Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas on 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

76.

Cwestiynau gan y Cyhoedd pdf icon PDF 46 KB

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un cwestiwn cyhoeddus wedi ei dderbyn gan Matt Brown nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod.  Cafodd y cwestiwn a’r ymateb ei ddosbarthu fel a ganlyn:

 

Cwestiwn

“A all y Weinyddiaeth egluro pam y penderfynwyd cau’r holl ysgolion ddydd Iau, 8 Chwefror pan adawodd pob Awdurdod Lleol cyfagos arall, gyda’r un rhybudd tywydd Oren gan gynnwys Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych, Gorllewin Sir Caer a Sir Amwythig, y penderfyniad i gau ysgol gyda’r Pennaeth a Chorff Llywodraethu’r ysgol honno?”

 

Ymateb

“Dydd Mawrth 6 Chwefror, cyhoeddwyd rhybudd tywydd Melyn am eira a rhew yn Sir y Fflint, a ddechreuodd am 06:00 ddydd Iau 8 Chwefror ac a barhaodd tan 06:00 ddydd Gwener 9 Chwefror. Ar y pwynt hwnnw cynghorwyd ysgolion y byddai disgwyl iddynt wneud eu penderfyniad eu hunain yn ymwneud â chau unrhyw ysgol wedi ei seilio ar amodau lleol, yn unol â’r canllawiau tywydd garw.

 

Fodd bynnag, pan uwchraddiwyd y rhybudd tywydd i Oren ddydd Mercher 7 Chwefror, gan amlinellu mwy o amodau eira difrifol yn Sir y Fflint o 08.00 i 15.00 ddydd Iau, fe sbardunodd hyn gyfarfod Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng y Cyngor.  Diben y cyfarfod oedd: i ystyried y risg i ddarparu gwasanaethau’r Cyngor am y 24 awr canlynol yng ngoleuni’r rhybuddion tywydd melyn ac oren yn ymwneud ag eira a rhew.

     i gytuno ar unrhyw newidiadau oedd eu hangen i gynnal parhad gwasanaeth hanfodol ac

     i sicrhau fod yna drefniadau effeithiol mewn grym i ddiogelu’r cyhoedd, yn arbennig y rhai hynny sy’n ddiamddiffyn.

 

Mae rhybudd Oren yn golygu y cynghorir mai dim ond os yw hynny’n hanfodol y dylid teithio a dim ond os yw’n ddiogel i wneud hynny. Fe seiliodd Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng y Cyngor y penderfyniad i gau ysgolion ar yr effeithiau a ragwelwyd o dan y rhybudd tywydd Oren a oedd yn cynnwys;

 

     siawns dda y gallai rhai cymunedau gwledig gael eu hynysu dros dro

     oedi i deithwyr ar ffyrdd yn debygol, gan adael rhai cerbydau a theithwyr heb allu symud

     mae toriadau p?er yn bosibl a gall gwasanaethau eraill gael eu heffeithio, fel signal ffonau symudol

     mae ychydig o oedi yn debygol i rai sy’n teithio ar y rheilffyrdd, gyda rhai teithiau’n debygol o gael eu canslo

 

Roedd yna risg y byddai yna darfu sylweddol ar rwydwaith cludiant yr ysgol, a fyddai’n golygu na fyddai disgyblion yn gallu teithio’n ddiogel i ac o’r ysgol, yn arbennig gan fod disgwyl i’r rhybudd Oren ddod i rym am 8am pan fo rhwydweithiau’r ffyrdd ar eu prysuraf.

 

Roedd yna risg yn benodol i blant gydag anghenion cymhleth sy’n mynychu ysgolion Arbenigol y Sir, gyda nifer ohonynt angen hebryngwyr ac y gallai eu hiechyd a’u lles gael ei effeithio pe baent yn sownd mewn bysiau mini mewn tywydd garw.

 

Hefyd roedd yna risg gan fod Yr Wyddgrug yn ardal darged, yr oedd disgwyl iddi gael ei heffeithio’n andwyol gan eira trwm, y gallai hyn effeithio ar ddarparu’r gwasanaethau prydau ysgol i’r ysgolion hynny ar  ...  view the full Cofnodion text for item 76.

Item 2 - Question and Response pdf icon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

77.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd yr Aelodau canlynol gysylltiad personol â’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2024/25 (eitem 11 ar y rhaglen) gan fod ganddynt gysylltiad agos â phobl sy’n cael eu cyflogi gan y Cyngor: Y Cynghorwyr Chris Bithell, Gillian Brockley, Mel Buckley, David Coggins Cogan, Adele Davies-Cooke, Dennis Hutchinson, Christine Jones, Simon Jones, Roz Mansell, Hilary McGuill, Ted Palmer, Andrew Parkhurst, Carolyn Preece, Kevin Rush, Dale Selvester a Linda Thomas.

