Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Sharon Thomas / 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

81.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn ystod trafodaeth ar Gyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2023/24 (eitem 6 ar y rhaglen), gwnaeth y Cynghorydd Dennis Hutchinson ddatgan cysylltiad personol gan ei fod yn ddarparwr cludiant sydd â chontract â’r ysgol.

 

Gwnaeth yr Aelodau canlynol ddatgan cysylltiad personol â’r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 (eitem 10 ar y rhaglen) gan fod ganddyn nhw gysylltiad agos â phobl sydd wedi’u cyflogi gan y Cyngor: Y Cynghorwyr Bernie Attridge, Chris Bithell, Mel Buckley, Andy Hughes, Dennis Hutchinson, Christine Jones, Hilary McGuill, Ted Palmer, Andrew Parkhurst, Kevin Rush a Dale Selvester.

82.

Cofnodion pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023.

 

13 Rhagfyr 2022

 

Cywirdeb - cywiro’r gwall sillafu yn enw’r Cynghorydd Collett.

 

Materion yn Codi - Cofnod rhif 57: Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor - byddai ymateb i'r cwestiynau a gododd y Cynghorydd Mike Peers yn y paragraff olaf ond un yn cael ei ddosbarthu.

 

24 Ionawr 2023

 

Cywirdeb - Cofnod rhif 68: Rhaglen Gyfalaf 2023/24-2025/26 - mewnosod yr esboniad llawn a roddodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Peers o ran ariannu gwaith atgyweirio a chynnal a chadw ysgolion h?n.

 

Cywirdeb - Cofnod rhif 76: Rhybudd o Gynnig - cofnodi bod cynnig y Cynghorydd Lloyd wedi’i eilio gan y Cynghorydd Shallcross.

 

Materion yn Codi - Cofnod rhif 75: Amseroedd ac Amserlen Cyfarfodydd y Cyngor - dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod dechrau cyfarfodydd y Cyngor Sir am 1pm fel yr awgrymwyd yn cael ei ystyried yn rhan o'r gwaith yn ymwneud â Dyddiadur y Cyfarfodydd ar gyfer 2023/24, ynghyd â'r cais i foreau’r dyddiadau hynny gael eu cadw'n rhydd pan fo modd.

 

Ar sail hynny, cafodd y ddwy set o gofnodion eu cymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn amodol ar y gwelliannau, cymeradwyo cofnodion 13 Rhagfyr 2022 a 24 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

83.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ei chyhoeddiadau yn ymwneud â digwyddiadau a aethpwyd iddyn nhw ers y cyfarfod blaenorol.

84.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

85.

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2023/24 - Y Cam Cau Olaf pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24 ar argymhelliad y Cabinet.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad yn cynnwys yr argymhellion gan y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.

 

Gosododd y Cynghorydd Bernie Attridge gynnig i atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu’r Cynghorydd Richard Jones i siarad am fwy na’r pum munud a ganiateir er mwyn cyflwyno cyllideb amgen, gan fod y cais i rannu cyflwyniad sleidiau ar hyn wedi’i wrthod. Cafodd ei eilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

Yn dilyn cyngor ar y cynnig gweithdrefnol gan y Prif Swyddog (Llywodraethu), dywedodd y Cadeirydd nad oedd hi’n caniatáu ymestyn yr amser siarad, fel yr oedd hi wedi dweud o’r blaen, ac y byddai'r cynnig yn mynd ymlaen i bleidlais.

 

Wrth siarad yn erbyn y cynnig, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts y bu cyfleoedd i Aelodau gyflwyno sylwadau drwy gydol y broses gyllidebol, heb unrhyw gyfyngiadau ar yr amser siarad.

 

Wrth ddefnyddio ei hawl i ymateb, galwodd y Cynghorydd Attridge am ganiatáu i Aelodau eraill a oedd yn bresennol i siarad ar y mater.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd modd cyflwyno sylwadau yn gynharach yn y broses gan nad oedd y gyllideb wreiddiol wedi'i darparu bryd hynny.  Gofynnodd felly fod y ddwy gyllideb gael eu hystyried yn y cyfarfod hwn.

 

Gofynnwyd i'r aelodau bleidleisio yngl?n ag a ddylid derbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i'r Cynghorydd Jones siarad am y gyllideb amgen am fwy na phum munud.  O’i roi i bleidlais, gwrthodwyd y cynnig.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw a Chaffael, gyflwyniad manwl yn seiliedig ar yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynharach yn y dydd, a oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon

·         Y daith hyd yma...

·         Newidiadau i’r gofyniad cyllidebol ychwanegol ar gyfer 2023/24

·         Gofyniad cyllidebol ychwanegol 2023/24

·         Datrysiadau Cyllidebol 2023/24

·         Treth y Cyngor

·         Cyllidebau Ysgolion a Gofal Cymdeithasol

·         Risgiau Agored

·         Cronfeydd wrth gefn

·         Barn Broffesiynol a Sylwadau i Gloi

·         Edrych i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf ac Amserlenni

 

Roedd yr adroddiad yn nodi nifer o newidiadau ers y sefyllfa ym mis Ionawr, gan arwain at ofyniad cyllidebol ychwanegol terfynol o £37.098 miliwn ynghyd â chanlyniad y gwaith ar yr amrywiaeth o ddatrysiadau cyllidebol arfaethedig sydd ar gael i alluogi’r Cyngor osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2023/24.  Ar sail hynny, yr oedd angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.99% ar Dreth y Cyngor ar gyfer gwasanaethau’r Cyngor a 0.96% ar gyfer cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth y Crwner Rhanbarthol a Chonsortiwm Addysg Rhanbarthol (GwE).  Roedd hyn yn cyfateb i gynnydd cyffredinol o 4.95% a roddodd arenillion ychwanegol cyffredinol o £5.622 miliwn yn 2023/24.  Roedd data cymharol yn awgrymu bod y cynnydd arfaethedig hwn ar gyfer Treth y Cyngor yn Sir y Fflint ychydig yn is na chyfartaledd cyffredinol Cymru ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at nifer o risgiau agored sylweddol ar gyfer 2023/24 yn cynnwys galw cynyddol am y gwasanaeth digartrefedd a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn ogystal â risgiau newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 85.

Item 6 - Budget Slides pdf icon PDF 372 KB

Dogfennau ychwanegol:

86.

Gosod Treth y Cyngor ar gyfer 2023/24 pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Gosod taliadau Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 fel rhan o strategaeth cyllideb ehangach y Cynghorau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael yr adroddiad i bennu taliadau Treth y Cyngor a phenderfyniadau statudol cysylltiedig yn ffurfiol ar gyfer 2023/24 yn rhan o strategaeth ehangach y gyllideb ar sail y penderfyniad a wnaed ar yr eitem flaenorol.  Gofynnwyd i'r Aelodau gymeradwyo parhad cynllun Premiwm Treth y Cyngor a'r arfer i swyddogion dynodedig arwain ar achosion cyfreithiol ar ran y Cyngor.

 

Roedd lefel gyffredinol Treth y Cyngor yn cynnwys tri phraesept ar wahân a oedd yn rhan o’r cyfanswm a godwyd ar bob eiddo.  Roedd y cynnydd o 3.99% yn elfen y Cyngor yn bodloni disgwyliadau o ran fforddiadwyedd a byddai, ynghyd â chyllid llywodraeth ganolog a'r Grant Cynnal Refeniw, yn helpu i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac yn cynnal graddfa a chymhlethdod y galw am wasanaethau.  Roedd y cyfanswm a godwyd gan Dreth y Cyngor yn cynnwys cyfanswm praesept y Cyngor Sir o £101,126,334; cyfanswm praesept Comisiynydd Heddlu a Throsedd Heddlu Gogledd Cymru o £21,922,318; a phraesept gyfunol o £3,421,107 ar draws pob Cyngor Tref a Chymuned.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Paul Johnson.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylwadau ar y gostyngiad parhaus yn y cynnydd blynyddol yng Nghyllid Allanol Cyfun y Cyngor gan Lywodraeth Cymru a oedd yn effeithio ar drigolion o ran lefelau Treth y Cyngor.

 

Cafodd ei sylwadau eu cydnabod gan y Cynghorwr Chris Bithell a gyfeiriodd at yr effaith a gaiff llai o gyllid canolog ar wasanaethau’r Heddlu.

 

Roedd yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, ac felly cafwyd pleidlais ar bob un o’r argymhellion a chawsant eu derbyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Treth y Cyngor 2023/24 yn cael ei gosod fel y nodir yn Atodiad 1 i'r adroddiad;

 

(b)       Cymeradwyo parhau â’r polisi o beidio â rhoi gostyngiad yn lefel taliadau Treth y Cyngor 2023/24 ar gyfer ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor.  Yn ogystal â hyn, pan nad yw eithriadau’n berthnasol, codi cyfradd Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn uwch na chyfradd safonol Treth y Cyngor ar anheddau gwag hirdymor dynodedig a 100% ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2023; a

 

(c)       Cymeradwyo swyddogion dynodedig i fynd ymlaen â chamau cyfreithiol ac ymddangos ar ran y Cyngor yn Llys yr Ynadon am drethi heb eu talu.

87.

Strategaeth Rheoli Trysorlys 2023/24, Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, Arferion ac Atodlenni 2023 i 2026 pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        Cyflwyno i’r Aelodau Strategaeth Rheoli’r Trysorlys Drafft 2023/24.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ddrafft ar gyfer 2023/24 ar y cyd â Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys ac Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023-26 fel sydd wedi’i atodi.

 

Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i'r Strategaeth ers y flwyddyn flaenorol ac ni chodwyd unrhyw faterion penodol ar ôl ystyriaeth gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a'r Cabinet.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2023/24.

 

(b)       Cymeradwyo Datganiad Polisi Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026; a

 

(c)       Cymeradwyo Arferion ac Atodlenni Rheoli'r Trysorlys 2023 i 2026.

88.

Isafswm Darpariaeth Refeniw - Polisi 2023/24 pdf icon PDF 146 KB

Pwrpas:        Mae gofyn i Awdurdodau Lleol bob blwyddyn roi rhywfaint o’u hadnoddau refeniw o’r neilltu fel darpariaeth i ad-dalu dyledion.  Mae’r adroddiad yn cyflwyno polisi drafft y Cyngor ar Isafswm Darpariaeth Refeniw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i gymeradwyo'r polisi blynyddol ar gyfer yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer ad-dalu dyledion yn ddarbodus. Cadarnhaodd nad oedd angen gwneud newidiadau i’r polisi ar gyfer 2023/24.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Bernie Attridge a’u heilio gan y Cynghorydd Linda Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor:-

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2023/24 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca â chymorth o 1 Ebrill 2016. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan fenthyca (darbodus) heb gymorth neu drefniadau credyd. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(b)       Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai:-

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyfrif Refeniw Tai yn 2023/24 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus ac sydd wedi’i ariannu gan ddyled wedi’i osod ar 31 Mawrth 2017.  Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 50 mlynedd.

 

·         Dewis 3 (Dull Ased Bywyd) i’w ddefnyddio i gyfrifo'r Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2023/24 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sydd wedi’i ariannu gan ddyled o 1 Ebrill 2021. Bydd yn cael ei gyfrifo yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros nifer priodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.

 

(c)       Cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n cael eu hystyried yn wariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-

 

·         Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased yn cael ei ddefnyddio ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnyddio.

 

·         Pan fydd yr asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau (benthyciadau) cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes. Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn hafal i’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes.  Bydd yr ad-daliadau y bydd NEW Homes yn eu gwneud yn cael eu hystyried, yn nhermau cyfrifeg, yn dderbyniadau cyfalaf, a gellir defnyddio’r rhain i ariannu gwariant cyfalaf neu i ad-dalu dyled yn unig. Bydd yr ad-daliad cyfalaf / derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled,  ...  view the full Cofnodion text for item 88.

89.

Datganiad Polisiau Tal Ar Gyfer 2023/24 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Mae’n ofynnol bod bob cyngor yn cyhoeddi eu Datganiad ar Bolisïau Tâl erbyn mis Ebrill bob blwyddyn. Y Datganiad ar Bolisïau Tâl a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yw’r unfed ar ddeg Datganiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Gyngor Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau gymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2023/24 er mwyn ei gyhoeddi cyn y terfyn amser statudol.  Hwn oedd yr unfed datganiad blynyddol ar ddeg i’r Cyngor ei gyhoeddi ac yr oedd yn adlewyrchu’r trefniadau presennol o ran tâl, ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf yn ogystal ag adran newydd yn cadarnhau sefyllfa’r Cyngor ynghylch taliadau i unigolion sy’n gadael.

 

Cyn ei gyhoeddi, byddai'r gwall teipograffyddol ar adran 6(iv) o'r Datganiad Polisi yn ymwneud â chyflog sylfaenol Pwynt 3 y Prif Swyddog yn cael ei gywiro.

 

Ar sail hynny, cynigwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Bernie Attridge a Billy Mullin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Yn amodol ar y diwygiad, cymeradwyo'r Datganiad Polisi Tâl drafft sydd wedi’i atodi ar gyfer 2023/24; a

 

(b)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Corfforaethol (Pobl a Datblygu Sefydliadol) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Ddatganiad Polisi Tâl 2023/24 yn ystod y flwyddyn i adlewyrchu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth, polisi'r Llywodraeth neu drafodaethau cenedlaethol, fel ei fod yn parhau i fod yn gywir ac yn gyfredol.

90.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

91.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwnaeth y Cadeirydd ganiatáu i’r Cynghorydd Helen Brown ofyn cwestiwn brys, a gafwyd ar ôl y terfyn amser:

 

“Yn dilyn cyhoeddiadau 14 Chwefror gan Lee Waters a Llywodraeth Cymru, mae’n gwbl amlwg nad yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Ne Cymru yn ystyried ein trigolion ni yn Sir y Fflint nac ychwaith drigolion Gogledd Cymru. Dim byd, chawsom ni ddim byd.  Hoffwn i ofyn i’r aelod cabinet a yw wedi gweld yr adroddiad gan Dr Lynn Sloman? Pwy yr ymgynghorwyd â hwy ynghylch canfyddiadau’r adroddiad?

 

Ymgynghorwyd yn eang ar y llwybrau Coch a Glas a arweiniodd at ymchwiliad cyhoeddus drud. Gwnaeth yr Arolygydd Annibynnol ei ddyfarniad.  Pam mae Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu hyn? Pam ydym ni’n edrych ar Aston Hill unwaith eto? Nid oes unrhyw ymgynghoriad wedi’i gynnal ac nid yw hyn yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 Llywodraeth Cymru. Mae ein cymuned ni’n ddig ei bod yn cael ei gwthio o'r neilltu unwaith eto.

 

Rwyf wedi nodi bod Ken Skates AS yn galw am ddatganoli i Ogledd Cymru, a fydd yr Arweinydd a’i Gabinet yn ei gefnogi ac yn helpu i’n galluogi ni’n lleol i wneud penderfyniadau ar gyfer ein hardal leol?”

 

Roedd y cwestiwn wedi’i ddosbarthu i’r Aelodau cyn y cyfarfod, ynghyd â’r ymateb a ganlyn gan yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Cludiant Rhanbarthol:

 

“Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Brown am y cwestiwn brys.

 

Mae materion yn ymwneud â chanlyniad yr ‘Adolygiad Ffyrdd’, fel y byddwch chi’n sylweddoli, yn gymhleth ac mae angen ystyried nifer o ffactorau yn lleol ac yn rhanbarthol, bydd y materion hyn yn cymryd amser i weithio drwyddyn nhw gydag Aelodau, swyddogion, a’n partneriaid rhanbarthol.  Rydym ni’n cydnabod bod llawer o waith ac amser wedi’i roi i ddatblygu’r cynlluniau arfaethedig yn genedlaethol ac yn lleol ac mae’n siomedig bod llawer o’r rhain bellach wedi’u tynnu oddi ar y rhaglen ffyrdd cenedlaethol.  Bydd hyn yn cael sawl effaith negyddol ar ein cymunedau lleol ni a’n heconomi yn ehangach.

 

Byddwn ni’n dwyn ynghyd ddiweddariad manwl ar yr adolygiad a'r goblygiadau i Sir y Fflint a fydd yn cael ei ddosbarthu i'r Aelodau ar gyfer eu sylwadau; fodd bynnag, mae’n bwysig deall efallai y bydd angen trafod y ffordd orau i symud ymlaen a gwneud cynnydd ar y mater pwysig hwn ar lefel genedlaethol a rhanbarthol.”

 

Wrth ddefnyddio ei hawl i ofyn cwestiwn atodol, gofynnodd y Cynghorydd Brown am ymateb penodol i baragraff olaf ei chwestiwn y dywedodd nad oedd wedi’i drafod.

 

Wrth ymateb, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod trafodaethau rhanbarthol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ac nad oedd yn gallu ymhelaethu arnynt o ganlyniad i faterion cyfrinachedd.

92.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

93.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor.  Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

94.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r cyhoedd yn bresennol.