Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter / 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

47.

Cofnodion pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod ar 28 Medi  2021.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2021

fel cofnod cywir, a chafodd ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell ac Ian Smith.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel rhai cywir.

48.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

49.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn y cyhoeddiadau fel y rhannwyd, a chynnwys adroddiad llafar y Swyddog Canlyniadau o is-etholiad Penyffordd ar 7 Hydref a’r croeso i’r cynghorydd newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd ei gyhoeddiadau ac fe soniodd am y digwyddiadau canlynol diweddar:  Derbyniad Gr?p Cerdded Shotton, Sul Dinesig Maer Cyngor Tref y Rhyl, a Gwasanaethau Dinesig Maer Y Fflint.   

 

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson i’r cyfarfod.  Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y Cynghorydd Ibbotson oedd wedi ei ethol yn ddiweddar i lenwi swydd wag yn Ward Penyffordd yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd David Williams.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ibbotson i breswylwyr Penyffordd, Penymynydd, a Dobshill am eu cefnogaeth a’u hyder yn ei ethol o fel eu cynrychiolydd newydd.  Rhoddodd deyrnged i’r cyn Gynghorydd David Williams am ei waith a’i gefnogaeth yn y gymuned leol.  Siaradodd am yr heriau oedd yn wynebu Ward Penyffordd yn y dyfodol, ac fe ymrwymodd i weithio’n ddiflino a chyda pharch, ar y cyd â’r Cynghorydd Cindy Hinds, ei gyd Aelod, i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer preswylwyr eu Ward.  

 

50.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - YSTYRIED GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried yr eitem ganlynol yn rhinwedd gwybodaeth eithriedig dan Baragraff(au) 15 Rhan 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). 

 

Ar y pwynt hwnnw, cafodd y ffrwd byw a recordiad o’r cyfarfod ei atal.

 

Dogfennau ychwanegol:

51.

Prif Swyddog, Gallu’r Tîm

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth yr aelodau i nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i geisio cymeradwyaeth ar gyfer nifer o newidiadau i’r model gweithredu presennol.  Rhoddodd wybodaeth gefndir ac fe soniodd am y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  

 

Rhoddodd y Darpar Brif Weithredwr (Prif Swyddog, Tai ac Asedau) drosolwg o’r sefyllfa bresennol a gallu yn y portffolio Tai ac Asedau, ac fe adroddodd am y cynigion a awgrymir.   

 

Gofynnwyd i Aelodau ystyried y cynigion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Wrth gynnig y cynigion, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r argymhellion.  Rhoddodd y Cynghorydd Roberts deyrnged i’r Prif Weithredwr, Darpar Brif Weithredwr, ac aelodau’r Panel Recriwtio am eu gwaith diwyd. Eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin y cynnig.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Ian Dunbar a Chris Dolphin i gefnogi’r cynigion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers ei fod yn cefnogi’r cynigion yn rhannol, serch hynny, mynegodd nifer o bryderon a chynhigiodd bod yr argymhellion yn cael eu diwygio fel a ganlyn: bod Prif Swyddog yn cael ei b/phenodi ar gyfer portffolio Tai a Chymuned. Bod penodiad i’r swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei ohirio tan ar ôl Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2022; a bod swyddog o’r tîm Tai ac Asedau presennol yn cael ei benodi am gyfnod dros dro yn y cyfamser. Eiliwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Owen Thomas.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts i gefnogi’r cynnig a gyflwynwyd a diolchodd i Swyddogion am eu hymatebion manwl i’r cwestiynau a holwyd gan Aelodau ynghylch costau cyflog. Siaradodd y Cynghorydd Roberts yn erbyn y cynnig i ohirio swydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau tan ar ôl mis Mai 2022. 

 

Cymerwyd pleidlais ar y diwygiad a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Mike Peers uchod.   Ni chafodd y diwygiad ei gario.

 

Gofynnwyd am bleidlais ar y cynnig gwreiddiol a gynhigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts fel a ganlyn:

 

(a)          Bod y cynnig ar gyfer (1) amnewid Prif Swyddog portffolio Tai a Chymuned a (2) swydd newydd ar gyfer Rheolwr Corfforaethol, Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau yn cael ei gefnogi: a 

 

(b)          Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.

 

Cariwyd y cynnig.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Bod y cynigion ar gyfer (1) Prif Swyddog newydd ar gyfer portffolio Tai a 

Chymuned a (2) swydd newydd Rheolwr Corfforaethol - Rhaglenni Cyfalaf ac Asedau’n cael eu cymeradwyo; a

 

(b)          Bod Panel Penodiadau Aelodau presennol yn cael ei ail-alw i benodi i swydd Prif Swyddog newydd.  

 

DEDDF LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) 1985 - I AIL-DDECHRAU FFRYDIO BYW AR GYFER Y WASG A'R CYHOEDD

PENDERFYNWYD:

 

Yn dilyn ystyriaeth o’r eitem gyfrinachol, bydd y ffrydio byw yn ail-ddechrau er mwyn galluogi’r wasg a’r cyhoedd i wylio gweddill y cyfarfod. 

 

Ar y pwynt hwnnw, fe ail ddechreuwyd y ffrydio byw a recordiad o’r cyfarfod.

Dogfennau ychwanegol:

52.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21 pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020-21. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd cyn y Cyngor Sir ac roedd wedi’i argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo. Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y meysydd a amlygwyd i’w gwella, a dywedodd fod perfformiad yn erbyn mesurau Cynllun y Cyngor yn gadarnhaol ar y cyfan.   

 

Fe soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am her y pandemig byd eang a dywedodd ei fod yn falch o berfformiad eithriadol gweithwyr y Cyngor mewn amgylchiadau mor anodd a mor ddigyffelyb. Gofynnodd i Brif Swyddogion anfon ei ddiolchiadau diffuant ymlaen i’w timau ar ran y Cyngor Sir am eu gwaith.  

 

Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yn ffurfiol bod gwerthfawrogiad pob Aelod o’r Cyngor o waith rhagorol Swyddogion a gweithwyr ym mhob gwasanaeth yn cael eu cynnwys fel argymhelliad ychwanegol yn yr adroddiad. Eiliodd y Cynghorydd Billy Mullin y cynnig.

 

Gan gefnogi’r sylwadau gan y Cynghorydd Roberts, rhoddodd y Cynghorydd Mike Peers deyrnged i waith Ysgolion a’r gefnogaeth a ddarparwyd i blant gweithwyr allweddol trwy gydol y pandemig. Gan gyfeirio at dudalen 62 yr agenda a chynllunio hir dymor ar gyfer adfer canol trefi, dywedodd fod ffioedd mewn meysydd parcio wedi cael eu hailgyflwyno ond gofynnodd fod canol trefi yn parhau i gael eu monitro a bod addasiadau’n cael eu gwneud fel y bo angen i annog nifer yr ymwelwyr yn y dyfodol.  Tynnodd y Cynghorydd Peers sylw at y wybodaeth am werth cymdeithasol ar dudalen 63 yr agenda a llwyddiant cyfleuster Cartref Gofal Marleyfield. Dywedodd y dylid canmol hyn. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Dunbar i gefnogi gwaith y gwasanaethau a ddarparwyd gan dîm Tai ac Asedau i gefnogi preswylwyr Sir y Fflint. 

 

Rhoddodd y Cynghorydd Andy Hughes deyrnged i holl weithwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith rhagorol trwy gydol y pandemig. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Aelodau am eu cefnogaeth. Dywedodd y rhagorwyd ar dargedau a osodwyd ar gyfer perfformiad gwerth cymdeithasol ar gyfer y 12-18 mis cyntaf, ac roedd y Cyngor yn cael ei ystyried yn awdurdod enghreifftiol gan Lywodraeth Cymru, ac yn sgil hynny, gofynnwyd iddo fentora awdurdodau eraill.    

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2020/21; a

 

(b)          Bod gwerthfawrogiad pob Aelod o’r Cyngor am y gwaith rhagorol a wnaed yn ystod pandemig Covid-19 yn cael ei basio ymlaen i Swyddogion a’u timau ym mhob Gwasanaeth. 

 

 

53.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 38 KB

Pwrpas:        Mae'r eitem hon i dderbyn unrhyw Rybuddion Cynnig. Derbyniwyd un ac mae ynghlwm.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at farwolaeth drasig Syr David Amess, Aelod Seneddol Gorllewin Southend, a dywedodd fod y Blaid Lafur yn credu y byddai’n amhriodol i drafod y Rhybudd o Gynnig oedd yn galw ar Lywodraeth y DU i barhau â’r cynnydd o £20 i’r Credyd Cynhwysol ar hyn o bryd. Cynigodd bod y Rhybudd o Gynnig yn cael ei ohirio tan gyfarfod arall yn y dyfodol.  Cytunodd yr Aelodau i hyn.

54.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        DerbynCwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

55.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

56.

Cydnabyddiaeth o Wasanaeth gan Colin Everett, Prif Weithredwr ar fin gadael

Pwrpas:        I gydnabod 14 mlynedd o wasanaeth gan Colin Everett fel Prif Weithredwr sydd wedi gwasanaethu hiraf  ar y Cyngor.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd Cadeirydd y Cyngor Colin Everett, Prif Weithredwr ar fin gadael i siarad. Yn ei sylwadau agoriadol, diolchodd y Prif Weithredwr i Swyddogion a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd, Theatr Clwyd, Cyfathrebu Corfforaethol, a Picturehouse am eu gwaith yn trefnu cyfarfod technegol a chymhleth o ran logisteg.  

 

 Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd gan yr Awdurdod y dylanwad rhanbarthol na chenedlaethol yr oedd yn ei haeddu pan ymunodd o â Chyngor Sir y Fflint yn 2007. Siaradodd am ei friff pan gafodd ei benodi, sef dod ag egni newydd ac arweinyddiaeth broffesiynol, a gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd. Heddiw, roedd yna gydnabyddiaeth gan nifer o ffynonellau, yn cynnwys y Prif Weinidog, Aelodau Eraill o’r Cabinet,  sylwebwyr cenedlaethol bod Cyngor Sir y Fflint yn Gyngor cryf, oedd yn perfformio’n uchel, gan ddarparu arweinyddiaeth i awdurdodau a sefydliadau eraill, a’r awdurdod gorau yng Nghymru am weithio mewn partneriaeth.    

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb byr o’i yrfa ym maes llywodraeth leol dros 40 mlynedd.  Dywedodd y byddai Cyngor Sir y Fflint yn atgof arbennig iddo a’i bod wedi bod yn anrhydedd i wasanaethau ei breswylwyr a chymunedau lleol. Yna rhoddodd gyflwyniad byr gan dynnu sylw at rhai o’r cyflawniadau niferus a digwyddiadau nodedig yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Roedd yn teimlo bod yr Awdurdod mewn sefyllfa hyderus, gadarn a chymwys i symud ymlaen yn y dyfodol o dan arweinyddiaeth Neal Cockerton, y Darpar Brif Weithredwr.   

 

Gan gloi, dywedodd y Prif Weithredwr fod y dyfodol yn dda i Ogledd Cymru; a bod ei lleoliad, tirwedd, treftadaeth ac economi yn unigryw. Roedd wedi mwynhau byw yng Ngogledd Cymru yn ystod ei amser fel arweinydd gwasanaethau cyhoeddus ac roedd yn hyderus y byddai’n adfer yn dda o effaith pandemig Covid-19 ac yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio.   

 

Mynegodd y Prif Weithredwr ddiolch eto i Gadeiryddion presennol a chyn Gadeiryddion Cyngor Sir y Fflint, Arweinwyr y Cyngor, Arweinwyr Grwpiau, Aelodau Cabinet, Cadeiryddion Pwyllgorau, ac Aelodau am eu cefnogaeth.   Diolchodd hefyd i gydweithwyr oedd yn uwch swyddogion, Prif Swyddogion, Rheolwyr Gwasanaeth a thîm y Prif Weithredwr am eu cefnogaeth a chyfeillgarwch trwy gydol y 14 blynedd diwethaf.  Fe soniodd am ei gynlluniau personol at y dyfodol a dywedodd y byddai’n dychwelyd i ymweld pan fyddai yna gyfle.    

 

Croesawodd y Prif Weithredwr Yr Arglwydd Barry Jones a’r Foneddiges Janet Jones i’r cyfarfod. Diolchodd yn arbennig i’r Arglwydd Barry Jones am ei gefnogaeth bersonol fel mentor. Rhoddodd deyrnged i’w waith a rhinweddau personol ac wrth gloi, dywedodd ei fod yn ymgorfforiad o eiriolaeth ar gyfer Sir y Fflint a’i phobl. Er mwyn cydnabod ei wasanaeth fel Aelod o’r Senedd am 50 mlynedd, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau sefyll fel teyrnged i’r Arglwydd Barry Jones.   

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged i’w olynydd Neal Cockerton, y Darpar Brif Weithredwr a chyfeiriodd at ei rinweddau personol a’i foeseg gwaith a’i werthoedd enghreifftiol. Diolchodd Neal Cockerton i’r Prif Weithredwr am ei gyngor, ei fentoriaeth, ei arweiniad a’i gefnogaeth broffesiynol. Diolchodd hefyd ar ran tîm y Prif  ...  view the full Cofnodion text for item 56.

57.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 5.05pm)