 

Ar Gyllideb Cronfa’r Cyngor 2024/25 (eitem 7 ar y rhaglen), fe ddatganodd y Cynghorydd Hilary McGuill gysylltiad personol a sy’n rhagfarnu fel Aelod o Fwrdd Cartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru.  Fe ddatganodd y Cynghorwyr Glyn Banks a Ted Palmer gysylltiad personol ar yr un eitem.

78.

Cofnodion pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024 fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2024, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Sean Bibby a Teresa Carberry.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir.

79.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd Cyhoeddiadau’r Cadeirydd yn ymwneud â digwyddiadau a fynychwyd ers y cyfarfod blaenorol eu dosbarthu cyn y cyfarfod.

80.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

81.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2024/25 - Y Cam Cau Olaf pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2024/25 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon

·         Y daith hyd yma...

·         Newidiadau pellach i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2024/25

·         Gofyniad Cyllidebol Ychwanegol 2024/25

·         Datrysiadau Cyllidebol

o   Cyllid Allanol Cyfun

o   Gostyngiadau i Gostau Portffolios

o   Gostyngiadau i Gostau Ysgolion

o   Gostyngiadau Cost Eraill

o   Treth y Cyngor

o   Datrysiadau a Gynigiwyd yn Derfynol

o   Dewis Arall o ran y Gyllideb (a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol)

·         Treth y Cyngor 2024/25

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol

·         Risgiau Agored yn 2024/25

·         Cronfeydd Wrth Gefn

·         Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi

·         Edrych i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Roedd y cyflwyniad yn nodi newidiadau ers y sefyllfa a adroddwyd fis Ionawr a oedd wedi ystyried effaith ariannol Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol Cymru.  Wedi dwy sesiwn friffio i’r Aelodau ac wedi i’r pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried cynigion lleihau costau ychwanegol, roedd gwaith wedi parhau i adolygu’r sefyllfa gyffredinol ynghyd â chyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar gyllid canlyniadol a ddisgwyliwyd gan Lywodraeth y DU.  Cafwyd manylion yngl?n â chanlyniad y gwaith hwnnw yn yr adroddiad i’r Cabinet gyda datrysiadau arfaethedig terfynol i amlinellu sut y gallai’r Cyngor gyflawni cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2024/25.  Roedd y gyllideb arfaethedig yn cynnwys cynnydd blynyddol cyffredinol o 8% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor ac 1.1% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwneriaid Rhanbarthol.   Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 9.1% a roddai  arenillion net ychwanegol cyffredinol o £9.072 miliwn yn 2024/25.  Cafodd dadansoddiad o’r cynnig hwn a dewis a gyflwynwyd gan y Gr?p Annibynnol - a oedd yn gofyn am ddefnyddio’r Cyllid Allanol Cyfun ychwanegol gan Lywodraeth Cymru gyda chynnydd cyffredinol yn Nhreth y Cyngor o 9.0% - ei egluro yn y cyflwyniad.

 

Amlygwyd nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2024/25 ynghyd â diweddariad ar gronfeydd wrth gefn gan gynnwys atgoffa yngl?n â phwysigrwydd meithrin a chynnal cronfeydd wrth gefn i ddiogelu yn erbyn risgiau agored ac ar gyfer y tymor canolig yng ngoleuni’r setliadau llai a ragwelir ar gyfer 2025/26 a 2026/27.

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r cyflwyniad i ben drwy adlewyrchu ar y risgiau cynyddol a’r heriau sy’n codi o’r setliad gwael gan Lywodraeth Cymru a’r angen am reolaeth ariannol gynyddol yn 2024/25 i ymateb i’r setliadau ariannol llai a ragwelir ar gyfer y dyfodol, gyda mwy o bwyslais ar drawsnewid gwasanaethau a lleihau cost.

 

Fel Arweinydd y Cyngor, diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i bawb am eu mewnbwn ar y sefyllfa heriol o ran y gyllideb ac adleisiodd bryderon swyddogion am sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn y dyfodol.  Yn dilyn cyfarfod y Cabinet a’r trafodaethau gyda’r Gr?p Annibynnol yn gynharach yn ystod y dydd, fe gynigiodd y gyllideb amgen a nodwyd ym mharagraff 1.25 yr adroddiad a oedd yn cynnwys cynnydd cyffredinol blynyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 81.

Item 7 - Budget presentation slides pdf icon PDF 492 KB

Dogfennau ychwanegol:

82.

Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2024/25 pdf icon PDF 107 KB

Pwrpas:        Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2024-25 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2024/25 fel rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol.  Roedd lefel gyffredinol Treth y Cyngor yn cynnwys tri phraesept ar wahân a osodwyd gan (i) y Cyngor Sir, (ii) Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a’r (iii) holl Gynghorau Tref/Cymuned a oedd yn llunio cyfanswm y tâl a godwyd yn erbyn pob eiddo.  Roedd yr adroddiad yn nodi’r praeseptiau i’w codi gan y Cyngor yn seiliedig ar gynnydd o un ai 9.0% neu 9.1% fel y nodir yn yr adroddiad blaenorol.

