Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Maureen Potter (01325 702322) E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim.
|
|
Cais am Drwydded Eiddo PDF 88 KB Pwrpas: Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Eiddo a gyflwynwyd gan TH UK & Ireland Limited. Yr eiddo dan sylw oedd Tim Hortons, Parc Manwerthu Brychdyn, Brychdyn, Sir y Fflint, CH40DP a dangoswyd y lleoliad yn Atodiad A yr adroddiad.
Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod y cais ar gyfer Trwydded Eiddo newydd (dim alcohol). Roedd yr ymgeisydd wedi gwneud cais am luniaeth hwyr tu mewn a thu allan a chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio ac heb ei seinchwyddo tu mewn yn unig. Atodwyd ffurflenni a chynlluniau’r ymgeisydd yn Atodiad B yr adroddiad. Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer lluniaeth hwyr tu mewn a thu allan oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00. Yr oriau y gwnaed cais amdanynt ar gyfer cerddoriaeth wedi’i recordio a heb ei seinchwyddo tu mewn oedd dydd Llun i ddydd Sul 00.00 i 00.00. Mae’r Ddeddf Trwyddedu 2003 yn diffinio darpariaeth lluniau gyda’r hwyr fel cyflenwad o fwyd poeth a diodydd poeth rhwng yr oriau 11.00pm a 5.00am. Nid oes angen trwydded ar gyfer darpariaeth cyn 11.00pm neu ar ôl 5.00am.
Roedd yr Uned Diogelu Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint wedi cadarnhau nad oedd ganddynt bryderon diogelu. Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd ganddynt sylwadau i'w gwneud ar y cais. Derbyniwyd sylwadau gan y partïon â diddordeb ac atodwyd y rhain yn Atodiad C yr adroddiad. Eglurwyd gyda rhai o bartïon â diddordeb nad oedd y cais yn cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol.
Gofynnwyd i Heddlu Gogledd Cymru wneud sylwadau ar y pwyntiau a wnaed yn y llythyrau sylwadau mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a threfn gyhoeddus. Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru ers 2022 bod un digwyddiad mewn perthynas â Tim Hortons a oedd yn bryder ar gyfer diogelwch ond nid oedd yn ymwneud â’r eiddo ei hun. Roedd yr unig ddigwyddiad arall yn ymwneud â digwyddiad am 11pm ym Maes Parcio McDonalds yn ymwneud â 2 gar ac fe gafodd diogelwch eu galw, fodd bynnag ni welsant unrhyw geir ac nid oeddent yn gwybod am ddim. Hefyd fe gadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nad oedd unrhyw adroddiadau o god post Vickers Way (CH4 0FX) ar gyfer 2022, a bod y ffigyrau ar eu gwefan cyhoeddus ar gyfer ward gyfan Gogledd Ddwyrain Brychdyn a oedd yn cynnwys eiddo Tîm Hortons ac ardal llawer ehangach.
Roedd y camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu wedi’u gosod allan yn Atodiad D yr adroddiad.
Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Matthew Williams, Rheolwr Rhanbarthol i siarad ar ran yr ymgeisydd. Rhoddodd Mr Williams wybodaeth gefndirol ac eglurodd fod eiddo Tim Hortons ym Mharc Manwerthu Brychdyn ar hyn o bryd yn masnachu o 6.00am i 1.00pm yn ddyddiol a’u bod yn ceisio am drwydded eiddo er mwyn galluogi’r busnes i weithredu 24 awr o 6.00am i hanner nos ar gyfer lluniaeth gyda’r hwyr tu mewn a thu allan (gyrru drwodd - ceir yn unig), ac o hanner nos masnachu tu allan (gyrru drwodd) yn unig. Dywedodd Mr Williams ... view the full Cofnodion text for item 2. |
|
AELODAU O'R CYHOEDD HEFYD YN BRESENNOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
(Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 10.48am)
……………………………… Cadeirydd
|
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: RESOLVED:
That the press and public be excluded from the meeting for the following item as it is considered to contain exempt information by virtue of paragraph(s) _______ of Part 1 of Schedule 12A of the Local Government Act 1972 (as amended). |