Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324 E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Penodi Is-Gadeirydd Pwrpas: Penodi Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnodd y Cadeirydd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd i’r Pwyllgor. Eiliwyd enwebiad y Cynghorydd Ted Palmer ar gyfer y Cynghorydd Carolyn Preece gan y Cynghorydd Richard Lloyd.
Enwebodd y Cynghorydd Rob Davies y Cynghorydd Marion Bateman ond gan nad oedd hi’n bresennol yn y cyfarfod, cynghorwyd na ddylid parhau â’r enwebiad hwn.
Pan gafwyd pleidlais ar y mater, cymeradwywyd yr enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
Penodi’r Cynghorydd Carolyn Preece yn Is-gadeirydd y Pwyllgor. |
|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 1 Mawrth 2023. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Richard Lloyd a Carolyn Preece.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 1 Mawrth 2023 fel cofnod cywir. |
|
Cynllun Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig PDF 94 KB Pwrpas: I amlinellu goblygiadau’r gofyniad newydd sef Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau’r adroddiad a oedd yn nodi goblygiadau’r gofynion oedd i ddod o ran Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig.
Eglurwyd y byddai cynllun trwyddedu newydd ar gyfer ‘Triniaethau Arbennig’, yn cynnwys tat?io, lliwio croen lled-barhaol, tyllu cosmetig, aciwbigo, nodwyddo sych ac electrolysis, yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru (LlC) tua mis Mehefin 2024 dan Ran 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017. Roedd y prif ofynion wedi’u nodi yn yr adroddiad, yn cynnwys yr angen i is-bwyllgor benderfynu ar geisiadau am drwydded a byddai hyfforddiant ar hynny’n cael ei ddarparu. Yn dilyn gwaith ymgynghori oedd yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan LlC, byddai adroddiad ar y canlyniad yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor.
Yn ateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Richard Lloyd, soniodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau am gynlluniau i greu cofrestr ar-lein. Rhoddodd eglurhad hefyd yn ateb i ymholiadau am gyfyngiadau oedran.
Gofynnodd y Cynghorydd Carolyn Preece a oedd angen i fusnesau arddangos eu dogfennau cymeradwyaeth, yn debyg i fusnesau hylendid bwyd, a chadarnhawyd bod angen.
Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Mared Eastwood a Richard Lloyd.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi cynnwys yr adroddiad ac yn aros am ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru. |
|
Trwyddedu Cartref Symudol Preswyl PDF 92 KB Pwrpas: I amlinellu’r gofynion a osodwyd ar y Pwyllgor Trwyddedu yn dilyn y Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd ac a gefnogwyd gan Gyngor Sir y Fflint ar 20 Mehefin 2023 o’r enw ‘Sicrhau Atebolrwydd o fewn Trwyddedu Cartrefi Symudol Preswyl Sir y Fflint’. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau adroddiad yn nodi’r gofynion oedd ar y Pwyllgor Trwyddedu yn dilyn Rhybudd o Gynnig yn dwyn y teitl ‘Sicrhau Atebolrwydd o ran Trwyddedu Cartrefi Symudol Preswyl Sir y Fflint’ a gafodd ei gynnig gan y Cynghorydd Sam Swash a’i gefnogi yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Mehefin 2023.
Tynnwyd sylw at ofynion Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a oedd yn berthnasol i barciau cartrefi symudol preswyl ac nid parciau gwyliau tymhorol. Byddai goblygiadau’r newidiadau, fel roedd yr adroddiad yn ei nodi, yn creu mwy o alw ar y Pwyllgor Trwyddedu gan fod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar hyn o bryd gan swyddogion drwy awdurdod dirprwyedig. Pe bai polisi newydd yn cael ei fabwysiadu, byddai hyfforddiant yn cael ei ddarparu er mwyn i’r Pwyllgor allu ymgymryd â’r gofynion newydd. Ar ôl cael cyngor cyfreithiol ar baragraff 1.03, rhannwyd papur ategol cyn y cyfarfod oedd yn gofyn i’r Aelodau ystyried y dewisiadau roeddent yn eu ffafrio ynghlwm â’r broses benderfynu fel y gwelir isod:
i. Pob cais ac amrywiad yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu. ii. Pob cais ac amrywiad yn cael eu hystyried gan is-bwyllgor i’r Pwyllgor Trwyddedu. iii. Ceisiadau ac amrywiadau’n cael eu ‘galw i mewn’ gan y Pwyllgor Trwyddedu. iv. Ceisiadau ac amrywiadau’n cael eu ‘galw i mewn’ at is-bwyllgor i’r Pwyllgor Trwyddedu.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Davies mai ystyriaeth gan is-bwyllgor oedd y dewis yr oedd o’n ei ffafrio i osgoi’r angen am alw’r pwyllgor llawn ynghyd.
Teimlai’r Cynghorydd Ted Palmer y dylai’r pwyllgor llawn fod â’r cyfrifoldeb o ymdrin â’r ceisiadau hyn.
Siaradodd y Cynghorydd Mared Eastwood o blaid rhoi’r cyfrifoldeb i’r is-bwyllgor am resymau ymarferol, oherwydd terfynau amser cyflwyno trwyddedau safle.
Yn ateb i gwestiynau, gwnaeth y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau sylw bod ceisiadau’n cael eu trin gan swyddogion drwy awdurdod dirprwyedig cyn y Rhybudd o Gynnig. Yn unol â chais y Cynghorydd Swash yn ystod y drafodaeth ar y mater yng nghyfarfod y Cyngor Sir, byddai angen ymgynghori â’r Aelod lleol a phreswylwyr y safle ar unrhyw gais newydd yn ystod y cyfnod pontio hwn ac wrth ddatblygu’r polisi newydd. Ar ben hynny, eglurodd y byddai awdurdod dirprwyedig yn cael ei ddefnyddio pe na bai unrhyw ymatebion yn gwrthwynebu, ond y byddai’n cael ei gyfeirio at y pwyllgor pe bai ymatebion felly.
Rhoddodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu a Rheoli Plâu) drosolwg o’r trefniadau cyfredol i ddirprwyo i swyddogion ac i’r pwyllgor ystyried ceisiadau ynghlwm â swyddogaethau trwyddedu eraill.
Cytunai’r Cynghorydd Richard Lloyd gyda’r Cynghorydd Palmer y dylai’r pwyllgor llawn benderfynu ar geisiadau. Wrth ymateb i gwestiynau, cytunodd y Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnesau i rannu rhestr o safleoedd oedd yn cael eu rheoleiddio ar ôl y cyfarfod.
Fe wnaeth y Cynghorydd Carolyn Preece hefyd gefnogi’r dewis i’r pwyllgor llawn wneud penderfyniadau oherwydd pwysigrwydd y mater.
Yn ateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y swyddogion y byddai’n fuddiol i holl Aelodau’r Pwyllgor gael eu hyfforddi i wneud penderfyniadau o’r fath er mwyn amddiffyn y ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Item 6 - Additional Legal Advice and Options PDF 87 KB Dogfennau ychwanegol: |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |