Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod mynychu o bell

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

31.

CYFLWYNIADAU

To celebrate the Social Services Accolades where NEWCIS won the award for its ‘Bridging the Gap’ project, which allows unpaid carers to access reliable and flexible respite solutions.  It allows carers to take a break to suit their needs and can support an urgent need for respite.

 

Also to celebrate the highly commended Finalist, Flintshire County Council Social Services, for its project providing daytime activities for more than 250 people with learning disabilities.  The project helps people learn new skills, develop independent, and make social connections and friendships.  It also works with a supported living programme to help the people it supports, their parents and carers to access respite services.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd y canlynol i’r cyfarfod:

 

Yn cynrychioli Cyngor Sir y Fflint:

Neil Ayling, Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol); Susie Lunt, Uwch Reolwr – Gwasanaethau Oedolion a Dawn Holt, Rheolwr Comisiynu’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Yn cynrychioli GOGDdC

Claire Sullivan, Elaine Jones, Claire Challinor a Lesley Parry.

 

            Eglurodd fod yr eitem hon i ddathlu Anrhydeddau’r Gwasanaethau Cymdeithasol lle enillodd GOGDdC y wobr am ei brosiect ‘Pontio’r Bwlch’ a oedd yn galluogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad i ddatrysiadau seibiant dibynadwy a hyblyg.  Roedd yn galluogi gofalwyr i gymryd egwyl addas i’w hanghenion a gallai gefnogi angen ar frys am seibiant.

 

Diolchodd Claire Sullivan i’r Cadeirydd am y gwahoddiad i’r cyfarfod a dywedodd ei bod wrth ei bodd fod GOGDdC wedi ennill yr anrhydedd.  Dechreuodd y prosiect yn 2012 ac roedd yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir y Fflint.  Nid oedd erioed wedi dychmygu y byddai’r cynllun yn dod mor hyblyg ac addasadwy, gyda miloedd o ofalwyr di-dâl yn cael seibiant pan oeddent angen hynny.  Pan ymwelodd y beirniaid â GOGDdC fe aethant ati i siarad â 15 o ofalwyr a siaradodd yn angerddol am y gwasanaeth a gâi ei gynnig.  Diolchodd i’r tîm am eu gwaith caled parhaus. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai GOGDdC oedd y gwasanaeth i ofalwyr gorau yng Nghymru a gwnaeth sylw ar y bartneriaeth ragorol oedd ganddynt gyda’r Cyngor. 

 

Mynegodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau Cymdeithasol, ei diolch i GOGDdC am y gefnogaeth yr oeddent yn ei ddarparu i’r gofalwyr a llongyfarchodd hwy am ennill y wobr.  

 

Yn cynrychioli HFT

Jordan Smith ac Andrew Horner, ynghyd â’r defnyddwyr gwasanaeth Jessica Butler, Tamara Hijazi, Kevin Roberts a Ryan Williams.

 

Croesawodd y Cadeirydd HFT i ddathlu fod Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Sir y Fflint, wedi cyrraedd y rownd derfynol am ei brosiect yn darparu gweithgareddau dydd i dros 250 o bobl gydag anableddau dysgu. Roedd y prosiect yn helpu pobl i ddysgu sgiliau newydd, datblygu annibyniaeth a gwneud cysylltiadau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Roedd hefyd yn gweithio gyda rhaglen byw â chymorth i helpu’r bobl roedd yn eu cefnogi, eu rhieni a gofalwyr i gael mynediad i wasanaethau seibiant.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth gyda HFT am dair blynedd a bod gwasanaethau arweiniol wedi eu datblygu fel Hwb Cyfle.  Fe wnaeth sylw ar y cyfleoedd gwaith a Phrosiect Search a arweiniodd at chwe unigolyn ifanc yn cael gwaith am dâl.  Llongyfarchodd y tîm.

 

Hefyd llongyfarchodd y Cynghorydd Christine Jones HFT am y gefnogaeth a’r gofal yr oeddent yn ei roi i’r gwasanaeth a’r cyfleoedd gwaith roeddent yn ei ddarparu.

 

Diolchodd Jordan Smith i’r Cadeirydd am y gwahoddiad i’r cyfarfod.  Talodd deyrnged i’r Cyngor am eu buddsoddiad yn Hwb Cyfle a hefyd fe wnaeth sylw ar  ganlyniadau Prosiect Search a olygodd fod defnyddwyr gwasanaeth yn cael cyflogaeth am dâl.  

 

Llongyfarchodd Paul Cunningham GOGDdC a HFT.

32.

Cofnodion pdf icon PDF 89 KB

I gadarnhau fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo'r cofnodion fel cofnod cywir.

33.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorwyr: Fe ddatganodd Axworthy, Banks, Bibby, Brown, Butler, Collett, Cunningham, Jean Davies, Davies-Cooke, Dunbar, Dunbobbin, Ellis, Gay, David Healey, Gladys Healey, Christine Jones, Richard Jones, Tudor Jones, Richard Lloyd, Mackie, McGuill, Mullin, Palmer, Peers, Michelle Perfect, Phillips, Rush, Paul Shotton, Smith, White a Wisinger gysylltiad personol yn eitem rhif 8 ar y rhaglen – Rhaglen Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 gan eu bod yn llywodraethwyr ysgol.

34.

Cyfathrebiadau Cadeirydd

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cadeirydd sylw ar sut yr oedd bywydau wedi newid cymaint ers mis Mawrth.  Roedd heddiw yn ddiwrnod pwysig gan fod y brechlyn cyntaf yn erbyn Covid-19 wedi ei roi i wraig 90 mlwydd oed yn Coventry.

35.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd dim.

36.

Strategaeth Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2021/22 – 2023/24 i’w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.  Roedd yn egluro’r gofyniad ar gyfer y Strategaeth, ei brif amcanion a chynnwys pob un o’i adrannau.

 

O dan y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol (y Cod Darbodus), roedd gofyn i awdurdodau osod ystod o Ddangosyddion Darbodus.  Roedd y Strategaeth Gyfalaf yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2021/22 – 2023/24.

 

Prif amcanion y Strategaeth oedd i egluro’r modd yr oedd y Rhaglen Gyfalaf yn cael ei datblygu a’i hariannu, yr effaith posibl yr oedd yn ei gael ar Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor a’r modd yr oedd yn ymwneud â Strategaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor.  Roedd y Strategaeth yn ddogfen drosfwaol ac roedd yn cyfeirio at ddogfennau eraill fel y Rhaglen Gyfalaf, Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Polisi Darparu Isafswm Refeniw.  Roedd y Strategaeth wedi ei rhannu yn nifer o adrannau a oedd yn cael eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet ac nid oedd unrhyw faterion wedi eu codi.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Banks yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Roberts.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl swyddogion a fu’n ymwneud â hyn am sicrhau fod y rhaglenni yn parhau i gael eu hariannu a bod hylifedd yn parhau yn dda.

 

Ar dudalen 27, gofynnodd y Cynghorydd Peers a oedd meini prawf fforddiadwyedd wedi eu gosod o ran y cyllid gan fod Tabl 2 yn dangos cynnydd o 500% mewn grantiau/cyfraniadau/benthyciadau penodol.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yna gynnydd sylweddol yn 2023/24 o ganlyniad i raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Roedd cynlluniau ar gyfer y dyfodol wedi eu gosod yn y cyfrifiadau hyn a hefyd wedi eu gosod yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a oedd yna unrhyw risg i’r Cyngor o ran lefel y ddyled fel yr amlinellir yn nhabl 5 yr atodiad.  Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod lefel y ddyled yn cael ei monitro’n ofalus drwy gydol y flwyddyn i sicrhau fod y ddyled yn is na’r gofyniad cyfalaf.   Roedd rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i osod cyfyngiad wedi ei awdurdodi ar gyfer dyled allanol bob blwyddyn a chadw hyn dan adolygiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Strategaeth Gyfalaf yn cael ei chymeradwyo; a

 

(b)       Bod y canlynol yn cael eu cymeradwyo:

           

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/22 - 2023/24 fel y nodir yn Nhablau 1 a 4-7, gan gynnwys y rhai hynny, o’r Strategaeth Gyfalaf; a

·         Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol i greu symudiadau rhwng y cyfyngiadau y cytunwyd arnynt ar wahân o fewn y cyfyngiad a awdurdodwyd ar gyfer y ddyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 o’r Strategaeth Gyfalaf).

37.

Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 pdf icon PDF 260 KB

Pwrpas:        Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 i'w chymeradwyo.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer cyfnod 2021/22 – 2023/24 i’w gymeradwyo, wedi ei gefnogi gan gyflwyniad PowerPoint.

 

Roedd Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn ymdrin â buddsoddiad mewn asedau ar gyfer yr hirdymor i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian.  Roedd yr asedau yn cynnwys adeiladau (fel ysgolion a chartrefi gofal), seilwaith (fel priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff) ac asedau nad ydynt yn eiddo i’r Cyngor (fel gwaith i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat).  Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig o fewn yr adroddiad wedi eu halinio’n agos at gynlluniau busnes gwasanaeth portffolios a Chynllun y Cyngor.

 

Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru (LlC) i gefnogi blaenoriaethau, anghenion a dyledion y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd ganddo’r pwerau i ariannu cynlluniau Cyfalaf drwy fenthyca - dros dro oedd hyn ac yn y pen draw roedd y gost ac ad-dalu unrhyw fenthyca yn cael ei godi ar gyllideb refeniw’r Cyngor.  Roedd cynlluniau a gâi eu hariannu gan fenthyca yn cael eu hystyried yn ofalus o ganlyniad i’r effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.

 

Rhannwyd Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor yn dair rhan:

 

1.    Statudol / Rheoleiddio - dyraniadau i gynnwys gwaith rheoleiddio a statudol.

2.    Asedau Cadwedig - dyraniadau i ariannu gwaith ar seilwaith sydd ei angen i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes.

3.    Buddsoddiad - dyraniadau i ariannu gwaith.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog fanylion pob un o’r tablau o fewn yr adroddiad a oedd yn rhan o’r cyflwyniad, ac a gâi eu cefnogi gan eglurhad yn yr adroddiad ar bob tabl.

 

Rhoddwyd manylion am gynlluniau posibl yn y dyfodol, a chafwyd manylion am y rhain yn yr adroddiad hefyd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Roberts a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Thomas.

 

Mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i’r Prif Swyddog a’i dîm am y gwaith a wnaed i ddatblygu’r Rhaglen Gyfalaf.  Dywedodd fod y rhaglen yn dangos dyfnder y cyfranogiad mewn ysgolion, cartrefi gofal, seilwaith a rhwydweithiau TG.  Fe wnaeth sylw ar y canolbwynt i’r digartref, Hwb Cyfle, Ysgol Glan yr Afon, Castell Alun, y cynlluniau ar gyfer ardaloedd Saltney a Brychdyn a Mynydd Isa ar gyfer ysgolion.  Hefyd fe wnaeth sylw ar Marleyfield, y cyfleuster archifau ar y cyd ac ailddatblygu Theatr Clwyd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Thomas gyda sylwadau’r Cynghorydd Roberts a diolchodd i swyddogion am dynnu cyllid cyfalaf drwy’r llwybrau amrywiol a oedd ar gael iddynt.  Eglurodd fod y Cyngor yn aros i glywed y canlyniad ar y cynigion a gyflwynwyd ar gyfer cynlluniau o dan y cyllid Ysgogi Economaidd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Dunbar gyda’r sylwadau hefyd a mynegodd ei ddiolch am y cyllid ar gyfer ardaloedd chwarae.  Manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed ar y pontydd ym Mharc Gwepra.  Gofynnodd beth oedd y cynllun tymor hirach ar gyfer Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod eglurhad cychwynnol gan  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Adolygu cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor ar ôl i Aelodau ymuno â’r Gr?p Cynghrair Annibynnol o Gr?p Annibynnol Sir y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ac eglurodd fod yna angen i adolygu cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor wedi i’r tri aelod a oedd yn weddill o Gr?p Annibynnol Sir y Fflint ymuno â Gr?p y Gynghrair Annibynnol.  Roedd yna un aelod amhleidiol o’r Cyngor.

 

Roedd grwpiau gwleidyddol y Cyngor a’r nifer o Aelodau ar bob un fel a ganlyn:

 

Llafur

34

Y Gynghrair Annibynnol

16

Ceidwadwyr

6

Y Democratiaid Rhyddfrydol

6

Annibynnol Newydd

4

Annibynnol

3

Aelod amhleidiol

1

 

Dyrannwyd seddi pwyllgor i grwpiau gwleidyddol (cyn belled ag yr oedd hynny’n ymarferol) yn yr un gyfran ag yr oedd gan y grwpiau hynny o ran cyfanswm aelodau’r Cyngor Sir.  Amlinellwyd manylion yr hyn yr oedd rhaid ei gydnabod wrth ddyrannu’r seddi ar y Pwyllgorau yn yr adroddiad.

 

Roedd cyfrifiad y cydbwysedd gwleidyddol wedi ei atodi i’r adroddiad.  Roedd yn un dyraniad cyfreithlon posibl o seddi a gall dyraniadau cyfreithlon posibl eraill fodoli.

 

Fe allai seddi a gaiff eu dal yn ffurfiol gan Gr?p Annibynnol Sir y Fflint gael eu trosglwyddo yn eu cyfanrwydd heb i unrhyw gr?p gwleidyddol arall gael eu heffeithio.  Diolchodd i’r Cynghorydd Peers am gytuno i ystyried yr adroddiad hwn yn y cyfarfod hwn yn hytrach na’r cyfarfod ym mis Tachwedd.

 

Cafodd yr argymhellion yn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Roberts a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Peers.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y seddi ar y Pwyllgorau yn cael eu dyrannu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol fel y dangosir yn Atodiad A; a

 

(b)       Bod unrhyw newidiadau i’r rhai a enwebir ar gyfer lleoedd ar Bwyllgor yn cael eu datgan i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd cyn gynted â phosibl.

39.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2019/20 a oedd yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r Cyngor i fodloni adroddiad arfer gorau CIPFA sef ‘Pwyllgorau Archwilio - Canllaw Ymarferol ar gyfer Awdurdodau Lleol 2018’, a’r gofyniad i Bwyllgorau Archwilio gael eu dal i gyfrif gan y Cyngor am y gwaith y maent wedi ei wneud.

 

Roedd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio wedi ei gynllunio i roi sicrwydd i’r Cyngor o ran dal y Pwyllgor i gyfrif.  Yn benodol:

 

1.    Cefnogi atebolrwydd y Cyngor i’r cyhoedd a budd-ddeiliaid

-       Cafodd pob cyfarfod gan y Pwyllgor Archwilio ei gynnal yn gyhoeddus gyda holl bapurau’r Pwyllgor ar gael ar wefan y Cyngor.

2.    Cefnogi atebolrwydd o fewn y Cyngor

-       Drwy adolygu’r adroddiadau a dderbyniwyd gan y Pwyllgor Archwilio, mae’r Pwyllgor yn dal y rhai sy’n gyfrifol am weithredu’r argymhellion a chynlluniau gweithredu i gyfrif.  Yn ychwanegol at hynny, fe oruchwyliodd y Pwyllgor y broses ar gyfer gwerthuso a gwella llywodraethu, risg, rheoli a rheolaeth ariannol.

3.    Dal y Pwyllgor Archwilio i gyfrif

-       Mae’r Pwyllgor wedi gwireddu’r Cylch Gorchwyl y cytunwyd arno ac mae wedi mabwysiadu’r arfer orau a argymhellwyd.

-       Roedd Aelodau o’r Pwyllgor Archwilio wedi asesu eu hanghenion datblygu eu hunain ac wedi manteisio ar y cyfle i fynychu sesiynau briffio a hyfforddiant;

-       Roedd y Pwyllgor wedi asesu ei effeithiolrwydd ei hun, wedi datblygu cynllun gweithredu ac wedi monitro cynnydd; ac

-       Roedd y Pwyllgor wedi dangos eu bod wedi cael effaith gadarnhaol ar welliant llywodraethu, risg, rheoli a rheolaeth            ariannol o fewn y Cyngor.

 

Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ym mis Ionawr yn amlinellu’r newidiadau arfaethedig i Bwyllgorau Archwilio yng Nghymru.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad hwn gan y Cynghorydd Chris Dolphin ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Chris Dolphin drosolwg o’r Adroddiad Blynyddol a chadarnhaodd nad oedd yna unrhyw feysydd o bryder i’w hadrodd i’r Cyngor.  Diolchodd y Cynghorydd Paul Johnson i’r Cynghorydd Dolphin am gadeirio’r Pwyllgor ac am ei natur drylwyr. 

 

Hefyd mynegodd y Cynghorydd Roberts ei ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yr Aelodau a hefyd yr aelodau cyfetholedig am eu cyfraniadau gwerthfawr. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2019/20 yn cael ei gymeradwyo.

40.

Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu 2019/20 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        Ystyried a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd fod Adroddiad Blynyddol Trosolwg a Chraffu yn cael ei ddrafftio yn flynyddol gan dîm y swyddog, mewn ymgynghoriad gyda Chadeiryddion Pwyllgorau perthnasol.  Roedd y drafft wedyn yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd er mwyn cael sylwadau Aelodau cyn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar gyfer cael ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Mae’r Adroddiad Blynyddol yn rhoi sicrwydd i’r Cyngor fod y swyddogaeth Trosolwg a Chraffu yn cyflawni ei rôl gyfansoddiadol.

 

Yn dilyn argymhelliad ym Mhwyllgor y Cyfansoddiad a’r Gwasanaethau Democrataidd, cytunwyd y gellid tynnu’r geiriad diangen yn ymwneud â’r rhaglen gwaith i’r dyfodol. 

 

Roedd angen diwygio gan fod y Cynghorydd Paul Johnson wedi ei restru fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn hytrach na’r Cynghorydd Cunningham.  Hefyd roedd angen diwygiad pellach gan fod y Cynghorydd Dave Hughes wedi ei restru fel Aelod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a oedd yn anghywir.  Byddai’r diwygiadau’n cael eu gwneud cyn i fersiwn derfynol yr adroddiad gael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Phillips ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Michelle Perfect.

 

Diolchodd y Cynghorydd Phillips i’r Hwyluswyr Trosolwg a Chraffu am eu cefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.  Hefyd talodd deyrnged i’r Cynghorydd Mackie a oedd wedi cadeirio’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol a oedd bellach wedi ei ddiddymu a hynny am dair blynedd.   Cytunodd y Cynghorwyr Roberts a McGuill gyda sylwadau’r Cynghorydd Phillips.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer 2019/20 yn cael ei dderbyn.

41.

Cwestiynau gan y Cyhoedd

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

42.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

43.

Rhybudd o Gynnig

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd dim.

44.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.