Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Dim.

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

3.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

4.

GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei bennu.

5.

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)

Pwrpas:        Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, darparodd yr ymgeisydd eglurhad ynghylch yr amgylchiadau yn ymwneud â’i gollfarnau blaenorol.  Ar ôl y gollfarn gyntaf fe gwblhaodd gwrs adsefydlu dwys oedd yn golygu y gallai ddeall goblygiadau ei ymddygiad yn llwyr ac i gymryd gwell rheolaeth o sefyllfaoedd. Dywedodd ei fod yn difaru’r achos yn llwyr a ddigwyddodd yn ystod cyfnod anodd iawn o’i fywyd a bod ganddo bellach well persbectif ac wedi sefydlu perthnasau positif gyda'r rheini o’i gwmpas.

 

Wrth ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr fe ddarparodd yr ymgeisydd wybodaeth ar ei gyflogaeth flaenorol ac eglurodd nad oedd wedi datgelu collfarn benodol am ei fod yn credu ei fod wedi dyddio.  Eglurodd  hefyd ganlyniad y trosedd goryrru.    Pan ofynnwyd a ystyriwyd ef yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar drwydded, roedd yr ymgeisydd yn cydnabod ei gamgymeriadau ac yn falch o'r cyfle i ddysgu ohonyn nhw. Wrth gefnogi’r cais, dywedodd am ei foddhad o weithio gyda grwpiau gwahanol o bobl a’r manteision y mae gweithio fel gyrrwr tasci yn ei gael ar ei ffordd o fyw pe bai’r drwydded yn cael ei chefnogi.

 

Dyma’r Cadeirydd yn gwahodd yr ymgeisydd i wneud unrhyw sylwadau pellach ac fe eglurodd bod ei fywyd personol wedi gwella’n sylweddol ers ei gollfarnau blaenorol. Fe ailadroddodd ei fod yn difaru'r collfarnau blaenorol.

 

Gyda’r Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u trafod, gofynnodd i’r ymgeisydd a’r Swyddog Trwyddedu i adael y cyfarfod tra bod y panel yn cyrraedd penderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu’r Cais

 

Wrth ddod i benderfyniad ar y cais, ystyriodd y panel sylwadau’r ymgeisydd yn ysgrifenedig ac ar lafar a chanllawiau’r Cyngor ar ymdriniaeth â dedfrydau. Wrth ystyried yr amgylchiadau yn y cofnod troseddol, roedd yr amser wedi dod i ben ac roedd yr ymgeisydd wedi cymryd camau positif (fel y cwrs), a theimlai’r panel ei fod yn unigolyn cymwys ac addas i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Gwahoddwyd y Swyddog Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Hysbysodd y Cadeirydd fod y panel wedi cytuno, wrth ystyried y sylwadau a wnaed, i ddyrannu trwydded yrru Cerbydau Hurio Preifat / Cerbyd Hacni i’r ymgeisydd am dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a'i fod yn derbyn y Drwydded am dair blynedd.