Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

2.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol gan yr ystyriwyd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

3.

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais ar gyfer Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd), wedi ei thrwyddedu gan yr Awdurdod.

 

Esboniodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod y ffurflen gais yn gofyn am fanylion unrhyw achos lle cafodd yr ymgeisydd rybudd neu'i gael yn euog o unrhyw drosedd, ac roedd yr ymgeisydd wedi datgelu tair trosedd yn ymwneud â gyrru.  Wedi derbyn data’r DVLA yngl?n â’r ymgeisydd, fodd bynnag, nodwyd gwaharddiad o ddeunaw mis am drosedd ddifrifol yn ymwneud â gyrru, ac nid oedd yr ymgeisydd wedi datgelu’r gwaharddiad hwnnw.

 

Dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu fod datgeliad manylach am yr ymgeisydd gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn dangos y’i cafwyd yn euog fis Mawrth 2018 o feddu ar gyffur a reolir.  Gofynnwyd i’r ymgeisydd roi eglurhad ysgrifenedig o’r euogfarn, ac fe atodwyd y rhain i’r adroddiad. 

 

Yn sgil natur yr euogfarn, gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymddangos gerbron yr Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a oedd yn unigolyn addas a phriodol i ddal Trwydded Yrru ar y Cyd. 

 

Gwahoddodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i roi eglurhad llawn o’i euogfarn a nodwyd yn natgeliad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at ei euogfarn am yrru’n beryglus, ac esboniodd mai achos o ddwyn hunaniaeth oedd hyn.  Dywedodd nad ef oedd yn gyrru’r cerbyd pan gyflawnwyd y drosedd a bod rhywun wedi mynd â’r cerbyd heb ei ganiatâd.  Dywedodd yr ymgeisydd fod hwn yn un rheswm pam iddo newid ei enw wedi hynny.  Aeth yr ymgeisydd ymlaen i ddweud nad oedd wedi cynnwys yr wybodaeth yn ei ffurflen gais gan ei fod wedi tybio, gan nad ef a gyflawnodd y drosedd, na fyddai hi'n ymddangos yn ei gofnodion.  Dywedodd na wyddai fod y drosedd wedi’i chofnodi tan iddo gael ei arestio fis Medi 2017 am drosedd arall. 

 

Cyfeiriodd yr ymgeisydd at esboniad ysgrifenedig oedd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn ymdrin â’i euogfarn ddiweddaraf am feddu ar gyffur a reolir.  Esboniodd iddo gyfaddef i’r drosedd pan ddaethpwyd o hyd i’r sylwedd yn ei fan, ond nid ef oedd yn berchen ar y cyffur ac nid oedd am ei ddefnyddio.  Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yn fanwl yngl?n â’r amgylchiadau o ran dod o hyd i’r cyffur, a gofynnodd pam fod Heddlu Gogledd Cymru wedi stopio a chwilio’r cerbyd.  Rhoes yr ymgeisydd wybodaeth gefndirol gan esbonio ei fod wedi rhoi pas adref i ffrind yn y fan, a’i fod yn tybio felly bod y cyffur yn perthyn i'w ffrind oedd wedi ei adael yn y fan ar ddamwain.  Dywedodd yr ymgeisydd y cafodd brawf cyffuriau ar adeg y drosedd a bod y canlyniadau wedi dangos nad oedd wedi cymryd cyffuriau.   Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd esbonio pam oedd wedi pledio’n euog i’r drosedd os oedd yn gwybod fod y sylwedd anghyfreithlon yn perthyn i’w ffrind a oedd wedi’i adael yn y fan. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd ddarparu gwybodaeth am ei hanes cyflogaeth a'i amgylchiadau presennol. Rhoes yr ymgeisydd fanylion yngl?n  ...  view the full Cofnodion text for item 3.