Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Hybrid Meeting

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

98.

Cwestiynau gan y Cyhoedd pdf icon PDF 338 KB

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: derbyniwyd un erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod un cwestiwn cyhoeddus wedi’i dderbyn gan Vicki Roskams:

 

“Yn dilyn y difrod a achoswyd i natur a’r hen goetir i lawr mewn ardal SoDdGA sy’n rhedeg ochr yn ochr ag Aber Afon Dyfrdwy, sydd hefyd yn ardd a safle rhestredig, hoffem ofyn:-

    

Beth mae Sir y Fflint yn mynd i’w gynnig i wella ei weithdrefnau, strategaethau adrodd ac i SICRHAU bod cyfathrebu cliriach a llinellau amser yn cael eu ffurfioli ac y cedwir atynt, i atal y math hwn o ddifrod rhag gwaethygu gyda chanllawiau adrodd cliriach a chyfrifoldebau ar y cyd, gan sicrhau rheolau a chanlyniadau sefydlog clir am dorri canllawiau o’r fath sy’n cael eu cyhoeddi a’u gorfodi?

 

Wrth ymateb, dywedodd yr Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Bithell:

 

“Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ymdrin ag ymchwiliad Gorfodaeth Cynllunio yn safle John Summers Shotton Point, yn dilyn cyfres o broblemau a godwyd gyda’r Cyngor gan nifer o ffynonellau eilaidd a thrydydd parti, yn cynnwys sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, nad yw wedi helpu o gwbl.  

 

Yn dilyn e-bost gan Mrs Vicki Roskams o Enbarr Enterprises Limited a dderbyniwyd ddydd Gwener 28 Ebrill yn holi am gynnydd, mae Mrs Roskams a budd-ddeiliaid allweddol eraill eisoes wedi cael gwybod yn llawn am yr ymchwiliad sydd ar y gweill gan y Cyngor, yn cynnwys y camau y mae’r Cyngor wedi’u cymryd eisoes ac mae’n bwriadu eu cymryd i sicrhau bod budd pennaf yr holl asedau cadwraeth perthnasol yn y safle hwn yn cael eu hystyried. 

 

Y cyfan all y Cyngor ei wneud yw gweithredu’n unol â’r ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd ar gael iddo, a phan fo niwed cynllunio clir wedi’i ddynodi. Wrth ymateb i’r cwestiwn a ofynnwyd, mae’n anodd i’r Cyngor ddeall beth y gall ei newid, neu’n wir beth sydd angen iddo newid, o safbwynt ei bolisïau, prosesau neu ymateb gorfodi.  Mae’r Cyngor wedi, ac yn dilyn ei Bolisi Gorfodi mabwysiedig ac yn delio â phob achos yn ôl ei rinweddau, sy’n gonfensiwn cynllunio sydd wedi’i hen sefydlu.   

 

Mae hefyd yn bwysig ym mhob ymchwiliad gorfodi bod y Cyngor yn defnyddio dull cytbwys a chymesur. Mae hyn yn cynnwys cael gafael ar y wybodaeth yn llawn cyn gweithredu, ac i glywed gan ddwy ochr y ddadl neu fater, yn hytrach na chymryd un safbwynt yn unig. Dyma beth mae’r Cyngor wedi’i wneud ac mae’n parhau i’w wneud yn brydlon a chymesur, o fewn y pwerau sydd ganddo. 

 

Mae ymateb y Cyngor wedi bod yn glir, yn wybodus a chymesur, ond nid yw hyn wedi cael ei helpu ar brydiau gan y sylw yn y cyfryngau cymdeithasol, sy’n gallu gweithredu fel rhwystr i ymchwiliad gorfodi sydd ar y gweill.

 

Bydd y Cyngor yn parhau i reoli’r sefyllfa ac mae wedi ymgysylltu’n llawn â pherchnogion y safle yn cynnwys derbyn strategaeth amlinellol ar gyfer y safle cyfan, y gall y Cyngor ei thrafod â nhw a’u cynghori am y ffordd briodol o’i datblygu a pharhau i gydymffurfio. Yn wir, yn  ...  view the full Cofnodion text for item 98.

99.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

100.

Cofnodion pdf icon PDF 139 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 23 Chwefror.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge eu bod yn gofnod cywir a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Dave Hughes.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

101.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd deisebau. 

102.

Mabwysiadu’r Canllaw Iaith Gyffredin Model i’r Cyfansoddiad a gwneud diweddariadau i’r Cyfansoddiad Model Cenedlaethol pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Argymell mabwysiadu’r canllaw iaith gyffredin a’r Cyfansoddiad diwygiedig yn dilyn y gwaith a gyflawnwyd gan y gweithgor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod cyfansoddiad y Cyngor yn seiliedig ar fodel cenedlaethol a baratowyd ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol yn 2014. Cafodd model diwygiedig ei gomisiynu gan y cyrff hynny yn ystod 2021 i adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth a’r angen i foderneiddio’r iaith.

 

Sefydlodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd weithgor i ystyried y ddogfen newydd. Edrychodd ar y ddogfen a chredai y dylid ei mabwysiadu.  Yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr, gofynnwyd i’r Pwyllgor gynnal adolygiad pellach o’r darpariaethau oedd yn ymddangos eu bod yn newid y ffordd y mae rheolau / gweithdrefnau presennol y Cyngor yn gweithredu. Roedd y gweithgor yn fodlon, er bod y derminoleg ac mewn rhai achosion, dyluniad y ddogfen wedi newid, nad oedd y ddogfen newydd yn newid sut oedd y Cyngor yn gweithredu yn ei hanfod. Roedd y ddogfen bellach yn cael ei hargymell i’w mabwysiadu.

 

Roedd y model presennol a’r un newydd yn cynnwys disgrifiadau o rolau ar gyfer gwahanol rolau yn y cyngor e.e. cadeirydd Pwyllgor a Chynghorydd ward.  Yn 2014, nid oedd y Cyngor yn dymuno mabwysiadu’r disgrifiadau rolau, ond y tro hwn, roedd y gweithgor yn credu y byddent yn ddefnyddiol. Fodd bynnag, roedd y gweithgor yn cydnabod y dylid ymgynghori â phob Cynghorydd ar y disgrifiadau rolau, oedd angen mwy o waith cyn eu mabwysiadu. Byddent yn cael eu rhannu â phob Aelod i sicrhau eu bod yn cytuno bod y disgrifiadau'n adlewyrchu rolau gwahanol yr Aelodau. Bydd gwiriad cysondeb hefyd yn cael ei gynnal ochr yn ochr â’r canllawiau Saesneg clir.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog i Matt Geiorgiou oedd wedi gadael ei swydd yn Sir y Fflint fel Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Dirprwy Swyddog Monitro, am y gwaith a wnaeth gyda’r Gweithgor, oedd wedi bod yn ddarn mawr o waith, a dymunodd yn dda iddo yn ei swydd newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Hodge.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones fod angen diwygio tudalen 119 i adlewyrchu nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu sef pump ac nid chwech. Ar dudalen 115, dylai’r geiriad fod yn ‘CDLl’ ac nid ‘y CDLl’.  Wrth ymateb i gwestiwn, eglurodd y Prif Swyddog fod unrhyw eiriau oedd wedi eu tanlinellu yn y ddogfen yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed. Mewn ymateb i gwestiwn arall, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Ddeddf yn caniatáu i swyddi yn y Cabinet gael eu rhannu, oedd yn cynnwys y Dirprwy Arweinydd.  Gofynnodd y Cynghorydd Jones am gyngor os oedd y trefniadau dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn unol â’r Cyfansoddiad ai peidio. Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ddogfen fyw a bod y gwaith wedi dechrau arni yn ystod hydref y flwyddyn flaenorol. Mae’n disgrifio beth sy’n digwydd pan fo unrhyw newidiadau’n cael eu gwneud fel bod cofnod ohonynt. Nid oedd y ddogfen wedi dal i fyny, ond roedd y ddeddfwriaeth yn caniatáu  ...  view the full Cofnodion text for item 102.

103.

Adolygiad Treigl o God Ymddygiad y Cynghorwyr pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo’r newidiadau a argymhellwyd gan y Pwyllgor Safonau i’r Cod Ymddygiad i Gynghorwyr fel rhan o adolygiad parhaus o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad gan egluro bod y Pwyllgor Safonau wedi cynnal adolygiad treigl o’r codau a’r protocolau yn y cyfansoddiad.Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf, ystyriodd newidiadau i God Ymddygiad Cynghorwyr mewn ymateb i’r argymhellion yn Adolygiad Penn.   

 

Roedd yn argymell y newidiadau a ganlyn i’r Cyngor Llawn eu cymeradwyo:

 

iv) Dylid ymestyn paragraff 4a y Cod (i roi sylw dyledus i gydraddoldeb cyfleoedd i bawb) i gynnwys pob un o’r naw nodwedd warchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

 

vi) Dylid addasu 6(1)(b) y Cod Ymddygiad i osod rhwymedigaeth ar Aelod i adrodd ar ei ymddygiad troseddol ei hun yn ogystal ag eraill (fel ydyw ar hyn o bryd).

