Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA
Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345 E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
CYFLWYNIADAU Pwrpas: Mewncydnabyddiaeth o lwyddiannau diweddar y Cyngor yng Ngwobrau Adeiladu Rhagoriaeth 2017:
· Cleient y Flwyddyn - enwebwyd gan Wates Presidential i gydnabod ein partneriaeth ar y Rhaglen Tai Strategol ac Adfywio (SHARP)
· GwobrCynaliadwyedd - dyfarnwyd i Galliford Try, y contractwr a benodwyd gan y Cyngor i adeiladu Campws Dysgu Treffynnon
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: I gydnabod llwyddiannau diweddar y Cyngor yng Ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd Cymru 2017:
· Cleient y Flwyddyn – enwebwyd gan Wates Residential i gydnabod gwaith partneriaeth ar Raglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP) y Cyngor; a · Gwobr Cynaliadwyedd – wedi'i dyfarnu i Galliford Try, y contractwr a benodwyd gan y Cyngor i adeiladu Campws Dysgu Treffynnon.
Croesawodd y Cadeirydd y tîm SHARP a’r Tîm Moderneiddio Ysgolion i’r cyfarfod. Esboniodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn Seremoni Wobrwyo Adeiladu Arbenigrwydd Cymru (CEW) yn y Celtic Manor ddydd Gwener 14 Gorffennaf, gan ennill dwy wobr. Dyfarnwyd y tîm SHARP gyda ‘Gwobr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2017 - Cleient y Flwyddyn – Enillydd Cyffredinol’. Cafodd Galliford Try eu dyfarnu yn y categori Cynaliadwyedd ar gyfer Campws Dysgu Treffynnon.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge ei fod wedi bod yn anrhydedd iddo fod yn bresennol yn y seremoni wobrwyo ac amlinellodd y prosiectau ardderchog a oedd wedi’u rhoi yn yr un categori. Diolchodd i’r tîm cyfan ac Whaites am bartneriaeth ardderchog gyda’r Cyngor.
Llongyfarchwyd Galliford Try gan y Cynghorydd David Healey am eu gwobr. Dywedodd pan ymwelodd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid â Champws Dysgu Treffynnon, cafodd ei syfrdanu, roedd yn meddwl bod yr ysgol yn gyflawniad anhygoel ac fe dalodd deyrnged i bawb a oedd ynghlwm wrth y gwaith creu. |
|
Pwrpas: Cadarnhau cofnod cywir y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2017.
Ar bwynt o gywirdeb, gofynnodd y Cynghorydd Heesom bod y geiriau 'bod pryder nad yw'n ymddangos bod y sector preifat yn bodloni lefel y cyflenwad o dai sy'n ofynnol' yn cael eu cynnwys gyda’i sylwadau yng nghofnod rhif 23.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y diwygiad i gofnod rhif 23, 20 Mehefin 2017, cymeradwyo’r cofnodion fel cofnod cywir a bod y Cadeirydd yn eu llofnodi. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Monitro wybod y byddai cysylltiad personol yn cael ei gofnodi ar ran pob Aelod a oedd yn bresennol, a oedd yn aelodau o Gronfa Bensiynau Clwyd. Cymerodd y cyfle i atgoffa Aelodau o’r angen i gadw eu Ffurflenni Datgan Cysylltiad yn gyfredol, pe bai unrhyw newidiadau wedi digwydd ers eu hetholiad. Gellid gwneud hyn drwy lenwi ‘Ffurflen C’ a’i chyflwyno i Wasanaethau Democrataidd. |
|
Coffa a Theyrngedau i'r Cynghorydd Hwyr Ron Hampson Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Arweiniodd Arweinydd y Cyngor y teyrngedau i'r diweddar Gynghorydd Ron Hampson. Siaradodd am ei ymrwymiad, ei ymroddiad a'r cariad a ddangosodd at ei deulu; i Rita, Michelle a Stephen a'r rhan weithredol a chwaraeodd ym mywyd y Cyngor ers y cychwyn. Siaradodd am ei awch am drafodaeth wleidyddol, ei ymrwymiad i’r Blaid Lafur a sut roedd yn ymgyrchydd ymroddedig a chwbl bresennol. Roedd yn frwd dros helpu pobl a chynrychioli anghenion pobl, ac roedd ar ei fwyaf hapus wrth siarad â phreswylwyr yn ei ward. Dywedodd ei fod yn ddiolchgar am y cyfle i fod wedi gwasanaethu ochr yn ochr â'r Cynghorydd Hampson ac y byddai’r Cyngor yn dlotach lle oherwydd ei farwolaeth drist.
Talodd y Cynghorwyr Martin White, Ron Davies, Neville Phillips, Mike Peers, Clive Carver, Brian Lloyd, Dennis Hutchinson, Patrick Heesom, Tony Sharps, Rita Johnson a Carol Ellis deyrngedau i'r Cynghorydd Hampson hefyd, gan siarad yn benodol am ei garedigrwydd, ei boblogrwydd, ei gyfeillgarwch a’i ymroddiad i breswylwyr Bwcle a'r golled enfawr ar ei ôl. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y’I dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd copi o Gyhoeddiadau'r Cadeirydd wedi eu rhoi i'r holl Aelodau cyn y cyfarfod.
Rhoddodd y Cadeirydd sylwadau penodol ar Daith Baton y Frenhines ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, a diolchodd i Theatr Clwyd am eu lletygarwch. Siaradodd am ymweliad Iarll Wessex â Theatr Clwyd a oedd wedi bod yn llwyddiant, ac angladd y Cynghorydd Ron Hampson, a’r nifer fawr a oedd yn bresennol. |
|
Deisebau Pwrpas: Derbyn unrhyw ddeiseb. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau Gan Y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn unrhyw gwestiwn gan y cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau Pwrpas: Nodi’ratebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd dim. |
|
Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau Pwrpas: Mae’r Llyfr Cofnodion, Rhifyn 6, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau. Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Gofynnir i Aelodau ddod â’u copi o'r Llyfr Cofnodion i’r cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar 21 Medi 2017. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) bod cwestiwn wedi dod i law gan y Cynghorydd Heesom ar gofnodion Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a gynhaliwyd 16 Mai, 2017.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at gofnodion cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a gynhaliwyd 16 Mai, 2017. Cododd bryderon nad oedd y mater o ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar welliannau A494/A55 wedi’u hystyried gan y Cyngor llawn neu wedi bod yn destun trafodaeth. Cododd bryder hefyd am argymhelliad Llywodraeth Cymru, y teimlodd nad oedd o fudd i ardal Sir y Fflint a gynrychiolwyd ganddo ef.
Gwahoddwyd Arweinydd y Cyngor i ateb y cwestiynau gan y Cynghorydd Heesom. O ran dull o weithredu, esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) mai ei ddealltwriaeth ef oedd bod hysbysiad wedi’i roi i holi cwestiwn ar gyfer Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd. Pe esboniwyd mai i Arweinydd y Cyngor oedd y cwestiwn, ni fyddai’r cwestiwn wedi’i dderbyn gan na fyddai’n ateb y terfyn amser gofynnol, sef 10 diwrnod gwaith ar gyfer cwestiwn o’r fath.
Felly cafodd y cwestiwn ei wrthod. |
|
Pwrpas: Ystyried unrhyw Hysbysiadau o Gynnig a dderbyniwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Daeth dau Rybudd o Gynnig i law:
(i) Y Cynghorwyr Bernie Attridge a Kevin Hughes:
“O ganlyniad i’r trychineb yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield 15 Ebrill 1989, bu farw 96 o bobl ddiniwed a adawodd eu cartrefi’r bore hwnnw i wylio gêm bêl-droed.
Oherwydd bod y dyrfa wed’i chamreoli, collodd y ffans hynny, a oedd rhwng 10 a 67 oed, eu bywydau. Fe wnaeth y trychineb hwn effeithio’n uniongyrchol ar deuluoedd yn Sir y Fflint.
Mae’n drist cymharu ymddygiad y rhai hynny a oedd mewn swyddi cyfrifol a’r cyhoedd yn ymddiriedaeth ynddynt, gyda'r urddas a'r dewrder a ddangoswyd gan deuluoedd y 96, sydd wedi parhau ers 1989 i frwydro dros gyfiawnder wrth ymdopi gyda cholled eu hanwyliaid. Ni all y Cyngor anwybyddu’r boen a’r trallod a achoswyd gan y celwyddau a’r sylwadau dirmygus a argraffwyd yn The Sun ar y pryd – yn enwedig i deuluoedd y 96.
Ni allwn ychwaith anwybyddu'r modd y bu i The Sun fod yn ystyfnig a gwrthod ymddiheuro'n gyhoeddus am y boen a achosodd, nes y daeth yn amlwg i'r papur newydd fod barn y cyhoedd yn gofyn am ymddiheuriad o'r fath.
26 Ebrill 2016, dyfarnodd y rheithgor bod pob dioddefwr wedi’u lladd yn anghyfreithlon. Gobaith y Cyngor hwn yw y bydd casgliadau cwest Hillsborough maes o law yn arwain at gyfiawnder o’r diwedd i ddioddefwyr y trychineb hwn.
