Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Hybrid Meeting
Cyswllt: Jan Kelly 01352 702301 E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk
Media
Rhif | eitem |
---|---|
Cwestiynau Gan Y Cyhoedd Pwrpas: Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: derbyniwyd dau erbyn y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd eu bod wedi derbyn dau gwestiwn, fel y dangoswyd yn y rhaglen, a gwahoddodd Amy Chesworth i gyflwyno ei chwestiwn i’r Cyngor. Diolchodd Amy Chesworth i’r Cadeirydd a’r Cyngor am y cyfle i ddod i’r cyfarfod a darllen ei chwestiwn (eitem rhif 2 ar y rhaglen).
Cafwyd ymateb (eitem rhif 2 ar y rhaglen) gan y Cynghorydd Mared Eastwood.
Gan ymateb i gwestiwn ategol gan Amy Chesworth, dywedodd y Cynghorydd Eastwood y bydd ymateb yn cael ei ddarparu yn ysgrifenedig ar ôl y cyfarfod. |
|
Datgan Cysylltiad Pwrpas: I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Fel pwynt eglurhad, dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) y gallai Aelodau sydd yn derbyn Lwfans Tanwydd y Gaeaf ddatgan cysylltiad personol ar ddiwedd y cyfarfod.
Datganodd y Cynghorwyr Preece a Rush gysylltiad personol sy’n rhagfarnu yn eitem rhif 9 ar y rhaglen.
Datganodd y Cynghorwyr Peers a Shallcross gysylltiad personol yn eitem rhif 9 ar y rhaglen.
Datganodd y Cynghorwyr Bithell, Lloyd, Maddison a Peers gysylltiad personol yn eitem rhif 13 ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig (Lwfans Tanwydd y Gaeaf).
Datganodd y Cynghorwyr Buckley, Coggins-Cogan, Christine Jones, Mansell a Parkhurst gysylltiad personol yn eitem rhif 13 ar y rhaglen – Rhybudd o Gynnig (Athrawon a Gweithwyr Ysgolion Sir y Fflint i Dyngu Llw i Weithio gyda Phlant). |
|
Pwrpas: I gadarnhau, fel cofnod cywir o gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill a 22 Gorffennaf 2024. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion (eitem rhif 4 ar y rhaglen) y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill a 22 Gorffennaf 2024 i gael eu cymeradwyo.
22 Gorffennaf 2024 Dywedodd y Cynghorydd Shallcross ei fod yn bresennol yn y cyfarfod. Cytunwyd y byddai’r cofnodion yn cael eu diwygio i adlewyrchu hyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Coggins-Cogan at ei gwestiwn am bresenoldeb gan Aura mewn cyfarfod, a dywedodd nad oedd wedi derbyn gwybodaeth ychwanegol ar ôl y cyfarfod, fel yr awgrymwyd gan gyn Arweinydd y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
Yn amodol ar y newid uchod, cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 16 Ebrill a 22 Gorffennaf 2024, fel cofnod cywir. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Pwrpas: Derbyn unrhyw gyhoeddiad fel y'i dosbarthwyd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiadau yr oedd wedi’u rhannu gyda phob Aelod cyn y cyfarfod a rhestrodd y digwyddiadau yr oedd wedi’u mynychu rhwng 23 Gorffennaf a 24 Medi 2024. |
|
Deisebau Pwrpas: Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif wyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Paul Cunningham ddeiseb gan breswylwyr ym Mynydd-y-Fflint oedd yn pryderu am gyflymder traffig ar yr A5119 a’r peryglon tra’n croesi’r ffordd. |
|
Ethol Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi ar y tri enwebiad, a chefnogwyd hynny gan y nifer ofynnol o Aelodau.
Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Dave Hughes:- Y Cynghorwyr: Bernie Attridge, Mel Buckley, Glyn Banks, Pam Banks, Sean Bibby, Chris Bithell, Helen Brown, Teresa Carberry, Tina Claydon, Geoff Collett, Steve Copple, Bill Crease, Paul Cunningham, Rob Davies, Ron Davies, Chris Dolphin, Rosetta Dolphin, Mared Eastwood, David Evans, David Healey, Gladys Healey, Ian Hodge, Dave Hughes, Ray Hughes, Paul Johnson, Christine Jones, Richard Jones, Simon Jones, Fran Lister, Richard Lloyd, Gina Maddison, Roz Mansell, Allan Marshall, Ryan McKeown, Billy Mullin, Ted Palmer, Mike Peers, Vicky Perfect, Ian Roberts, Kevin Rush, Jason Shallcross, Linda Thomas, Roy Wakelam ac Arnold Woolley
Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Alasdair Ibbotson:- Y Cynghorwyr: Gillian Brockley, Chrissy Gee, Alasdair Ibbotson, Carolyn Preece, David Richardson, Dan Rose a Sam Swash
Pleidleisiodd y canlynol dros y Cynghorydd Andrew Parkhurst:- Y Cynghorwyr: David Coggins-Cogan, Andy Hughes, Hilary McGuill, Andrew Parkhurst ac Antony Wren
Bu i’r Cynghorwyr canlynol ymatal rhag pleidleisio:- Y Cynghorwyr: Mike Allport, Marion Bateman, Adele Davies-Cooke, Carol Ellis, Dave Mackie, Dale Selvester a Linda Thew
Wedi pleidlais, penodwyd y Cynghorydd Dave Hughes yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cynghorydd Dave Hughes wedi’i benodi yn Arweinydd y Cyngor ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor 2024/25. |
|
Arweinydd y Cyngor i benodi'r Cabinet Pwrpas: Nodi Penodiad Aelodau’r Cabinet gan Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynigiodd y Cynghorydd Dave Hughes nad oedd y Cabinet yn newid am y tro. |
|
Cynllun Premiwm Treth y Cyngor i Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor Pwrpas: Ystyried yr adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos a chyfraddau premiwm treth y cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ac os y dylai cyfraddau aros yr un fath neu gynyddu o fis Ebrill 2025. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) a Rheolwr Refeniw a Chaffael adroddiad (eitem 9 ar y rhaglen) oedd yn nodi adborth y cyhoedd yn dilyn ymgynghoriad diweddar, a’r prif ystyriaethau dros osod neu amrywio cyfraddau’r premiwm.
Fe gynigiodd y Cynghorydd Ibbotson nifer o gynigion a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Swash.
Cynigiodd y Cynghorydd Richard Jones ddiwygiad i’r cynigion a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Ibbotson a gafodd eu heilio gan y Cynghorydd Bill Crease. Nid oedd y Cynghorydd Ibbotson yn cefnogi’r diwygiad i’w gynigion.
Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y diwygiad. Daeth hwn yn brif gynnig.
Cynigiodd y Cynghorydd Thew ddiwygiad i’r prif gynnig. Cafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Ibbotson a heriodd y cyngor a roddwyd o ran pa Gynghorydd a ofynnwyd i dderbyn y diwygiad a gynigiwyd i’r prif gynnig.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn cefnogi cynnydd ym mhremiwm eiddo gwag hirdymor gyda chynnydd o 75% i 100% a fydd yn dod i rym o fis Ebrill 2025, gan roi rhybudd o 6 mis i’r rhai a fyddai’n cael eu heffeithio'n uniongyrchol.
(b) Cyflwyno dull graddol fel a ganlyn: ar ôl 3 blynedd cynnydd o 150% ym mhremiwm Treth y Cyngor; ar ôl 5 mlynedd 200% ac ar ôl 10 mlynedd 300% o gynnydd; a byddai data hanesyddol o pan ddaw eiddo’n wag yn cael ei ddefnyddio i bennu lefel y premiwm, ac fe ddaw hyn i rym ym mis Ebrill 2026, gan roi 18 mis o rybudd i’r rhai a fydd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol; a
(c) Bod eithriad dewisol yn cael ei greu er mwyn osgoi bod prynu eiddo gwag hirdymor yn arwain at anfantais drwy’r newid ym mhremiwm Treth y Cyngor. |
|
Adolygiad o Gydbwysedd Gwleidyddol Pwrpas: Yn sgil newid i aelodaeth grwpiau, mae’n rhaid i ni adolygu’r Cydbwysedd Gwleidyddol a’r dyraniad seddi ar Bwyllgorau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) gyfrifiad o gydbwysedd gwleidyddol (eitem rhif 10 ar y rhaglen)diwygiedig yn dilyn y newid yng nghyfansoddiad grwpiau gwleidyddol.
PENDERFYNWYD:
(a) Fod y seddi ar y Pwyllgorau yn cael eu dyrannu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol fel y dangosir yn atodiad A; ac
(b) Yr hysbysir Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd yngl?n ag unrhyw newidiadau i’r enwebeion cyn gynted â phosibl cyn cyfarfod nesaf pob pwyllgor. |
|
Recriwtio Aelod Lleyg at gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Pwrpas: Cymeradwyo’r broses o recriwtio Aelod Lleyg ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn unol â gofynion Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad (eitem rhif 11 ar y rhaglen)yn ceisio cymeradwyaeth fod panel o aelodau, yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Aelod Cabinet Cyllid a dau aelod arall o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cyfweld ag ymgeiswyr ac yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor i benodi aelod lleyg, i gymryd lle yr aelod lleyg sydd yn gadael.
PENDERFYNWYD:
(a) Recriwtio aelod lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i gymryd lle yr aelod lleyg sy’n gadael;
(b) Bod y panel recriwtio sy’n cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac Aelod Cabinet Cyllid yn gwneud argymhelliad i’r Cyngor benodi; a
(c) Bod y Cyngor yn diolch i Sally Ellis am ei 7 mlynedd o wasanaeth fel aelod lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Deisebau sydd wedi dod i law'r Cyngor Pwrpas: Rhoi gwybod i’r Cyngor am ganlyniadau deisebau sydd wedi cael eu cyflwyno dros y flwyddyn ddiwethaf. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad (eitem rhif 12 ar y rhaglen) oedd yn amlinellu pa gamau oedd wedi’u cymryd yn sgil y deisebau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd y Cyngor Sir yn ystod 2023/24.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad. |
|
Pwrpas: Mae’r eitem hon i dderbyn unrhyw Rybudd o Gynnig: pedwar wedi cael eu derbyn a’u hatodi i’r rhaglen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Rhybuddion o Gynnig canlynol wedi cael eu cyflwyno:
Rhybudd o Gynnig: Rhestr Gwroniaid y Llynges Fasnachol
Cyflwynodd y Cynghorydd Ibbotson y Rhybudd o Gynnig (eitem rhif 13 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Hodge.
Cynigiodd y Cynghorydd David Coggins-Cogan ddiwygiad i argymhelliad 1. Bod y geiriau ‘perished at sea’ yn y Saesneg yn cael ei newid i ‘died in the course of their duties’. Cafodd y diwygiad ei gefnogi gan y Cynghorwyr Ibbotson a Hodge.
PENDERFYNWYD:
Bod y Cyngor:
Sir y Fflint cyn 1 Ebrill 1974, rhanbarthau Delyn ac Alun a Glannau Dyfrdwy o 1 Ebrill 1974 i 1 Ebrill 1996, a sir fodern Sir y Fflint o 1 Ebrill 1996 ymlaen; 3. Bydd y rhestr yn cael ei chadw, cyn belled ag sy’n bosibl, mewn trefn gronolegol o farwolaethau, ac
Rhybudd o Gynnig: Athrawon a Gweithwyr Ysgolion Sir y Fflint i Dyngu Llw i Weithio gyda Phlant
Cyflwynodd y Cynghorydd Gladys Healey y Rhybudd o Gynnig (eitem rhif 13 ar y rhaglen)a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Dave Healey.
Cynigiodd y Cynghorydd Eastwood ddiwygiad a gafodd ei eilio gan y Cynghorwyr Gladys a Dave Healey. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd y diwygiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cyngor yn gresynu at unrhyw gamdriniaeth o’n plant a phobl ifanc, yn cynnwys ffurfio perthnasoedd amhriodol rhwng staff addysgu a’r disgyblion a myfyrwyr y maen nhw’n gyfrifol amdanynt; a
(b) Bod y Cyngor yn parhau â’i ddull cadarn tuag at recriwtio, i fonitro a rhoi arweiniad ar bolisïau diogelu, darparu hyfforddiant diogelu a meithrin diwylliant yn ein hysgolion lle nad yw camdriniaeth o unrhyw fath yn cael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau, a bod holl bryderon diogelu yn cael eu hadrodd ar unwaith ar gyfer unrhyw gamau priodol.
Rhybudd o Gynnig: Taliadau Tanwydd y Gaeaf
Cyflwynodd y Cynghorydd Preece y Rhybudd o Gynnig (eitem rhif 13 ar y rhaglen) a gafodd ei eilio gan y Cynghorydd Swash.
Gofynnwyd am bleidlais wedi ei chofnodi ar y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Maddison, a chefnogodd nifer ofynnol o Aelodau hyn.
O blaid y diwygiad:- Y Cynghorwyr: Bernie Attridge, Tina Claydon, Chris Dolphin, David Healey, Richard Lloyd, Gina Maddison, Hilary McGuill a Ryan McKeown
Yn erbyn y diwygiad:- Y Cynghorwyr: Glyn Banks, Pam Banks, Marion Bateman, Sean Bibby, Chris Bithell, Gillian Brockley, Helen Brown, Mel Buckley, Teresa Carberry, David Coggins-Cogan, Bill Crease, Paul Cunningham, Rob Davies, Ron Davies, Adele ... view the full Cofnodion text for item 42. |
|
Pwrpas: Nodi’r atebion I unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol a Rheol Sefydlog 9.4(a) y Cyngor Sir: chwech wedi eu derbyn gan y dyddiad cau. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cwestiynau (eitem rhif 14 ar y rhaglen) eu gohirio tan gyfarfod nesaf y Cyngor Sir sydd wedi’i drefnu. |
|
Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yr oedd 2 aelod o’r cyhoedd yn bresennol. |