Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

53.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Peers gysylltiad personol ag eitem rhif 6 ar y rhaglen – Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor.  Datganodd y Cynghorydd Preece gysylltiad personol sy’n rhagfarnu â’r un eitem.

54.

Cofnodion pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 27 Medi a 18 Hydref 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 27 Medi a 18 Hydref.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Attridge eu bod yn gofnod cywir a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

55.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe eglurodd y Cadeirydd fod ei chyhoeddiadau wedi’u hanfon at bob Aelod dros e-bost yn gynharach yn ystod yr wythnos honno. 

 

Soniodd am ei hymweliad â’r Gwasanaeth Maethu yn Nh? Nyth ar 4 Tachwedd a dywedodd ei fod yn ased hyfryd.

56.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd deisebau. 

57.

Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor pdf icon PDF 126 KB

Pwrpas:        I’r Cyngor osod cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar gyfer 2023-24 yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd Preece yr ystafell cyn i’r eitem gael ei chyflwyno.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod ymgynghoriad cyhoeddus eang wedi’i gynnal ar gais y Cabinet rhwng 8 Tachwedd 2021 a 6 Rhagfyr 2021 i ganfasio barn y cyhoedd am y cynllun premiwm Treth y Cyngor presennol, ei effeithiolrwydd a’i effaith ar y gymuned leol, a defnydd o’r cynllun i gymell perchnogion i ddod ag eiddo i ddefnydd llawn er mwyn cefnogi cyflenwad tai lleol ar gyfer preswylwyr lleol.  Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio dewisiadau ar addasiadau i’r cyfraddau premiwm a’r manteision a risgiau canfyddedig o fabwysiadu unrhyw gynllun amgen neu gynllun wedi’i ddiwygio.

 

Daeth 504 o ymatebion i’r ymgynghoriad i law gan amrywiaeth eang o bobl a chafodd yr ymatebion eu crynhoi yn yr adroddiad.

 

Roedd rôl y premiwm yn canolbwyntio ar annog perchnogion eiddo gwag hirdymor i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd gyda’r baich ariannol a materion fforddiadwyedd a allai fod ar y partïon hynny, fel perchnogion newydd neu berchnogion presennol nad oedd ganddynt ddewis neu arian i gymryd camau uniongyrchol i ddod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd.

 

Eglurodd y Rheolwr Refeniw a Chaffael, o’r blaen, ers mis Ebrill 2017 pan gyflwynwyd y cynllun, roedd cyfradd premiwm o 50% wedi’i chyflwyno ar gyfer anheddau a ddynodwyd fel rhai wedi’u meddiannu o bryd i’w gilydd (cyfeirir atynt fel arfer fel ail gartrefi) neu eiddo gwag hirdymor.

 

Ychwanegodd fod cwestiynau wedi’u gofyn hefyd fel rhan o’r ymarfer ymgynghori i’r rhai a allai gael eu heffeithio o bosibl pe bai’r cyfraddau’n cynyddu.  I gloi, roedd bron dau draean o ymatebwyr yn teimlo bod eiddo gwag hirdymor yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd bron hanner yr ymatebwyr yn teimlo bod ail gartrefi yn cael effaith negyddol ar eu cymuned leol.  Roedd rhywfaint dros hanner yr ymatebwyr yn teimlo y dylid cynyddu’r gyfradd premiwm i fwy na 50%.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion am gyfraddau premiwm awdurdodau lleol eraill.  Roedd y Cabinet wedi argymell 75% ar gyfer eiddo gwag hirdymor a 100% ar gyfer ail gartrefi.

 

Pe bai’r Cyngor yn penderfynu codi lefel y premiwm ar eiddo gwag hirdymor a/neu ail gartrefi, roedd posibilrwydd o gynyddu arenillion Treth y Cyngor a defnyddio unrhyw refeniw ychwanegol a gynhyrchir i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol yn unol â bwriadau polisi’r cynllun premiwm.

 

Byddai’r refeniw ychwanegol a gynhyrchir i gefnogi gwasanaethau yn dibynnu ar lefel ddiwygiedig y cyfraddau premiwm ond byddent yn cynnwys £101,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol sy’n uwch na 50% ar eiddo gwag hirdymor a £28,000 ychwanegol am bob ardoll 10% ychwanegol ar ail gartrefi dynodedig.  Roedd tablau yn yr adroddiad yn darparu darluniadau o’r cynnydd ar gyfer 50%, 60%, 70%, 75% a 100%.

 

Roedd diwygiad i’r argymhelliad fel a gafodd ei argraffu yn yr adroddiad, a’r diwygiad oedd “Bod y Cyngor yn ystyried y gyfradd premiwm bresennol o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor a phenderfynu a ddylid  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

58.

Diwygio Etholiadol yng Nghymru pdf icon PDF 98 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y Diwygio Etholiadol sy’n digwydd yng Nghymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi ymgynghori ar flaenoriaethau uniongyrchol am ddiwygio yn 2017, yn y Papur Gwyn Diwygio Etholiadol ym maes Llywodraeth Leol yng Nghymru.    Lluniwyd deddfwriaeth ar gyfer y blaenoriaethau uniongyrchol drwy Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Roedd ail ran yr adroddiad yn egluro’r Papur Gwyn Gweinyddu a Diwygio Etholiadol a sut yr oedd LlC yn ceisio cyflymu eu rhaglen ddiwygio a sôn am yr hyn yr oeddent yn ei ddisgrifio fel cynllun uchelgeisiol i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadol yng Nghymru.

 

Roedd y Papur Gwyn yn cynnwys cynigion ar gyfer:

 

·         Hyrwyddo ymgysylltiad mewn etholiadau

·         Ei gwneud hi’n haws a mwy syml sefyll mewn etholiad

·         Deddfwriaeth i foderneiddio gweinyddiaeth etholiadau

·         Deddfwriaeth i wella’r ffordd o gynnal adolygiadau etholiadol a chymunedol ar gyfer llywodraeth leol

·         Deddfwriaeth i gydgrynhoi cyfraith etholiadol

·         Cynigion mwy hirdymor ar gyfer diwygio etholiadol i gefnogi democratiaeth yng Nghymru yn y dyfodol

 

Y dyddiad cau i ymateb i’r ymgynghoriad oedd 10 Ionawr 2023.

 

Roedd trydedd rhan yr adroddiad yn crynhoi Deddf Etholiadau 2022, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022 ac a oedd yn berthnasol ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a Seneddol y DU.

 

Fe wnaeth effaith Deddf Etholiadau 2022 greu ymwahaniad yng Nghymru a amlygwyd yn yr adroddiad.

 

Un o’r newidiadau oedd y gallai awdurdodau lleol benderfynu mabwysiadu system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer eu hetholiadau, yn lle’r system Cyntaf i’r Felin.   Roedd rhan gyntaf yr adroddiad yn egluro’r broses.

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y system cyntaf i’r felin yn cael ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Cyngor Sir ar hyn o bryd.  Gallai’r Cyngor symud i system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a byddai LlC yn darparu rhagor o ganllawiau am hyn ac eglurder o ran y cwota.  Pe bai’r Cyngor am ddefnyddio system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, byddai angen cynnal adolygiad o ffiniau i ddechrau. Byddai hynny’n golygu wardiau o rhwng tri a chwe Aelod.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts bryderon am y gofyniad am brawf adnabod pleidleiswyr a allai roi pwysau ar y tîm o ran cofrestru hwyr.  Dywedodd mai etholiadau Llywodraeth y DU oedd â’r nifer uchaf o bleidleiswyr, a oedd yn gweithredu system cyntaf i’r felin.  Roedd nifer sylweddol is yn pleidleisio yn etholiadau Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd y broses ar gyfer etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn ddryslyd.  Nid oedd o blaid wardiau mawr â sawl aelod, a soniodd am bwysigrwydd y cysylltiad rhwng Aelodau lleol a’u cymuned.  Awgrymodd weithdy i’r holl Aelodau i ddatblygu’r hyn oedd angen, a gofynnodd a oedd modd estyn dyddiad cau 10 Ionawr.  Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gellid gwneud cais i estyn y dyddiad cau ac  ...  view the full Cofnodion text for item 58.

59.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 39 KB

Pwrpas:        Mae’r item hon i dderbynunrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi i’r rhaglen.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd y Rhybudd o Gynnig canlynol wedi’i gyflwyno gan y Cynghorydd Rose a’i gefnogi gan y Cynghorydd Preece;

 

“Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r defnydd presennol o nifer o fathau o anifeiliaid mewn amryw ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau preifat, cyfeillion grwpiau a’r Cyngor ar draws y Sir ac mae’n dymuno parhau i wneud popeth o fewn ei allu i hyrwyddo, diogelu ac annog safonau uchel o ran lles anifeiliaid.

 

Mae’r RSPCA yn nodi eu bod yn gwrthwynebu defnyddio anifeiliaid fel rhan o adloniant neu ddigwyddiadau anifeiliaid pan fo’n debygol y caiff gofid neu ddioddefaint eu hachosi i anifail. Fodd bynnag, mae’r sefydliad hefyd yn cydnabod manteision mathau penodol o ddigwyddiadau sy’n defnyddio anifeiliaid, er enghraifft:-

 

?          digwyddiadau ystwythder c?n sy’n cynnwys hyfforddi c?n i redeg trwy a thros rwystrau gan ddefnyddio danteithion, teganau a chanmoliaeth; a

?          defnyddio anifeiliaid mewn ysgolion a sefydliadau addysgol eraill (h.y. ar ffurf ymweliadau yn hytrach na bod y sefydliadau addysgol yn cadw’r anifeiliaid eu hunain) â’r bwriad o addysgu pobl ifanc am ofal a lles anifeiliaid, sy’n gam cadarnhaol tuag at roi diwedd ar greulondeb tuag at anifeiliaid

yn y dyfodol.

 

Mae cyflwyno Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy’n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 yn gam sylweddol tuag at reoli achosion o ddefnyddio anifeiliaid a dod i gyswllt â nhw mewn modd effeithiol a sicrhau eu lles. Fodd bynnag nodir y gallai fod achosion lle bydd gofyn i’r Awdurdod (yn ôl y gyfraith) roi trwydded os bydd pob amod perthnasol wedi’u bodloni,

er na fydd pob digwyddiad wedi’u cefnogi gan y Cyngor mewn egwyddor.

 

Er gwaetha’r uchod, mae’r Cyngor o’r farn:-

·         na ddylai unrhyw anifail orfod bod dan straen na dioddef;

·         dylid cymryd pob cam priodol i liniaru unrhyw risg o straen neu ddioddef i anifeiliaid mewn unrhyw ddigwyddiadau perthnasol sy’n cael eu cynnal gan unrhyw sefydliad yn y Sir;

·         gallai anifeiliaid penodol, fel c?n, elwa o gymryd rhan mewn digwyddiadau ond dylid cymryd camau i sicrhau eu lles a lleihau unrhyw risg iddynt; a

·         caiff anifeiliaid eu defnyddio mewn achosion penodol – fel mewn ysgolion, sefydliadau addysgol eraill a lleoliadau cymunedol at ddibenion addysgol a chadwraeth, gan elusennau cofrestredig addas – lle bo’n briodol ac ni chânt unrhyw effaith negyddol ar les anifeiliaid os caiff digwyddiadau o’r fath eu rheoli’n briodol.

 

Felly, mae’r Cyngor yn penderfynu:-

                     I.        nodi goblygiadau deddfwriaeth drwyddedu berthnasol a allai roi, neu ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor roi, trwyddedau i drydydd partïon er mwyn defnyddio anifeiliaid yn y Sir;

                    II.        yn amodol ar (III) isod, rhoi’r gorau i ddefnyddio anifeiliaid mewn digwyddiadau’r Cyngor ac yn benodol, na fydd unrhyw ddigwyddiad wedi’i drefnu gan y Cyngor yn cynnwys defnyddio ceirw na mulod;

                  III.        y caniateir defnyddio anifeiliaid fel adar, c?n, ymlusgiaid ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn fel pryfaid cop, sgorpionau, anifeiliaid cramennog neu folysgiaid mewn digwyddiadau wedi’u trefnu gan y Cyngor dim ond:-

A.   pan fo’r anifeiliaid wedi’u harddangos at ddibenion addysgol neu at ddibenion sy’n gyson â’u cynefin a gweithgareddau naturiol; a

B.   phan fo gan y sefydliad  ...  view the full Cofnodion text for item 59.

60.

Cwestinynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

61.

Cwestiynau pdf icon PDF 41 KB

To note the answers to any questions submitted in accordance with County Council Standing Order No. 9.4(A): two were received by the deadline and are attached to the agenda.

 

Councillor Bernie Attridge: (1) Connah’s Quay Sports Centre; and (2) Privatisation of Direct Labour Organisation in the Housing Revenue Account.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod dau gwestiwn wedi dod i law a bod ymateb wedi ei roi iddynt.  Roedd y rhain wedi’u dosbarthu i’r Aelodau.

62.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Ystyried unrhyw faterion a godwyd gan yr Aelodau o Gofnodion cyfarfodydd y Cabinet, Pwyllgorau Craffu a Phwyllgorau eraill, ynghyd ag unrhyw gwestiynau a godwyd dan Adran 4.20 Cyfansoddiad y Cyngor.  Os bydd angen, mae’n bosib cael gafael ar gopïau o Gofnodion yr amrywiol gyfarfodydd a gynhaliwyd ers cyfarfod arferol diwethaf y Cyngor, sydd wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi ar wefan yr Awdurdod, drwy fynd i’r Adran Pwyllgorau a Gwasanaethau’r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

63.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg na’r cyhoedd yn bresennol.