Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

3.

Euogfarnau, ymddygiad a thor amodau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni trwyddedig

Pwrpas:        I aelodau ystyried euogfarnau, ymddygiad a thor amodau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni trwyddedig, a phenderfynu a yw’n dal i fod yn gymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried euogfarnau, ymddygiad a thor amodau Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) trwyddedig, a phenderfynu a yw’n dal i fod yn gymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath.

 

Mewn ymateb i gwestiynau, eglurodd y gyrrwr pam y bu oedi o ran cyflwyno gwybodaeth a geisiwyd gan y tîm Trwyddedu a’r amgylchiadau o ran y troseddau a ddigwyddodd dro ar ôl tro, a’r rhybudd am guro.   Darparodd y gyrrwr fanylion o ran y camau y mae wedi’u cymryd i wella prosesau dogfennu.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r gyrrwr a Rheolwr y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

Yn dilyn cyfnod byr, gwahoddwyd Rheolwr y Tîm Trwyddedu a’r gyrrwr yn ôl er mwyn ailymgynnull y cyfarfod.

 

Eglurwyd bod Aelodau’r Is-Bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth gan gynnwys adroddiad y swyddog trwyddedu, manylion euogfarnau, canllawiau’r Cyngor o ran ymdrin ag euogfarnau a’r canllawiau statudol ynghyd â’r eglurhad a gafwyd gan y gyrrwr.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr holl euogfarnau gyrru yn berthnasol.   Roeddent wedi ystyried eglurhad y gyrrwr a’r amgylchiadau lliniarol ond ni allent dderbyn y ffaith bod yr euogfarnau wedi arwain at 15 pwynt ar drwydded yrru DVLA’r gyrrwr. Byddai hyn wedi arwain at ei wahardd pe na bai’r Llys wedi derbyn rhesymau o galedi eithriadol.   Roeddent o’r farn bod y canllawiau ar wahardd yng nghanllawiau’r Cyngor o ran ymdrin ag euogfarnau yn berthnasol. Mae’n nodi os yw digon o bwyntiau cosb wedi’u casglu dros gyfnod o dair blynedd o dan y system “gronni” a fyddai’n achosi neu’n arwain at waharddiad, ni fyddai’r ymgeisydd yn derbyn trwydded nes 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y gwaharddiad er gwaethaf penderfyniad y llys i beidio â gwahardd ar sail caledi eithriadol.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried y rhybudd o 2020.   Roedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y rhybudd yn achos pryder ac o ran canllawiau’r Cyngor ar sut i ymdrin ag euogfarnau, roedd yr Aelodau o’r farn bod dyddiad y rhybudd yn golygu ei fod yn parhau i fod yn berthnasol.   Roeddent hefyd wedi ystyried y ffaith nad oedd y gyrrwr wedi cyflwyno manylion y rhybudd ar y cais i adnewyddu ac yn unol ag amodau’r safonau roedd y ffaith bod angen i’r awdurdod trwyddedu atgoffa’r gyrrwr sawl gwaith bod angen iddo ddychwelyd gwaith papur pwysig gan gynnwys GDG hefyd yn berthnasol.   Roedd yr Aelodau o’r farn nad oedd yr ymddygiad yn diwallu lefelau proffesiynoldeb a ddisgwylir gan yrrwr trwyddedig.

 

Roedd yr Is-Bwyllgor hefyd o’r farn bod yr holl faterion perthnasol sydd wedi’u hystyried gyda’i gilydd yn golygu, gan gydbwyso’r tebygolrwydd, nad yw’r gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i ddal Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat ac felly bod achos rhesymol o dan adran 61 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i atal neu ddirymu’r drwydded.

 

Roedd yr  ...  view the full Cofnodion text for item 3.