Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2022-23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fel y Cadeirydd a oedd yn gadael, cyflwynodd y Cynghorydd Mared Eastwood ei hadolygiad o’r flwyddyn 2022-23.

 

Yn ogystal â diolch i’w g?r a’i Chonsort, Mr Tim Eastwood, ei Chaplan a’r swyddogion a oedd wedi’i chefnogi yn y swydd, talodd y Cynghorydd Eastwood deyrnged i’r rhai hynny a oedd wedi cael eu heffeithio’n ddifrifol gan  y pandemig.  Yn ystod ei hadolygiad, fe dynnodd sylw at ystod o wasanaethau a digwyddiadau dinesig yr oedd wedi eu mynychu ac wedi bod yn falch o gynrychioli Sir y Fflint yn ystod ei chyfnod yn y swydd.   Croesawodd gyfleoedd i siarad Cymraeg gan annog pawb yn y Siambr i godi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg.  Soniodd hefyd am weithgareddau codi arian i gefnogi ei helusennau dewisol, yn cynnwys taith gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir a oedd wrthi’n ei chwblhau ar hyn o bryd.

 

Wrth gloi, mynegodd y Cynghorydd Eastwood ei gwerthfawrogiad i’r Prif Weithredwr, Prif Swyddog (Llywodraethu), Arweinydd y Cyngor ac Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf am eu cefnogaeth wrth iddi gyflawni ei rôl fel Cadeirydd.

3.

Ethol Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2023/24, a'r Cadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Cadeirydd a oedd yn gadael am ei gwaith yn ystod y flwyddyn ac am annog defnyddio’r Gymraeg yn y Siambr.  Wrth enwebu’r Cynghorydd Gladys Healey fel Cadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24, fe siaradodd am ei chefndir ac roedd yn hyderus y byddai’n cyflawni’r rôl yn llwyddiannus gyda chefnogaeth ei Chonsort, y Cynghorydd David Healey.

 

Wrth siarad o blaid yr enwebai, eiliodd y Cynghorydd Bernie Attridge y cynnig.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.  Mewn ymateb, mynegodd y Cynghorydd Healey ei llongyfarchion i’r Cadeirydd a oedd yn gadael ar flwyddyn lwyddiannus ac fe arweiniodd y diolchiadau gan yr Aelodau.  Diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith ac fe dalodd deyrnged i gyfeillion yn ei chymuned ac i’r Arglwydd Barry Jones a’r Arglwyddes Jones a oedd hefyd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Gladys Healey yn cael ei hethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Gladys Healey gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd a oedd yn gadael, ac arwyddodd ei Datganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

 

Cyflwynwyd Bathodyn Swydd Cadeirydd sy'n ymadael i’r Cynghorydd Mared Eastwood a derbyniodd anrheg ar ran ei Chonsort, Mr Tim Eastwood.

 

Arwisgwyd Consort y Cadeirydd, y Cynghorydd David Healey, gyda Chadwyn ei Swydd.

 

(Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey weddill y cyfarfod)

4.

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor ar Gyfer 2023/24, a'r Isgadeirydd i dderbyn Cadwyn y Swydd a Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd Bernie Attridge longyfarch y Cadeirydd ar ei phenodiad a dymuno’n dda iddi.  Cynigodd y dylid ethol y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Is-Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24 a chyfeiriodd at ei rinweddau personol a’i brofiad.

 

Wrth eilio’r cynnig, talodd y Cynghorydd Ian Roberts deyrnged i wasanaeth hir y Cynghorydd Hutchinson mewn Llywodraeth Leol.

 

Ni chafwyd enwebiadau eraill.

 

Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.  Mewn ymateb, diolchodd y Cynghorydd Hutchinson i’r Aelodau am y fraint a llongyfarchodd y Cadeirydd ar ei phenodiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Dennis Hutchinson yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Hutchinson gyda Chadwyn y Swydd gan y Cadeirydd, ac arwyddodd ei Ddatganiad Derbyn Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.  Arwisgwyd Consort y Cynghorydd Hutchinson, Mrs Jean Hutchinson, gyda Chadwyn y Swydd.

5.

Ethol Arweinydd y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby ac eiliodd y Cynghorydd Mel Buckley fod y Cynghorydd Ian Roberts yn cael ei benodi fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bernie Attridge at ymdrechion ei gr?p i sefydlu tîm arweinyddiaeth gyda Memorandwm o Ddealltwriaeth.  Cafodd ei gynnig i benodi’r Cynghorydd Helen Brown yn Arweinydd y Cyngor ei eilio gan y Cynghorydd Mike Peers.

 

Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Attridge am bleidlais a gofnodwyd ac fe gytunodd y nifer angenrheidiol o’r Aelodau.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol dros y Cynghorydd Helen Brown:

Mike Allport, Bernie Attridge, Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Helen Brown, Steve Copple, Bill Crease, Rob Davies, Adele Davies-Cooke, Chrissy Gee, Ian Hodge, Andy Hughes, Richard Jones, Dave Mackie, Roz Mansell, Allan Marshall, Debbie Owen, Andrew Parkhurst, Mike Peers, David Richardson, Dale Selvester, Jason Shallcross, Linda Thew, Ant Turton, Roy Wakelam ac Antony Wren.

 

Pleidleisiodd y Cynghorwyr canlynol dros y Cynghorydd Ian Roberts:

Sean Bibby, Chris Bithell, Gillian Brockley, Mel Buckley, Teresa Carberry, Tina Claydon, David Coggins Cogan, Geoff Collett, Paul Cunningham, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Dave Hughes, Ray Hughes, Alasdair Ibbotson, Paul Johnson, Christine Jones, Simon Jones, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Michelle Perfect, Vicky Perfect, Carolyn Preece, Ian Roberts, Dan Rose, Kevin Rush, Sam Swash, Linda Thomas ac Arnold Woolley.

 

Bu i’r canlynol ymatal rhag pleidleisio:

Dennis Hutchinson

 

Yn dilyn pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24 a diolchodd am y fraint, gan ychwanegu y byddai’n parhau i weithio gyda phob gr?p gwleidyddol er budd pobl Sir y Fflint.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cynghorydd Ian Roberts yn cael ei ethol fel Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2023/24.

6.

Arweinydd y Cyngor i Benodi'r Cabinet

Pwrpas:        Nodi Penodiad Aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â’r Cyfansoddiad, nododd y Cynghorydd Ian Roberts ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet a’u portffolio a restrir isod.

 

Aelod Cabinet

Portffolio

Ian Roberts

Arweinydd y Cyngor

Christine Jones

Dirprwy Arweinydd Partneriaethau ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Dave Hughes

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd

Billy Mullin

Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

Paul Johnson

Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

Sean Bibby

Aelod Cabinet Tai ac Adfywio

David Healey

Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi

Mared Eastwood

Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden

 

7.

Materion Cyfansoddiadol gan gynnwys Pwyllgorau pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii) - (xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â phenodi Pwyllgorau a Chadeiryddion eraill a materion eraill fel dyrannu seddi dan gydbwysedd gwleidyddol.

 

Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, gyda phob un yn ymdrin ag un penderfyniad a oedd angen ei wneud, a’r materion perthnasol ar gyfer eu hystyried.

 

(i)        Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r pwyllgorau sydd wedi’u rhestru ym mharagraff 1.01 yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.  O’i roi i’r bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol ar gyfer 2022/23:

 

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Newid Hinsawdd

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

Cydbwyllgor Llywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:

  • Tai a Chymunedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Safonau

 

(ii)        Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol a bod y Cyngor eisoes wedi penderfynu y dylai’r prif Bwyllgorau fod yn ddigon mawr i allu cynrychioli pob gr?p gwleidyddol.   Cyfeiriwyd at ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â maint a chyfansoddiad y Pwyllgor Cynllunio, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a’r Pwyllgor Safonau fel y manylir ym mhwynt 1.04 yn yr adroddiad.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Billy Mullin.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y rheol am gydbwysedd gwleidyddol a oedd y nodi bod gan gr?p mwyafrifol hawl i fwyafrif ym mhob pwyllgor.  Eglurodd, mewn sefyllfa lle’r oedd gan y gr?p mwyafrifol hanner y seddi, yn cynnwys y Cadeirydd, ar bwyllgor gyda 12 aelod, byddai pleidlais fwrw’r Cadeirydd, i bob pwrpas, yn rhoi rheolaeth gyffredinol iddynt.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gallai’r Cyngor newid maint y pwyllgorau ar ôl y Cyfarfod Blynyddol os y gellid dod i gytundeb rhwng Arweinwyr Grwpiau.  Ychwanegodd hefyd nad oedd y rheol am gydbwysedd gwleidyddol yn rhoi ystyriaeth i bleidleisiau bwrw gan Gadeiryddion a dywedodd bod nifer o bwyllgorau lle nad oedd y gr?p mwyafrifol yn cael y bleidlais fwrw.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, dywedodd y Prif Swyddog bod y Gr?p Strategaeth Cynllunio yn gr?p ymgynghorol a benodwyd o dan drefniadau gweithredol â rôl a oedd yn cael ei chydnabod yn y Cyfansoddiad, felly nid oedd wedi’i gynnwys ar y rhestr o gyrff gwneud penderfyniadau ffurfiol yn yr adroddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Bernie Attridge ddiwygiad, sef y dylid cyfeirio cais y Cynghorydd Banks i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd er mwyn gallu cyflwyno adroddiad yn ôl i’r Cyngor.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Deisebau sydd wedi dod i law'r Cyngor pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar ganlyniadau’r deisebau a gyflwynwyd yn ystod 2022/23.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Glyn Banks i gael diolch i’r swyddogion am eu hymatebion ardderchog i’r deisebau a gyflwynwyd ganddo ef a’r Cynghorydd Maddison.  Eglurodd bod y ddeiseb olaf yn yr adroddiad wedi cael ei chyflwyno ar ran preswylwyr yng Ngwaenysgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham a’i eilio gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

9.

Amserlen o Gyfarfodydd 2023/24 pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar Gyfer 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2023/24 yn dilyn ymgynghoriad.  Dywedodd bod ceisiadau amrywiol a wnaed gan Aelodau wedi cael eu bodloni lle bo hynny’n bosibl a bod mwy o slotiau dros dro wedi cael eu trefnu ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor er mwyn caniatáu mwy o hyblygrwydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby gymeradwyo’r argymhelliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Mared Eastwood.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2023/24, fel y’i hatodwyd i’r adroddiad.

10.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd naw aelod o’r cyhoedd yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod.