Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Sharon Thomas 01352 702324  E-bost: sharon.b.thomas@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

71.

Sylwadau Gan y Cadeirydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â chais y Cadeirydd, cymerodd pawb a oedd yn bresennol ran mewn munud o dawelwch i gofio pawb a oedd wedi colli eu bywydau yn ystod y sefyllfa argyfwng.

72.

Cydnabyddiaeth o 25 mlynedd y Cyngor Sir y Fflint cyfredol pdf icon PDF 73 KB

Pwrpas:        I gydnabod 25 mlynedd Cyngor Sir y Fflint ac i dalu teyrnged i aelodau etholedig y gorffennol a’r presennol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd yr eitem i gydnabod a dathlu 25 mlynedd ers sefydlu Cyngor Sir y Fflint.  Talodd deyrnged i bob un o’r 181 o Aelodau etholedig a oedd wedi gwasanaethu ar y Cyngor yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig y rhai oedd wedi marw.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Ian Roberts y Cynghorwyr Chris Bithell, Ron Davies, Dennis Hutchinson a Neville Phillips a oedd, fel ei hun, wedi llwyddo i wasanaethu’n barhaus ers 1995. Cydnabu gyfraniadau’r holl Aelodau etholedig, Cadeiryddion, Arweinwyr a Phrif Weithredwyr, yn y gorffennol a’r presennol, yn ogystal â swyddogion a oedd wedi cynrychioli’r Cyngor.

 

Wrth dalu teyrngedau ar ran eu priod grwpiau, rhannodd y Cynghorwyr Mike Peers, Clive Carver a Chris Dolphin eu myfyrdodau eu hunain am y Cyngor dros y blynyddoedd.

 

Cafodd yr achlysur ei gydnabod hefyd gan y Prif Weithredwr a siaradodd ar ran swyddogion. Diolchodd i’r holl Aelodau etholedig presennol a blaenorol ynghyd â Chadeiryddion ac Arweinwyr yr oedd wedi gwasanaethu gyda hwy.

73.

Cofnodion pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 26 Ionawr a 16 Chwefror 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2021 fel cofnod cywir, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr David Mackie a Chris Bithell.

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2021 hefyd, fel y’u cynigiwyd a’u heiliwyd gan y Cynghorwyr Chris Bithell a Carolyn Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r ddwy set o gofnodion fel cofnod cywir.

74.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

75.

Cyhoeddiadau'r Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Wrth gyflwyno ei chyfathrebiadau, canmolodd y Cadeirydd adeilad Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC) Cymru ym Mrychdyn am gynhyrchu unedau awyru sy’n achub bywydau ar gyfer y GIG. Ar ran y Cyngor, llongyfarchodd dri derbynnydd Gwobr Tom Jones am Wirfoddoli Pobl Ifanc a phreswylydd o Sir y Fflint a oedd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 105 oed. Cyfeiriodd hefyd at y gwasanaeth i nodi Canmlwyddiant cyflwyno Cofeb Rhyfel Sychdyn.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i gyhoeddi y byddai Katie Wilby yn olynu Steve Jones fel y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a dymunodd yn dda iddi yn y rôl.  Cymeradwywyd hyn gan y Prif Weithredwr a ddiolchodd i’r Aelodau a oedd wedi cymryd rhan yn y panel recriwtio.

76.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ohonynt.

77.

Adolygiad o’r Protocol ar gyfer Cwrdd â Chontractwyr pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Ymgymryd ag adolygiad parhaus o’r Protocol i sicrhau ei fod yn ddiweddar ac yn berthnasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i adolygu’r Protocol oedd wedi ei ddiweddaru ac oedd yn rhoi arweiniad i aelodau yn eu hymwneud â phartïon sy’n ceisio neu’n cymryd rhan mewn contractau gyda’r Cyngor. Argymhellodd yr adroddiad y dylid dileu rhannau o’r Protocol sy’n ymwneud â Chynllunio a’u hymgorffori yn y Cod Canllawiau Cynllunio. Roedd y newidiadau’n ystyried materion a godwyd gan y Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd yn ystod y broses ymgynghori.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Chris Bithell, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei ddiweddaru i gynnwys darpariaethau perthnasol o’r Protocol, ynghyd â chyngor i Aelodau ar ymgynghoriadau cyn ymgeisio.

 

Ar ôl cyflwyno’r argymhellion, anogodd y Cynghorydd Ian Roberts yr Aelodau i ofyn am gyngor gan swyddogion Cyfreithiol os oedd ganddynt unrhyw ymholiadau.

 

Pan gyflwynwyd yr argymhellion i’r bleidlais, cawsant eu cario.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Diwygio’r rhannau o’r Protocol ar gyfer Aelodau yn eu hymwneud â Chontractwyr / Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill sy’n ymwneud ag ymdrin â phartneriaid a allai fod yn gwneud cais neu’n chwilio am gontract gyda’r Cyngor, fel y dangosir yn yr atodiad i’r adroddiad; a

 

(b)       Bod y rhannau o’r Protocol ar gyfer Aelodau yn eu Hymwneud â Chontractwyr / Datblygwyr a Thrydydd Partïon Eraill sy’n ymwneud â Chynllunio yn cael eu trosglwyddo i’r Cod Canllawiau Cynllunio (i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu hymgorffori ynddo) a bod y Cod Canllawiau Cynllunio yn cael ei ddiweddaru.

78.

Adolygiad o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 87 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth i newid enw Pwyllgor Archwilio’r Cyngor a chynnwys swyddogaethau newydd yng nghylch gorchwyl presennol y Pwyllgor a ail-enwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i nodi’r newidiadau statudol i’r Pwyllgor Archwilio sydd i’w gweithredu o fis Ebrill 2021. Byddai’r enw’n cael ei newid i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, gyda swyddogaethau ychwanegol i’w cynnwys yn y Cylch Gorchwyl. Byddai newidiadau pellach i gyfansoddiad y Pwyllgor a ailenwyd yn cael eu cyflwyno o fis Mai 2022.

 

Ymgynghorwyd â’r Pwyllgor Archwilio a Phwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd ar yr adroddiad. Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan Gadeiryddion y Pwyllgorau hynny, y Cynghorwyr Chris Dolphin a Neville Phillips.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Richard Jones, cadarnhaodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog na fyddai unrhyw orgyffwrdd rhwng gwaith sy’n deillio o’r dyletswyddau newydd a rôl bresennol y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Tra mai rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd asesu effeithiolrwydd systemau, byddai’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn parhau i archwilio meysydd yn fanylach ac yn monitro perfformiad. Byddai materion sy’n peri pryder a godwyd gan y Pwyllgor Archwilio yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu perthnasol; arfer a atgyfnerthwyd drwy gr?p cydgysylltu sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Pwyllgorau hynny.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan y Cynghorydd Mike Peers yngl?n â’r gofyniad i aelod lleyg gael ei benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor a ailenwyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod manylion cyswllt yr holl aelodau cyfetholedig ar gael yn fewnol. Eglurodd fod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i Aelod etholedig gael ei benodi’n Is-gadeirydd y Pwyllgor a ailenwyd.

 

Ar ôl cael ei gyflwyno a’i eilio, cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod enw diwygiedig Pwyllgor Archwilio’r Cyngor yn cael ei gydnabod a bod y swyddogaethau newydd a nodir yn y Ddeddf yn cael eu cynnwys yng Nghylch Gorchwyl presennol y Pwyllgor a ailenwyd.

79.

Diweddariad ynghylch gweithredu’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 pdf icon PDF 93 KB

Pwrpas:        Hysbysu’r Cyngor am y gwaith sy’n cael ei wneud i weithredu’r Ddeddf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad i arfarnu’r Cyngor o weithrediad cyfredol Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dilyn yr eitem a dderbyniwyd ym mis Ionawr. Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar weithredu’r tri Gorchymyn Cychwyn a gyflwynwyd erbyn mis Mai 2022.  Ers cyhoeddi’r adroddiad, cynhyrchwyd yr Ail Orchymyn Cychwyn sy’n ymwneud â threfn perfformiad a llywodraethu newydd ar gyfer prif Gynghorau a’r Trydydd Gorchymyn Cychwyn yn dod â darpariaethau ar bresenoldeb ar gyfer cyfarfodydd a dogfennau Awdurdodau Lleol i rym. Byddai newidiadau pellach fyddai’n deillio o’r ddeddfwriaeth yn cael eu hadrodd i Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd a’r Cyngor Sir.

 

Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Carolyn Thomas.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Mike Peers, rhoddodd y Prif Weithredwr ddiweddariad byr ar yr amserlen ar gyfer yr Adolygiad o Ffiniau Sirol.

 

Soniodd y Cynghorydd Richard Jones am y drafodaeth ym mis Ionawr ar agweddau eraill ar y ddeddfwriaeth a phenderfyniad y Cyngor i beidio â chefnogi cynigion ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel y maent ar hyn o bryd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod consensws rhanbarthol wedi arwain at oedi mewn gweithrediad er mwyn caniatáu mwy o waith ar fel y byddai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gweithio. Byddai diweddariad ar y sefyllfa yn cael ei hadrodd i gyfarfod yn y dyfodol.

 

Ar ôl cael ei gyflwyno a’i eilio, cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn nodi’r amserlen gweithrediad ac yn cydnabod y bydd adroddiadau pellach yn cael eu cyflwyno maes o law.

80.

Penodi Aelodau Annibynnol i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 85 KB

Pwrpas:        Ystyried penodi’r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer y swyddau Aelod Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar ganlyniad y broses recriwtio ar gyfer dwy swydd wag Aelodau Annibynnol ar y Pwyllgor Safonau. Yn dilyn cyfweliadau, argymhellodd yr adroddiad y dylid penodi’r ymgeisydd y ffafrir (Gill Murgatroyd) gyda’r swydd wag sy’n weddill yn cael ei hysbysebu eto.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno a’i eilio gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd Paul Johnson, a oedd ill dau wedi cymryd rhan yn y panel cyfweld.

 

Yn ôl cais y Cynghorydd Ian Dunbar, rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar y broses ar gyfer penodi cynrychiolydd Cyngor Tref/Cymuned ar Bwyllgor Safonau’r Cyngor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i’r bleidlais a’i gario.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Gill Murgatroyd yn cael ei phenodi i’r Pwyllgor Safonau tan 31 Mawrth 2027.

81.

Deisebau sydd wedi dod I law'r Cyngor pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad blynyddol ar ganlyniadau a chamau gweithredu sy’n deillio o ddeisebau a gyflwynwyd i’r Cyngor yn ystod y flwyddyn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys ymatebion portffolio i’r ddwy ddeiseb a dderbyniwyd yn ystod 2020/21. Nodwyd bod y Cyngor yn gweithio gyda chydweithwyr ledled Cymru ar ddull cyson o ymdrin â deisebau electronig.

 

Cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Billy Mullin a Paul Cunningham a groesawodd waith ar y deisebau ac anogasant Aelodau etholedig i godi ymwybyddiaeth ymhlith cymunedau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Veronica Gay nad oedd pryderon diogelwch ar y ffyrdd yn Saltney a godwyd mewn deiseb a gyflwynwyd yn 2019 wedi cael sylw eto. Byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn ymateb i’r Cynghorydd Gay yn dilyn y cyfarfod.

 

Wedi iddo gael ei gyflwyno i’r bleidlais, cynhaliwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

82.

Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 pdf icon PDF 99 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Cyngor am y cynnydd yn hawl absenoldeb mabwysiadwr ar gyfer Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar Reoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 a gynyddodd y cyfnod absenoldeb mabwysiadu ar gyfer aelodau awdurdodau lleol o bythefnos i 26 wythnos. Byddai’r newidiadau’n golygu bod yr un cyfnodau o absenoldeb mamolaeth a mabwysiadwr ar gael i Aelodau prif Gynghorau ac yn darparu ar gyfer trefniadau tebyg ar gyfer absenoldeb mabwysiadwr ag sydd eisoes ar waith ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

 

Fel Cadeirydd ac Is-gadeirydd Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, cyflwynodd ac eiliodd y Cynghorwyr Neville Phillips a Michelle Perfect yr argymhelliad. Wrth gael ei gyflwyno i’r bleidlais, cafodd hyn ei gario.

 

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Cyngor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi llunio’r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021, ac yn ymgorffori’r newidiadau yn y rheolau sefydlog ar absenoldeb teuluol o fewn y Cyfansoddiad.

83.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ohonynt.

84.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ohonynt.

85.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un ohonynt.

86.

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 - Ystyried gwahardd y wasg a'r cyhoedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer gweddill yr eitem ei gyflwyno a’i eilio gan y Cynghorwyr Chris Bithell ac Ian Dunbar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod gan yr ystyriwyd bod yr eitem ganlynol wedi’i heithrio yn rhinwedd paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

87.

Recriwtio Prif Weithredwr

Pwrpas:        I geisio cymeradwyaeth i recriwtio rôl y Prif Weithredwr yn dilyn hysbysiad o’r bwriad i ymddiswyddo a dderbyniwyd yn ddiweddar gan ddeiliad cyfredol y swydd ac i gytuno ar y broses recriwtio a phecyn tâl.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol adroddiad i geisio cymeradwyaeth i recriwtio i rôl y Prif Weithredwr yn dilyn yr hysbysiad diweddar o fwriad i ymddiswyddo a roddwyd gan ddeiliad presennol y swydd, ac i gytuno ar y pecyn a’r broses recriwtio.

 

Yn dilyn awgrym gan y Cynghorydd Richard Jones, cytunwyd y byddai’r degfed pwynt bwled yn y Disgrifiad Swydd yn cael ei ehangu i adlewyrchu’n gliriach y cafodd cyngor a chymorth eu darparu i Aelodau etholedig mewn ffordd anwleidyddol. Gyda’r diwygiad hwnnw, cyflwynwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Ian Roberts a Mike Peers. Byddai’r geiriad terfynol yn cael ei rannu gyda’r panel cyfweld.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cytuno ar recriwtio Prif Weithredwr newydd;

 

(b)       Cytuno ar y pecyn tâl arfaethedig, sydd heb newid; a

 

(c)       Chytuno ar y broses recriwtio a’r amserlen arfaethedig, gan ymgorffori’r diwygiad i’r Disgrifiad Swydd.

88.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r wasg yn bresennol.