Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell
Cyswllt: Nicola Gittins 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Datgan Cysylltiad (gan gynnwys Datganiadau Chwipio) Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Rob Davies gysylltiad personol gan ei fod yn ddeiliad trwydded. |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 7 Gorffennaf 2021. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2021 wedi’u rhannu gyda’r rhaglen.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y paragraff olaf yn y cofnodion a gofynnodd a oedd yr adran wedi ymdrin ag unrhyw achosion yn ystod y pandemig ac a wnaed unrhyw benderfyniadau dan eu pwerau dirprwyedig. Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu ei bod bron â chwblhau adroddiad am hyn, a fyddai’n cael ei anfon at Aelodau’r Pwyllgor. Os oedd gan Aelodau gwestiynau, roedd gwahoddiad iddynt gysylltu â hi’n uniongyrchol er mwyn iddi roi eglurhad.
Cynigiwyd ac eiliwyd y cofnodion gan y Cynghorwyr Richard Lloyd a Rosetta Dolphin.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Ddatganiad Drafft Polisi Trwyddedu PDF 97 KB Pwrpas: Hysbysu’r Aelodau ynghylch y gofyniad yn Neddf Trwyddedu 2003 i adolygu’r Polisi Datganiad Trwyddedu, ac i roi copi o’r Polisi Drafft ar gyfer 2021 – 2026 i’r Aelodau ar ôl cyfnod o ymgynghori. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu, wrth gyflwyno’r adroddiad, fod Deddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r Datganiad Polisi Trwyddedu bob 5 mlynedd. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Rhagfyr 2015. Roedd y Polisi Drafft ar gyfer 2021–2026 wedi’i atodi, a oedd yn cynnwys ymatebion yn dilyn cyfnod ymgynghori. Byddai’r ddogfen hon, ar ôl i’r Pwyllgor Trwyddedu ei chymeradwyo, wedyn yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn i gael ei chymeradwyo’n derfynol.
Cynhaliwyd adolygiad trylwyr gyda swyddogion o Awdurdodau Lleol eraill yng Ngogledd Cymru, gan roi ystyriaeth i unrhyw newidiadau perthnasol mewn deddfwriaeth, canllawiau ac arferion da a oedd yn galluogi cysondeb ar draws y rhanbarth lle bo modd. Eglurodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod y chwe sir yng Ngogledd Cymru i gyd yn wahanol ond roedd y Polisïau Trwyddedu ar yr un fformat a gallent gael eu haddasu i ddiwallu anghenion pob Awdurdod Lleol. Roedd y Datganiad Polisi Trwyddedu Drafft ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2021 a Rhagfyr 2026 i’w weld yn Atodiad A, gyda’r newidiadau gwreiddiol cyn ymgynghori i’w gweld yn goch a newidiadau ar ôl yr ymgynghoriad mewn glas. Rhoddodd wedyn grynodeb o’r newidiadau roedd hi wedi’u gwneud.
Cyfeiriodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu wedyn at y broses ymgynghori a chadarnhaodd fod y broses ymgynghori gywir wedi’i dilyn. Roedd dau ymateb wedi’u derbyn gan gynrychiolydd i Iechyd Cyhoeddus Cymru a chynrychiolydd i Ddeiliaid Trwydded Eiddo. Roedd manylion yr ymatebion i’r ymgynghoriad ac ystyriaeth yr Awdurdod Trwyddedu i’r ymatebion hynny i’w gweld yn Atodiad B.
Cyfeiriodd y Cadeirydd yr Aelodau at y Datganiad Polisi Trwyddedu ac aeth drwy’r ddogfen fesul tudalen, yn gofyn a oedd gan yr Aelodau unrhyw gwestiynau penodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Lloyd at bwynt 3.4 yn yr amcanion Trwyddedu a oedd yn cyfeirio at ddarparu cyfarpar cymorth cyntaf ac ystafelloedd cymorth cyntaf mewn lleoliadau mwy a gofynnodd a ddylid ei gwneud yn orfodol bod peiriannau diffibrilwyr ar gael, yn hytrach nag fel ystyriaeth. Yn ateb, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu fod hyn wedi’i amlygu’n las gan ei fod wedi’i newid yn dilyn sylw gan gynrychiolydd i eiddo trwyddedig. Teimlai’r cynrychiolydd ei fod yn ormod i’w ofyn. Er bod diffibrilwyr yn y gymuned, dim ond un clwb nos oedd gan Sir y Fflint. Cadarnhaodd mai ond trwyddedau newydd y byddai’r polisi’n ei effeithio, nid rhai sy’n bod eisoes, gan eu bod nhw wedi’u rhwymo gan y polisïau trwyddedu a oedd mewn grym wrth ymgeisio.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Small, cadarnhaodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu nad oedd unrhyw newidiadau’n cael eu cynnig i’r broses rhybuddion am ddigwyddiadau dros dro.
Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd White yngl?n â’r amserlen ymgynghori, rhoddodd Rheolwr y Tîm Trwyddedu drosolwg o’r broses. Eglurodd fod y cyfnod wedi’i estyn er mwyn caniatáu rhagor o amser i alluogi’r cynrychiolwyr hynny a oedd yn cau i lawr am gyfnod bob blwyddyn ym mis Awst i ymateb. Pan anfonwyd y ddogfen, roedd y newidiadau wedi’u hamlygu mewn coch i’w gwneud yn haws i’r rhai oedd yn ymateb.
|
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |