Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol, gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

3.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu’r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod. 

 

Esboniodd y Swyddog Trwyddedu fod y cais wedi gofyn am fanylion unrhyw gollfarnau blaenorol a bod yr ymgeisydd wedi darparu tystysgrif cofnodion troseddol manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a oedd yn dangos tri chollfarn a rhybudd.  Ar ôl derbyn tystysgrif DBS yr ymgeisydd a oedd wedi'i chwblhau gan Gyngor Sir y Fflint ar gyfer y cais hwn dangoswyd yr un tri chollfarn ac un rhybudd. Roedd hwn ynghlwm fel atodiad B i’r adroddiad. Gofynnwyd i'r ymgeisydd ddarparu esboniad ysgrifenedig o'i gollfarnau a oedd ynghlwm fel atodiad C i'r adroddiad. 

 

Adroddodd y Swyddog Trwyddedu fod yr ymgeisydd eisoes wedi cyflwyno dau gais i Gyngor Sir y Fflint am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Hacni (ar y cyd) a chyfeiriodd at wrandawiadau'r Is-bwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2015 a 29 Chwefror 2016. Ar ei ffurflen gais hysbysodd yr ymgeisydd ei fod hefyd wedi gwneud ceisiadau am drwydded debyg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a wrthodwyd. Nid oedd ei gais cyfredol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cael gwrandawiad eto.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod Cyngor Sir y Fflint wedi mabwysiadu canllawiau ar drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill a gofnodwyd, ac roedd hyn ynghlwm fel atodiad F i'r adroddiad. Manylwyd ar baragraffau perthnasol y canllawiau yn yr adroddiad. 

 

Oherwydd natur collfarnau blaenorol yr ymgeisydd a'i gais i yrru tacsi neu gerbyd hurio preifat a oedd yn cynnwys gyrru am gryn amser, ddydd a nos, a bod mewn cerbyd ar ben ei hun o bosibl gyda phlant, oedolion diamddiffyn, a phobl a allai fod wedi yfed alcohol neu gymryd sylweddau eraill, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd gyda'r Awdurdod. 

 

Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i aelodau'r Panel ofyn mwy o gwestiynau.Ceisiodd y Panel fwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd yngl?n ag amgylchiadau a oedd wedi achosi ei euogfarnau.Holwyd yr ymgeisydd hefyd am ei geisiadau blaenorol a'r gwrthodiad i roi trwydded iddo. Ymatebodd yr ymgeisydd ei fod yn siomedig ond nad oedd yn ddig am y penderfyniad a derbyniodd y canlyniad ar y pryd. 

 

Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at wiriad DVLA yr ymgeisydd a ddosbarthwyd cyn y gwrandawiad a dangosodd fanylion yr holl ardystiadau blaenorol. Tynnodd sylw at yr hysbysiad cosb benodedig yn 2017 a gwrandawiad ymddygiad yn 2017 a gofynnodd i'r ymgeisydd esbonio'r rhesymau dros y troseddau, y cadarnhaodd yr ymgeisydd eu bod yn ymwneud â defnyddio ffôn symudol.  Cyfeiriodd y Cyfreithiwr hefyd at ffurflen gais yr ymgeisydd a gofyn iddo pam nad oedd wedi cynnwys manylion yr hysbysiad cosb benodedig yn adran 5 a ofynnodd am fanylion unrhyw achlysuron pan gafodd yr ymgeisydd ei rybuddio neu ei ddyfarnu'n euog o unrhyw droseddau (gan gynnwys mân droseddau moduro). Ymddiheurodd yr ymgeisydd am y diffyg a dywedodd nad oedd wedi bwriadu twyllo ond ei fod  ...  view the full Cofnodion text for item 3.