Rydym yn mynegi ein cefnogaeth i’r rhai a effeithiwyd gan y trychineb ac yn canmol ymdrechion parhaus perthnasau a ffrindiau’r dioddefwyr yn eu brwydr dros gyfiawnder. Rydym yn condemnio ymddygiad papur newydd The Sun a byddwn ni fel Cyngor yn cefnogi unrhyw adwerthwr neu werthwr papurau newydd yn Sir y Fflint sy’n dewis peidio â gwerthu papur newydd The Sun. Rydym yn rhoi ein cefnogaeth i’r ymgyrch “Total Eclipse of The Sun” ar y cyd â chynghorau eraill yng ngogledd orllewin y Deyrnas Unedig.”
Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes.
I gefnogi eu Cynnig ar y cyd, siaradodd y Cynghorydd Attridge am ddigwyddiadau ofnadwy Hillsborough a arweiniodd at farwolaethau 96 ffan pêl-droed diniwed, oherwydd camreolaeth o'r dyrfa, a sut roedd y trychineb wedi effeithio ar fywydau preswylwyr yn Sir y Fflint. Dywedodd y Cynghorydd Attridge ei fod yn drist cymharu ymddygiad y rhai â swyddi cyfrifol a phobl yn ymddiried ynddynt, â’r teuluoedd hynny a oedd wedi bod yn brwydro dros gyfiawnder wrth ymdopi â cholled eu hanwyliaid. Dywedodd na allai’r Cyngor anwybyddu’r celwyddau a argraffwyd ym mhapur newydd The Sun ar y pryd, neu ei ystyfnigrwydd i argraffu ymddiheuriad i’r teuluoedd, a bod y Cyngor yn cefnogi’r rhai a effeithiwyd gan y trychineb ac yn canmol ymdrechion parhaus perthnasau a theuluoedd yn eu cais am gyfiawnder. Casglodd y byddai’r Cyngor yn cefnogi unrhyw werthwr papurau newydd a fyddai’n dewis peidio â gwerth The Sun.
Esboniodd y Cynghorydd Kevin Hughes, wrth eilio’r Cynnig yn ffurfiol, mai’r rheswm dros gyflwyno'r Rhybudd o Gynnig oedd bod y cwest yng Ngorffennaf 2016 i drychineb Hillsborough wedi canfod bod 96 o ddioddefwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon. Esboniodd nad ... view the full Cofnodion text for item 36. |
|
Cynllun y Cyngor 2017-23 PDF 82 KB Pwrpas: Mabwysiadu Cynllun y Cyngor 2017-23 cyn ei gyhoeddi erbyn diwedd mis Medi. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Gynllun y Cyngor 2017-23. Roedd y Cynllun wedi’i adolygu a’i ddiweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau allweddol y Cyngor am y tymor o 5 mlynedd o dan y weinyddiaeth a oedd newydd ei hethol.
Roedd gan y Cynllun chwe blaenoriaeth gydag is-flaenoriaethau, gyda’r chwe blaenoriaeth â golwg tymor hir ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Roedd y Cynllun wedi’i gyflwyno i'r chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda phedwar ohonynt yn cefnogi heb sylwadau, a dau yn cefnogi’r Cynllun ond gyda sylwadau penodol a gyflwynwyd i’r Cabinet. Roedd copi o’r gwelliannau i’r Cynllun, a argymhellwyd i’r Cabinet, wedi’u cylchredeg i’r holl Aelodau cyn dechrau’r cyfarfod.
Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i bob Aelod a gyfrannodd at y Cynllun, gan gynnwys y sylwadau a wnaed yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu. Roedd sylwadau adeiladol gan y Pwyllgorau hynny wedi’u derbyn gan y Cabinet yn gynharach yn y dydd a bellach wedi’u hargymell i’r Cyngor. Dywedodd mai’r chwe blaenoriaeth allweddol oedd y blaenoriaethau allweddol yn seiliedig ar faterion cymdeithasol a oedd yn uchel ar raglen y weinyddiaeth. Ar adeg o galedi ariannol, roedd yn bwysig canolbwyntio ar y blaenoriaethau.
Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y gwelliant cyntaf o amgylch ‘Cyngor Uchelgeisiol’ a dywedodd, yn ystod cyfarfod Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nad oedd wedi sôn am unrhyw dref benodol ac wedi gofyn bod "yn arbennig ar gyfer defnydd preswyl" yn cael ei dynnu oddi yno, a gefnogwyd gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu. Teimlai y byddai datblygwyr yn defnyddio'r ddogfen lefel uchel hon i wneud canol trefi'n dameidiog er mwyn darparu ardaloedd preswyl, a gofynnodd am dynnu'r geiriau hyn oddi yno.
