Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim.
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyriwyd fod yr eitem yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
|
|
Cais i Drosglwyddo Trwydded Gweithredwr Llogi Preifat I'r Aelodau ystyried cais i drosglwyddo trwydded gweithredydd llogi preifat a phenderfynu a yw'r ymgeiswyr yn addas ac yn briodol i ddal y drwydded. Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais i drosglwyddo Trwydded y Gweithredwr Cerbyd Hurio Preifat. Dangoswyd y cais yn Atodiad A. Roedd deiliaid presennol y drwydded wedi darparu eu caniatâd ysgrifenedig i’r trosglwyddo a dangoswyd hyn yn Atodiad B ac Atodiad C.
Dechreuodd y Cyfreithiwr ar ei gwestiynau i’r Ymgeiswyr a gofynnodd am ba hyd yr oedden nhw wedi dal eu trwyddedau.
Rhoddodd yr ymgeiswyr fanylion yngl?n â hanes eu trwydded, ond roedd yna beth dryswch fodd bynnag yn ymwneud â’r dyddiadau y rhoddwyd y drwydded flaenorol i Ymgeisydd (b) a gofynnwyd i Arweinydd y Tîm Trwyddedu gael eglurhad yngl?n â hyn. Gohiriwyd y cyfarfod ar 2.22 pm
Ail ddechreuodd y cyfarfod am 2.29 pm a rhoddodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu eglurhad yngl?n â’r wybodaeth oedd ar y system drwyddedu yngl?n ag Ymgeisydd (b).
Yna gofynnodd y Cyfreithiwr i’r Ymgeiswyr pam y dylai’r Panel gefnogi’r cais hwn. Mewn ymateb cyfaddefwyd y camgymeriadau oedd wedi'u gwneud yn y gorffennol. Ond roeddent wedi dysgu ohonynt ac yn hyderus gyda chymorth deiliad presennol y drwydded na fyddent yn gwneud yr un camgymeriadau eto.
Gofynnwyd i'r Ymgeiswyr ddarllen eu negeseuon e-bost ar dudalen 15 a 17 ac fe wnaed hynny. Mewn ymateb i nifer o gwestiynau a godwyd gan y Cyfreithiwr rhoddodd yr Ymgeiswyr eglurhad ar y digwyddiad a arweiniodd at dderbyn yr 17 pwynt ar Drwydded y Gweithredwr.
Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y troseddau'n ymwneud â gyrru heb yswiriant a gofynnodd sut yr oedd hyn wedi digwydd. Mewn ymateb cyfeiriodd yr Ymgeiswyr at fwrgleriaeth a ddigwyddodd yn y swyddfa a rhoddwyd gwybodaeth gefndir yn ymwneud â'r amgylchiadau a arweiniodd at yr erlyn. Ychwanegodd ei fod wedi cael cadw ei drwydded ar sail caledi eithriadol ond cafodd ei wahardd rhag gyrru am 8 diwrnod.
Yna gofynnodd y Cyfreithiwr am eglurhad ar eu swyddogaethau yn y cwmni tacsi blaenorol. Cadarnhawyd mai dim ond gyrwyr oeddent.
Yna cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y cais ac at dudalen 4 a gofynnodd pam y gwrthodwyd y drwydded ond gwrthodwyd yr apêl yn y Llys Ynadon. Atebodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu drwy ddweud nad oedd yn sicr beth oedd y polisi ar y pryd a’i fod yn wahanol i’r polisi sydd mewn grym erbyn hyn. Rhoddodd eglurder ar linell amser y drwydded.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at dudalen 8, rhan 6 manylion yr ymgeisydd “a oes unrhyw unigolyn yn 1 uchod erioed wedi eu gwrthod o ran trwydded cerbyd hurio preifat neu gerbyd hacni neu fod trwydded o’r fath wedi ei atal / diddymu” a gofynnodd pam ei fod wedi croesi ‘do a na’ ac wedi ysgrifennu ‘na’ oddi tano.
Gofynnodd y Cyfreithiwr a oedd yna fwriad i gamarwain ac ymatebodd y ddau nad oedd yna fwriad.
Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at yr un dudalen (b) euogfarnau neu rybuddion – a gofynnodd pam fod ... view the full Cofnodion text for item 3. |