 

vii) Dylai hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad fod yn orfodol i bob Aelod.

Ystyriodd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd y newidiadau yn ei gyfarfod ar 15 March 2023 a chytunwyd eu hargymell i’w mabwysiadu. 

 

            Roedd drafft wedi’i ddiweddaru wedi ei ddosbarthu i Aelodau, oedd yn ymdrin ag unrhyw bryderon a godwyd, yn enwedig o ran troseddau newydd ers i dymor newydd y Cyngor ddechrau.           

 

            Ar dudalen 668, gofynnodd y Cynghorydd Peers os oedd gofyn i’r Cyngor gymeradwyo rhywbeth nad oedd wedi’i brofi mewn tribiwnlys. Eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru, wrth newid y Cod, wedi cyhoeddi cynnig i addasu model cenedlaethol y Cod oedd yn rhan o’r ymgynghoriad ac a fyddai’n cael ei ddileu maes o law. Os byddai’n cael ei dderbyn, byddai’n rhaid ei gyflwyno i’r Senedd i basio’r ddeddfwriaeth. Pe byddai tribiwnlys yn cynghori na ddylai Sir y Fflint gynnwys yr agweddau hynny yn y Cod, yna byddai Sir y Fflint yn ei ddileu. Fodd bynnag, roedd deddfwriaeth yn caniatáu i’r Cyngor wneud y newidiadau i’w Cod eu hunain.   Wrth ymateb i gwestiwn arall, dywedodd y Prif Swyddog ei bod yn awgrym da i ddileu’r cyfeiriad at ffacsimili.

 

            Awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones, yn hytrach na rhestru’r tair nodwedd warchodedig ar dudalen 668, y dylai’r geiriau fod yn ‘nodweddion gwarchodol’, fyddai’n diogelu’r ddogfen i’r dyfodol.  Eglurodd y Prif Swyddog, gan nad oedd argymhelliad yr adroddiad wedi’i gynnig, dyma oedd y prif gynnig.

 

            Wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Swyddog, pan oedd rhywun yn sefyll mewn etholiad, byddent yn cael eu diarddel pe byddent wedi cael dedfryd o dri mis neu fwy mewn carchar. Fodd bynnag, byddai pwynt yn cyrraedd pan fyddai’r troseddau blaenorol wedi ‘darfod’. Roedd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd wedi gofyn am adroddiad ar y diweddariad i wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, fyddai’n dod gerbron y cyfarfod ym mis Mehefin.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Ibbotson ddiwygiad y dylai’r tair nodwedd warchodedig barhau i sicrhau nad oedd unrhyw atchweliad yn y nodweddion.   

 

            Ar y pwynt hwn, roedd y drafodaeth ar y diwygiad.

 

            Eglurodd y Prif Swyddog  fod y naill gynnig a’r llall yn gyfreithiol, ac mai’r Aelodau ddylai benderfynu.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Coggins Cogan o blaid cadw’r rhestr o nodweddion unigol gan y gellid eu diwygio neu ychwanegu atynt, oedd yn fwy diogel yn ei farn ef.

 

            O'i  ...  view the full Cofnodion text for item 103.

104.

Penodi Person Lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 79 KB

Pwrpas:        Diweddaru'r Aelodau ar ail-benodi person lleyg i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod gofyn i’r Cyngor, dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, sicrhau bod 1/3 o aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn Aelodau Lleyg.

 

Roedd tymor un o’r Aelodau Lleyg presennol yn dod i ben ym mis Mai 2023, yn dilyn pum mlynedd ar y pwyllgor. Roedd yr Aelod Lleyg yn fodlon gwasanaethu am dymor arall os oedd y Cyngor yn barod i’w hail benodi.

 

Cafodd Sally Ellis ei phenodi gan y Cyngor ym mis Mai 2017 am gyfnod o bum mlynedd. Felly roedd ei chyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Mai 2022. Roedd wedi bod yn aelod diwyd a gweithgar o’r Pwyllgor a hi oedd ei Gadeirydd presennol. 

 

Er mwyn rhoi amser i Gynghorwyr setlo ac amser i ystyried yr amrywiaeth o sgiliau ar y Pwyllgor, cafodd Sally Ellis ei hail benodi am 12 mis.  Roedd yr Aelodau wedi cael bron i 12 mis o brofiad ar y Pwyllgor gyda Sally Ellis fel Cadeirydd. Pe bai’n cael ei hail ethol, awgrymwyd y dylai hyn fod am gyfnod arall o dair blynedd fel y gallai’r Cyngor recriwtio rhywun yn ei lle yn 2026 cyn yr etholiadau nesaf.

