Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Maureen Potter 01352 702322  E-bost: maureen.potter@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

13.

Cofnodion pdf icon PDF 134 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 19 Chwefror, 28 Chwefror, 9 Ebrill a 7 Mai 2019.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 28 Chwefror, 9 Ebrill a 7 Mai 2019.

 

Materion yn codi

 

7 Mai 2019, tudalen 38,  eitem 8, cyfeiriodd y Cynghorydd Clive Carver at benodiad i’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor a dywedodd fod hyn wedi’i eilio gan y Cynghorydd Sean Bibby cyn bwrw pleidlais. Dywedodd fod hyn yn anarferol ac nad oedd cofnod o’r bleidlais, a’i fod yn newid yn y cyfansoddiad. 

 

Cydnabu Prif Swyddog (Llywodraethu) y pwynt a wnaed a dywedodd fod yr Arweinydd wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am y Cynghorwyr a ddewiswyd i wasanaethu ar y Cabinet ac eglurodd fod y bleidlais wedi’i chymryd yn y cyfarfod i nodi’r Cynghorwyr a ddewiswyd. Cytunodd y gallai’r penderfyniad fod wedi cael ei dderbyn gan y Cyngor a dywedodd yn y dyfodol y byddai’r eitem hon yn cael ei derbyn heb gymryd pleidlais. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y cofnodion yn cael eu cymeradwyo a’u llofnodi gan y Cadeirydd fel cofnod cywir.

 

 

 

14.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog y byddai datganiad personol yn cael ei gofnodi ar ran yr holl Aelodau’n bresennol o safbwynt eitem 12 ar y Rhaglen, Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth ar gyfer 2019/20.

 

Bu i’r Cynghorydd Chris Bithell ddatgan cysylltiad ag eitem 9 ar y rhaglen, Rhybudd o Gynnig – Codi Ymwybyddiaeth o Drais yn erbyn Merched a Cham-drin yn y Cartref, gan ei fod yn ymddiriedolwr ac yn aelod o fwrdd yr Uned Cam-drin yn y Cartref a Diogelwch. 

 

15.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Pwrpas:        Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’i dosbarthwyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi ei ddosbarthu i bob aelod cyn y cyfarfod.  Dywedodd y Cadeirydd ei bod hi a’i chonsort, y Cynghorydd Haydn Bateman, wedi bod yn falch iawn o gynrychioli’r Awdurdod yn y gwahanol ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod y mis diwethaf.

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Roberts at y tywydd gwael diweddar a thalodd deyrnged i staff a fu’n gweithio’n galed i gynnal y ddarpariaeth gwasanaeth drwy’r cyfnod, gan ddyfynnu staff Gwasanaethau Cymdeithasol, gweithredwyr Strydwedd, canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu, fel enghreifftiau, a gwnaeth gais i ddiolch ar ran y Cyngor i bob tîm oedd wedi helpu cymunedau i ymdopi â’r amodau heriol.

 

Hefyd  talodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a’r Cynghorydd Christine Jones deyrnged i staff a fu’n gweithio ddydd a nos mewn tywydd anodd ac anarferol i gynnal gwasanaethau a chynnig cymorth a chefnogaeth uniongyrchol i drigolion Sir y Fflint. 

 

Awgrymodd y Cynghorydd Paul Shotton eu bod yn rhoi gwybod i’r cyfryngau lleol am waith y Cyngor yn ystod y tywydd gwael diweddar i dynnu sylw at y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr Awdurdod. Cytunodd y Prif Weithredwr y byddai datganiad yn cael ei ddarparu i’r wasg a fyddai’n cynnwys yn sylwadau cadarnhaol a wnaed gan Aelodau.

 

Hefyd talwyd teyrnged gan y Cynghorydd Neville Phillips i’r Swyddog Etholiadau a’i dîm am gynnal yr Etholiadau Ewropeaidd ar 26 Mai 2019, a dywedodd eu bod wedi’u trefnu’n dda gyda chynnydd rhagorol. Diolchodd hefyd ar ran y Cynghorydd Tudor Jones fel asiant etholiadol.

 

16.

Deisebau

Pwrpas:         Derbyn unrhyw ddeisebau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sian Braun ddeiseb gan drigolion Abbey Drive, Gronant, i gyflwyno cyfyngiad cyflymder o 20 milltir yr awr ar hyd Abbey Drive, Gronant, mor fuan â phosibl i leihau peryglon traffig i drigolion a defnyddwyr ffordd bregus.

 

Eglurodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y broses ar gyfer delio â deisebau, a dywedodd, ar ddiwedd y flwyddyn fwrdeistrefol y byddai adroddiad yn cael ei ddarparu i’r Cyngor i egluro’r camau ar gyfer pob deiseb a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.

 

 

17.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau.

 

18.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir. 9.4(A):  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau.

 

 

19.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 1 2019/20, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 12 Mehefin, 2019:  doedd dim wedi dod i law erbyn y dyddiad cau.

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau.

 

 

20.

RHYBUDD O GYNNIG pdf icon PDF 196 KB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rybuddion o Gynnig:   daeth tri i law erbyn y dyddiad cau

 

Y Cynghorwyr Bernie Attridge, Carol Ellis, Helen Brown a George Hardcastle – Cyfyngu ar y cynnydd yn nhreth y cyngor 

 

Y Cynghorydd David Healey – Seiberfwlio

 

Y Cynghorydd Andy Dunbobbin – Codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn merched a cham-drin domestig  

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd tri Rhybudd o Gynnig:

 

(i)         Cyfyngu ar Gynnydd yn Nhreth y Cyngor  - Cynghorwyr Bernie Attridge, Carol Ellis, Helen Brown a George Hardcastle

 

‘Galwn ar Gyngor Sir y Fflint i roi mandad clir i’r Cabinet a’r uwch dîm rheoli fod Treth y Cyngor yn cael ei gapio ar 4.5% ar gyfer y broses gosod cyllideb nesaf.

 

Galwn am hyn yn sgil y sylwadau a wnaed gan nifer o drigolion yn Sir y Fflint fod y cynnydd o 8.75% a osodwyd ar gyfer 2019/20 yn achosi caledi a thlodi o fewn ein Sir.’

 

Wrth siarad o blaid y Cynnig, dywedodd y Cynghorydd Helen Brown fod y cynnydd o 8.75% yn Nhreth y Cyngor eleni yn ormod i nifer o drigolion yn Sir y Fflint a bod pobl yn flin ynghylch y cynnydd. Dywedodd nad oedd cyflogau wedi codi ar yr un raddfa â hyn a chyfeiriodd at y cynnydd mewn costau byw beunyddiol ar gyfer tanwydd, gwasanaethau, bwyd a dillad. Hefyd cyfeiriodd at y cynnydd posibl mewn costau ar gyfer cludiant ysgol, a’r bwriad i roi’r gorau i drwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Hefyd dywedodd y Cynghorydd Brown fod cynnydd mewn tlodi pant a’i bod yn annheg roi mwy o bwysau ar dalwyr treth y cyngor Sir y Fflint i gau’r bwlch ariannol ar gyfer yr Awdurdod. Gofynnodd i Aelodau gefnogi’r Cynnig ar ran trigolion Sir y Fflint. 

 

Cynigiwyd y cynnig gan y Cynghorydd Helen Brown a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Carol Ellis.

 

Wrth siarad o blaid y Cynnig, dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis fod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru roi arian digonol i awdurdodau lleol. Dywedodd nad oedd y fformwla ariannol yn “addas i’r pwrpas” a dyfynnodd enghraifft, sef nad oedd yr Awdurdod yn derbyn arian ar gyfer cost sylweddol lleoliadau y tu allan i’r sir. Aeth ymlaen gan ddweud nad oedd y Fformwla’n ystyried mai yn Sir y Fflint oedd y boblogaeth oedrannus oedd yn tyfu gyflymaf yn ôl canran, ac effaith hynny ar gostau gofal cymdeithasol. Dywedodd fod LlC wedi creu Deddf Llesiant a bod yn rhaid i’r gwasanaethau a ddarperir gan yr Awdurdod o dan y Ddeddf gael eu hariannu o gyllidebau presennol. Soniodd am y caledi gwirioneddol a wynebir gan rai trigolion oedd yn byw ‘o’r llaw i’r genau’ a chyfeiriodd at y defnydd cynyddol o fanciau bwyd. Gofynnodd y Cynghorydd Ellis i Aelodau gefnogi’r Cynnig ar ran trigolion Sir y Fflint ac ailadroddodd na ddylid disgwyl i dalwyr treth y cyngor ariannu’r diffyg ariannol ar gyfer awdurdodau lleol ac mai cyfrifoldeb llywodraeth genedlaethol yw sicrhau cyllid digonol i LlC ei drosglwyddo i awdurdodau lleol. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Mike Peers y byddai cytuno â’r Cynnig ar hyn o bryd yn rhoi mwy o bwysau ar y Cyngor yn sgil nifer o ‘ffactorau anhysbys’ yngl?n â’r broses gosod y gyllideb. Cynigiodd welliant i’r Cynnig, bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Cyngor am unrhyw ganlyniadau posibl yn sgil cynnydd o 5%  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Cynllun y Cyngor 2019/20 pdf icon PDF 133 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20 yn unol ag argymhelliad y Cabinet.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i fabwysiadu argymhellion y Cabinet ar Ran 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Rhoddodd wybodaeth gefndir fel y manylir yn yr adroddiad, a dywedodd fod Cynllun y Cyngor yn Gynllun statudol oedd yn rhaid ei gymeradwyo erbyn diwedd Mehefin. Roedd adborth ar y Cynllun drafft wedi’i dderbyn gan weithidai Aelodau mewnol, arolwg, a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Diolchodd y Prif Weithredwr am eu cyfraniad. Roedd eu hawgrymiadau cadarnhaol oedd wedi’u cynnwys os oeddent o bwys, o safbwynt swyddogaethau’r Cyngor, a byddai modd eu gweithredu’n ymarferol o fewn y flwyddyn. Dywedodd fod Rhan 1 o’r Cynllun wedi’i chyflwyno ar ei ffurf derfynol i’w gymeradwyo, fel yr argymhellwyd gan y  Cabinet heb ei newid. 

 

Cyfeiriodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol at y blaenoriaethau craidd, yr uchelgeisiau a’r amcanion oedd yn Rhan 1 o’r Cynllun, ac os cytunwyd yn y Cyngor, byddai’n arwain at Ran 2 a fyddai’n datblygu’r cynnydd, a pherfformiad y Cynllun. Dywedodd y byddai Rhan 2 yn cael ei chyflwyno i’r Cabinet a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym mis Gorffennaf. Unwaith y byddai Rhan 1 a Rhan 2 wedi’u cymeradwyo byddent yn cael eu cynnwys mewn dogfen graffigol ddigidol a’i chyhoeddi ar wefan y Cyngor ddiwedd Gorffennaf.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cynllun wedi’i strwythuro’n fras ar gyfer 5 mlynedd ond byddai’n newid fesul blwyddyn, fodd bynnag, pe byddai angen newid sylfaenol neu pe byddai cais yn dod gan LlC gellid ychwanegu ati. Awgrymodd pan fyddai perfformiad Chwarter 2 yn cael ei ystyried tua mis Tachwedd eleni eu bod yn cynnal trafodaeth gynnar am y blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf a gallai unrhyw addasiadau o bwys gael eu hawgrymu ochr yn ochr â’r broses o osod y gyllideb. Awgrymodd hefyd y gallai fod o gymorth i’r Pwyllgorau Trosolwg  a Chraffu gynnwys rhannau o’r Cynllun yn eu blaen raglenni gwaith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhelliad yn yr adroddiad i gymeradwyo Rhan 1 o Gynllun y Cyngor 2019/20.  Diolchodd i bawb a fu yn y gweithdai ac a gynigiodd fewnbwn a diolchodd am waith y Gweithgor Trawsbleidiol. Gofynnodd i Aelodau gefnogi Rhan 1 y Cynllun. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Billy Mullin.

 

Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom na allai gefnogi’r cais i gymeradwyo’r Cynllun a chyfeiriodd at yr ymrwymiad i ddatblygu’r isadeiledd traffig a’r cynllun cludiant strategol. Amlinellodd nifer o bryderon a chyfeiriodd at yr ymrwymiad i’r ‘llwybr coch’ a soniodd am yr angen am ddull newydd ar gyfer y coridor priffordd sy’n arwain o gefn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Gofynnodd am wneud gwaith pellach i ddarparu isadeiledd cludiant ffordd oedd yn hwyluso mynediad o ben gorllewinol y Sir a Sir Ddinbych ar draws yr afon i gefn Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy. Nododd y Prif Weithredwr y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Heesom ac eglurodd nad oedd y materion a godwyd ynghylch priffyrdd yng Nghynllun y Cyngor gan nad oedd yn un o swyddogaethau’r Cyngor. Dywedodd fod y Cyngor yn gweithio gyda LlC ar ei swyddogaethau a’i  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Adolygiad o God Ymarfer Cynllunio'r Cyngor pdf icon PDF 77 KB

Pwrpas:  Fel rhan o adolygiad treigl y Cyfansoddiad, cymeradwyo diweddariadau i God Ymddygiad Cynllunio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad ar God Ymarfer Cynllunio’r Cyngor. Eglurodd fel rhan o rôl y Pwyllgor Safonau i adolygu gweithrediad Cod Ymddygiad Aelodau a hybu a chynnal safonau ymddygiad uchel gan Gynghorwyr, fod y Cod Ymarfer Cynllunio (CYC) yn mynd gerbron y Pwyllgor i sicrhau ei fod yn darparu cyngor priodol a chlir i Aelodau am eu hymddygiad mewn perthynas â materion cynllunio ac argymell newidiadau i’r CYC os gellid ei wella. Argymhellodd y Pwyllgor Safonau rai newidiadau i’r CYC fel y manylir yn yr adroddiad ac fel y dangosir yn yr atodiad. Cymeradwywyd y newidiadau gan y Pwyllgor Cyfansoddiadol a argymhellodd fod y CYC, fel y’i diwygiwyd, yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at Lobïo ac adrannau 5.1 o’r CYC a’r geiriad yn y frawddeg olaf “y dylai swyddogion fod yn ymwybodol o unrhyw ohebiaeth lobïo y mae Aelodau yn ei derbyn”. Dywedodd mewn nifer o geisiadau diweddar, a dyfynnodd ardal Penyffordd yn benodol, fod pob Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn yr un ohebiaeth ac atodiadau, ac o ganlyniad byddai cryn ddyblygu gwybodaeth yn cael ei hanfon at yr adran Gynllunio gyda geiriad adran 5.1. Awgrymodd y byddai o gymorth gweinyddol pan anfonir gohebiaeth at bob aelod o’r Pwyllgor Cynllunio fod Cadeirydd y Pwyllgor yn anfon copi o’r ohebiaeth lobïo yr oedd pob Aelod wedi’i derbyn at y Swyddog Cynllunio.

 

Hefyd cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at adran 5.2 o’r CYC a’r cyngor y dylai aelodau’r Pwyllgor Cynllunio osgoi ymgyrchu’n weithgar i gefnogi canlyniad penodol. Dywedodd y gallai pobl ofyn i Aelod fynychu cyfarfod cyhoeddus yn eu Ward a bod y cyfarfod yn cael ei hysbysebu fel un oedd yn gwrthwynebu cais penodol. Trwy fynd i’r cyfarfod gellid rhagdybio bod yr Aelod hefyd yn erbyn y cais er bod yr Aelod yn bresennol fel arfer i helpu i ddeall y materion a godwyd. Awgrymodd, o ran gwybodaeth yn adran 5.3 o’r CYC, byddai’n ddefnyddiol pe bai Aelodau’n gallu gwneud datganiad i swyddogion Cynllunio eu bod wedi mynychu cyfarfod cyhoeddus yn erbyn cais yn eu rôl fel Aelod Ward i geisio deall y gwrthwynebiadau a godwyd. Gan gytuno â’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Peers rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyngor a chytunodd i ddiwygio’r CYC er mwyn sicrhau eglurhad pellach yngl?n ag ymgyrchu a phresenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd cyhoeddus i drafod cais.

 

Soniodd y Cynghorydd Clive Carver fod nifer o anghysonderau yn adran 5 o’r CYC yn nhermau cyfeiriadau a wnaed at Aelodau a hefyd at Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. Awgrymodd y Prif Swyddog gan nad oedd unrhyw aelodau wrth gefn ar y Pwyllgor Cynllunio, y byddai’n fuddiol pe byddai cyfeiriad at ‘Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio’ ar ddechrau’r CYC a bod y geiriad yn cael ei newid i ‘Aelodau’ yng ngweddill y ddogfen i awgrymu’n glir bod Aelodau’n golygu Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio. 

 

Diolchodd y Cynghorydd Patrick Heesom i’r Prif Swyddog (Llywodraethu) a Swyddogion am eu gwaith i adolygu Cod Ymarfer Cynllunio’r Cyngor

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad a chafodd  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        I alluogi'r Cyngor i adolygu’r cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn ffurfio gr?p gwleidyddol newydd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i alluogi’r Cyngor i adolygu’r cydbwysedd gwleidyddol yn dilyn ffurfio gr?p gwleidyddol newydd. Dywedodd fod angen i’r Cyngor o dan Reolau Cydbwysedd Gwleidyddol yn Neddf Llywodraeth leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 (fel y’i diwygiwyd) adolygu cyfrifiadau cydbwysedd gwleidyddol y Cyngor yn dilyn ffurfio Gr?p Annibynnol Sir y Fflint ar 17 Mai 2019  gan bedwar Aelod o’r Gr?p Annibynnol Newydd, ac un Aelod yn newid gr?p gwleidyddol ar 5 Mehefin 2019. 

 

                        Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar gyfrifo’r cydbwysedd gwleidyddol a phenderfynu ar nifer cywir y seddau i Grwpiau, fel y manylir yn yr adroddiad, ac y dangosir yn atodiad A.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Dyrannu seddau ar Bwyllgorau yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol a ddangosir yn Atodiad A; a

 

(b)       Bod gwybodaeth am unrhyw newidiadau i enwebeion ar gyfer llefydd ar Bwyllgorau’n cael ei rhoi i’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mor fuan â phosibl.

 

24.

RHESTR O GYDNABYDDIAETHAU ARIANNOL AR GYFER 2019/20 pdf icon PDF 105 KB

Pwrpas:        I’r Cyngor gymeradwyo’r rhestr o gydnabyddiaethau ariannol ar gyfer Aelodau etholedig a chyfetholedig ar gyfer 2019/20 ar gyfer eu cyhoeddi, gan fod yr holl benodiadau wedi eu gwneud.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor baratoi Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau etholedig a chyfetholedig bob blwyddyn. Gan fod yr holl benodiadau bellach wedi’u gwneud i ‘swyddi ar gyflogau uwch’ roedd y Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth ar gyfer 2019/20, y mae'n rhaid ei chyhoeddi cyn 31 Gorffennaf 2019, wedi’i chwblhau a’i hatodi i’w gymeradwyo.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog fod llefydd gwag i enwebu aelodau cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Safonau, a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a gofynnwyd i’r Cyngor awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau at y rhestr ar ôl cael eu penodi a chyn cyhoeddi’r rhestr. Aeth yn ei flaen i ddweud bod yr adroddiad hefyd yn delio â mater yn ymwneud â thalu Aelodau cyfetholedig Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd.

 

            PENDERFYNWYD:

 

(a)          Cymeradwyo’r Rhestr Taliadau Cydnabyddiaeth a gwblhawyd ar gyfer  2019/20 sydd wedi’i hatodi a’i gymeradwyo i’w chyhoeddi;

 

(b)          Awdurdodi’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd i ychwanegu enwau aelodau cyfetholedig ar gyfer y Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Safonau, a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid; a

 

(c)        Nodi y rhoddir y gorau i dalu aelodau cyfetholedig o ddechrau blwyddyn fwrdeistrefol 2019/20.

 

25.

Cod Ymddygiad Swyddogion pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        Fel rhan o’r adolygiad treigl y Cyfansoddiad, mae’r Pwyllgor Safonau wedi argymell diweddariadau i God Ymddygiad Swyddogion.  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gymeradwyo’r diweddariadau i God Ymddygiad Swyddogion fel rhan o adolygiad treigl o’r Cyfansoddiad. Eglurodd fod y Pwyllgor Safonau’n gyfrifol am adolygu’r holl godau a Phrotocolau (yn ymwneud ag ymddygiad) yn y Cyfansoddiad unwaith bob tymor i sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol a chyfredol. Roedd y Pwyllgor wedi adolygu Cod Ymddygiad Swyddogion ac wedi gwneud argymhellion i’w ddiweddaru. Awgrymwyd nifer o newidiadau, fel y manylir yn yr adroddiad, er mwyn ehangu ar y canllawiau’n dweud pryd mae angen iddynt ddatgan cysylltiad; cyfeirio at ffurflenni safonedig a grëwyd o’r newydd i gofnodi buddiannau a thoddion; ehangu ar y canllawiau ar gyflogaeth y tu allan; a diweddaru cyfeiriadau at swyddi a geirdaon gwasanaeth os ydynt wedi newid. Atodwyd y newidiadau arfaethedig i’r Cod at yr adroddiad. 

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r newidiadau arfaethedig i’r canllawiau eglurhaol yng Nghod Ymddygiad Swyddogion.

 

26.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 2.00pm a daeth i ben am 4.50pm)