Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Pwrpas: Penodi Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. Cofnodion: Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu, gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y cyfarfod hwn. Ar ôl cynnal pleidlais penodwyd y Cynghorydd Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Richard Lloyd yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad of sysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) Pwrpas: Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd). Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried cais am Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd), a phenderfynu a ydi’r person yn gymwys ac addas i barhau i ddal trwydded o’r fath. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried a oedd mesurau ychwanegol yn angenrheidiol, petai nhw’n penderfynu cymeradwyo’r drwydded. Yna darllenodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu ddau eirda cymeriad yn cefnogi’r cais.
Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad gan yr Arweinydd Tîm Trwyddedu am ganllaw ac agweddau o’r broses ymgeisio.
Gan ymateb i amrywiaeth o gwestiynau gan Aelodau, rhoddodd yr Ymgeisydd wybodaeth am yr amgylchiadau sy’n ymwneud â’i gais, yr euogfarn na chafodd ei datgelu ar y ffurflen a’i gofnod cyflogaeth flaenorol. Gofynnodd y Cyfreithiwr gwestiynau i’r Ymgeisydd am y materion hyn hefyd.
Pan ofynnwyd iddo a hoffai roi gwybodaeth ategol i gefnogi ei gais, cyfeiriodd yr Ymgeisydd at ei sylwadau ysgrifenedig.
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn, gofynnodd i’r Ymgeisydd a Rheolwr y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.
Penderfyniad
Yn dilyn y gohiriad, gwahoddwyd yr Ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu yn ôl, er mwyn ailgynnull y cyfarfod.
Dywedodd y Cadeirydd fod Aelodau’r Is-bwyllgor wedi ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys adroddiad y Swyddog Trwyddedu, y manylion am yr euogfarn, arweiniad y Cyngor ar euogfarnau a’r canllawiau statudol, yn ogystal â’r eglurhad a sylwadau a wnaed gan yr Ymgeisydd.
Roedd yr Aelodau’n credu bod yr euogfarn yn berthnasol i gwestiynu addasrwydd a phriodoldeb. Wrth ddod i’w casgliad, roeddynt wedi ystyried arweiniad y Cyngor ar euogfarnau ac arweiniad statudol. Roedd Paragraff 4.18 canllaw’r Cyngor yn cael ei ystyried yn fwy perthnasol i’r cais yma yn hytrach na’r cyfnod hirach o fewn safon DFT, o ystyried y math ac amgylchiadau'r drosedd a sylwadau a wnaed ar y cais. Mae’n nodi bod yr Awdurdod Trwyddedu yn annhebygol o gymeradwyo cais gan berson sydd wedi’i ganfod yn euog o drais oedd yn cynnwys defnyddio trais gan arwain at wir niwed corfforol, niwed corfforol difrifol, anafu, neu ymosod, oni bai y gellir dangos bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers euogfarn o’r fath.
Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr esboniadau a roddwyd gan yr Ymgeisydd ond nid oeddynt yn fodlon ei fod wedi rhoi digon o resymau i beidio â dilyn y canllawiau ar y pryd. Roedd yr Aelodau hefyd yn bryderus nad oedd yr Ymgeisydd wedi datgelu'r euogfarn ar y ffurflen gais a’u bod nhw’n ystyried bod hyn hefyd yn berthnasol i’r asesiad o addasrwydd a phriodoldeb, roedden nhw’n derbyn eglurhad yr Ymgeisydd mai camgymeriad oedd hyn felly ni wnaethant roi llawer o bwyslais ar hyn wrth ddod i benderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Fe ystyriodd yr Is-bwyllgor yr holl faterion perthnasol ac nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon, o ystyried pob posibilrwydd, fod yr Ymgeisydd yn unigolyn cymwys ac addas o dan y diffiniad yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i feddu ar Drwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbyd Hurio Preifat, ac yn unol â ... view the full Cofnodion text for item 4. |