Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Remote meeting
Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322 E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem ganlynol gan yr ystyrir ei bod yn cynnwys gwybodaeth wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 13 ac 13 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cais am Drwydded Bersonol Yr Aelodau i ystyried a gwneud penderfyniad yngl?n â chais am Drwydded Bersonol
Cofnodion: GWRANDAWIAD A PHENDERFYNIAD AR Y CAIS
Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a chyflwynodd aelodau’r panel.
4. YMDDYGIAD GYRRWR CERBYD HURIO PREIFAT / CERBYD HACNI (AR Y CYD)
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu'r adroddiad i ystyried cais am Drwydded Bersonol dan y Ddeddf Trwyddedu 2003. Cafodd y gofynion ar gyfer Trwydded Bersonol eu rhagnodi gan Ran 6 Deddf Trwyddedu 2003 a chawsant eu rhestru yn yr adroddiad. Mae Atodlen 4 y Deddf Trwyddedu 2003 yn rhestru’r troseddau perthnasol sy’n ymwneud â chais am drwydded Bersonol.
Cynghorodd y Swyddog Trwyddedu bod yr ymgeisydd wedi datgelu trosedd berthnasol nad oedd yn cael ei ystyried wedi’i threulio dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (c.53), a darparodd ei dystysgrif sylfaenol Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cadarnhau hyn. Fe esboniodd, lle’r oedd ymgeisydd wedi cael trosedd berthnasol nad oedd yn cael ei ystyried wedi’i threulio, mae’n rhaid i’r Awdurdod Trwyddedu gyflwyno rhybudd i Brif Swyddog Heddlu Gogledd Cymru i’w hysbysu o’r ffaith. Os yw’r Prif Swyddog yn fodlon y byddai cymeradwyo’r drwydded yn tanseilio amcan atal trosedd mae’n rhaid i Heddlu Gogledd Cymru roi rhybudd i’r Awdurdod Trwyddedu yn nodi’r rhesymau pam (rhybudd o “wrthwynebiad”). Rhoddodd Heddlu Gogledd Cymru rybudd o wrthwynebiad i’r cais hwn, a dderbyniwyd ar 15Gorffennaf 2022. Ar ôl ystyried sylwadau Heddlu Gogledd Cymru, gofynnwyd i’r Is-bwyllgor Trwyddedu i wneud y penderfyniad canlynol:
(a) gwrthod y cais os yw’n cael ei ystyried yn angenrheidiol ar gyfer hyrwyddo’r amcan atal trosedd gwneud hynny, neu (b) cymeradwyo’r cais mewn unrhyw achos arall.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i’r ymgeisydd siarad i gefnogi ei gais.
Cyn i’r ymgeisydd annerch y Pwyllgor, siaradodd gynrychiolydd o’r Datrysiadau Hyfforddiant Lletygarwch i gefnogi’r ymgeisydd. Dywedodd ei fod yn gweithio’n galed, ac yn aelod pwysig o’r gymuned leol, a byddai’n hyrwyddo’r amcanion trwyddedu.
Siaradodd yr ymgeisydd yngl?n â’i edifeirwch am ei weithredoedd, a oedd wedi arwain at euogfarn. Fe esboniodd ei fod wedi ymddwyn allan o gymeriad, ac mai’r euogfarn oedd ei drosedd gyntaf ac yr unig un. Siaradodd am ei ddedfryd, ac esboniodd y byddai’n cael ei leihau yn dilyn cwblhau cwrs perthnasol. Roedd yn ymgymryd â chwrs llawn gwybodaeth ac o gymorth iddo. Diolchodd i’r Pwyllgor am roi cyfle iddo esbonio ei amgylchiadau.
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Swyddog Trwyddedu Heddlu Gogledd Cymru esbonio’r rhesymau dros y ‘rhybudd o wrthwynebiad’ i’r cais. Cynghorodd y Swyddog Trwyddedu bod y drosedd a gyflawnwyd yn drosedd berthnasol dan Ddeddf Trwyddedu 2003 a dan Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 nid oedd yr euogfarn wedi’i threulio eto. Cafodd ei ystyried y byddai caniatáu Trwydded Bersonol yn gwrthwynebu’r amcan Atal Trosedd, ac nid oedd gweithredoedd yr ymgeisydd yn cyd-fynd â chyfrifoldebau Goruchwyliwr Safle Penodol.
Rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Gyfreithiwr y Cyngor ofyn cwestiynau i’r partïon.
Holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd am amgylchiadau ei drosedd. Rhoddodd yr ymgeisydd fanylion o’r amgylchiadau, a dywedodd mai dyma oedd ei drosedd gyntaf, ac roedd ganddo gywilydd. Dywedodd ei fod wedi myfyrio ar y drosedd, ac roedd wedi canfod parch at effeithiau negyddol alcohol. Cadarnhaodd ei fod wedi talu dirwy, a’i ... view the full Cofnodion text for item 3. |