Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

17.

Cofnodion pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 1 Ebrill a 25 Mai 2021.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 1 Ebrill a 25 Mai.   

 

Cafodd y cofnodion eu cynnig gan y Cynghorydd Chris Bithell a’u heilio gan y Cynghorydd Ralph Small a’u cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo'r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir. 

 

 

18.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar gyfer pob Aelod ar yr eitem Cydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22 (eitem rhif 12 ar yr agenda).

 

 

19.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist o farwolaeth ddiweddar y cyn Gynghorwyr Dennis Parry, John Beard ac Eric Owen a oedd i gyd wedi bod yn Aelodau o’r Cyngor. Cyfeiriodd hefyd at farwolaeth sydyn Mike Catherall a oedd yn aelod gwerthfawr iawn o Dîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant y Cyngor. 

 

Wrth dalu teyrnged fe ddywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Dennis Parry wedi cynrychioli Ward Chwitffordd o 1995-1999, ac ei fod yn gadeirydd o’r Pwyllgor Addysg rhwng 1996 ac 1999. Arferai’r Cynghorydd Parry fod yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Delyn a Chyngor Sir Clwyd ac yn Arweinydd y Cyngor nes adsefydlu llywodraeth leol yn 1996.

 

Roedd y Cynghorydd John Beard yn aelod Llafur a fu’n cynrychioli Ward Dwyrain Shotton o 1997. Roedd y Cynghorydd Beard yn aelod o’r Gweithrediaeth ac wrth adael y rôl hon cafodd ei benodi yn Gadeirydd o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Economi a’r Amgylchedd nes iddo ymddeol o’r Cyngor yn dilyn etholiadau 2008.

 

Cynrychiolodd y Cynghorydd Eric Owen Ward Golftyn yng Nghei Connah o 2008 i 2012 ac roedd yn aelod o’r Gr?p Cynghrair Annibynnol. Fe wasanaethodd ar Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Thai ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

Roedd Mr Mike Catherall yn gyflogai hir oes o’r Cyngor a weithiodd yn y Gwasanaeth Gwastraff a Chasglu Deunyddiau Ailgylchu a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff T? Nercwys. Roedd Mr Catherall yn aelod poblogaidd ac uchel ei barch o’r Tîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau sefyll am funud o dawelwch fel teyrnged iddynt.

 

Talodd y Cynghorydd Paul Shotton deyrnged i’r Cynghorydd Dennis Parry. 

 

Talodd y Cynghorydd Veronica Gay deyrnged i’r Cynghorydd Eric Owen.

 

Talodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod y Cyngor, deyrnged i’r Cynghorwyr Dennis Parry, John Beard ac Eric Owen. Siaradodd am ei gysylltiad â phob un a’u rhinweddau personol, cyraeddiadau, a chyfraniad sylweddol i waith y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Roberts hefyd am y golled drist o farwolaeth Mike Catherall a mynegodd ei gydymdeimlad i’w partneriaid, teuluoedd a chyfeillion. 

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ei gydymdeimlad hefyd ar ran y swyddogion i deuluoedd a ffrindiau’r cyn gydweithwyr. 

 

Ailadrodd y Cynghorydd Glyn Banks y teimladau a gafodd eu mynegi a thalodd deyrnged i’r Cynghorydd Dennis Parry a Mike Catherall. Dywedodd y byddai colled fawr ar eu holau a mynegodd ei gydymdeimlad i’w partneriaid a’u teuluoedd. 

 

Talodd y Cynghorydd Ron Davies deyrnged i’r Cynghorwyr John Beard a Dennis Parry. Siaradodd am ei berthynas agos gyda’r Cynghorydd Beard fel cydweithiwr a chyfaill.

 

Talodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) deyrnged i Mike Catherall a siaradodd am y sioc yngl?n â’r newyddion trist iawn o’i farwolaeth sydyn. Dywedodd ei fod yn aelod gwerthfawr iawn o’r Gwasanaeth a byddai ei gydweithwyr yn ei golli’n fawr. Diolchodd i’r Aelodau am eu cefnogaeth a’u negeseuon o gydymdeimlad ac mi fyddai’n eu pasio ymlaen i’w deulu a’r Tîm Gwasanaethau Stryd a Chludiant. 

 

            Mynegodd y Cadeirydd ei ddymuniadau gorau am wellhad buan i Gynghorwyr Bernie Attridge a Derek Butler a oedd methu mynychu oherwydd salwch difrifol.

 

Cyhoeddodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddeisebau.

21.

Democratiaeth Leol a'r Comisiwn Ffiniau i Gymru: Diweddariad ar adolygiad Ffiniau Ward Sir y Fflint pdf icon PDF 130 KB

Dweud wrth y Cyngor am safle presennol yr adolygiad ar Ffiniau Ward Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i roi’r sefyllfa bresennol ar yr adolygiad o Ffiniau Ward Sir y Fflint. Fe ddarparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd bod disgwyl i’r Gweinidog dros Gyllid a Llywodraeth Leol i basio Gorchmynion yn dilyn adolygiad o’r 22 prif gynghorau yng Nghymru ym mis Medi. Fe eglurodd fod yna 3 adolygiad lle byddai’r Gweinidog angen gwybodaeth bellach cyn gwneud y penderfyniad terfynol gyda Sir y Fflint yn un ohonyn nhw. Disgwylir fod adroddiad terfynol y Comisiynydd Ffiniau yn cael ei gymeradwyo gan y Gweinidog gydag ychydig neu ddim diwygiadau.

 

Meddai’r Prif Weithredwr fod y Cyngor yn cytuno gyda’r rhan fwyaf o’r cynigion yn yr adroddiad, fodd bynnag roedd pryder ar gyfer y cam terfynol, lle na fu unrhyw gyhoeddiad neu ymgynghoriad cyn y cam hwnnw, bod y Comisiwn wedi cyflwyno argymhelliad newydd ar gyfer un o’r tair ward Aelodau yn Fflint. Fe eglurodd efallai bod hyn wedi mynd y tu hwnt i weithdrefnau’r Comisiynydd Ffiniau ac yn gwrthdaro gydag amcan i geisio lle bynnag fo hynny’n bosib creu wardiau aelodau sengl. Fe ddywedodd y Prif Weithredwr fod hyn wedi cael ei godi gyda’r Gweinidog ac fe awgrymodd efallai y dymunai Aelodau ystyried diwygio’r argymhelliad yn yr adroddiad i gefnogi Arweinydd y Cyngor ac yntau i ofyn yn ffurfiol i’r Gweinidog, wrth ystyried cynnwys terfynol y Gorchymyn, i wrthdroi’r argymhelliad newydd yn benodol ar gyfer un ward gyda thri Aelod yn Fflint ar y sail ei fod wedi cael ei gyflwyno ar y cam terfynol a bod yna ddim cyfle wedi bod o flaen llaw i’w drafod neu ei graffu.

 

Yn siarad mewn cefnogaeth o bryderon y Prif Weithredwr fe awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y cynnig i anfon llythyr at y Gweinidog yn cynnwys y pwyntiau crynhoi canlynol hefyd: na ddylai adroddiadau’r Comisiwn Ffiniau gael eu hanfon allan o fewn blwyddyn o gylchred arferol etholiadau ar gyfer awdurdodau lleol; ac yn y dyfodol gofynnir i’r Comisiwn Ffiniau i beidio â chynnwys unrhyw gynigion newydd yn fersiwn terfynol ei adroddiad; a bod angen rhoi mwy o ystyriaeth i gysylltiadau cymunedau wrth i’r Comisiwn Ffiniau wneud adolygiadau yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y problemau ehangach a gyfeiriwyd atyn nhw gan y Cynghorydd Ian Roberts wedi cael eu trafod gyda’r Gweinidog ac yn sgil y cais gan y Cynghorydd Roberts awgrymodd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cael ei gwahodd yn ffurfiol i gefnogi’r amcanion wedi’u hamlinellu uchod.

 

Dyma’r Prif Swyddog (Llywodraethu) yn crynhoi y byddai’r cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts yn golygu byddai llythyr yn cael ei anfon at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol sy’n herio cynigion y Comisiwn Ffiniau ar gyfer un ward tri Aelod newydd ar gyfer Fflint am y rhesymau a amlinellir gan y Prif Weithredwr. Hefyd byddai’r llythyr yn cynnwys y tri phwynt crynhoi a godwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts uchod a chais at CLlLC i gefnogi’r egwyddorion yn gyffredinol. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Healey at y cynnig  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Comisiwn Ffiniau i Gymru: 2023 Adolygiad Etholaethau Seneddol pdf icon PDF 112 KB

Dweud wrth y Cyngor am y broses ar gyfer yr adolygiad o etholaethau’r Senedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar y broses ar gyfer yr adolygiad ar y gweill o Etholaethau Seneddol Cymru. Darparodd wybodaeth gefndirol gan wneud sylwadau fod yna gynnydd disgwyliedig yn mynd i fod ym maint yr etholaethau lleol a bod yr adolygiad yn gyffredinol yn golygu lleihad sylweddol yn nifer yr etholaethau yng Nghymru (o 40 i 32 etholaeth). 

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’i eilio gan y Cynghorydd Patrick Heesom.  Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y broses i gael ei ddilyn yn ystod Comisiwn Ffiniau i Gymru; 2023 Adolygiad Etholaethau Seneddol yn cael ei nodi.

 

23.

Datgan Amrywiaeth mewn Democratiaeth pdf icon PDF 130 KB

I wahodd y Cyngor i gefnogi mewn egwyddor i ddatgan Amrywiaeth mewn Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i gefnogi mewn egwyddor i Ddatgan Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Darparodd wybodaeth gefndirol a chynghorodd fod gofyn i bob un o’r 22 prif gynghorau yng Nghymru i wneud Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth. 

 

Gwahoddwyd y Cyngor Sir i adnabod pwysigrwydd hyn ac i ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu i wella amrywiaeth mewn democratiaeth yn Sir y Fflint. Pe bai’r Cyngor yn cytuno byddai Datganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael ei wneud mewn egwyddor ac yna byddai gwaith manwl yn cael ei wneud i greu Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint i gael ei weithredu gan y pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad. 

 

Wrth siarad mewn cefnogaeth i Ddatganiad Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint, cynigodd y Cynghorydd Christine Jones yr argymhellion yn yr adroddiad hwn a’u heiliwyd gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Mynegodd y Cynghorydd Neville Phillips bryderon yngl?n â chynigion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gyflwyno ‘grantiau adsefydlu’ i gynghorwyr os fyddan nhw’n colli eu seddi mewn etholiad. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cynnig yn rhywbeth i ‘anelu ato’ ar hyn o bryd ond heb ei gadarnhau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ron Davies fod angen rhoi caniatâd i gynghorwyr sydd mewn cyflogaeth i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i fynychu cyfarfodydd yn ystod eu gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod darpariaeth yn barod i alluogi cyflogwyr i roi amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith i gynghorwyr fynychu cyfarfodydd. Fodd bynnag, roedd yn cydnabod fod rhai cyflogwyr yn fwy cefnogol nag eraill.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylai’r Cyngor ofyn i CLlLC holi am ddatganiad i gael ei arwyddo gan gyflogwyr yn rhoi caniatâd i’w cyflogeion i gael amser i ffwrdd gyda thâl er mwyn gallu cyflawni gwasanaeth cyhoeddus.  Dyma fo hefyd yn awgrymu y dylid adolygu arferion y Cyngor ei hun i ystyried os oes posib gwella trefniadau ar gyfer cyfarfodydd/gweithdai i gynghorwyr sydd mewn cyflogaeth. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Gladys Healey ei bod hi’n cefnogi sylwadau’r Cynghorydd Roberts. 

Derbyniodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin yr argymhelliad i ysgrifennu at CLlLC fel ychwanegiad i’r cynnig cadarn ac fe gafodd ei gario pan gyflwynwyd hynny i’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn cydnabod y pwysigrwydd o amrywiaeth mewn democratiaeth ac wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu i wella amrywiaeth;

 

b)         Bod y gwaith manwl i greu’r Cynllun Gweithredu Amrywiaeth mewn Democratiaeth Sir y Fflint yn cael ei wneud gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad; a

 

 (c)       Bod y Cyngor yn ysgrifennu at CLlLC yn gofyn am ddatganiad i gael ei arwyddo gan gyflogwyr yn rhoi caniatâd i ryddhau cyflogeion ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus.

 

24.

