Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

32.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Cofnodion:

Dim.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, yn dilyn ymddiswyddiad David Williams, y bydd is-etholiad Penyffordd yn cael ei gynnal ar 7 Hydref yn dilyn cyhoeddi’r Hysbysiad Etholiad ar 2 Medi.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer yr eitemau canlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan baragraff(au) 13 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

33.

Penodiad Prif Weithredwr

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth ffurfiol o argymhellion y Panel Penodiadau ar gyfer penodi Prif Weithredwr newydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y broses benodi a gynhaliwyd fis Gorffennaf i benodi Prif Weithredwr.

 

O ganlyniad i’r rhaglen asesu penderfynodd y Panel Penodi argymell bod y Cyngor yn penodi Neal Cockerton yn Brif Weithredwr.

 

Darparodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sicrwydd i’r Aelodau bod y broses wedi bod yn un cadarn a manwl.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’i eilio gan y Cynghorydd Mike Peers. Ar y pwynt hwn gwahoddwyd Mr Cockerton i’r cyfarfod.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Panel Penodi am eu hystyriaethau sylweddol a oedd yn rhoi hyder yn yr argymhelliad a llongyfarchodd Mr Cockerton ar ei benodiad.

 

Roedd y Cynghorydd Peers yn croesawu’r argymhelliad a dywedodd fod Mr Cockerton wedi dangos y profiad, yr egni a’r ymrwymiad sydd eu hangen i fod yn Brif Weithredwr.

 

Bu i’r Aelodau ar draws y Siambr longyfarch Mr Cockerton, a diolchodd yntau iddynt am y cynnig gan gadarnhau ei fod yn derbyn y cynnig sy’n anrhydedd ac yn fraint mawr. Ymunodd â’r awdurdod ddeunaw mlynedd yn ôl ac yn y cyfnod hwnnw mae wedi gweithio o fewn sawl maes yn darparu gwasanaethau rheng flaen ac yn arwain prosiectau arloesol. Mae’n edrych ymlaen at y dyfodol yn ei rôl newydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo argymhelliad y Panel Penodi i benodi Neal Cockerton yn Brif Weithredwr gydag ystod gyflog o 131,664 i 143,110 (yn amodol ar unrhyw ddyfarniad cyflog), gan ddechrau ar bwynt isaf y golofn gyflog, yn dechrau ar 1 Tachwedd 2021.

34.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Cofnodion:

Dim yn bresennol.