Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim. 

2.

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais am amrywiad i Drwydded Eiddo pdf icon PDF 97 KB

Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am amrywiad i Drwydded Eiddo o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am amrywiad i Drwydded Eiddo a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Yr eiddo dan sylw oedd MPH Limited (Gwesty Mountain Park), Ffordd Llaneurgain, Mynydd y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5QG a’r ymgeisydd oedd Mr Yan Chan. 

 

Y CAIS

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod gan yr eiddo ar hyn o bryd Drwydded Eiddo ar gyfer:

 

Cyflenwi alcohol ar y safle ac oddi ar y safle: 

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00 a.m.– 23.00 p.m.

Dydd Sul gan gynnwys Dydd Gwener y Groglith 12.00 (hanner dydd) – 22.30 p.m.

Dydd Nadolig 12.00 (hanner dydd) – 15.00 pm a 19.00 – 23.30 pm

Nos Galan – 24 awr

Dydd Llun i ddydd Sul 10.00 a.m. tan 01.00 a.m.(yn ardal y bar yn unig)

 

Cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio, dawnsio (tu mewn yn unig):

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11.00 a.m. -hanner nos

Dydd Sul 12.00 (hanner dydd) – 23.30 p.m.

 

Lluniaeth hwyr yn y nos (dan do yn unig):

Dydd Llun 23.00 pm – 05.00 am

Dydd Mawrth tan ddydd Sul 23.00 pm – hanner nos

 

Roedd y cais i Amrywio i ganiatáu:

 

Cyflenwi alcohol ar y safle ac oddi ar y safle: 

Dydd Llun i Ddydd Sul 10.00  – 01.00 (yn yr holl ardaloedd trwyddedig)

Nos Galan i aros fel y drwydded bresennol

I ddiddymu’r cyfyngiad ar Ddydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith

 

I ychwanegu cerddoriaeth wedi'i recordio yn nhu blaen yr ardal y tu allan:

Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 12.00 (hanner dydd) – 22.00 p.m.

Dydd Sul 12.00 (hanner dydd) – 20.00 p.m.

 

I ddiwygio’r lluniaeth Hwyr yn y Nos i:

Ddydd Llun i Ddydd Sul 23.00 - 05.00

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu fod cynllun i nodi tu blaen yr ardal y tu allan yn cael ei ddangos fel Atodiad B1 yr adroddiad ac roedd cynllun i nodi’r tu mewn i’r adeilad yn cael ei ddangos fel Atodiad B2. 

 

Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan unrhyw wrthwynebiad i'r cais ond roeddent wedi gofyn am amodau ychwanegol yn ymwneud â Theledu Cylch Caeëdig, Her 25 a goruchwylwyr drws.Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i'r amodau hyn gael eu hatodi i'r drwydded eiddo bresennol (Atodiad C).

 

Fe dderbyniwyd sylwadau yn ymwneud â’r cais i Amrywio gan adran Rheoli Llygredd Cyngor Sir y Fflint ar 24 Gorffennaf 2020 a chaiff y rhain eu cynnwys yn Atodiad D. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau na fyddant yn gwneud unrhyw sylwadau i'r Awdurdod Trwyddedu yn ymwneud â’r cais.

 

Roedd dau lythyr wedi ei dderbyn yn cynnwys sylwadau gan breswylwyr lleol yn gwrthwynebu’r cais i amrywio ac mae’r rhain wedi eu hatodi fel Atodiad F. 

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod angen i ymgeiswyr, ar gyfer ceisiadau i amrywio, gyflwyno amserlen weithredu yn rhoi manylion yngl?n ag unrhyw gamau ychwanegol yr oeddent yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu.Mae’r camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd wedi eu nodi yn  ...  view the full Cofnodion text for item 2.