Protocol ar weithredu tu allan i’r ward pdf icon PDF 91 KB

Er mwyn galluogi'r Cyngor i ystyried y protocol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y Protocol Aelodau ar Ymrwymiad mewn Wardiau Eraill diwygiedig. Darparodd wybodaeth gefndirol ac eglurodd bod y protocol presennol a luniwyd gan swyddogion statudol ac Arweinwyr Gr?p angen cael ei adolygu. Dyma fersiwn wedi’i ddiwygio yn cytuno i ymgynghoriad ffurfiol gael ei atodi i’r adroddiad a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad yn y cyfarfod ar gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021. 

 

Cynigwyd yr argymhelliad canlynol gan y Cynghorydd Neville Phillips ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Chris Bithell.

 

Soniodd y Cynghorydd Owen Thomas am gysylltu ag Aelodau yngl?n â materion cynllunio mewn wardiau eraill. Dyma’r Prif Weithredwr yn cydnabod y pwyntiau a wnaed gan y Cynghorydd Thomas ac eglurodd bod hynny wedi derbyn sylw yn Adran 2 – Eithriadau i’r Protocol, paragraff (f) a gafodd ei atodi i’r adroddiad. Rhybuddiodd hefyd wrth ymateb i ohebiaeth neu gynrychiolaethau y dylai aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio fod yn ofalus i beidio â rhoi’r argraff eu bod wedi dod i benderfyniadau terfynol ar gais cynllunio cyn iddo gael ei ystyried mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Chris Bithell sylwadau ar y canllawiau yn y Cod Ymddygiad Cynllunio ynghylch aelodau ward cyfagos a gofynnodd a ddylai canllawiau tebyg gael eu cynnwys yn Adran 2 o’r Protocol.   Wrth ymateb i hynny fe gynghorodd y Prif Swyddog yngl?n ag ymrwymiad Aelodau mewn materion cynllunio mewn ward gyfagos a oedd yn cael effaith ar ei ward nhw. Cynghorodd er eu bod nhw’n cynrychioli diddordebau preswylwyr yn ward eu hunain ni fyddai’r Aelod yn torri’r Protocol o dan yr amgylchiadau hyn ond cytunodd y byddai modd cynnwys hyn yn y Protocol er mwyn bod yn glir.

 

Wrth gyfeirio at Adran 3, paragraff 3.2 o’r Protocol dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton y dylai Aelodau ddatgan ward eu hunain ar gyfer tryloywder.

Wedi ei gynnig a’i eilio fe dderbyniodd y Cynghorwyr Neville Phillips a Chris Bithell yr awgrym fod y Protocol yn cael ei ddiwygio fel yr uchod ar yn ychwanegiad i’r cynnig cadarn. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Yn ddarostyngedig i’r diwygiad uchod bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Protocol Aelodau ar Ymrwymiad mewn Wardiau Eraill 2021 diwygiedig.

 

25.

Diwygiadau i Reolau’r Weithdrefn pdf icon PDF 80 KB

Er mwyn galluogi'r Cyngor i ystyried y protocol diwygiedig.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i ystyried y Protocol o Reolau’r Weithdrefn ddiwygiedig. Cynghorodd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 9 Medi bod y Cadeirydd wedi cytuno i’r newidiadau dros dro i rai o’r Rheolau, a dosbarthwyd y rhain.  Byddai Cyfarfodydd Presenoldeb o Bell yn parhau wrth i’r Cyngor symud tuag at ‘gyfarfodydd aml-leoliad’ sydd yn ofyniad yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r hyn oedd yn newidiadau dros dro bellach angen cael eu mabwysiadu yn ffurfiol gan y Cyngor wrth i’r Cyngor ddatblygu polisi ar gyfarfodydd aml-leoliad. Cefnogwyd y newidiadau i Reolau’r Weithdrefn o fod yn rhai dros dro i rai parhaol gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad yn ei gyfarfod ar 30 Mehefin 2021. 

 

Cynghorodd y Prif Swyddog fod y Ddeddf yn gofyn i’r Cyngor ddatblygu a chyhoeddi ei bolisi ar ba gyfarfodydd a fyddai’n cael eu cynnal mewn person, o bell neu fel cyfarfod hybrid, a byddai’r rheolau yn berthnasol i bob un.  Byddai’r Cyngor angen datblygu ei bolisi ‘cyfarfodydd aml-leoliad’ ei hun cyn Mai 2022. Byddai adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiad, ac i’r Cyngor. 