 

            Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Parkhurst.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ail benodi Sally Ellis fel Aelod Lleyg y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am dair blynedd arall hyd at 31 Mai 2026.

105.

Cwestiynau pdf icon PDF 37 KB

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.

 

Cynghorydd Bernie Attridge: Adolygiad o ddechrau'r flwyddyn gwyliau blynyddol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd un cwestiwn ac roedd yr Aelodau wedi cael copi, yn cynnwys yr ymateb:

 

Y Cynghorydd Bernie Attridge

 

“All yr Aelod Cabinet ymrwymo i adolygiad brys o wyliau gweithwyr oherwydd bod llawer o weithwyr yn cymryd gwyliau blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a gadael gwasanaethau’n wannach. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar ben-blwyddi gweithwyr fel ffordd o ddatrys y broblem hon. Rwyf yn gwerthfawrogi mai rheolwyr ddylai reoli hyn, ond rwyf yn ymwybodol bod rhai gwasanaethau’n defnyddio dim byd ond staff asiantaeth tra bod ein gweithwyr ar wyliau blynyddol. Hoffwn ofyn cwestiwn ychwanegol i’r Aelod Cabinet yn y Cyngor Llawn yn dibynnu ar ei ymateb”.

 

Wrth ymateb i’r cwestiwn, dywedodd y Cynghorydd Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol:

 

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Attridge am ei gwestiwn.

 

Gall y flwyddyn wyliau fod yn unrhyw gyfnod o 12 mis ond fe’i diffinnir fel arfer yn y Deyrnas Unedig fel y flwyddyn galendr (1 Ionawr i 31 Rhagfyr) neu’r flwyddyn ariannol o 1 Ebrill i 31 Mawrth.

 

Mae blwyddyn wyliau blynyddol y Cyngor wedi’i seilio ar y flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 31 Mawrth) ac felly y bu hi erioed. Mae hyn yn galluogi i gydweithwyr cyllid wneud darpariaeth ariannol gywir ar gyfer unrhyw wyliau sy’n cael ei gario ymlaen i’r flwyddyn wyliau newydd. Mae hefyd yn cyd-fynd â chanlyniad trafodaethau cenedlaethol ar gyflogau a thelerau ac amodau, sy’n dod i rym ar 1 Ebrill bob blwyddyn. 

 

Mae Prif Swyddogion wedi ystyried y cwestiwn o wyliau a newid y flwyddyn wyliau yn y gorffennol fodd bynnag, ac fel rhan o’r ystyriaethau hynny, mae nifer o gymhlethdodau fyddai’n cynnwys llawer iawn o ail wneud gydag ychydig iawn o fudd cyffredinol i fusnes. Mae’n glir mai’r sefyllfa sylfaenol yw y dylai gwyliau gael ei reoli’n effeithiol yn y portffolios a ffurfio rhan o drafodaethau gweithredol parhaus gyda rheolwyr ag aelodau eu tîm i osgoi gadael llawer iawn o wyliau ar ôl, na ellir ei gymryd yn synhwyrol erbyn diwedd y flwyddyn wyliau.

 

O ran pwynt y Cynghorydd Attridge am adael gwasanaethau’n wannach, nid wyf yn credu bod hyn yn digwydd, nac wedi digwydd erioed, a byddwn wrth gwrs yn croesawu unrhyw wybodaeth benodol ganddo fel y gellir ei ystyried yn llawn.

 

Awgrymodd y gellid cynnal cyfarfod gyda’r Prif Weithredwr, Aelod Cabinet, y Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Sefydliadol a’r Cynghorydd Attridge.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Attridge ei bod yn broblem eang drwy’r awdurdod cyfan gan nad oedd gweithwyr yn gallu cario gwyliau drosodd. Soniodd am un maes gwasanaeth oedd wedi bod â nifer fawr o reolwyr i ffwrdd ar yr un pryd, gyda staff asiantaeth yn cyflenwi, nad oedd yn dderbyniol.  Croesawodd y cyfle i fod yn rhan o’r cyfarfod fel y cynigiwyd gan yr Aelod Cabinet.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mullin fod angen dod o hyd i ddatrysiad addas oedd yn gweithio i bawb.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod angen gwneud mwy o waith ar y mater ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno  ...  view the full Cofnodion text for item 105.

106.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

107.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor. Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

108.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.