Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Ymgeisydd a chyflwynodd Aelodau’r Is-bwyllgor.   Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

3.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

4.

Cais Am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i’r Aeoldau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys y manylion am yr euogfarnau, polisïau’r Cyngor ar euogfarnau a’r canllawiau statudol, yn ogystal â’r eglurhad a dderbyniwyd gan yr Ymgeisydd.   Roedd hyn hefyd yn cynnwys y bydd yr Ymgeisydd yn delio â sefyllfa debyg lle'r oedd wedi derbyn euogfarn o ymosod trwy ddefnyddio trais unwaith eto.

 

Ystyriodd yr Is-bwyllgor nifer a natur euogfarnau blaenorol yr Ymgeisydd fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Er nad oedd yr Ymgeisydd wedi bod o flaen y Llys ers nifer o flynyddoedd, nododd yr Is-bwyllgor y canllawiau mewn perthynas â throseddu ailadroddus.

 

Penderfynodd yr Is-bwyllgor er bod yr Ymgeisydd yn eithaf ifanc ar y pryd, roedd yn dal i fod yn oedolyn, ac yn anffodus aeth ymlaen i barhau i droseddu.  Yn ogystal â hyn, roedd ei euogfarnau mwy diweddar hefyd yn ymwneud â’i allu i yrru a dilyn amodau trwydded ac yswiriant priodol.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn gallu anwybyddu’r canllawiau mewn perthynas â throseddu ailadroddus nac mewn perthynas â throseddau o drais.

 

Felly, nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried pob posibilrwydd, fod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat.    Cafwyd penderfyniad unfrydol i wrthod y cais.

 

4.2       Penderfyniad

 

Bod y cais yn cael ei wrthod, gan nad oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat o fewn Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Ar ôl darllen penderfyniad yr Is-bwyllgor (fel yr uchod) a chyn cloi’r cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd wrth yr Ymgeisydd fod ganddo’r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, ac y byddai copi ysgrifenedig o’r penderfyniad yn cael ei anfon ato.