Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod hybrid

Cyswllt: Janet Kelly / 01352 702301  E-bost: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Media

Eitemau
Rhif eitem

28.

Cwestiynau gan y Cyhoedd pdf icon PDF 49 KB

Pwrpas:        Derbyn Cwestiynau Cyhoeddus ar gyfer yr eitem hon: daeth dau i law erbyn y dyddiad cau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod dau gwestiwn wedi dod i law a gwahoddwyd Mr Colin Randerson i gyflwyno ei gwestiwn i’r Cyngor.    Diolchodd Mr Randerson i’r Cadeirydd a’r Cyngor am y cyfle hwn i fynychu’r cyfarfod a darllenodd ei gwestiwn.

 

“Gan ystyried bod y Cyngor wedi cynnig newidiadau i bolisiau sy’n berthnasol i niferoedd o dai fforddiadwy ar sail pwysau gan nifer bychan o ddatblygwyr preifat, ond nid oes unrhyw newidiadau ystyriol wedi ei wneud i’r CDLl o ganlyniad i’r ymgynghoriad cyhoeddus, lle’r oedd rhai safleoedd wedi cael 200 o wrthwynebiadau unigol, ydych chi’n credu bod hyn yn dangos proses sydd yn gwerthfawrogi pryderon ei breswylwyr ac yn eu cynrychioli yn unol â hynny?

            Ymatebodd y Cynghorydd Bithell drwy ddweud ar y dechrau, roedd yn bwysig i bwysleisio bod y newidiadau a wnaethpwyd i’r Cynllun yn dilyn sesiynau gwrandawiad Archwiliad a adnabyddir fel Newidiadau’r Materion sy’n Codi heb gael eu gwneud gan y Cyngor, ond eu cynnig gan Arolygydd, a bod y Cyngor wedi cytuno ym mis Gorffennaf eleni, er mwyn hwyluso ymgynghoriad cyhoeddus arnynt. Nid oedd dim newidiadau wedi’u cynnig i’r canrannau o ddarpariaeth o dai fforddiadwy, a’r unig newid i eiriad polisi tai fforddiadwy oedd adlewyrchu ar newid a geisiwyd gan yr Arolygydd i gadarnhau bod y canrannau a cheisiwyd yn darged, yn hytrach na phwynt dechrau.

 

            Pwrpas canolog yr Archwiliad oedd i’r Arolygydd ystyried cadernid y Cynllun fel y cyflwynwyd, ac ni oedd yng nghylch gorchwyl yr Arolygydd i wella’r Cynllun, nag i’w newid ar sail nifer o wrthwynebiadau iddo neu safle neu bolisi penodol.  Byddai rhan o asesiad yr Arolygydd yn cyfeirio at sail tystiolaeth y Cyngor i gefnogi’r polisiau a chynigion y Cynllun. Roedd hyn yn berthnasol yn gyfartal i sylwadau a wnaethpwyd gan wrthwynebwyr, lle’r oedd cyfrifoldebau ar wrthwynebu oedd cyflwyno gwrthwynebiadau a gefnogir gan dystiolaeth a oedd yn cwestiynu’r cynllun neu gadernid y safle. Yr Arolygydd oedd beirniadu a’r sail resymegol ar sut yr oedd wedi ystyried cadernid y materion o fewn ei hadroddiad, a oedd dal heb ddod i law.

            Roedd gofyn i’r Cyngor a’r Arolygydd ystyried beth oedd y gwrthwynebwyr wedi dweud pan wnaethpwyd y sylwadau, ond nid oedd gofyn iddynt dderbyn yn syml beth ddywedwyd. Roedd hyn yn ymwneud â chynllunio beirniadaeth a oedd wedi’i ddefnyddio gan y Cyngor ac ar wahân ac yn annibynnol gan yr Arolygwyr. Dyma oedd y broses Cynllun Datblygu cyfredol fel y rhagnodwyd gan Ganllaw Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru. Yn rhannol roedd y cwestiwn yn gwahodd y Cyngor i roi sylw ar agweddau o’r broses hwn nad oedd o fewn ei reolaeth, ac felly nid oedd yn briodol i ddisgwyl i’r Cyngor roi sylw ar sut yr oedd yr Arolygydd wedi cyflawni’r archwiliad.

 

            Cyflwynodd yr holwr sylwadau wedi’u hysgrifennu ar y cam ymgynghori Dogfen i’w harchwilio, a oedd wedi’i ystyried gan swyddogion a lle’r oedd y Cyngor wedi cytuno i argymell ymatebion nad oedd yn diwygio na newid y cynllun. Fel yr ymateb i gwestiwn 2 a ddilynodd, cyflwynodd yr holwr hwn dystiolaeth ysgrifenedig i’r Archwiliad  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

Public Questions and Responses pdf icon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

29.

Datgan Cysylltiad

Pwrpas:        I dderbyn unrhyw ddatganiad o gysylltiad a chynghori’r Aelodau yn unol a hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad. 

30.

Cofnodion pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        I gadarnhau, fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfodydd ar 24 Mai and 26 Gorffennaf 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 a 26 Gorffennaf 2022.

 

Cofnodion 24 Mai 2022 - Cywirdeb.

 

Ar dudalen 18 a 19, gofynnodd y Cynghorydd Antony Wren a ellir newid y camsillafiad o’i enw cyntaf.  Cytunwyd ar hyn.

 

Cofnodion 26 Gorffennaf 2022 - Cywirdeb

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at dudalen 28 a’r drafodaeth ynghylch y diffiniad cenedlaethol o dlodi ac ailddiffinio’r eirfa i’w ddefnyddio’n lleol a gofynnodd a oedd unrhyw wybodaeth ar hyn.      Mewn ymateb, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai ymateb yn cael ei ddarparu yn dilyn y cyfarfod.

 

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 24 Mai 2022 a 26 Gorffennaf 2022 eu cynnig a’u heilio fel cofnodion cywir.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo cofnodion 24 Mai 2022 a 26 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

31.

Deisebau

Pwrpas:        Mae hwn yn gyfle i Aelodau’r Cyngor gyflwyno deisebau ar ran pobl yn eu ward. Unwaith y byddant wedi dod i law, caiff deisebau eu pasio i'r Prif Swyddog priodol ar gyfer gweithredu ac ymateb iddynt.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Cynghorydd Hilary McGuill Ddeiseb, yn cynnwys 300 o lofnodion, ar ran preswylwyr ardaloedd Heol Fammau a Moel Gron ym Mynydd Isa.  Roedd y preswylwyr wedi gwneud cais bod gwaith atgyweirio brys yn cael eu cyflawni oherwydd cyflwr gwael ar y ffyrdd,  Roedd y cais hwn wedi’i wneud ers peth amser a dywedodd y Cynghorydd McGuill yn ystod cyfnod o 60 mlynedd, bod y ffyrdd ond wedi cael eu hatgyweirio ond mewn angen difrifol o gael eu hailwynebu’n gywir bellach. 

 

            Cyflwynodd y Cynghorydd David Coggins Cogan Ddeiseb yn cynnwys llofnodion 315 preswylwyr yn ei ward i’r Cyngor i adolygu diogelwch y ffyrdd yn ei ward ar frys.  Rhoddwyd trosolwg ar yr amodau perygl ar y ffyrdd hyn a oedd wedi arwain at nifer o farwolaethau. Roedd diffyg palmentydd ac arwyddion rhybuddio.  Hefyd, y terfyn cyflymder ar y ffordd hon oedd 60 mya.  Roedd y Cyngor yn ymwybodol o’r problemau, ac roedd yn erfyn bod camau gweithredu yn cael eu cyflawni.

 

32.

Pwyllgor Newid Hinsawdd pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor, pan gytunwyd i sefydlu Pwyllgor Newid Hinsawdd, a dywedodd bod Cylch Gorchwyl y Pwyllgor hwn wedi’i leoli yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Darparwyd diwygiad bach i’r Cylch Gorchwyl ynghyd â chadarnhad ei fod yn bwyllgor anstatudol, ond bod y Cyngor wedi cytuno y byddai’n gytbwys yn wleidyddol.  Trefnwyd y cyfarfod cyntaf ar gyfer 22 Tachwedd, a gofynnwyd bod y Cyngor yn penodi Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor, i gytuno a ddylai’r Cadeirydd gael tâl am y rôl ac i gytuno gyda’r Cylch Gorchwyl. 

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Amgylchedd Cynllunio ac Economi) drosolwg o ymrwymiad a wnaethpwyd gan y Cabinet yn 2019 y byddai’r Cyngor Sir yn dod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru.    Rhoddodd wybodaeth ar benodiad Alex Ellis, Cydlynydd Newid Hinsawdd, ac amlinellodd y gwaith a gyflawnwyd gan y Bwrdd Rhaglen Newid Hinsawdd.   Dywedodd y byddai’r Pwyllgor yn bwyllgor ymgynghorol i hysbysu’r Cabinet ar y camau gweithredu sy’n ofynnol i gyrraedd y targed o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.   Cytunwyd ar y Cynllun Gweithredu a Strategaeth ym mis Chwefror 2022, ac eglurodd sut y byddai’r pwyllgor hwn yn cydweithio ar draws y Cyngor, a chyda phartneriaid busnes eraill i gyflawni’r nod hwnnw o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030. 

 

Bu i Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden gynnig argymhelliad y Cylch Gorchwyl, fel y’i diwygiwyd.  Hefyd cynigiodd bod Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cael tâl.  Enwebodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd.   Roedd yn teimlo’n hyderus gyda’r Cynghorydd Ibbotson fel Cadeirydd, ynghyd ag Aelod Cabinet Newid Hinsawdd ac Economi, y byddent yn gallu symud y gwaith pwysig oedd ei angen ymlaen.   Cafodd hyn ei eilio gan Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol).

           

            Gofynnodd y Cynghorydd Andrew Parkhurst am ddiwygiad o’r argymhelliad cylch gorchwyl.    Darllenodd ddatganiad gan y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol.  Ei ddiwygiad arfaethedig i argymhelliad 1 oedd “i gymeradwyo Cylch Gorchwyl i bwnc Pwyllgor Newid Hinsawdd yn amodol ar adolygiad yn ystod blwyddyn y cyngor.”   Cafodd y diwygiad hwn ei gynnig yn ysbryd cefnogi nodau Cyngor Sir y Fflint i fynd i’r afael o ddifrif mewn newid hinsawdd.

 

            Derbyniodd yr Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden y diwygiad.  Cafodd y diwygiad hwn ei eilio gan Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, (gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol) hefyd.

             

Yna cyfeiriodd y Cadeirydd at y trydydd argymhelliad i benodi Cadeirydd i’r Pwyllgor, yn dweud bod un enwebiad i’r Cynghorydd Alistair Ibbotson wedi dod i law.   Roedd yr Aelod Cabinet Newid Hinsawdd ac Economi yn cefnogi’r enwebiad ar gyfer y Cynghorydd Ibbotson yn llawn. 

 

Enwebodd y Cynghorydd Helen Brown y Cynghorydd Allan Marshall fel Cadeirydd y Pwyllgor.   Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Richard Jones. 

 

Ar ôl pleidleisio ar gyfer pob enwebiad, penodwyd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson yn Gadeirydd.  

 

Gofynnodd y Cadeirydd os oedd unrhyw siaradwyr ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru pdf icon PDF 140 KB

Pwrpas:        Aelodau i gefnogi a chymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru.  

 

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gydweithio i gynhyrchu Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ochr yn ochr ag Asesiad o Anghenion Poblogaeth.  Roedd yr Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn darparu asesiad ar ddigonolrwydd gofal a chymorth o ran bodloni’r anghenion a’r galw am ofal cymdeithasol, fel y nodir yn yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth a sefydlogrwydd y farchnad ar gyfer gwasanaethau a reoleiddir sy’n darparu gofal a chymorth. 

 

Mae’n rhaid cynhyrchu un Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ar gyfer Rhanbarth Gogledd Cymru a derbyn cymeradwyaeth gan Fwrdd y Bwrdd Iechyd Lleol a’r Cyngor Llawn ym mhob Awdurdod Lleol yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.  Rhaid cyhoeddi’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad derfynol ar wefan pob Awdurdod Lleol, ar wefannau’r Byrddau Iechyd a gwefan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn Gymraeg a Saesneg a chopi o’r adroddiad yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru.   Byddai’r Asesiad ar Anghenion Poblogaeth ac Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yn cael ei ddefnyddio i hysbysu cynllun cyflawni lleol a rhanbarthol a datblygiad gwasanaeth i symud ymlaen.  Felly, gofynnodd bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad yng Ngogledd Cymru 2022.

 

Diolchodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y Rheolwr Contract a Chomisiynu a’i thîm am eu gwaith wrth gwblhau’r adroddiad.   Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu a Throsolwg Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac roedd yn falch iawn o’r gwaith a gyflawnwyd yn natblygiad y gwasanaethau, megis Cartrefi Plant yn yr Wyddgrug, ac estyniad i’r cyfleuster yn Marleyfield ym Mwcle.  Bu i’r Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad ddiweddaraf amlinellu’r gweithio mewn partneriaeth yng Ngogledd Cymru o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac yn cynnwys ôl-troed rhanbarthol ac amlygodd themâu Sir y Fflint.  

 

Darparwyd trosolwg o boblogaeth yr henoed yn y sir, gyda dros 65 rhagfynegiad yn ystod y 20 mlynedd yn uwch yn Sir y Fflint na’r cyfartaledd rhanbarthol.  Roedd rhaid i’r Awdurdod gynllunio i sicrhau bod yr holl wasanaethau yn gadarn i ddarparu’r gwasanaethau o ansawdd orau gyda’r adroddiad yn darparu gwybodaeth ragorol, ddim ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig ond i wasanaethau eraill hefyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar gau cartrefi gofal gan y Cynghorydd Peers, amlinellodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y berthynas waith agos gyda phartneriaid cartrefi gofal, ond dywedodd oherwydd pwysau roeddynt wedi’i brofi bod rhai wedi stopio gweithredu, ond nid oedd hyn yn digwydd yn aml.  Roedd sensitifrwydd o weithio mewn cartrefi gofal, teuluoedd a phreswylwyr yn cael eu deall i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi ac yn setlo yn eu cartrefi eraill.   Gan gyfeirio at gapasiti cyffredinol, cadarnhaodd bod hyn wedi lleihau ac amlygodd bod yr Awdurdod angen darparu ei ddarpariaeth gofal o ansawdd dda ei hun, a dyna pam bod Maryfield wedi’i gwblhau a bod cynlluniau’n parhau i ymestyn Croes Atti yn y Fflint ac i ystyried opsiynau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 80 KB

Pwrpas:        Ystyried a ddylid ailbenodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd bod rhaid i’r Cyngor benodi pobl sydd ddim yn Gynghorwyr i’r Pwyllgor Safonau fel ei fod yn cael ei weld yn fwy annibynnol ac ar wahân i wleidyddiaeth fewnol y Cyngor. 

 

Bydd tymor mewn swydd un o’r aelodau cyfetholedig yn dod i ben ym mis Rhagfyr.  Roedd yr aelod yn gymwys i gael ei ail-benodi am dymor pellach. 

 

Yr aelod cyfetholedig oedd y Cadeirydd cyfredol y Pwyllgor ac roedd wedi gweithio’n galed yn y swydd ac wedi gwneud cyfraniad buddiol i lywodraethu’r Cyngor.  Roedd yn fodlon gwasanaethu am dymor pellach os oedd yn cael ei hail-benodi. 

 

Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod Julia Hughes yn cael ei hailbenodi i’r Pwyllgor Safonau am bum mlynedd.

 

35.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 pdf icon PDF 95 KB

Pwrpas:        Rhannu diweddariad ar y cynnydd gyda’r Gweithgor Bil Llywodraeth Leol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad ac eglurodd bod y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi dod yn Ddeddf ym mis Ionawr 2021.  Roedd hwn yn Ddeddf eang a mawr, a sefydlwyd Gweithgor i sicrhau bod pob agwedd a oedd yn berthnasol i’r Cyngor yn cael ei weithredu.  

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at yr Atodiad a oedd yn amlygu sut yr oedd y Cyngor wedi ymateb i rannau allweddol o’r Ddeddf.  Gan amlinellu rhai o brif newidiadau cadarnhaodd mai’r newid mwyaf oedd cynnal cyfarfodydd o bell, a oedd wedi bod yn ymateb i’r Pandemig ond ddim yn ôl y gyfraith.  Gyda’r Atodiad, cadarnhaodd bod y meysydd isod a ddengys yn wyrdd wedi cael eu gweithredu’n llawn gyda’r meysydd a ddengys yn llwyd ddim yn cael eu cyflawni a bod y 5 maes a ddengys yn oren ar waith. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig a’u heilio.

PENDERFYNWYD:

 

(a)          I dderbyn yr adroddiad briffio, a bod y Cyngor yn cael sicrwydd;

(b)          Bod y cyfansoddiad a goblygiadau eraill y Ddeddf yn cael eu nodi;

 

(c)          Bod Swyddog y Gweithgor yn sefyll i lawr tan ac oni bai bod unrhyw bwerau sydd heb eu gweithredu sy’n ofynnol i weithredu; a

 

(d)          Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Chyfansoddiadol, wedi’i gefnogi gan y Prif Swyddog (Llywodraethu) yn gweld yr agweddau terfynol y gweithrediad o’r Ddeddf i’w ddiwedd.

 

36.

Rhybudd o Gynnig pdf icon PDF 1 MB

Pwrpas:        Derbyn unrhyw Rhybuddion o Gynnig: mae un wedi cael ei dderbyn ac wedi ei atodi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

            Cyflwynwyd y Rhybudd o Gynnig canlynol gan y Gr?p Democratiaid Rhyddfrydol.

 

            “Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod y caledi eithafol y mae preswylwyr yn ddioddef yn ystod yr Argyfwng Costau Byw.  Mae nifer cynyddol o breswylwyr, yn arbennig y rheiny sydd yn defnyddio olew cynhesu domestig (heb eu diogelu gan y cap pris ynni domestig) yn mynd i mewn i gyfnod o dlodi tanwydd ac ni fyddant yn gallu fforddio i wresogi eu cartrefi y gaeaf hwn.  Hyd yn oed yn awr, cyn y gaeaf, mae nifer o breswylwyr mewn tlodi tanwydd yn barod.

 

            Mae “Canolfannau Cynnes” yn amgylchedd cynnes a chyfeillgar i gael mwynhau lluniaeth, gweithgaredd cymdeithasol, gwybodaeth a chyngor a seibiant o arwahanrwydd cymdeithasol.  Gellir lleoli canolfannau cynnes mewn adeiladau dinesig neu gyhoeddus, sydd yn cael eu cynhesu eisoes ac yn agored i’r cyhoedd megis llyfrgelloedd, mewn adeiladau asedau cymunedol, eglwys a neuadd bentref, a busnesau eraill megis caffis a all fod yn fodlon cofrestru ar gyfer y cynllun.

Mae’r Cyngor yn cydnabod nad yw’r Canolfannau Cynnes yn debygol o gynhyrchu refeniw ac ni ddisgwylir i ymwelwyr brynu te, coffi, na gwario arian i dreulio amser mewn cynhesrwydd.  Mae Canolfannau Cynnes yn adnodd cymunedol, yn cydnabod os yw rhywun mewn tlodi tanwydd, yna dylid eu helpu i gadw eu hadnoddau ariannol ac i beidio â theimlo pwysau i wario arian er mwyn aros mewn amgylchedd cyhoeddus a chynnes.

 

Felly mae’r Cyngor hwn yn penderfynu:

 

  1. Cysylltu â sefydliadau partner a darparu Canolfannau Cynnes ar draws Sir y Fflint.
  2. Gweithio gydag Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned i adnabod eiddo addas ym mhob ward; a
  3. Darparu deunyddiau hysbysebu ar gyfer Aelodau a Chynghorau Tref a Chymuned i godi ymwybyddiaeth o Ganolfannau Cynnes o fewn eu cymunedau.”

 

Wrth drafod y Rhybudd o Gynnig, dywedodd y Cynghorydd Coggins Cogan ei fod yn ddychrynllyd ein bod yn un o’r gwledydd cyfoethocaf yn y byd, a bod y Cyngor yn gorfod ystyried gwneud “Canolfannau Cynnes”.  

 

Roedd yn teimlo na fyddai’r cymorth gan Lywodraeth y DU yn gwneud gwahaniaeth gan fod cynyddiadau ychwanegol mewn biliau ynni yn cael eu rhagweld.  Mynegodd ei anghrediniaeth ar y toriadau treth i rai sydd ar gyflogau uchel, ond bod y rhai diamddiffyn yn gorfod gofalu amdanynt eu hunain.  Oherwydd hyn roedd ei gr?p ef yn cynnig sefydlu Canolfannau Cynnes gan ddefnyddio eiddo sydd ar gael yn y sir sydd yn cefnogi sefydliadau’r trydydd sector.

 

            Derbyniodd yr Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden y Rhybudd o Gynnig ar ran y Cabinet.  Mewn cyfarfod a gynhaliwyd y diwrnod blaenorol, roedd y Cabinet wedi gweithredu’r mwyafrif oedd wedi’i gynnwys yn y Rhybudd o Gynnig, ac ailadroddodd teimladau’r Cynghorydd Coggins Cogan bod rhaid i’r chweched economi fwyaf yn y byd ddarparu Canolfannau Cynnes i’w ddinasyddion.  Hefyd roedd yn dymuno bod yn gysylltiedig â sylwadau a wnaethpwyd ynghylch toriadau treth i rai sy’n ennill cyflogau uchel.

 

            Roedd y Cynghorydd Richard Jones yn teimlo’n hyderus y byddai’r holl Aelodau yn cefnogi egwyddor a bwriad y Rhybudd o Gynnig.  ...  view the full Cofnodion text for item 36.

37.

Cwestiynau

Pwrpas:        Nodi’r atebion i unrhyw gwestiwn a gyflwynwyd yn unol â Rheol Sefydlog 9.4(A) y Cyngor Sir: daeth tri i law erbyn y dyddiad cau.

 

Cynghorydd Bernie Attridge - (1) Gwasanaethau Aelodau (2) Neuadd y Sir; a (3) Lesddaliadau’r Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd bod tri chwestiwn wedi dod i law ac wedi eu hymateb. Roedd y rhain wedi’u dosbarthu i’r Aelodau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cwestiynau a’r ymatebion ysgrifenedig yn cael eu derbyn a’u nodi. 

 

Item 11 - Member Questions and Responses pdf icon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

38.

Cwestiynau gan Aelodau am Gofnodion Pwyllgorau

Pwrpas:        Mae’r Llyfr Cofnodion, Argraffiad 1 2022/23, wedi ei ddosbarthu i'r Aelodau.  Mae hawl gan yr Aelodau ofyn cwestiynau am y cofnodion hyn, yn amodol ar gyfyngiadau penodol, a bydd yr atebion yn cael eu darparu yn y cyfarfod. Mae’n rhaid cyflwyno unrhyw gwestiwn i’r Rheolwr Democratiaeth a Llywodraethu cyn diwedd y diwrnod gwaith ar Dydd Mercher, 21 Medi, 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd dim.

39.

Aelodau'r wasg a'r cyhoedd yn y cyfarfod

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r wasg yn bresennol.

 

 

(Dechreuodd y cyfarfod am 2pm a daeth i ben am 4.22pm)

 

 

 

 

 

………………………..

Y Cadeirydd