Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

6.

Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio)

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

7.

Cofnodion pdf icon PDF 74 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 13 Gorffennaf 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 13 Gorffennaf 2022, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Rob Davies a Richard Lloyd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

8.

Datganiad Drafft o Adolygiad Polisi Gamblo pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno Datganiad Drafft y Polisi Gamblo i’r Cyngor Llawn i gael cymeradwyaeth derfynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Pla) adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer cyflwyno Datganiad Drafft o Bolisi Gamblo i’r Cyngor llawn ar gyfer ei gymeradwyo ym Mehefin 2023.  Roedd y polisi yn nodi sut oedd y Cyngor yn cyflawni ei swyddogaethau yn unol â Deddf Gamblo 2005.

 

Er bod gwaith cydweithredol ar draws Gogledd Cymru wedi cyflawni ffurf gyson, roedd meysydd penodol o’r Polisi wedi cael eu haddasu ar gyfer pob awdurdod.  Yn dilyn ei adolygiad, mae’r Polisi wedi bod yn destun ymgynghoriad gyda’r cyrff perthnasol a phartïon â diddordeb, gan gynnwys aelodau’r cyhoedd ac Aelodau etholedig.  Pe gaiff ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn, byddai’r Polisi yn dod i rym o 21 Mehefin 2023 am gyfnod o dair blynedd.  Yn adran 6 o’r adroddiad, nodwyd fod y Datganiad Polisi Gamblo presennol wedi’i gyhoeddi ar wefan y Cyngor trwy’r ddolen ganlynol: Datganiad Polisi Gamblo

 

Ymatebodd yr Arweinydd Tîm i gwestiynau a godwyd gan y Cadeirydd a’r Cynghorwyr Richard Lloyd a Gina Maddison.

 

Yn adran 8.1.4 y Polisi, cwestiynodd y Cynghorydd Carolyn Preece a ddylai cyfeiriad penodol at strategaethau iechyd meddwl gael eu cynnwys ar y cyd â’r rhai a grybwyllwyd eisoes ar ddiogelu ac iechyd cyhoeddus, yn arbennig gan fod y mater hwn wedi’i amlygu gan y Comisiwn Gamblo.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd nad oedd unrhyw ymateb wedi cael ei godi i’r ymgynghoriad a bod materion iechyd meddwl eisoes wedi’u hymgorffori o fewn adrannau eraill o’r Polisi, yn arbennig o fewn yr ystyr “iechyd cyhoeddus”.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn agored i Aelodau gynnig newidiadau i’w hargymell i’r Cyngor llawn a pe byddai’r newid yn un bach ac yn archwiliadol mewn natur, ni fyddai angen ymgynghoriad pellach.

 

Cynigiwyd y newid gan y Cynghorydd Preece ac fe eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Maddison.

 

O'i roi i bleidlais, collwyd y diwygiad.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad i gymeradwyo’r Polisi heb newid, fel y cynigiwyd gan y Cadeirydd a’i eilio gan y Cynghorydd Marion Bateman, eu pasio.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r newidiadau i’r Datganiad Polisi Gamblo; a

 

(b)       Cymeradwyo’r Polisi Drafft cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawr ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.

9.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.