwynion yn cael eu harchwilio a’u defnyddio i wella'r ddau wasanaeth fel rhan o broses ‘gwersi a ddysgwyd’. Gwahoddodd y Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno’r adroddiad.
Cyfeiriodd y Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol at y prif ystyriaethau, fel y manylir yn yr adroddiad, sy’n ymwneud â chwynion a dderbyniwyd gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant. Eglurodd fod crynodeb o gwynion ar draws y ddau wasanaeth wedi eu hatodi at yr adroddiad.
Cynghorodd y Swyddog Cwynion hefyd bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion wedi derbyn 204 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn a oedd yn swm mwy na'r flwyddyn flaenorol a bod Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant wedi derbyn 82 o ganmoliaethau yn ystod y flwyddyn gan deuluoedd a'r Llysoedd. Roedd crynodeb o’r canmoliaethau a dderbyniwyd wedi’u hatodi wrth yr adroddiad. Dywedodd y Swyddog Cwynion bod ymateb i gwynion yn brydlon yn fater a fyddai’n cael ei godi eto gyda rheolwyr yng nghyfarfod mis Mai mewn ymateb i’r gostyngiad mewn amseroedd ymateb gan Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion.
Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill bod nifer o’r cwynion yn ymwneud â’r angen am “well” cyfathrebu ag unigolion a gofynnodd sut y byddai’r Gwasanaeth yn ceisio gwella hyn. Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd y Gwasanaeth yn hunanfodlon a dywedodd bod asiantaethau partner hefyd yn gysylltiedig â darparu gwasanaeth. Dywedodd ei fod yn cydnabod yr angen i geisio gwella dulliau cyfathrebu ag unigolion.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes bod rhai o’r cwynion a dderbyniwyd yn ymddangos i fod yn yn gwynion lluosog gan yr un person. Cadarnhaodd y Swyddog Cwynion nad oedd hyn yn wir.
Holodd y Cynghorydd Marion Bateman yngl?n â’r terfyn amser ar gyfer ymdrin â chwynion. Esboniodd y Swyddog Cwynion y byddai’r rhan fwyaf yn cael eu datrys cyn pen 10 diwrnod er bod rhai cwynion yn cymryd mwy o amser i’w datrys.
Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Ian Smith, cytunwyd y byddai rhestr o bob acronym a ddefnyddir mewn adroddiadau i'r Pwyllgor yn cael eu darparu i Aelodau.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hilary McGuill, cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Diogelu a Chomisiynu nad oedd unrhyw gwynion wedi cael eu derbyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant mewn cysylltiad ag Adolygiad Achos Difrifol. Rhoddodd sylwadau am ddysgu oddi wrth adolygiadau diogelu rhanbarthol ac adolygiadau ymarfer plant trawsffiniol.
PENDERFYNWYD: Nodi effeithiolrwydd y drefn gwynion a bod gwersi’n cael eu dysgu i wella darpariaeth y gwasanaeth.
|
|
Ymweliadau Rota Pwrpas: I dderbyn adroddiad llafar gan Aelodau'r Pwyllgor
Cofnodion: Adroddodd y Cynghorydd Kevin Hughes am ei ymweliad ag AROSFA. Dywedodd bod ei ymweliad wedi bod yn gadarnhaol a’i fod wedi ei blesio â safon uchel y gofal a ddarparwyd gan staff.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r wybodaeth.
|
|
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol PDF 72 KB Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Wrth gyflwyno’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol, cyfeiriodd yr Hwylusydd at yr eitemau ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 14 Mehefin a thynnodd sylw at yr ymweliad gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gofynnodd i Aelodau anfon unrhyw gwestiynau penodol y dymunant eu codi gyda’r cynrychiolydd ati erbyn dydd Gwener 18 Mai.
Yn dilyn awgrym gan y Cadeirydd, cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i waith. .
Cytunwyd hefyd y dylid gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.
PENDERFYNWYD:
(a) Diweddaru'r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol yn unol â hynny;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen.
(c) Gwahodd cynrychiolwyr o Gymuned L’Arche Sir y Fflint i fynychu un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u gwaith.
(d) Gwahodd cynrychiolwyr o'r Cyngor Iechyd Cymuned i fynychu cyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 31 Ionawr 2019.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.
|