Wedi’i atodi i’r adroddiad oedd y newidiadau sydd angen eu hymgorffori yn Rheolau’r Weithdrefn i’w gwneud nhw’n berthnasol i gyfarfodydd aml-leoliad.

 

Cynigwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Neville Phillips a’u heiliwyd gan y Cynghorydd Rob Davies, a’u cymeradwywyd wedi pleidlais.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn ystyried a chymeradwyo’r newidiadau i Reolau’r Weithdrefn fel y gwelir yn atodiad 1; a 

 (b)      Bod gwaith pellach yn cael eu gwneud i ddatblygu polisi Sir y Fflint ar gyfarfodydd aml-leoliad.

 

26.

Penodi Aelod Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 86 KB

Ystyried penodi’r ymgeisydd a ffefrir ar gyfer y swydd Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad gyda manylion ar yr ymgeisydd a ffafrir ar gyfer swydd wag Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

 

Darparodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndirol a chyfeiriodd at y swydd wag ar gyfer Aelod Annibynnol (cyfetholedig) ar y Pwyllgor Safonau.  Adroddodd fod hysbyseb wedi’i roi yn y wasg leol ac ar-lein. Roedd pedwar ymgeisydd, gyda thri yn cyrraedd y rhestr fer ac yn cael cyfweliad. Roedd dau ymgeisydd yn addas ar gyfer y penodiad ac argymhellwyd fod Jacqueline Guest a David Davies yn cael eu penodi. Byddai Jacqueline Guest yn dechrau ar ei phenodiad ar unwaith gan lenwi’r swydd wag ar y Pwyllgor.Byddai penodiad David Davies yn effeithiol o 1 Ionawr 2022 pan fydd Aelod Annibynnol presennol â’r bwriad o roi gorau i’r rôl. 

 

Wrth symud yr argymhellion, fe ddywedodd y Cynghorydd Paul Johnson y byddai’r penodiadau newydd yn dod â sgiliau a rhinweddau personol pwysig i’r Pwyllgor Safonau. Mynegodd ei werthfawrogiad am waith a chyfraniad gwerthfawr Rob Dewey a Phillipa Earlam i’r Pwyllgor. Eiliodd y Cynghorydd Marion Bateman yr argymhelliad gan fynegi y byddai’r aelodau newydd yn ased. Cymerodd y cyfle hefyd i ddiolch i’r Cynghorydd Paul Johnson am ei waith i’r Pwyllgor. 

 

Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Jacqueline Guest yn cael ei phenodi ar y Pwyllgor Safonau tan 21 Gorffennaf 2027;

 

 (b)      Bod David Davies yn cael ei benodi i’r Pwyllgor Safonau o 1 Ionawr 2022 tan 31 Rhagfyr 2027;

 

 (c)       I ddiolch i Noela Jones am fod yn Lleygwr ar y Pwyllgor

 

 (d)     I ddiolch i Phillipa Earlam am ei gwaith ar y Pwyllgor.

 

27.

Rhestr o Gydnabyddiaethau Ariannol ar Gyfer 2021/22 pdf icon PDF 95 KB

I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2021/22 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe gyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2021/22. Cynghorodd fod y Cyngor angen darparu Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol yn flynyddol a bod yr Atodlen ar gyfer 2021/22 wedi’i atodi i’r adroddiad. Roedd yn rhaid ei gyhoeddi a’i anfon i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol erbyn 31 Gorffennaf.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yna dair swydd gyfetholedig yn wag ar hyn o bryd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr ar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant. Derbyniwyd enwebiadau a byddai etholiad yn cael ei gynnal yn fuan. 

 

Gofynnwyd i’r Cyngor awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Billy Mullin i gymeradwyo’r argymhellion ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Paul Shotton.Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2021/22 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; ac

 

 (b)      Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau’r aelodau cyfetholedig ar yr Atodlen a’i ailgyhoeddi fel bo’r angen ac i wneud unrhyw newidiadau pellach i’r Atodlen wrth iddyn nhw godi.

 

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

29.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

30.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

31.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

 (Dechreuodd y cyfarfod am 10.00am a daeth i ben am 11.42am)