Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA

Cyswllt: Nicola Gittins on 01352 702345  E-bost: nicola.gittins@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        Derbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod gan bob Aelod gysylltiad personol yn eitem rhif 11 ar y rhaglen – Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol 2017-18. 

2.

Adolygiad y Cadeirydd o'r Flwyddyn 2016/17

Pwrpas:        Derbyn manylion ynghylch adolygiad y Cadeirydd o’r flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd Mr Curtis, fel y Cadeirydd oedd yn ymadael, bob Aelod newydd a’r rhai oedd yn dychwelyd, i’r cyfarfod.Cyflwynodd ei adolygiad o’r flwyddyn ac amlygodd lwyddiannau’r Cyngor, yn arbennig agoriad Ysgol Uwchradd Treffynnon a’r nifer o dai Cyngor newydd oedd wedi cael eu hadeiladu.  Diolchodd i’w gonsort am ei chymorth ac i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Brian Lloyd, am ei gefnogaeth.  Diolchodd hefyd y Parch Roberto Ciardo a fu’n gaplan iddo. 

 

            Roedd ef a’i gonsort wedi cwrdd â phobl fendigedig o’r Sir a hefyd drwy fynd i dderbyniadau mewn awdurdodau cyfagos. 

 

            Wrth gloi, diolchodd i dîm y Prif Swyddog a holl weithwyr y Cyngor a oedd yn darparu gwasanaethau’r Cyngor a hefyd am ei gefnogi wrth godi £8,000 at yr elusennau o’i ddewis.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i Mr Curtis am y gwaith a wnaed yn ei swydd fel Cadeirydd y Cyngor a’i gwelodd yn bod yn llysgennad da i’r Sir.  Roedd ei waith wedi ei wneud gydag urddas a hiwmor a byddai ei gyd-gynghorwyr yn ei golli.  Dymunodd yn dda i Mr Curtis a’i wraig Jenny ar gyfer y dyfodol.

 

            Dymunodd y Cynghorydd Palmer, ar ran Cyngor Tref Treffynnon, ymddeoliad bendigedig i Mr a Mrs Curtis.

 

            Llongyfarchodd y Cynghorydd Peers Mr Curtis ar ddiwedd ei ail dymor yn swydd Cadeirydd y Cyngor.  Rhoddodd ganmoliaeth iddo am ei degwch yn ystod cyfarfodydd a’r modd y gwnaeth drin pawb yn gyfartal bob amser a dymunodd yn dda iddo yn ei ymddeoliad. 

3.

Penodi Cadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2017/18, a'r Cadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Ray Hughes ac eiliodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylai’r Cynghorydd Brian Lloyd gael ei ethol yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Ethol y Cynghorydd Brian Lloyd yn Gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.

 

Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Lloyd gan y Cadeirydd a oedd yn ymddeol a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

 

 (Ar y pwynt hwn, cadeiriodd y Cynghorydd Lloyd weddill y cyfarfod.)

 

Yna cyflwynodd y Cadeirydd Fathodyn y Swydd fel Cadeirydd a oedd yn ymddeol i Mr Peter Curtis a Bathodyn y Swydd fel Consort a oedd yn ymddeol i Mrs Jenny Curtis. 

 

Ymatebodd y Cadeirydd a diolchodd i Aelodau am eu cefnogaeth yn ei ethol yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. 

4.

Penodi Is-Gadeirydd y Cyngor Ar Gyfer 2017/18, a'r Is-Gadeirydd i Dderbyn Cadwyn Y Swydd A Llofnodi'r Datganiad Derbyn Swydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts ac eiliodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Paul Cunningham yn Is-gadeirydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.

 

Rhoddwyd Cadwyn y Swydd i’r Cynghorydd Cunningham gan y Cadeirydd a llofnododd ei Ddatganiad Derbyn y Swydd yng ng?ydd y Prif Weithredwr.

5.

Penodi Arweinydd Y Cyngor Sir

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiodd y Cynghorydd Tony Sharps ac eiliodd y Cynghorydd Ray Hughes y dylai’r Cynghorydd Aaron Shotton gael ei benodi’n Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Sharps o blaid ei gynnig a dywedodd ei fod yn hyderus y byddai’r Cynghorydd Shotton yn cynnig yr arweiniad a oedd ei angen ar gyfer Cyngor sefydlog er lles gorau trigolion Sir y Fflint.  Er ei fod yn cefnogi’r Cynghorydd Shotton, ychwanegodd y byddai’r Aelodau Annibynnol yn parhau’n annibynnol o reolaeth y gr?p.   

 

            Mynegodd y Cynghorydd Sharps bryder am yr amseroedd ymateb i Gynghorwyr gan rai adrannau.  Dywedodd y Prif Weithredwr fod hyn wedi ei godi gyda fo ac roedd set o safonau a fyddai angen cwrdd â nhw yn cael ei chreu.

 

PENDERFYNWYD:

 

Penodi’r Cynghorydd Aaron Shotton yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017/18.

6.

Arweinydd Y Cyngor I Benodi'r Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cynghorydd Aaron Shotton i’r Aelodau am eu cefnogaeth wrth ei benodi’n Arweinydd y Cyngor am y 12 mis nesaf a oedd yn anrhydedd.  Cyfeiriau at yr heriau o’n blaen a hefyd y gefnogaeth unedig a welwyd ar draws y Siambr yn ystod y blynyddoedd diwethaf er lles trigolion a gwasanaethau Sir y Fflint ac roedd yn gobeithio y byddai hynny'n parhau. 

 

Yn unol â’r Cyfansoddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Aaron Shotton at ei ddewis o Gynghorwyr a fyddai’n gwasanaethu ar y Cabinet. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r dewis o Gynghorwyr i wasanaethu ar y Cabinet a’u portffolios a fanylir arnynt isod.

 

Aelod Cabinet

Portffolio

 

Aaron Shotton

Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet Cyllid

 

Bernie Attridge

Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Tai

 

Chris Bithell

Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

 

Derek Butler

Aelod Cabinet Datblygu Economaidd

 

Christine Jones

Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Billy Mullin

Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau

 

Ian Roberts

Aelod Cabinet Addysg

 

Carolyn Thomas

Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad

 

 

7.

Etholiadau Cyngor Sir y Fflint dydd Iau 4 Mai 2017 pdf icon PDF 76 KB

Pwrpas:        I adrodd i’r Cyngor Sir ar gynnal a chanlyniadau etholiadau Cyngor Sir 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Llongyfarchodd y Prif Weithredwr, fel Swyddog Canlyniadau, bob Aelod ar gael eu hethol i’r Cyngor.  Cyflwynodd yr adroddiad ar Etholiadau’r Cyngor Sir a oedd wedi eu cynnal ar 4 Mai 2017. 

 

Cadarnhaodd yr adroddiad fod yr etholiadau lleol wedi eu cynnal yn unol â chyfraith etholiadau, canllawiau ac arfer cyffredin, ac yn unol â’r safonau perfformiad a amlinellir ar gyfer Swyddogion Canlyniadau, a darparwyd manylion yngl?n â chanlyniadau etholiadau a chyfansoddiad gwleidyddol y Cyngor. 

 

Diolchodd y Dirprwy Swyddog Canlyniadau, y Tîm Etholiadau, ymgeiswyr, asiantwyr a gweithredwyr y pleidiau am eu rhan yn yr etholiad a gwnaeth sylw am anhawster cynyddol y broses yn sgil twf cyfryngau cymdeithasol.

 

Diolchodd hefyd i aelodau newydd a rhai sy’n dychwelyd am eu rhan yn y sesiynau sefydlu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Peers a Paul Shotton y Tîm Etholiadau am eu help yn ystod yr etholiad a hefyd i’r Swyddog Canlyniadau, Dirprwy Swyddog Canlyniadau, staff gorsaf bleidleisio a staff y cyfrif.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y sylwadau di-fudd a wnaed gan Brif Weinidog Cymru cyn yr etholiad ynghylch ymgeiswyr Annibynnol.  Roedd wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn gofyn am ymddiheuriad ond nid oedd wedi cael un hyd yma.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod gwall yn atodiad yr adroddiad gan ei bod wedi sefyll fel ymgeisydd Llafur.  Ymddiheurodd y Prif Weithredwr am hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

8.

Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau a Chyrff Mewnol pdf icon PDF 131 KB

Pwrpas:        Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.  Rhoddwyd ystyriaeth i bob adran a phleidleisio arnynt yn eu tro.

 

            Yn ogystal, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth hefyd i benodi aelod lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio a amlinellwyd mewn adroddiad ar wahân, a hefyd cymeradwyo’r broses dros ddewis cynrychiolydd tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau.  Roedd hefyd nifer o newidiadau i’w gwneud o ran y modd y byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn gweithredu i sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a ddaeth i rym ar 5 Mai 2017.

 

 (A)      Penodi Pwyllgorau

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:Pwyllgor Archwilio; Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd; Pwyllgor y Cyfansoddiad; Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, Pwyllgor Cyd-lywodraethu (ar gyfer Pensiynau), Pwyllgor Trwyddedu, Pwyllgor Cynllunio a Rheoli Datblygu, Pwyllgor Safonau a chwe Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. 

 

            Roedd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd swyddogaethau tebyg iawn.  Yng nghyfarfod diwethaf Pwyllgor y Cyfansoddiad roedd cais i gyfuno’r ddau bwyllgor.  Credwyd fod y cylch gwaith statudol yn ddigon eang i ymgorffori’r swyddogaeth a gyflawnwyd gan Bwyllgor y Cyfansoddiad felly argymhellwyd ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ymgorffori Pwyllgor y Cyfansoddiad i mewn i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, ac y dylai’r Cyngor Llawn adolygu, creu neu ddirymu is-ddeddfau;

 

 (b)      Dylid penodi’r Pwyllgorau a amlinellir yn adran 1.04 yr adroddiad; a

 

 (c)       Dylid diwygio’r Cyfansoddiad i adlewyrchu’r pwyllgorau a benodwyd.

 

 (B)      Penderfyniad ar faint Pwyllgorau

 

            Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod rhaid penderfynu ar faint bob pwyllgor yn y Cyfarfod Blynyddol.  Amlinellwyd y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad.

 

Crëwyd Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdod Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 ar 21 Mawrth a daethant i rym ar 5 Mai 2017.  Roeddent yn gorchymyn y dylai’r Pwyllgor Cynllunio gynnwys rhwng 11 a 21 Aelod o ran maint a dim mwy na 50% o aelodaeth lawn y Cyngor.  Roedd maint arfaethedig y Pwyllgor yn cyflawni’r gofynion hynny.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Aaron Shotton y dylid cymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

PENDERFYNWYD: 

 

Dylai maint pob Pwyllgor fod yn unol â’r hyn a amlinellwyd ym mharagraff 1.06 yr adroddiad, gan nodi'r cyfyngiadau sy'n rhaid eu gweithredu bellach i aelodaeth y Pwyllgor Cynllunio.

 

 (C)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau a Dirprwyon Pensiwn

 

            Eglurodd y Prif Swyddog Llywodraethu ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y pwyllgorau a benodwyd ganddo.  Amlinellwyd cylch gorchwyl presennol y Pwyllgorau presennol fel yr amlinellwyd yn Rhan 2 y Cyfansoddiad.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Attridge gymeradwyo’r argymhellion fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a eiliwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r  ...  view the full Cofnodion text for item 8.

Political Balance pdf icon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

Cyrff Allanol pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried enwebiadau i Gyrff Allanol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ar Gyrff Allanol yr oedd y Cyngor yn gwneud penodiadau iddynt, ynghyd â’r rhai hynny a enwebwyd a’u tymhorau penodol yn y swydd.  Yn dilyn etholiadau diweddar y Cyngor Sir, roedd angen ystyried pob enwebiad. 

 

Ym mhob Cyfarfod Blynyddol, gwnaed argymhelliad i ddirprwyo i'r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau gwleidyddol, y gallu i wneud penodiadau i gyrff.  Roedd angen dirprwyo r?an i wneud yr enwebiad cyntaf a hefyd yn ystod blwyddyn y Cyngor 2017/18 a fyddai’n sicrhau y gellid ymdrin yn effeithlon ag unrhyw newidiadau.

 

            Y bwriad oedd fod pob enwebiad a wnaed yn parhau drwy gydol oes y Cyngor, tan fis Mai 2022.

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hutchinson, eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod pob aelod wedi peidio â bod yn gynrychiolwyr ar gyrff allanol cyn yr etholiad ac roeddent yn ceisio enwebiadau newydd.

 

            Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Phillips, eglurodd y Prif Weithredwr fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrthi’n pennu’r niferoedd i'w dyrannu i bob Cyngor ar gyfer cynrychiolydd ar y Panel Heddlu a Throsedd.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cyngor yn nodi'r rhestr Cyrff Allanol presennol;

 

 (b)      Bydd pob enwebiad yn para tan fis Mai 2022 oni bai fod yr Aelod a enwebwyd yn ymddiswyddo o’r Corff Allanol hwnnw; a

 

 (c)       Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr y Grwpiau, yn cael ei awdurdodi i wneud enwebiadau i Gyrff Allanol ar ran y Cyngor.

10.

Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol 2017-18 pdf icon PDF 84 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i dderbyn penderfyniadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o ran taliadau cyflog/ lwfans Aelodau a gwneud sawl penderfyniaddewis lleol’.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol.  Eglurodd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol bob blwyddyn yn pennu cyfraddau tâl a fyddai’n cael eu gwneud i Aelodau etholedig a chyfetholedig awdurdodau lleol Cymru ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd i ddod.  Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig y gwanwyn blaenorol gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2017 a oedd yn gosod lefel y taliadau i Aelodau ar gyfer 2017/18.

 

            Rhaid gosod lefelau tâl ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor, Aelodau’r Cabinet a Chadeiryddion Pwyllgorau.  Rhaid i’r Cyngor hefyd gyhoeddi atodlen yn dangos pwy dderbyniodd pa lefel o dâl.  Felly, byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 20 Mehefin unwaith y byddai penodiadau wedi eu gwneud i swyddi tâl uwch.  Cadarnhawyd fod pob swydd o’r fath yn cynnwys y cyflog sylfaenol o £13,400.

 

            Cynigiodd Aaron Shotton y dylai’r status quo aros ar gyfer Aelodau’r Cabinet, Cadeiryddion Pwyllgorau, Cadeirydd y Cyngor ac Is-gadeirydd y Cyngor ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Attridge.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Chris Dolphin welliant y dylid cytuno ar y taliad lleiaf i bob un o’r swyddi sy’n derbyn taliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Owen Thomas.  O'i roi i bleidlais, gwrthodwyd y gwelliant.

 

            Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Aaron Shotton, a chafodd ei gymeradwyo.

 

            PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Dylai Aelodau’r Cabinet dderbyn Lefel 1, sy’n cynnwys y cyflog sylfaenol;

 

 (b)      Dylid talu cyflog uwch Lefel 1 i Gadeiryddion y Pwyllgor, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol;

 

 (c)       Dylai tâl Cadeiryddion y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol; a

 

 (d)      Dylai tâl Is-gadeirydd y Cyngor fod ar Lefel 2, sy’n cynnwys cyflog sylfaenol.

11.

Penodi Aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 78 KB

Pwrpas:        I benodi Aelod Lleyg newydd i'r Pwyllgor Archwilio

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i gytuno ar benodi aelod Lleyg i'r Pwyllgor Archwilio.  Gwnaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 hi’n ofynnol i’r Cyngor Sir benodi aelodau lleyg hyd at draean o aelodaeth y Pwyllgor Archwilio.  Ar 14 Chwefror 2014 penderfynodd y Cyngor Sir benodi’r lleiafswm statudol o un aelod lleyg.

 

            Ar ôl hysbysebu’r swydd, cynhaliwyd cyfweliadau ar 8 Mai ac argymhellwyd y dylid penodi Sally Ellis.  Atodwyd disgrifiad o Sally Ellis fel atodiad i’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn cytuno i benodi’r ymgeisydd a ffafrir, Sally Ellis fel aelod lleyg i’r Pwyllgor Archwilio, gan wasanaethu am dymor o 5 mlynedd.

12.

Amserlen o Gyfarfodydd pdf icon PDF 75 KB

Pwrpas:        Galluogi’r Cyngor i ystyried yr Amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr adroddiad ar yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18. 

 

Ym mis Mawrth 2016 gofynnwyd i Gynghorwyr am eu dewis o ran amseroedd dechrau cyfarfodydd gyda’r mwyafrif yn ffafrio’r dydd.  Fodd bynnag, cydnabuwyd y dylai’r Cyngor newydd wneud ei benderfyniad ei hun o ran pa bryd y dylid cynnal cyfarfodydd ac argymhellwyd y dylid cael arolwg pellach.  Fodd bynnag, o safbwynt cynllunio busnes, roedd angen i’r Cyngor allu cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyfan felly roedd yr amserlen ddrafft yn dangos cyfarfodydd bore a phnawn i’w hystyried ger bron Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2017/18 am y tro; a

 

 (b)      Bydd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yn cynnal arolwg o ddewis yr Aelodau o ran pryd y dylid cynnal cyfarfodydd.  Bydd hyn ar ôl toriad mis Awst gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad yn dadansoddi'r canlyniadau i Bwyllgor y Cyfansoddiad ym mis Hydref.

13.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd y cyfarfod am 11.00am a daeth i ben am 1.05pm.