 

Cafodd yr argymhellion, yn seiliedig ar y dewis am gynnydd o 9.0%, eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Richard Jones a Helen Brown.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod diwygiad a gynigiwyd wedi hynny gan y Cynghorydd David Coggins Cogan ar newid y premiwm ar gyfer tai gwag hirdymor yn annilys o ganlyniad i’r penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol yn y rhaglen.  Cynghorwyd ymhellach gan y Rheolwr Refeniw a Chaffael y byddai penderfyniad o’r fath ar y cam hwn yn codi nifer o risgiau sylweddol i’r Cyngor ac y byddai angen cyflwyno cynllun premiwm amgen o Ebrill 2025 i ganiatáu ar gyfer yr ymgynghoriad angenrheidiol pe byddai Aelodau yn dymuno mynd ymlaen â hyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Helen Brown o blaid y cais a fyddai’n golygu y byddai eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio eto.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y dylai’r diwygiad fod wedi ei gynnig fel rhan o’r ystyriaethau ar Dreth y Cyngor o fewn Cyllideb 2024/25 ac y gallai Aelodau fod yn dymuno ystyried yr awgrym a wnaed gan y Rheolwr Refeniw a Chaffael i ddilyn y broses gyfreithiol fel y ffordd ymlaen.

 

Wrth ymateb i sylwadau pellach, cymeradwyodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y cyngor a roddwyd gan swyddogion ac eglurodd y goblygiadau o newid sail Treth y Cyngor ar y cam hwn, gyda’r gyllideb eisoes wedi ei chymeradwyo.

 

Tynnodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei ddiwygiad yn ôl yn dilyn hynny.

 

Wedi i’r Cynghorwyr Jones a Brown dynnu eu cynnig yn ôl, cynigiodd y Cynghorydd Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad wedi ei seilio ar gynnydd blynyddol cyffredinol o 9.0% gan ychwanegu fod y Cabinet yn ysgogi adolygiad o gynllun premiwm Treth y Cyngor ar gyfer eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi dros y 12 mis nesaf.  Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell.

 

Yn dilyn cynnig ac eilio, cafwyd pleidlais a derbyniwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Treth y Cyngor 2024/25 yn cael ei osod yn seiliedig ar gynnydd o 9.0% yn ffioedd y Cyngor Sir, fel nodir yn Atodiad 1 i’r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel ffioedd Treth y Cyngor 2024/25 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.  Yn ogystal â hyn, pan nad yw eithriadau’n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn uwch na chyfradd safonol Treth y  ...  view the full Cofnodion text for item 82.

83.

Strategaeth Rheoli’r Trysorlys 2024/25 pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Strategaeth ddrafft Rheoli'r Trysorlys 2024/25 ar gyfer ei chymeradwyo.

 

Nid oedd unrhyw newidiadau sylweddol wedi eu gwneud i'r Strategaeth ers y flwyddyn flaenorol ac nid oedd unrhyw faterion penodol wedi eu codi ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a'i eilio gan y Cynghorwyr Paul Johnson a Glyn Banks.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2024/25.

84.

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2024/25 pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gafodd Aelodau adroddiad er mwyn cymeradwyo’r polisi blynyddol ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion yn ddarbodus.

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor:-

 

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd, gan gynnwys y Model Buddsoddi Cydfuddiannol.   Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:-

 

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2021.  Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2024/25 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021.  Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(c)       Cymeradwyo’r Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael ei ystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifo) fel a ganlyn:-

 

·         Na wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnyddio.

 

·         Unwaith y bydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan Gartrefi Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifo, fel derbyniadau cyfalaf, a dim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled y gellir defnyddio’r rhain. Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth  ...  view the full Cofnodion text for item 84.

85.

Datganiad Polisiau Tal ar gyfer 2024/25 pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r deuddegfed Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) y Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2024/25 i alluogi cyhoeddi o fewn y terfynau amser statudol.  Dyma’r deuddegfed datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan y Cyngor ac mae’n adlewyrchu trefniadau presennol a threfniadau’n ymwneud â thâl, gan ymgorffori diweddariadau fel nodir yn yr adroddiad.  Cyn cyhoeddi, byddai cyflwyno’r Archwiliad Cyflog Cyfartal yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu mai dyma’r wythfed archwiliad cyflog.

 

Croesawodd y Cynghorwyr Chris Bithell a Dennis Hutchinson gamau gweithredu i leihau’r bwlch cyflog cyffredinol rhwng y rhywiau ymhellach lle roedd gwaith o’r un gwerth yn cael ei wneud.

 

Ar ôl pleidlais, cafodd yr argymhellion eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Datganiad drafft ar Bolisi Tâl ar gyfer 2024/25; a

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i ddiweddaru Datganiad Polisi Tâl 2024/25 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.

86.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

87.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor. Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

88.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

89.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd dau aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.