Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Delyn, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Penodi Is-Gadeirydd

Pwrpas:        Penodi Is-Gedeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Richard Lloyd fel Is-Gadeirydd y Pwyllgor.   Cynigiwyd ac eiliwyd enwebiad pellach y Cynghorydd Ralph Small.   Yn dilyn yr ail enwebiad, gofynnodd y Cynghorydd Lloyd i’w enwebiad gael ei dynnu’n ôl, a gwnaethpwyd hynny’n briodol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Ralph Small yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu ar gyfer 2021/22.  

2.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Andy Williams gysylltiad personol yn eitem rhif 5 ar y rhaglen - Newidiadau i Drwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat.

3.

Cofnodion pdf icon PDF 62 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 10 Hydref 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2019 ei gylchredeg gyda’r rhaglen.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi.

4.

Newidiadau i drwyddedu Tacsi a Hurio Preifat pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Yn ddiweddar, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi’r ddogfen “Statutory Taxi and Private Hire Vehicle Standards” ac mae Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi’r ddogfen “Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru”. Mae’r ddwy ddogfen yn effeithio ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu yr adroddiad ac eglurodd bod yr Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi dogfen “Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat” yn ddiweddar.   Yn ychwanegol at hyn, yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen “Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru”.  Mae’r ddwy ddogfen yn effeithio ar Drwyddedu Cerbydau Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.

 

Mae’r Safonau Statudol Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn canolbwyntio ar amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn.   Nododd yr Adran Drafnidiaeth ei bod yn amlwg, yn dilyn ymgynghoriad manwl, bod yna gonsensws bod angen safonau sylfaenol craidd cyffredin i reoleiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat yn well.

 

Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yng Nghymru.    Roedd y ddogfen honno yn dilyn Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ‘Gwella Trafnidiaeth Gyhoeddus’ a gyhoeddwyd yn 2018.   Nod yr argymhellion a gynhwysir yn y ddogfen oedd darparu ‘datrysiadau cyflym’ i wella cysondeb safonau trwyddedu a gwella diogelwch y cyhoedd ar draws Cymru.   Roedd yr argymhellion yn llunio sail datblygiad pellach gan Lywodraeth Cymru i safonau cenedlaethol.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu 5 rheswm dros fabwysiadu’r argymhellion, a diogelwch y cyhoedd yw’r cyntaf.    Dylai’r cyhoedd allu disgwyl i yrrwr trwyddedig fod yn gymwys, yn onest, yn ddiogel ac yn ddibynadwy.

 

Roedd safonau statudol yr Adran Drafnidiaeth ac argymhellion dogfen Cysoni Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat Llywodraeth Cymru yn cyflwyno nifer o newidiadau y byddai angen i Awdurdodau Lleol eu mabwysiadu.   I grynhoi, mae’r prif newidiadau wedi’u rhestru isod:

 

Gyrwyr

·         Gofyniad i yrwyr ymuno â Gwasanaeth Diweddaru’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS), a chael gwiriad y DBS bob chwe mis

·         Defnyddio’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar gyfer Gwrthodiadau a Dirymiadau Gyrwyr Cerbydau Hacni a Hurio Preifat

·         Gwirio record droseddol dramor gyrwyr

·         Mabwysiadu Cod Ymddygiad Gyrwyr Llywodraeth Cymru

·         Diweddaru Amodau Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat yn unol ag Argymhellion Llywodraeth Cymru

 

Cerbydau

·         Gofyniad i berchnogion cerbydau gael gwiriad DBS blynyddol

·         Gwirio record droseddol dramor 

·         Mabwysiadu polisi Llywodraeth Cymru ar Deledu Cylch Cyfyng a Systemau Fideo mewn Gwrthdrawiad (VIPS) / Camerâu Car mewn tacsis a cherbydau hurio preifat

·         Gorfodi perchnogion tacsis a cherbydau hurio preifat i fabwysiadu argymhellion Llywodraeth Cymru ynghylch amodau hygyrchedd

 

Cyffredinol

·         Ffurflenni cais safonol ar draws Cymru

·         Ymrwymo i adolygu unrhyw Bolisi Trwyddedu Tacsis bob 5 mlynedd yn unol â Safonau Statudol yr Adran Drafnidiaeth.

 

Cynigwyd y byddai Polisi Trwyddedu Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat trosfwaol yn cael ei ddrafftio, i’w ystyried gan y Pwyllgor, i ymgorffori’r holl bolisïau a gweithdrefnau llai sydd ar waith ar hyn o bryd i mewn i un ddogfen, ac ymgorffori’r safonau ag amlinellwyd yn nogfen Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin, dywedodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu, er nad oedd yn ofyniad gorfodol, roedd yr holl yrwyr tacsis yn cael eu hannog i osod Teledu Cylch Cyfyng yn eu cerbydau gan ei fod er diogelwch pawb.  

 

Gofynnodd y Cynghorwr Mike Lowe os oedd y rheolau yn y polisi yn berthnasol i dacsis sy’n dod i Gymru o Loegr.   Eglurodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu bod canllawiau’r Adran Drafnidiaeth yn  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd na’r wasg yn bresennol.