Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Ystyrir bod yr eitem ganlynol yn eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 13, Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion a fyddai’n datgelu pwy yw unigolyn acmae budd y cyhoedd o beidio â datgelu’r wybodaeth yn drech na budd y cyhoedd o’i datgelu.

 

3.

Cais i wyro oddi wrth Fanyleb Cerbydau Hurio Preifat Cyngor Sir y Fflint

I Aelodau ystyried cais i adael Manyleb Cerbydau Hurio Preifat Cyngor Sir y Fflint, i ganiatáu cerbyd nad yw’n bodloni’r meini prawf ar hyn o bryd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais i wyro oddi wrth Fanyleb Cerbydau Hurio Preifat Cyngor Sir y Fflint, er mwyn caniatáu i gerbyd nad yw’n bodloni’r meini prawf ar hyn o bryd, gael ei drwyddedu ar gyfer chwe theithiwr yn hytrach na phedwar.

 

 

Gofynnodd Aelodau’r Panel nifer o gwestiynau mewn perthynas â lle ar gyfer sawl teithiwr oedd yn y cerbyd, gan sicrhau eu bod nhw’n ddiogel ac yn gyfforddus, a oedd ystyriaeth wedi’i rhoi i deithiau maes awyr, faint o le sydd i fagiau, lleoliad y diffoddydd tân a mynediad i’r car a’r ffordd allan ohono. Cafwyd ymatebion manwl i’r cwestiynau hyn gan yr Ymgeisydd, a oedd yn honni fod diffyg eglurder o ran y manylebau ac nad oeddent yn cael eu cymhwyso’n gyson.  

 

 

            Aeth y Cyfreithiwr trwy’r prawf cyfreithiol ar gyfer trwyddedu cerbydau tacsi a chadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu mai pwrpas y manylebau oedd sicrhau bod cerbydau yn ddiogel, addas a chyfforddus. Cadarnhaodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu y caniateir bocsys ar ben to, ond nad oeddent yn ychwanegu at faint o le sydd ar gael i fagiau, a ystyrir wrth benderfynu a yw’n ddigonol, a chadarnhaodd mai’r un yw’r achos gyda cherbydau bws mini.    Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu y ffactorau y bu iddi eu hystyried wrth ddod i’r casgliad nad oedd digon o le yn y cerbyd dan sylw i fagiau ar gyfer 6 o bobl. Roedd hyn o ran y lle ei hun yn ogystal â’i siâp, a sut y gellid gwneud defnydd o’r lle a darparwyd cymaryddion.

 

 

Cafodd y cyfarfod ei ohirio fel bod modd i’r Panel archwilio’r cerbyd i gael gwell syniad o’r hyn oedd yn cael ei drafod a rhoddwyd cyfle i bob un yn eu tro i eistedd yn y seddi cefn  a gweld faint o le sydd ar gael i fagiau gyda’r seddi cefn yn eu lle, o gymharu â phan fyddant wedi’u plygu. Gwnaed sylwadau nad oedd digon o le o ran y pen, y coesau a’r gallu i agor y drws, ac roedd y Panel o’r farn na fyddai’r seddi cefn yn gyfforddus ar gyfer siwrneiau hir.  

 

 

Tynnwyd sylw at leoliad y diffoddydd tân a’r pecyn cymorth cyntaf, ac roedd y Rheolwr Tîm Trwyddedu yn fodlon bod lleoliad y Diffoddydd Tân yn dderbyniol.   Cytunodd pob parti na fyddai drws y gist yn cael ei ystyried yn ddrws hygyrch ar gyfer y seddi cefn.   

 

 

Bu i’r Panel ailymgynnull y tu mewn i fwrw ymlaen â’r cyfarfod.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

            Rhoddodd Aelodau’r Is-bwyllgor ystyriaeth i’r holl wybodaeth berthnasol gan gynnwys Manyleb Cerbydau Hurio Preifat y Cyngor, adroddiad y swyddog, dogfennau atodol, a sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd a chawsant gyfle i weld ac eistedd yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.