Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Dim. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Cofnodion: Dim. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd deiliad y drwydded a chyflwynodd aelodau’r panel. Eglurodd y drefn ar gyfer y gwrandawiad, gan gynnwys sut y byddai’r cais yn cael ei benderfynu. |
|
YMDDYGIAD GYRRWR CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD) Pwrpas: Er mwyn i'r Aelodau ystyried cynnal Gyrrwr Llogi Preifat / Cerbyd Hacni (ar y Cyd) mewn perthynas â gwybodaeth a ddaeth i law gan Uned Drafnidiaeth Integredig Cyngor Sir y Fflint. Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â digwyddiad diweddar a gafodd ei adrodd i Adran Cludiant y Cyngor. Roedd yr adroddiad, oedd yn cynnwys datganiadau gan ddeiliad y drwydded a llygad-dyst i’r digwyddiad, yn tynnu sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau roedd y Cyngor wedi’u mabwysiadu ar drin collfarnau, rhybuddion a chosbau eraill i alluogi’r panel i benderfynu a ddylai deiliad y drwydded barhau i gadw ei drwydded neu a ddylai gael ei wahardd neu ei ddiddymu. Cafodd y panel wybod bod yr Heddlu wrthi’n ymchwilio i’r digwyddiad.
Gan ymateb i gwestiynau, rhoddodd deiliad y drwydded rhywfaint o gefndir am yr amgylchiadau yngl?n â’r digwyddiad, gan egluro ei fod wedi cymryd sylwedd anghyfreithlon (canabis) i leddfu poen yn sgil anaf. Dywedodd ei fod wedi cymryd ychydig bach ar ôl gollwng cwsmer, roedd fod i yrru adref.Siaradodd ei gyn gyflogwr, oedd wedi dod gydag o i’r gwrandawiad, i gefnogi ei ymddygiad blaenorol, a dywedodd ar y dyddiad dan sylw, roedd wedi cysylltu â hi i ymddiheuro ac egluro’r sefyllfa a dywedodd hi wrtho i beidio â gyrru ac i aros wrth ei gar er mwyn iddi hi ei gasglu o. Fe eglurodd bod trefniadau wedi cael eu gwneud i yrrwr arall gymryd drosodd, ac ar ôl y digwyddiad, cafodd deiliad y drwydded ei wahardd nes bod y mater yn cael ei ddatrys.
I’w amddiffyn, dywedodd deiliad y drwydded bod ganddo gofnod clir gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd oedd yn dyddio ‘nôl flynyddoedd, ond cyfaddefodd bod cyfres o heriau yn ei fywyd personol wedi arwain iddo wneud rhywfaint o benderfyniadau gwael.
Wrth iddo gael ei holi, daeth hi’n amlwg nad oedd deiliad y drwydded wedi derbyn pecyn agenda’r cyfarfod oedd yn cynnwys adroddiad ac atodiadau’r swyddog trwyddedu, yn cynnwys datganiadau. Cytunodd y Cadeirydd gydag awgrym y Cyfreithiwr bod yr agenda’n cael ei e-bostio at ddeiliad y drwydded yn syth a bod y panel yn gohirio ar ôl cychwyn am egwyl o 15 munud er mwyn iddo gael amser i’w ddarllen. Cadarnhaodd deiliad y drwydded bod hyn yn dderbyniol, ac ar ôl 15 munud, fe ail gychwynnwyd y cyfarfod.
Gan ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr, dywedodd deiliad y drwydded ei fod yn ymwybodol o amodau safonol trwydded ar gyfer gyrwyr cerbydau hurio preifat, a’i fod wedi bod yn esgeulus yn peidio â rhoi gwybod i’r Cyngor am ei anaf, fel y nodir yn adran 9 yr amodau. Fe eglurodd ei resymau dros beidio â cheisio sylw meddygol ar gyfer ei anaf a bod rhywun roedd yn ei adnabod wedi rhoi sylwedd anghyfreithlon iddo ar ôl ei lawdriniaeth. Dywedodd nad oedd wedi gyrru yn ystod y cyfnod hwnnw gan nad oedd ganddo fynediad at gerbyd. Wrth gael ei holi, roedd yn derbyn ei fod yn gwybod bod canabis yn sylwedd anghyfreithlon, ac y gallai bod â’r sylwedd yn ei feddiant a gyrru o dan ddylanwad sylweddau anghyfreithlon fod yn drosedd. Roedd yn derbyn na ddylai fod wedi ... view the full Cofnodion text for item 5. |