Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

Gwrandawiad a Phenderfyniad ar y Cais

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel.

4.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y Cyd) mewn perthynas â gwybodaeth ar dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yr ymgeisydd yn ymwneud â rhybudd rai blynyddoedd yn ôl.  Roedd yr ymgeisydd i ddechrau wedi methu â datgelu’r wybodaeth ar ei ffurflen gais, gofynnwyd iddo ddarparu datganiadau ysgrifenedig ar y mater a oedd wedi eu cynnwys ym mhecyn y rhaglen.  Roedd yr adroddiad yn amlygu adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar drin collfarnau, rhybuddion a sancsiynau eraill a gofnodwyd i alluogi’r panel i benderfynu a oedd y gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

 

Pan ofynnwyd iddo, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn copi o’r rhaglen.  Yna cafodd ei wahodd gan y Cadeirydd i siarad ar gynnwys yr adroddiad.

 

Ymddiheurodd yr ymgeisydd am groesi adran 5 allan o’r cais (rhestru unrhyw gollfarnau neu rybuddion) a’i fod wedi gwneud hynny heb sylweddoli fod y rhybudd yn parhau ar ei dystysgrif GDG ar ôl cymaint o amser.  I gefnogi ei gais nododd ei fod yn unigolyn da sy’n gweithio’n galed a oedd yn dymuno cefnogi ei deulu.  Ar ôl ceisio cyngor cyfreithiol yn gyntaf dros y ffôn gyda chyfreithiwr lleol roedd wedi bod yn fodlon gwneud ei sylwadau ei hun yn y gwrandawiad er mwyn egluro’r sefyllfa yn llawn.

 

Yna gwahoddwyd Cyfreithiwr y Cyngor i siarad â’r ymgeisydd.  Mewn ymateb i gwestiynau, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod, gyda chymorth, wedi cwblhau’r ffurflen ei hun.  Gwahoddwyd ef i ddarllen ei ddatganiad ysgrifenedig lle roedd yn dweud ei fod yn y broses o ymgeisio i ddiddymu’r rhybudd o’i dystysgrif GDG o ganlyniad i’r cyfnod o amser oedd wedi mynd heibio.  Hefyd rhoddodd gefndir i’r digwyddiadau a arweiniodd at y rhybudd ac ar y ddau drosedd oryrru yr oedd wedi cyfeirio atynt yn ei ddatganiad ysgrifenedig.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y panel, rhannodd yr ymgeisydd fanylion yn ymwneud â’i gyflogaeth bresennol a blaenorol gan gynnwys rolau amrywiol a chyfrifoldebau lle’r oedd parch mawr iddo.  Sicrhaodd y panel nad oedd y ffaith iddo fethu â chwblhau’r ffurflen yn llawn yn weithred o dwyll a bod ei ymddygiad wedi bod yn dda ers hynny.  Dywedodd fod cwmni tacsi a oedd yn ymwybodol o’i sefyllfa wedi dangos eu parodrwydd i’w gyflogi, yn ddibynnol ar roi’r drwydded, ac roedd yn teimlo fod hynny yn dangos ffydd ynddo fel gweithiwr.  Pan nodwyd nad oedd y cwmni wedi arwyddo’r ffurflen gais i ddatgan hyn, eglurodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr ymdrinnir â hyn pe byddai’r drwydded yn cael ei rhoi.  Yn ystod y cyfarfod, rhannwyd dogfennaeth ysgrifenedig gan y cwmni tacsi i gadarnhau’r cynnig o gyflogaeth i’r ymgeisydd.

 

Pan ofynnwyd a oedd yn dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach, ymddiheurodd yr ymgeisydd eto am hepgor adran 5 o’r ffurflen gais.  Cyfeiriodd eto at ei amgylchiadau personol a sicrhaodd y panel nad oedd yn unrhyw berygl i unrhyw un a’i fod yn awyddus i brofi hyn.  ...  view the full Cofnodion text for item 4.