Rhoddodd y Cynghorydd Jones sylw hefyd ar ddatblygu strategaethau cludiant rhanbarthol a lleol a cheisiodd sicrhau gwariant teg ar draws trefi ac nid Glannau Dyfrdwy yn unig. Roedd eisiau cynllun a oedd yn anfon datblygiad economaidd pob tref ymlaen, a holodd pam nad oedd yr argymhellion o amgylch hyn a gyflwynwyd o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi'u cyflwyno. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y geiriad wedi ei wella, ar y pwynt cyntaf, i ddadbwysleisio tai; yn ysbryd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol roedd y geiriad yn awgrymu datblygiad aml-ddefnydd o ganol trefi i gefnogi eu hyfywedd. Ar yr ail bwynt, bu trafodaeth ar ddyrannu adnoddau'n deg ar draws canol trefi, ac fel y nodwyd yn ystod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, nid oedd yn bosibl bod yn gydradd gan fod llawer o'r cyllid a dderbynnir yn aml yn dod o ffynonellau’r llywodraeth ac wedi eu targedu tuag at ardaloedd gyda nodweddion penodol fel amddifadedd.
Eglurodd y Cynghorydd Attridge bod y flaenoriaeth i ddatblygu dull wedi’i adnewyddu i gefnogi canol trefi a’r geiriad penodol o amgylch ‘defnydd preswyl’ yn ymwneud â gwelliannau i eiddo uwchben siopau yng nghanol trefi. Ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai polisi cynllunio a’r Cynllun Datblygu Lleol yn darparu’r dulliau diogelu.
Rhoddodd y Cynghorydd Peers sylw ar dudalen 34 ar ddatblygu anghenion twf tai'r Cyngor, a holodd sut ... view the full Cofnodion text for item 37. |
|
Pwrpas: I gyflwyno’r fersiwn terfynol, wedi’i archwilio, o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 er cymeradwyaeth yr Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 a’r Wybodaeth Ariannol Atodol i’r Datganiad Cyfrifon 2016/17.
Esboniodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod yr adroddiad wedi ceisio cymeradwyaeth ffurfiol o Ddatganiad Cyfrifon 2016/17 a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, gyda chopi wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad ac a ystyriwyd gan y Pwyllgor Archwilio ym Mehefin 2017. Hefyd yn yr adroddiad, cafwyd yr wybodaeth atodol i’r cyfrifon ar y cyflog cyfwerth â llawn amser, ar gais yr Aelodau mewn cyfarfod blaenorol, fel Rhybudd o Gynnig i'r Cyngor.
Dywedodd Matthew Edwards, Swyddfa Archwilio Cymru, ei fod yn hapus i roi gwybod bod yr adroddiadau’n gadarnhaol ac yn dilyn cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2016/17, roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cynnig barn ddiamod ar y datganiadau ariannol a fyddai’n cadarnhau bod y cyfrifon yn cynnig safbwynt teg a gwir ym mhob ystyr materol, a’u bod wedi paratoi yn unol â Chod Ymarfer CIPFA. Rhoddodd sylwadau hefyd ar ansawdd uchel y datganiadau fel y cawsant eu cyflwyno.
Nid oedd y Cyfrifon Cronfa Bensiwn o’r un safon uchel ag a ddangoswyd yn flaenorol, ond rhoddwyd sicrwydd bod trefniadau yn eu lle i roi sylw i hyn yn y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Carver ei fod wedi ymholi ynghylch taliadau a wnaed i ymgynghorwyr ac uwch swyddogion.Ers y Rhybudd o Gynnig i’r Cyngor, roedd yr wybodaeth hon wedi'i chynnwys fel dogfen atodol. Eleni, nid oedd yn cynnwys yr un faint o wybodaeth ac roedd nawr wedi’i chynnwys yn y prif adroddiad. Esboniodd y Prif Weithredwr y gellid cynnwys yr holl wybodaeth mewn un adroddiad ac roedd y cyfan wedi’i gyflwyno. Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd yr wybodaeth yn ffurfio rhan o’r cyfrifon ffurfiol ond roedd yn cael ei darparu er gwybodaeth i Aelodau.
Holodd y Cynghorydd Mike Peers pam fod gan y Gwasanaethau Landlordiaid orwariant o £66,000 a pham fod prosiectau'r Cyfrifon Refeniw Tai â chyllideb o 0 ond bod £111,000 wedi’i wario. Holodd hefyd pam y gwariwyd mwy i dalu am wariant, a holodd beth oedd yr ad-daliadau misol ar y lefel fenthyca a oedd yn £251m. Rhoddodd sylwadau ar y gostyngiad ymddangosiadol mewn cronfeydd wrth gefn, a holodd am ragor o wybodaeth am hyn, a holodd hefyd sut roedd dyledion drwg yn cael sylw. Awgrymodd y Prif Weithredwr, gan nad oedd y cwestiynau’n effeithio ar ddilysrwydd y cyfrifon, y gellid rhoi ymatebion ysgrifenedig os oedd hynny’n dderbyniol, gyda'r Cynghorydd Peers yn ateb ei fod yn dderbyniol. Cadarnhawyd y byddai copi o’r ymateb yn cael ei roi i bob Aelod.
Rhoddodd y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y benthyciad a oedd yn weddill o £860,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mentrau adfywio yng Nglannau Dyfrdwy, a holodd pa mor hir oedd y telerau ad-dalu ar y benthyciad hwn. Holodd hefyd am fwy o wybodaeth am werth net y Cyngor, a oedd wedi gostwng £168m i £43m. Ymatebodd y Rheolwr Cyllid, Strategaeth a Thechnegol, bod y telerau ad-dalu ar y benthyciad yn 15 mlynedd. Byddai ymateb ysgrifenedig ar werth net y Cyngor yn cael ei ... view the full Cofnodion text for item 38. |
|
Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Drysorlys 2016/17 PDF 107 KB Pwrpas: I gyflwyno i’r Aelodau yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2016/17 er cymeradwyaeth yr Aelodau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2016/17. Roedd yr Adroddiad Blynyddol wedi dod i law gan y Pwyllgor Archwilio 19 Gorffennaf 2017 a’r Cabinet 26 Medi 2017.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Rheoli’r Trysorlys 2016/17. |
|
Papur Ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru PDF 113 KB Pwrpas: Gwahodd y Cyngor i lunio ymateb i bapur ymgynghori Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ar Bapur Ymgynghori Llywodraeth Cymru Diwygiad Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru.
Rhoddodd sylwadau ar y meysydd a gwmpaswyd yn y papur ymgynghori ar:
· Yr hawl i bleidleisio; · Cofrestru; · Y system bleidleisio; · Y broses bleidleisio; · Sefyll mewn etholiad; a · Swyddogion Canlyniadau
Rhoddodd y Cynghorydd Hilary McGuill sylw ar y cynnig i gael gwared ar gyfeiriad yr ymgeiswyr. Dywedodd y Prif Weithredwr y gallai Aelodau ddatgelu ym mha ward maent yn byw o’i gymharu â’u cyfeiriad pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu, ac y byddai’n awgrymu fod hyn yn dod yn weithredol o ran y gwasgnod statudol ar gyfer deunyddiau wedi eu cyhoeddi pe bai’r ymgeisydd yn hunan hyrwyddo eu hunain heb hyrwyddwr ar wahân.
Gofynnodd y Cynghorydd Mike Peers am eglurhad ar dudalen 344, Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, a’i bod yn system etholiadol ffafraethol, a holodd a oedd modd cadarnhau hyn. Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod hyn yn golygu bod y dewis cyntaf a’r ail ddewis yn cael ei ddynodi gan yr etholydd. Roedd y Cyngor yn cael ei gynghori i wrthwynebu datganoli’r dewis o ran y system bleidleisio i gynghorau unigol, ac nid yr egwyddor o'r system bleidleisio.
Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr, byddai copi ar gael ar ôl i'r ymateb gael ei gwblhau.
PENDERFYNWYD:
Gwneud yr ymateb arfaethedig i’r papur ymgynghori. |
|
Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) PDF 77 KB Pwrpas: Cynghori’r Cyngor ar basio Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) a’i goblygiadau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gohirio’r eitem hon tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 24 Hydref, 2017. |
|
Ailbenodi Cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned PDF 74 KB Pwrpas: Ailbenodi’r cynrychiolydd Cyngor Tref a Chymuned i fod ar y Pwyllgor Safonau am dymor arall. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gohirio’r eitem hon tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 24 Hydref, 2017. |
|
Penodiadau i Gyrff Allanol PDF 72 KB Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am y cynnydd o ran penodi aelodau i gyrff allanol cenedlaethol a rhanbarthol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Gohirio’r eitem hon tan y cyfarfod nesaf a drefnwyd ar gyfer 24 Hydref, 2017. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd un aelod o’r wasg yn bresennol. |