Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Clwyd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Cais am Drwydded Eiddo PDF 73 KB I'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad a oedd yn gwahodd Aelodau i ystyried a phennu cais o dan Ddeddf Drwyddedu 2003 ar gyfer Trwydded Safle i Thrifty’s, 7 Ffordd Broughton Hall, Brychdyn, Sir y Fflint.
Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am gyflenwi alcohol i’w yfed oddi ar y safle o ddydd Llun i ddydd Sul 07:00 tan 22:00.
Cyflwynwyd sylwadau gan Mr Mark Griffiths, perchennog y Swyddfa Bost leol, a deiseb gan aelodau'r gymuned leol i gefnogi ei lythyr. Roedd sylwadau wedi cael eu derbyn hefyd gan Mrs Marian Griffiths, mam Mr Griffths.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau nad oedd gan y Swyddog sy’n gyfrifol am yr ardal unrhyw wrthwynebiadau i’r cais. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau na fyddent yn gwneud unrhyw sylwadau am y cais.
Roedd y camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu yn cael eu gosod allan yn Atodiad E yr adroddiad ac roedd y cais wedi cael ei hysbysebu yn y dull cywir.
Sylwadau gan yr Ymgeisydd
Cyfeiriodd Mr Soni at y ddeiseb a oedd wedi’i chyflwyno a dywedodd bod llawer o’r enwau ar y rhestr yn dod o du allan i’r ardal leol. Teimlai bod gwrthdaro buddiannau yn gysylltiedig â Mr Griffiths gan ei fod yn berchennog ar y Swyddfa Bost leol a phe bai’r cais hwn yn cael ei gymeradwyo, byddai’n arwain at gystadleuaeth iach yn yr ardal, rhywbeth a welwyd gyda phob siop Thrifty arall.
Dywedodd nad oedd gan yr Heddlu unrhyw wrthwynebiadau i’r cais ac ychwanegodd y byddai camerâu TCC yn recordio y tu fewn a thu allan i'r siop bob amser a fyddai o bosibl yn lleddfu ofnau Mr Griffiths am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai’r offer TCC a’r lluniau a gynhyrchir o safon uchel a byddai gan y siop weithredwyr TCC hyfforddedig. Darparodd fanylion am Challenge 25 ac enghreifftiau o ble’r oedd hyn wedi’i orfodi mewn siopau Thrifty eraill. Roedd gan Thrifty 9 o drwyddedau mewn siroedd gwahanol ac nid oedd unrhyw un o’r siopau hynny wedi cael problemau gyda chwsmeriaid dan oed yn ceisio prynu alcohol. Nod y cwmni oedd gwneud i’w cwsmeriaid deimlo’n ddiogel a’u croesawu.
Hefyd, dywedodd bod y safle yn arfer bod yn siop Co-op a oedd yn berchen ar drwydded. Teimlai y byddai dod â'r adeilad hwn, a oedd wedi bod yn wag am gyfnod hir, i ddefnydd eto yn helpu i leihau nifer y bobl ifanc sy'n ymgasglu yn yr ardal. Mynegodd ei ddymuniad i weithio gyda’r gymuned i gadw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol.
Sylwadau gan y Partïon â Chysylltiad
Diolchodd y Cynghorydd Mullin i’r Cadeirydd am adael iddo siarad ar ran Mr Griffiths. Ei brif bryder oedd agosrwydd safleoedd eraill yn yr ardal sydd hefyd yn gwerthu alcohol a teimlai y byddai hyn yn creu problemau gyda phobl ifanc.
Esboniodd yr ymgeisydd bod y cwmni yn fanwerthwr cyfrifol ac roedd alcohol yn ategol i’r nwyddau eraill a werthir yn y siop.
Cwestiynau
Gofynnodd y Cynghorydd Sharps i Mrs Jones a oedd ganddi ... view the full Cofnodion text for item 2. |