Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod Hybrid
Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Cyflwyniadau Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Eglurodd y Cadeirydd y broses ar gyfer penderfynu ar gais a threfn siaradwyr. Yn ystod y cyflwyniadau, dywedodd fod cynrychiolwyr yr ymgeisydd wedi cael eu gwahodd i’r cyfarfod ac wedi derbyn y rhaglen, ond nid oeddent yn bresennol. |
|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig i benodi’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Is-gadeirydd. Ni chafwyd enwebiadau eraill.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Rosetta Dolphin yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 21 Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Materion yn Codi - O ran cofnod rhif 9, cadarnhawyd bod cais wedi cael ei e-bostio i Lywodraeth Cymru ar ddarpariaeth cyllid tuag at gost y cynllun trwyddedu newydd ar gyfer ‘Gweithdrefnau Arbennig’.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad, bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Mewn ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod y Prif Swyddog (Llywodraethu) wedi cynghori y dylid ystyried yr eitem gyfan mewn sesiwn gaeedig i alluogi trafodaethau addas a phriodol.
PENDERFYNWYD:
Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod gan yr ystyrir bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraffau 12 ac 14 Adran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). |
|
Cais am Drwydded Safle Cartref Symudol Preswyl Pwrpas: Er mwyn cynorthwyo Aelodau i ystyried a phenderfynu cais ar gyfer Trwydded Safle Cartref Symudol Preswyl. Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd adroddiad i’r Pwyllgor i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Safle Cartref Symudol Preswyl.
Cododd Aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau a phryderon i helpu i benderfynu ar y cais. Darparodd Swyddogion eglurhad ar ymholiadau, a darparodd Mr Rudd gyngor cyfreithiol i’r Pwyllgor ar ofynion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Pan gafodd ei wahodd i siarad gan y Cadeirydd, ymatebodd Mr Alastair Horton o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i ystod o bryderon am ddiogelwch tân ar y safle.
Fel Aelod Lleol, rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Swash wneud sylwadau cyn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor. Yn ogystal, gofynnodd y Cynghorydd Swash bod y cofnodion yn adlewyrchu ei bryderon am wahardd preswylwyr o’r cyfarfod ar sail gwybodaeth yn ymwneud ag unigolyn penodol a’u materion busnes. Awgrymodd efallai y byddai’r Pwyllgor yn dymuno ystyried y dull mewn perthynas â cheisiadau yn y dyfodol.
Ar y pwynt hwn, cafwyd seibiant byr.
Cyn galw ar Mr Pierce (Cadeirydd Cymdeithas y Preswylwyr) i gyflwyno ei ddatganiad, dywedodd y Cadeirydd fod cais wedi dod i law gan y preswylwyr a oedd yn bresennol i gael aros yn yr ystafell i glywed yr hyn yr oedd gan Mr Pierce i’w ddweud. Yna, derbyniwyd cynnig gan y Pwyllgor i newid y cyfarfod yn ôl i sesiwn agored er mwyn galluogi aelodau’r cyhoedd i gael dod yn ôl i mewn i’r ystafell.
Wedi i Mr Pierce gyflwyno ei dystiolaeth, derbyniwyd cynnig gan y Pwyllgor i symud y cyfarfod yn ôl i sesiwn gaeedig. Gadawodd y preswylwyr yr ystafell heb drafodaeth bellach ac fe arhosodd Mr Pierce yn ystafell i ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau, ac yna gadawodd yr ystafell.
Yn dilyn trafodaeth, cafwyd seibiant arall cyn i’r Pwyllgor ailymgynnull i ddod i benderfyniad a gymeradwywyd yn unfrydol.
Derbyniwyd cynnig i symud yn ôl i sesiwn agored er mwyn galluogi arsylwyr i glywed y penderfyniad a gadawyd y cyhoedd yn ôl i mewn i’r ystafell. Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol a darllenodd y penderfyniad.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried y cais a wnaed ar 4 Mehefin 2024 am drwydded safle carafanau, yn unol â Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013, ar dir Willow Park, Colliery Lane, Gladstone Way, Manco, Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint CH5 2TX (h.y. y safle), penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:
1. Gwrthod rhoi trwydded safle carafanau yn unol ag Adran 7 Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013:
Ystyrir bod y cais yn annilys oherwydd y rhesymau canlynol:
(a) Mae’r ymgeisydd wedi methu â thalu’r ffi ofynnol; (b) Mae’r ymgeisydd wedi methu â darparu asesiad risg diogelwch tân digonol, fel yr amlygir gan y Swyddog Tân; (c) Mae’r ymgeisydd wedi methu â darparu EICR digonol yn ôl y gofyn; ac (d) Mae’r ymgeisydd wedi methu â darparu tystiolaeth o adnoddau ariannol digonol i ddangos y gellir rheoli’r safle’n ddigonol ac yn briodol.
2. Os gellid ystyried bod y cais yn ddilys, caiff ei wrthod am y rhesymau canlynol:
(a) Mae’r ymgeisydd wedi methu â darparu asesiad ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ar ddechrau’r cyfarfod, roedd 29 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |