Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Hybrid

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

40.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer pob Aelod ag eitem 7: Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23 ac ar eitem 8: Newidiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd.

 

41.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at ei gohebiaeth a oedd wedi’i rhannu cyn y cyfarfod a rhestrodd y digwyddiadau yr oedd hi wedi mynd iddynt rhwng 27 Gorffennaf a 18 Hydref 2022.

 

42.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

 

43.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad 2021/22 cyn ei gyhoeddi

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2021/22.  Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud bod yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adolygu cynnydd ar Flaenoriaethau’r Cyngor fel yr oeddent wedi’u nodi yng Nghynllun y Cyngor 2021/22 a’r ddogfen mesuryddion ategol (Rhan 2).

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at ganlyniadau’r dangosyddion perfformiad fel yr oeddent wedi’u nodi yn adran 1.04 yn yr adroddiad gan egluro bod y perfformiad ar fesuryddion Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol gyda 73% o’r dangosyddion perfformiad yn cyrraedd neu’n rhagori ar y targed ar gyfer y flwyddyn, o gymharu â 67% y flwyddyn flaenorol.  Gan gyfeirio at waith Rheoleiddio, Archwilio ac Arolygu, dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Archwilydd Cyffredinol wedi gwneud unrhyw argymhellion yr oedd yn rhaid i’r Cyngor gydymffurfio â nhw hyd yma.

 

Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts ei bod yn bwysig nodi bod cyflawniadau’r Cyngor o fewn Cynllun Gwella 2021/22 wedi’u gwneud wrth iddo gael ei gefn ato ar ôl effaith y pandemig Covid a goblygiadau cythrwfl economaidd ym marchnadoedd y byd.  Ategodd, er gwaethaf yr heriau, fod perfformiad o fewn gwasanaethau wedi bod yn gadarnhaol gyda 73% yn cyrraedd neu’n rhagori ar eu targedau.  Soniodd y Cynghorydd Roberts am y gwaith “da” oedd wedi’i wneud mewn cymunedau yn Sir y Fflint a dywedodd y byddai’r Cyngor yn parhau i gryfhau a gwella systemau’n gyffredinol yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.  Canmolodd y swyddogion a’r staff am eu gwaith yn ystod y blynyddoedd diweddar digynsail ac anodd. 

 

Eiliwyd y Cynghorydd Ian Roberts gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Mynegodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst bryder nad oedd digon o bwyslais wedi’i roi yn yr Adroddiad Blynyddol i’r meysydd hynny yr oedd yn hysbys bod angen eu gwella a soniodd am y Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol a chyflawni camau gweithredu ar ôl adolygiadau Sicrwydd Rheoli Risg fel enghreifftiau.  Cydnabu’r Prif Weithredwr fod angen datblygu rhai meysydd ymhellach a dywedodd ei fod wedi gwneud ymrwymiad i gadw golwg ar gynnydd a byddai’n parhau i wneud hynny.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Parkhurst yngl?n â’r Ganolfan Gyswllt Gorfforaethol, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybodaeth gefndir a chyd-destun i egluro’r rhesymau dros y perfformiad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Richard Jones bryder bod 19% o fesuryddion perfformiad wedi methu’r targed o dipyn a dywedodd mai hon oedd y lefel uchaf yn y 5 mlynedd ddiwethaf.   Eglurodd y Prif Weithredwr pam nad oedd rhai o’r mesuryddion wedi cyrraedd y targed gan grybwyll yr heriau a ddaeth yn sgil sefyllfa economaidd y DU, newidiadau i bolisi Llywodraeth Cymru (gan sôn am greu’r Bartneriaeth Ansawdd fel un enghraifft), a oedd wedi effeithio ar y mesuryddion perfformiad.  Mewn ymateb i sylwadau eraill gan y Cynghorydd Jones yngl?n â’r 11 mesurydd perfformiad y cyfeirid atynt yn yr adroddiad a oedd heb gyrraedd y targed o bell ffordd, cytunwyd y byddai’r ffigwr hwn yn cael ei groeswirio yn erbyn y meysydd gwella portffolio a oedd wedi’u dynodi yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol.

 

Cododd y Cynghorydd Sam Swash bwynt  ...  view the full Cofnodion text for item 43.

44.

Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22 pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22 drafft i'r Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli'r Trysorlys 2021/22.  Dywedodd, fel sy'n ofynnol dan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor, fod yr Adroddiad Blynyddol wedi’i adolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Gorffennaf 2022 a'r Cabinet ar 26 Medi 2022.  Nid oedd unrhyw faterion o bwys wedi’u codi.  Soniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol am y prif bwyntiau fel y nodwyd yn 1.05–1.09 yn yr adroddiad eglurhaol.

 

Wrth gynnig yr argymhelliad yn yr adroddiad fe wnaeth y Cynghorydd Paul Johnson ddiolch i'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'i dîm am eu gwaith ar gynhyrchu'r Adroddiad Blynyddol.  Eiliodd y Cynghorydd Ted Palmer hyn.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2021/22.

 

45.

Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar Gyfer 2022/23 pdf icon PDF 89 KB

Pwrpas:        I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2022/23 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.  Dywedodd fod angen i’r Cyngor lunio Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig bob blwyddyn. Roedd yr Atodlen wedi’i hatodi i’r adroddiad ac ar ôl ei chymeradwyo byddai’n cael ei chyhoeddi a’i hanfon at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. 

 

Tynnodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sylw at newid i’w wneud ar dudalen 73 yn yr adroddiad a dywedodd fod y Cynghorydd Alasdair Ibbotson ers hynny wedi’i benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd a byddai’r gydnabyddiaeth ariannol briodol yn cael ei hychwanegu.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ian Roberts.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol gyflawn ar gyfer 2022/23 i gael ei chyhoeddi.

 

46.

Diwygiadau i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd pdf icon PDF 109 KB

Pwrpas:        I adolygu a diweddaru'r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiwn Clwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Dirprwyo ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn i:

 

  • adlewyrchu’r cynnig mai Pennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd yw’r uwch

swyddog â chyfrifoldeb am weithredu’r Gronfa Bensiynau, yn hytrach na’r

Prif Weithredwr; a

  • sicrhau bod y Cyfansoddiad yn adlewyrchu statws rheoli cronfa bensiynau

fel swyddogaeth anweithredol yn llawn.

 

Roedd mân newidiadau eraill wedi'u cynnwys yn yr Atodiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Rob Davies.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r newidiadau a amlinellwyd yn yr Atodiad i Gyfansoddiad Cronfa Bensiynau Clwyd a Phrotocol y Bwrdd Pensiwn.

 

47.

Cylch Gorchwyl Trosolwg a Chraffu pdf icon PDF 86 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo'r diwygiadau arfaethedig i'r Cylch Gorchwyl ar gyfer pob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad i gael cymeradwyaeth i’r newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl pob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Rhoddodd wybodaeth gefndir gan ddweud fod y newidiadau arfaethedig i’r cylchoedd gorchwyl i’w gweld yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cylchoedd gorchwyl newydd arfaethedig wedi’u hystyried gan bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn eu cyfarfodydd ym mis Gorffennaf 2022, lle cyflwynwyd newidiadau penodol.  Mewn ymateb i gwestiynau yngl?n â materion oedd yn dod o fewn cylch gwaith un neu fwy o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r penderfyniad o ran pa Bwyllgor Trosolwg a Chraffu a fyddai’n ei ystyried yn cael ei ddatrys drwy’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ond y byddai’n bosib’ i Aelodau’r ddau Bwyllgor fod yn rhan o ystyried yr adroddiad perthnasol.  Ar ôl ystyried yr adroddiad, cefnogodd pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r newidiadau arfaethedig i’w cylchoedd gorchwyl.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Rob Davies yr argymhelliad yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Bernie Attridge. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at dudalen 123 yn yr adroddiad gan gynnig y dylid newid y cyfeiriad at Gronfa Bensiynau Clwyd, dan y pennawd Adnoddau Corfforaethol, i ddweud ‘fel cyflogwr/aelod o’r Gronfa Bensiynau’ er mwyn i rôl y Cyngor fod yn eglur.  Cytunodd y Cynghorwyr Rob Davies a Bernie Attridge ar y gwelliant i’r argymhelliad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i Gylchoedd Gorchwyl pob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu; a

 

(b)       Newid y cyfeiriad at Gronfa Bensiynau Clwyd, dan y pennawd Adnoddau Corfforaethol, i ddweud ‘fel cyflogwr/aelod o’r Gronfa Bensiynau’.

 

48.

Recriwtio Cynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned i'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Penodi'r ymgeisydd a ffafrir i'r Pwyllgor Safonau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad.  Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod pob Cyngor wedi cael gwahoddiad i enwebu ymgeiswyr.  Enwebwyd chwech ac fe wnaeth pob un baratoi portread ysgrifenedig, a anfonwyd at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned.  Gofynnwyd i’r Cynghorau ddewis eu hymgeisydd oedd yn ddewis 1af. Byddai’r ymgeisydd oedd â’r nifer uchaf o bleidleisiau fel dewis 1af yn cael ei ddewis. Pe bai hi’n gyfartal, gofynnwyd iddynt hefyd enwebu’r ymgeisydd oedd yn 2il ddewis ganddynt, a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddewis o blith unrhyw ymgeiswyr oedd â’r un nifer o bleidleisiau fel dewis 1af.  Enillodd y Cynghorydd Ian Papworth, Cyngor Cymuned Trelawnyd a Gwaunysgor, fwyafrif clir o bleidleisiau dewis 1af ac 2il ddewis.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin yr argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Helen Brown.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diolch i’r ymgeiswyr am eu diddordeb; a

 

(b)       Phenodi’r Cynghorydd Ian Papworth yn gynrychiolydd Cynghorau Tref a Chymuned ar y Pwyllgor Safonau tan yr etholiadau ym mis Mai 2027.

 

49.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

50.

Cwestinynau Gan Y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

51.

Rhybudd O Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod I law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) nad oedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

52.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00 pm a daeth i ben am 2.45 pm)