Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Remote attendance meeting

Cyswllt: Janet Kelly 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD

 

Ystyrir bod yr eitem ganlynol yn eithriedig yn rhinwedd Paragraff(au) 13, Rhan 4 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion a fyddai’n datgelu pwy yw unigolyn ac

mae budd y cyhoedd o gadw’r wybodaeth yn ôl yn drech na’r budd o’i datgelu.

 

3.

Cais am Drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (Ar Y Cyd)

Gofynnir i’r Aeoldau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CAIS AM DRWYDDED YRRU CERBYD HURIO PREIFAT/HACNI (AR Y CYD)

 

 

            Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd).

 

            Ymatebodd yr Ymgeisydd i gwestiynau gan y Cyfreithiwr a’r Panel a chwestiynau’n ymwneud â chollfarnau hanesyddol a throsedd foduro ddiweddar. Darparodd gynigion lliniaru yn seiliedig ar gymeriad da a swydd o gyfrifoldeb am gyfnod sylweddol o amser, yn ogystal â rhoi esboniad am y methiant i ddatgelu euogfarnau hanesyddol ar y Cais. 

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

 

4.1       Penderfyniad ar y Cais

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r Ymgeisydd yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

 

4.2      Penderfyniad

 

            Ystyriodd aelodau’r Is-bwyllgor yr holl wybodaeth gan gynnwys adroddiad y swyddog, manylion collfarnau’r Ymgeisydd, polisi’r Cyngor ar euogfarnau a’r canllawiau statudol ynghyd â’r esboniadau a roddwyd gan yr Ymgeisydd.

 

            Roedd yr Aelodau o'r farn bod y collfarnau o fath a oedd yn berthnasol i gwestiwn yn ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb ond bod hyd yr amser a aeth heibio ers dyddiad y collfarnau yn ffactor lliniarol arwyddocaol. Rhoddodd yr Aelodau sylw hefyd i esboniadau’r Ymgeisydd ynghylch pam nad oedd y collfarnau hanesyddol wedi’u datgelu ar y Cais. Roedd yr aelodau’n ystyried bod hyn yn berthnasol i gwestiwn yn ymwneud ag addasrwydd a phriodoldeb, ond yn fodlon gydag esboniad yr Ymgeisydd yn hyn o beth. Wrth wneud y penderfyniadau hyn, rhoddodd yr Aelodau sylw i dystiolaeth yn ymwneud â chymeriad da’r Ymgeisydd dros gyfnod sylweddol o amser, gan gynnwys ei gyfnodau mewn swyddi cyfrifol.

 

            Roedd yr aelodau o’r farn na ellid ystyried y gollfarn ddiweddar yn ymwneud â moduro yn ysgafn. Fodd bynnag, yn ôl pob tebyg, roeddent yn fodlon bod y Cais yn unigolyn cymwys ac addas yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat. Dylid rhoi trwydded am gyfnod o dair blynedd ar yr amod bod ymholiad pellach i dalu ffi gan y DVLA yn cael ei gynnal ymhen 12 mis ar ôl dyddiad rhoi’r drwydded, ar draul yr Ymgeisydd. 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.15am)