Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Deddf Trwyddedu 2003 - Cais Am Amrywiad i Drwydded Eiddo PDF 89 KB Pwrpas: I aelodau ystyried a phenderfynu yngl?n â chais am amrywiad i drwydded eiddo, a wneir o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mewn perthynas â George & Dragon, Stryd yr Eglwys, Y Fflint, Sir y Fflint CH6 5AD. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 a gyflwynwyd gan Marstons Plc ar gyfer amrywio trwydded eiddo yn The George & Dragon, Stryd yr Eglwys y Fflint. Roedd y cais ar gyfer ychwanegu ardal allanol, yn cynnwys bar allanol ar gyfer gwerthu alcohol, at y cynllun trwyddedu yng nghefn yr eiddo. Roedd yr Ymgeisydd hefyd wedi gofyn i gael tynnu amod oddi ar y drwydded eiddo sydd eisoes yn bod. Nododd yr amod hwn, “Ni chaniateir cerddoriaeth wedi’i chwyddo yn y man ysmygu”. Gwnaethpwyd y cais ar 6 Hydref 2021.
Fel y mae wedi’i atodi i’r adroddiad, cafwyd sylwadau gan Adran Rheoli Llygredd y Cyngor a hefyd gan saith preswylydd.
Ymatebodd Heddlu Gogledd Cymru i’r cais i amrywio ar 21 Hydref 2021 a chytunodd yr ymgeisydd ar nifer o amodau gyda hwy, yn cynnwys cadw llyfr Digwyddiadau a Gwrthodiadau; sicrhau proses lanhau lem ac ystyried diogelwch gwydrau; sicrhau bod yr ardd gwrw yn cael ei goruchwylio bob amser; a sicrhau nad yw unrhyw synau sy’n cael eu creu yn rhy uchel.
Wedi hynny, gwnaeth yr ymgeisydd nifer o newidiadau i’r cais i gynnwys yr amodau fel y cytunwyd gyda’r Heddlu ac i gynnwys y newidiadau canlynol:
(1) Bod darpariaeth gwerthu alcohol drwy adwerthu allanol yn dod i ben am 22:00
(2) Bod darpariaeth adloniant rheoledig ar ffurf cerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio allanol yn dod i ben am 21:00
(3) Bod dim mwy na phedwar diwrnod i’r teulu / gwyliau yn cael eu cynnal yn allanol bob blwyddyn.
(4) Bod y bar yn cael ei staffio bob amser pan fydd y bar allanol yn cael ei ddefnyddio ac nad yw unrhyw stoc yn cael ei adael pan fydd y bar yn cau.
Yn ystod y gwrandawiad, gwnaethpwyd sylwadau ar ran yr Ymgeisydd gan Michelle Hazelwood o John Gaunt & Partners. Cyflwynodd yr Ymgeisydd gyflwyniadau cyfreithiol a bwndel o ddogfennau yn cynnwys chwe rhan a ystyriwyd yn llawn gan y Pwyllgor.
Bu i’r Pwyllgor hefyd glywed gan Martyn Kirby (Swyddog Rheoli Llygredd) a Mr Ken Archer a siaradodd ar ran y preswylwyr.
Cafodd y Pwyllgor gyngor cyfreithiol gan Mr Ben Dylan Williams (Cyfreithiwr).
Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u codi, cafodd pawb a oedd yn bresennol - gan eithrio’r Cadeirydd, Aelodau’r Pwyllgor, Bargyfreithiwr a Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - eu tynnu o’r cyfarfod i alluogi’r Pwyllgor i ddod i benderfyniad.
Gofynnodd y Pwyllgor y cwestiwn, i’w hunain, a roddwyd yn fuddiol gan yr Ymgeisydd trwy ei gynrychiolydd, yn benodol; a oedd risg o niwsans o’r cais hwn, wedi’i seilio ar yr holl dystiolaeth a gafwyd? Roedd y Pwyllgor o’r farn bod risg clir o niwsans o’r fath wedi’i seilio ar ddefnyddio’r ardal allanol.
Roedd y Pwyllgor o’r farn bod y dystiolaeth gan y preswylwyr yn gymhellol fel yr oedd un Mr Kirby, y gwnaethant nodi nad oedd wedi dod i gasgliad o ran yr ymchwiliadau parhaus eto ond wedi rhoi ei farn broffesiynol y byddai s?n ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Aelodau o'r cyhoedd yn bresennol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |